Sut mae'r gyfraith a'r adolygiad barnwrol yn sicrhau bod corfforaethau cyhoeddus yn gweithredu'n gyfreithlon, yn deg, yn rhesymol, ac o fewn eu grym.
Mae cyfraith weinyddol yn gorff o gyfraith sydd wedi datblygu egwyddorion i geisio sicrhau bod cyrff cyhoeddus yn gweithredu yn gyfreithlon, yn rhesymol ac yn deg. Cyfeirir ati weithiau fel “cyfraith gyhoeddus”. Mae’n ffordd o herio camweinyddu, neu gamddefnyddio pŵer, gan gorff cyhoeddus.
Mae cyfraith weinyddol yn rhan o gyfraith gyffredin Cymru a Lloegr. Mae’r farnwriaeth wedi ei datblygu dros nifer o flynyddoedd drwy gyfraith achosion. Mae’n fodd i’r farnwriaeth reoli ac atal camddefnyddio pŵer gan y weithrediaeth.
O dan y gyfraith weinyddol, mae Senedd y DU yn unigryw yn gyfansoddiadol. Mae hyn oherwydd ei sofraniaeth ac, yn gyffredinol, gan ei bod yn rhydd rhag goruchwyliaeth y llysoedd. Fodd bynnag, mae cyrff cyhoeddus yn ddarostyngedig i’r gyfraith. Mewn geiriau eraill, rhaid i Weinidogion Llywodraeth y DU, Gweinidogion Cymru, awdurdodau lleol a chyrff cyhoeddus eraill weithredu o fewn y gyfraith wrth gyflawni eu swyddogaethau.
Yn yr un modd, wrth ddeddfu, ni chaiff Senedd Cymru fynd y tu hwnt i gyfyngiadau ei chymhwysedd, fel y’i nodir yn Neddf Llywodraeth Cymru 2006. Mae dwy agwedd ar wirio a yw corff cyhoeddus wedi gweithredu o fewn y gyfraith.
Yn gyntaf, ni chaiff cyrff cyhoeddus weithredu y tu hwnt i’w pwerau. Mae hyn yn golygu sicrhau mai’r unigolyn neu’r corff sy’n cyflawni swyddogaeth yw’r unigolyn neu’r corff sydd â’r pŵer i gyflawni’r swyddogaeth honno. Mae hefyd yn golygu sicrhau nad yw’r unigolyn neu’r corff yn mynd y tu hwnt i gwmpas y pwerau a roddwyd iddo.
Yn ail, rhaid i gyrff cyhoeddus arfer eu pwerau mewn ffordd gyfreithlon. Mae ystyriaethau gwahanol yn codi yn dibynnu ar yr amgylchiadau. Yn fras, gall hyn olygu sicrhau bod rhywbeth a wneir gan gorff cyhoeddus yn rhesymol, wedi ei wneud at ddiben priodol, yn gymesur ac yn weithdrefnol deg. Gall hefyd olygu sicrhau bod y corff cyhoeddus wedi cyflawni ei swyddogaethau yn ddiduedd a chan roi sylw i’r holl ystyriaethau perthnasol
Nid yw cyfraith weinyddol yn ymwneud â rhinwedd penderfyniad. Er enghraifft, nid yw’n ystyried a yw penderfyniad yn un da, neu a oedd yn seiliedig ar ddehongliad cywir o’r gyfraith. Yn hytrach, mae cyfraith weinyddol yn edrych ar y broses a ddilynwyd er mwyn gwneud penderfyniad.
Mae yna weithdrefn llys benodol ar gyfer herio cyfreithlondeb rhywbeth a wneir gan gorff cyhoeddus. Adolygiad barnwrol yw’r weithdrefn honno, ac mae’n galluogi unigolyn i ddwyn achos llys i hawlio rhwymedi cyfreithiol penodol. Mae’r rhwymedïau sydd ar gael mewn adolygiad barnwrol yn cynnwys:
- gorchymyn diddymu (i ddiddymu penderfyniad a wnaed gan gorff cyhoeddus)
- gorchymyn gwahardd neu waharddeb (er mwyn atal corff cyhoeddus rhag gwneud rhywbeth)
- gorchymyn mandadol (i’w gwneud yn ofynnol i gorff cyhoeddus wneud rhywbeth)
- datganiad (i ddatgan beth yw’r sefyllfa gyfreithiol)
Mae dogfen “The Judge Over Your Shoulder”, sef dogfen gan Lywodraeth y DU, yn rhoi trosolwg ar gyfraith weinyddol ac adolygiadau barnwrol.
