Ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad Modiwl 4 Ymchwiliad COVID-19 y DU: Brechlynnau a therapïau
Ein hymateb i ganfyddiadau ac argymhellion yr Ymchwiliad ar ddatblygu, caffael a defnyddio brechlynnau a therapiwteg Covid-19.
Ar y dudalen hon
Rhagair gan y gweinidog
Cyhoeddodd y Gwir Anrhydeddus Farwnes Hallett DBE, Cadeirydd Ymchwiliad COVID-19 y DU, ei phedwerydd adroddiad a'i hargymhellion, Brechlynnau a Therapiwteg, ar 16 Ebrill 2026. Ystyriodd yr adroddiad y ffordd y cafodd brechlynnau a therapïau COVID-19 eu datblygu, eu caffael a'u defnyddio ledled y DU.
Mae adroddiad yr Ymchwiliad yn cynnig cyfle pwysig i fyfyrio ar un o'r rhaglenni iechyd y cyhoedd mwyaf arwyddocaol a gyflwynwyd yng Nghymru. Gwnaeth rhaglen frechu COVID-19 helpu i amddiffyn pobl rhag salwch difrifol, lleihau'r pwysau ar y GIG a gwasanaethau gofal, a chefnogi camau graddol i wasanaethau a bywyd pob dydd ddychwelyd yn gynharach ar ôl cyfyngiadau'r pandemig. Cymru oedd un o'r gwledydd cyntaf yn y byd i ddechrau brechu rhag COVID-19, ac er bod yr adroddiad yn cydnabod, yn gywir ddigon, y bu'r broses o gyflwyno'r brechlyn yng Nghymru yn llwyddiant ar y cyfan, mae gwersi i'w dysgu o'r profiad a'r dewisiadau a wnaed ar y pryd. Fel llywodraeth newydd rydym am sicrhau ein bod yn dysgu'r gwersi hynny. Rhaid ystyried llwyddiant hefyd yng nghyd-destun y golled fawr, yr ansicrwydd a'r caledi a welwyd ledled Cymru yn ystod y pandemig. Collodd rhai pobl anwyliaid, bu rhai'n ddifrifol wael, ac mae llawer yn parhau i fyw gyda'i effeithiau a'i ganlyniadau ehangach. Rydym yn cynnig ein cydymdeimlad diffuant i'r rhai a ddioddefodd brofedigaeth, a'n cydymdeimlad â phawb yr effeithiwyd ar eu bywydau.
Dim ond oherwydd ymrwymiad, proffesiynoldeb a thosturi staff GIG Cymru, cydweithwyr gofal cymdeithasol, partneriaid iechyd y cyhoedd, contractwyr gofal sylfaenol, ymarferwyr cyffredinol, fferyllfeydd cymunedol, gwirfoddolwyr, awdurdodau lleol a sefydliadau cymunedol a'i cefnogodd y bu modd cyflawni'r rhaglen frechu a'r trefniadau a oedd yn cefnogi mynediad at therapïau. Gwnaethant gyflawni yn ddi-oed, ac o dan amgylchiadau eithriadol o anodd yn aml, gan addasu i dystiolaeth a oedd yn datblygu, pwysau gweithredol ac anghenion cymunedau gwahanol. Rydym yn parhau i fod yn hynod ddiolchgar i bawb a gyfrannodd at yr ymdrech honno.
Mae'r adroddiad yn nodi'n glir fod meysydd lle gellir cryfhau systemau a dulliau ac, fel Llywodraeth newydd Cymru, rydym yn ymrwymedig i ystyried y gwersi a nodwyd. Mae'r adroddiad yn tynnu sylw at bwysigrwydd cynllunio clir, cydlynu effeithiol, data a thystiolaeth gref, dulliau cyfathrebu dibynadwy â'r cyhoedd a mynediad teg at frechiadau a thriniaethau.
Bydd Llywodraeth newydd Cymru yn ymateb i'r canfyddiadau hyn mewn ffordd agored, sy'n seiliedig ar dystiolaeth ac yn canolbwyntio ar welliant ymarferol. Byddwn yn defnyddio'r dystiolaeth a'r profiadau a adlewyrchir yn nhystiolaeth ac adroddiad yr Ymchwiliad i lywio'r ffordd y mae Cymru'n paratoi ar gyfer argyfyngau iechyd y cyhoedd yn y dyfodol ac yn ymateb iddynt. Mae hyn yn cynnwys ystyried y ffordd rydym yn cyflwyno ein rhaglenni brechu i wella mynediad teg ac ymateb yn well i anghenion ein poblogaeth ledled Cymru.
Mabon ap Gwynfor AS
Y Gweinidog Cabinet dros Iechyd a Gofal
Nerys Evans AS
Y Dirprwy Weinidog dros Iechyd Cyhoeddus ac Ataliol
Cyflwyniad
Mae polisi iechyd a pholisi iechyd y cyhoedd yn faterion datganoledig. Mae hyn yn golygu mai Llywodraeth Cymru sy'n gwneud penderfyniadau am gynllunio rhaglenni brechu a'u rhoi ar waith ledled Cymru. Mae hyn yn cynnwys arweinyddiaeth a chynllunio sut mae brechlynnau'n cael eu cyflwyno, gwella mynediad, mynd i'r afael â gwahaniaethau yn y nifer sy'n cael eu brechu, a sicrhau bod pobl yn cael gwybodaeth a chyngor clir.
Bydd y broses o ddatblygu polisi a mesurau eraill i ymateb i argymhellion yr Ymchwiliad yn digwydd yng nghyd-destun polisi Cymru a fframweithiau deddfwriaethol Cymru, wedi'i llywio gan ddyletswyddau a rhwymedigaethau statudol perthnasol, gan gynnwys y rhai sy'n ymwneud â chydraddoldeb, hawliau dynol, hawliau'r plentyn a llesiant.
Mae'r ddogfen hon yn nodi ymateb Llywodraeth Cymru i argymhellion yr Ymchwiliad. O'r pum argymhelliad ar gyfer Modiwl 4, mae argymhelliad 5 yn ymwneud â meysydd polisi a gedwir yn ôl yn llawn gan Lywodraeth y DU, tra bo argymhelliad 1 yn fater i Lywodraeth y DU ei arwain. Felly, mae'r ymateb hwn yn nodi ymateb llawn Llywodraeth Cymru i argymhelliad 2, 3 a 4, ac yn gwneud sylwadau ynghylch argymhelliad 1 lle mae'n ymwneud â Chymru.
Darperir cerrig milltir cyflawni yn adran Tabl Camau Gweithredu'r ymateb hwn. Rydym wedi gweithio ar y cyd â'n partneriaid yn y GIG yng Nghymru, gan gynnwys Iechyd Cyhoeddus Cymru a Chyfarwyddwyr Iechyd y Cyhoedd, wrth ddatblygu ein hymateb a sut y bydd yr argymhellion yn cael eu rhoi ar waith.
Mae Llywodraeth Cymru wedi cytuno â'r Ymchwiliad y byddwn yn rhoi diweddariadau bob chwe mis ar gynnydd yn erbyn argymhellion y modiwl ym mis Mai a mis Tachwedd bob blwyddyn. Ceir diweddariad ar y modiwl hwn yn adroddiad diweddaru mis Mai 2027.
1. Sicrhau cyflenwadau
Argymhelliad 1: Sefydlu panel cynghori arbenigol fferyllol
Dylai llywodraeth y DU sefydlu panel cynghori arbenigol fferyllol sefydlog, ar y cyd â'r Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol a'r Adran Gwyddoniaeth, Arloesi a Thechnoleg.
Dylai'r panel gynnwys gweinidogion, gweision sifil a chynrychiolwyr o ddiwydiant a'r byd academaidd, a dylai gael ei arwain gan Gadeirydd annibynnol sydd â phrofiad o weithio mewn diwydiant perthnasol. Dylai rôl y panel gynnwys y canlynol:
- goruchwylio parodrwydd y DU i ddatblygu, caffael a chynhyrchu cynhyrchion fferyllol (brechlynnau a therapïau) pe bai pandemig neu argyfwng iechyd yn digwydd, gan helpu i ddatblygu strategaeth drawslywodraethol
- sicrhau bod nodau cyffredin llywodraeth y DU a'r gweinyddiaethau datganoledig, eu hasiantaethau, diwydiant a'r byd academaidd yn gyson mewn perthynas â datblygu brechlynnau a therapïau ar gyfer clefydau pandemig
- goruchwylio cysylltiadau cryf rhwng y llywodraeth a'r diwydiant fferyllol
- cynghori llywodraeth y DU ar sut i gymell cwmnïau fferyllol i fuddsoddi mewn cyfleusterau gweithgynhyrchu ac ymchwil yn y DU
- cynghori llywodraeth y DU ar ei buddsoddiadau ymchwil, gyda'r nod o sicrhau portffolio amrywiol o ymchwil fferyllol yn y DU.
Yn ystod pandemig, dylai'r panel ffurfio sail tasgluoedd arbenigol, a fyddai'n gyfrifol am sicrhau a datblygu ymyriadau meddygol ac arwain y broses o'u caffael ar ran pedair gwlad y DU. Dylai fod gan y panel ymreolaeth ddigonol, y gallu i ddirprwyo a mynediad uniongyrchol at uwch-weinidogion, yn debyg i'r hyn a weithiodd yn dda yn ystod pandemig COVID-19.
Ymateb Llywodraeth Cymru
1.1 Mae Llywodraeth Cymru yn cytuno y dylid sefydlu Panel Cynghori Arbenigol Fferyllol. Gan fod yr argymhelliad hwn wedi'i gyfeirio at Lywodraeth y DU i'w arwain, bydd Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda Llywodraeth y DU a phartneriaid perthnasol eraill i gefnogi'r gwaith hwn wrth iddo ddatblygu.
1.2 Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod y gwerth posibl y gallai panel ei gael o ran cryfhau parodrwydd y DU ar gyfer pandemigau neu argyfyngau iechyd yn y dyfodol. Gallai gynnig mecanwaith pwysig ar gyfer cefnogi mynediad at gyngor annibynnol, goruchwyliaeth strategol a her adeiladol ar y gwaith o ddatblygu, caffael a chynhyrchu brechlynnau a therapïau.
1.3 Mae gwaith perthnasol eisoes ar y gweill ledled y DU i ddeall parodrwydd, gallu gweithgynhyrchu a gwydnwch y gadwyn gyflenwi ar gyfer brechlynnau, diagnosteg a therapïau. Mae'r gwaith hwn yn cynnig cyfle i ystyried materion megis y galw tebygol, lefelau stoc, gofynion storio a chludiant, cadwyni cyflenwi, capasiti gweithgynhyrchu a dibyniaeth ar gyflenwyr sengl. Bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i gyfrannu at y gwaith hwn a bydd yn ceisio sicrhau bod cyfrifoldebau, buddiannau a phrofiad Cymru yn cael eu hadlewyrchu.
1.4 Mae Llywodraeth Cymru o'r farn y bydd unrhyw banel newydd yn ychwanegu'r gwerth mwyaf os oes ganddo rôl glir a diffiniedig, os yw'n ategu strategaethau a threfniadau llywodraethu presennol, ac os yw'n osgoi dyblygu gwaith sydd eisoes yn mynd rhagddo. Byddwn yn gweithio gyda phartneriaid yn y pedair gwlad i gefnogi dull gweithredu sy'n cryfhau parodrwydd ac a all, lle bo angen, ddarparu'r sail ar gyfer trefniadau tasglu arbenigol yn ystod pandemig neu argyfwng iechyd yn y dyfodol.
2. Nifer y bobl sy'n cael eu brechu ac ymgysylltu â'r gymuned
Argymhelliad 2: Ffurfioli gwaith gyda chymunedau ynghylch strategaethau brechu teg
Dylai Llywodraeth y DU, Llywodraeth Cymru, Llywodraeth yr Alban a Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon gynnal rhwydweithiau gyda chymunedau lleol i gynhyrchu strategaethau a chyfathrebiadau wedi'u targedu ynghylch brechu.
I gyflawni hyn:
- Dylai Llywodraeth Cymru, Llywodraeth yr Alban a Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon sefydlu rhwydweithiau cymunedol lleol, gan adlewyrchu'r dull sy'n cael ei fabwysiadu gan Asiantaeth Diogelwch Iechyd y DU.
- Dylai'r pedair llywodraeth weithio gyda'u rhwydwaith i nodi camau gweithredu penodol a mesuradwy i gynyddu nifer y bobl sy'n cael eu brechu a lleihau anghydraddoldebau ac ymgynghori â'r rhwydweithiau hyn ar ymgyrchoedd cyfathrebu a dulliau cyflawni.
- Dylai'r pedair llywodraeth gyhoeddi adroddiad blynyddol ar gynnydd yn erbyn y camau gweithredu hyn.
Ymateb Llywodraeth Cymru
2.1 Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod pwysigrwydd mynediad teg at frechlynnau a gwybodaeth ddibynadwy yn llawn. Un o'n pryderon allweddol yw'r rhaniad yn y nifer sy'n cael eu brechu rhwng y rhai mwyaf a lleiaf difreintiedig mewn cymdeithas, yn ogystal â grwpiau demograffig penodol eraill, ac rydym yn ymrwymedig i fynd i'r afael â'r anghysondeb mewn tegwch iechyd gan gynnwys penderfynyddion ehangach. Bydd cysylltu â chymunedau a all wynebu rhwystrau i frechu a'u cefnogi yn parhau i fod yn ganolog i waith cynllunio a dull gweithredu Llywodraeth Cymru a'r GIG yng Nghymru yn y dyfodol.
2.2 Bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i weithio gyda Llywodraeth y DU a'r llywodraethau datganoledig eraill lle byddai egwyddorion a rennir, dysgu neu gamau gweithredu cydgysylltiedig yn ychwanegu gwerth. Mae dull gweithredu Cymru yn adlewyrchu model rhwydwaith cymunedol Asiantaeth Diogelwch Iechyd y DU a threfniadau deddfwriaethol, partneriaeth a pholisi Cymru.
2.3 Cyhoeddwyd y Fframwaith Imiwneiddio Cenedlaethol yn 2022 a nododd raglen waith i gefnogi datblygiad parhaus gwasanaethau brechu yng Nghymru. Roedd yn adlewyrchu'r hyn a ddysgwyd o'r pandemig, ac yn rhoi ffocws clir ar wella tegwch, mynediad a nifer y bobl sy'n cael eu brechu.
2.4 Ers ei gyhoeddi, mae gwaith o dan y Fframwaith wedi cynnwys caffael y brechlyn ffliw yn ganolog, datblygu strategaethau tegwch ar gyfer pob bwrdd iechyd, a gwaith cydweithredol i hyrwyddo mynediad a chyfle cyfartal i gael brechiadau ledled Cymru.
2.5 Cynigiodd y Fframwaith gyfle i adolygu trefniadau llywodraethu ar gyfer cynllunio a chyflwyno rhaglenni brechu hefyd, gyda'r nod o gryfhau prosesau goruchwylio. Fel rhan o hyn, sefydlwyd y Bwrdd Goruchwylio Brechu, o dan gadeiryddiaeth Cyfarwyddwr Iechyd y Cyhoedd, i gefnogi prosesau gwneud penderfyniadau a sicrwydd. Roedd y trefniadau hefyd yn cynnwys Grŵp Arbenigwyr ar Frechu Teg, o dan gadeiryddiaeth Cyfarwyddwr Iechyd y Cyhoedd Bwrdd Iechyd, a Rhwydwaith Brechu Teg, i rannu gwersi a ddysgwyd ac arferion gorau.
2.6 Mae'r gwaith a gefnogir drwy'r Grŵp Brechu Teg yn cynnwys datblygu pecyn cymorth tegwch iechyd, a gyflwynwyd i fyrddau iechyd ym mis Mawrth 2026. Mae adolygiad o Strategaethau Tegwch Byrddau Iechyd a gwaith tegwch ehangach, a gynhaliwyd gan Gymrawd Ymchwil Clinigol, wedi nodi meysydd penodol i'w gwella, gan gynnwys yr angen am ddull mwy cyson o ymdrin â strategaethau tegwch lleol ledled Cymru.
2.7 Mae gwaith bellach wedi dechrau i ddatblygu strategaeth frechu pum mlynedd newydd. Bydd hyn yn parhau i ganolbwyntio ar leihau anghydraddoldeb a chynyddu'r nifer sy'n cael eu brechu ledled Cymru, drwy gryfhau mynediad at frechiadau, ymgysylltiad a chymorth digidol. Bydd y strategaeth sydd ar ddod yn defnyddio gweithgarwch presennol i wella mynediad teg at frechiadau ledled Cymru, gyda chymorth ein mecanweithiau llywodraethu wedi'u hadnewyddu.
2.8 Bydd ein dull gweithredu yn adeiladu ar weithgareddau a dysgu presennol yng Nghymru a thu hwnt gan gynnwys y defnydd o wyddor ymddygiadol, dulliau gweithredu sy'n seiliedig ar gydgynhyrchu ac asedau ac ymgysylltu ag aelodau'r cyhoedd a cheisio eu hadborth gan gynnwys arolygon Amser i Siarad Iechyd Cyhoeddus Cymru. Mae hyn yn cynnwys cryfhau cysylltiadau â sefydliadau cymunedol, gwneud defnydd gwell o wybodaeth ymddygiadol, datblygu adnoddau a safonau cliriach, a gweithio gyda phartneriaid i nodi camau gweithredu mesuradwy i gynyddu ymgysylltiad ac ymddiriedaeth cymunedol a dangos gwelliannau o ran defnydd a thegwch. Bydd hyn yn parhau i gefnogi dulliau cydgynhyrchu, gweithio mewn partneriaeth statudol a'r dull gweithredu sy'n seiliedig ar Lesiant Cenedlaethau'r Dyfodol.
2.9 Byddwn yn parhau i adrodd ar gynnydd drwy drefniadau adrodd iechyd y cyhoedd cenedlaethol, gan gynnwys adrodd ar draws amddifadedd a ffactorau demograffig ehangach. Bydd prosesau adrodd ar y sail hon yn cryfhau ymhellach wrth i waith fwrw ymlaen tuag at un cofnod brechu, a drafodir yn fanylach yn ein hymatebion i argymhellion 3 a 4.
3. Monitro'r nifer sy'n cael eu brechu a hyder mewn brechlynnau
Argymhelliad 3: Gwella prosesau monitro a gwerthuso mewn perthynas â chyflwyno brechlynnau a'r nifer sy'n cael eu brechu
Dylai pob un o bedair asiantaeth iechyd y cyhoedd neu ddiogelwch iechyd y DU gydweithio i wneud y canlynol:
- - cynnal gwybodaeth gywir sy'n berthnasol i'r DU gyfan am y sefyllfa o ran nifer y bobl sy'n cael eu brechu a phetruster
- - deall y mesurau sydd wedi bod yn effeithiol wrth gynyddu'r nifer sy'n cael eu brechu ar draws pedair gwlad y DU.
Dylid mynd ati i gydweithio a safoni rhywfaint o ran y dull y cytunwyd arno yn y pedair gwlad ar gyfer monitro a chyhoeddi gwybodaeth am y nifer sy'n cael brechlynnau rheolaidd a lefelau hyder mewn brechlynnau er mwyn deall amrywiadau a phatrymau rhanbarthol yn well. Dylai pob gwlad osod ei safonau derbyniol gofynnol ar gyfer y nifer sy'n cael eu brechu, ac adolygu'r rhain yn rheolaidd, a fyddai'n sbarduno ymgyrchoedd wedi'u targedu i gynyddu'r niferoedd os na chaiff y safonau eu cyrraedd.
Dylid gwerthuso effeithiolrwydd ymgyrchoedd i gynyddu'r nifer sy'n cael eu brechu yn erbyn mesurau clir a safonol. Mae hyn yn cynnwys dadansoddiad ôl-weithredol o ymgyrchoedd i gynyddu'r nifer a gafodd eu brechu rhag COVID-19, yn ogystal â gwerthuso ymgyrchoedd i annog pobl i gael brechiadau rheolaidd.
Ymateb Llywodraeth Cymru
3.1 Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod pwysigrwydd gwybodaeth gywir a chyson am y nifer sy'n cael eu brechu wrth gefnogi hyder. Mae data o ansawdd da yn hanfodol i ddeall ble mae niferoedd sy'n cael eu brechu yn is, nodi rhwystrau, a chefnogi camau gweithredu wedi'u targedu i leihau anghydraddoldebau. Mae heriau hanesyddol o ran defnyddio data gofal iechyd i gyflawni canlyniadau iechyd y cyhoedd effeithiol y mae'n rhaid mynd i'r afael â nhw, ac mae'r niferoedd sy'n cael eu brechu yn flaenoriaeth ym mhob rhaglen. Nodwyd hyn yn Fframwaith Imiwneiddio Cenedlaethol Cymru ac mae'n parhau i fod yn rhan o ymdrechion cenedlaethol i wella ein seilwaith brechu.
3.2 Mae gan Iechyd Cyhoeddus Cymru rôl ganolog yn y gwaith o symud hyn ymlaen, fel un o'r pedair asiantaeth iechyd y cyhoedd y cyfeirir atynt yn yr argymhelliad. Mae Llywodraeth Cymru, Iechyd Cyhoeddus Cymru, Cyfarwyddwyr Iechyd y Cyhoedd a Rhaglen Frechu Cymru wedi adolygu data gwyliadwriaeth presennol, gwerthusiad o nifer y bobl sy'n cael eu brechu a chyfleoedd i gryfhau gwaith monitro, gan gynnwys drwy ymgyrchoedd cyfathrebu cenedlaethol a gwella prosesau adrodd ar ddata.
3.3 Mae Cymru eisoes yn cyfrannu at fforymau data cenedlaethol rheolaidd y mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn eu mynychu. Mae'r fforymau hyn yn darparu ffordd sefydledig i'r pedair gwlad rannu data, cymharu dulliau gweithredu ac ystyried lle byddai cysoni neu safoni dulliau adrodd yn well yn helpu i wella dealltwriaeth o faint o bobl sy'n cael eu brechu a hyder mewn brechlynnau ledled y DU. Mae'r gallu i gymharu, a lle y bo'n briodol, gyfuno ystadegau ledled y DU yn bwysig er mwyn deall amrywiad, nodi dysgu a rennir a chefnogi ymddiriedaeth y cyhoedd. Mae hefyd yn gyson â'r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau, sy'n pwysleisio cydlyniant, tryloywder ac ystadegau sy'n diwallu anghenion defnyddwyr.
3.4 Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn gweithio gydag Iechyd a Gofal Digidol Cymru i wella'r ffordd y caiff data ar frechu eu casglu, eu hansawdd a sut yr adroddir arnynt drwy ddatblygiad parhaus System Imiwneiddio Cymru. Mae hyn yn cynnwys gwella gwybodaeth am nifer y bobl sy'n cael eu brechu yn ôl amddifadedd, gan gysylltu â Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru, a chefnogi prosesau adrodd mwy manwl ar draws amrywiaeth o nodweddion poblogaeth, gan gynnwys rhyw, statws economaidd-gymdeithasol a gwledigrwydd.
3.5 Mae System Imiwneiddio Cymru eisoes yn cefnogi data cysylltiol rhwng gofal sylfaenol ac eilaidd fel rhan o gofnod brechu unigol ar gyfer rhaglenni'r Ffliw, COVID-19 a Feirws Syncytiol Anadlol. Mae Llywodraeth Cymru yn ymrwymedig i fabwysiadu dull cynlluniedig o symud rhaglenni brechu eraill i'r cofnod unigol hwn. Bydd hyn yn cefnogi ymgais i symud oddi wrth drefniadau adrodd tameidiog tuag at ddull cenedlaethol mwy cyson. Bydd yn gwella'r gallu i fonitro'r nifer sy'n cael eu brechu, nodi amrywiadau a chefnogi camau gweithredu wedi'u targedu lle y bo angen.
3.6 Mae Llywodraeth Cymru yn nodi disgwyliadau ar gyfer nifer y bobl sy'n cael eu brechu fel rhan o'i chyfarwyddiadau rheolaidd i'r GIG yng Nghymru cyn cyflwyno rhaglenni, neu pan fydd rhaglenni'n ehangu neu'n newid. Mae gan y GIG yng Nghymru dargedau gwella perfformiad lefel uchel ar gyfer rhaglenni penodol hefyd, a nodir yn Fframwaith Perfformiad GIG Cymru. Caiff y targedau hyn eu hadolygu'n rheolaidd fel rhan o'r un trefniadau llywodraethu a ddisgrifir yn yr ymateb i argymhelliad 2. Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn gweithio'n agos gyda chydweithwyr yn sefydliad Perfformiad a Gwella GIG Cymru ac arweinwyr y GIG i gefnogi gwelliannau ar draws y saith bwrdd iechyd.
3.7 Lle mae nifer y bobl sy'n cael eu brechu yn gostwng islaw'r lefelau disgwyliedig, bydd y GIG yng Nghymru a Llywodraeth Cymru yn parhau i ddefnyddio ymgyrchoedd dal i fyny wedi'u targedu lle y bo'n briodol. Bydd yr ymgyrchoedd yn cael eu hystyried ochr yn ochr â chamau gweithredu eraill i gynyddu nifer y bobl sy'n cael eu brechu, megis newidiadau i'r ffordd y mae gwasanaethau'n cael eu darparu, newidiadau rheoleiddiol, neu gyfathrebu wedi'i dargedu. Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod yn llawn bwysigrwydd data iechyd o ansawdd wrth ddeall ac ysgogi perfformiad gwell ac mae'n ymrwymedig i ddull gweithredu sy'n seiliedig ar ganlyniadau iechyd. Dyma pam mae'r Llywodraeth hon wedi cytuno i sefydlu Comisiwn Archwilio Data Iechyd a Gofal i oruchwylio'r broses o archwilio ffynonellau data iechyd yng Nghymru a datblygu fframwaith canlyniadau iechyd.
3.8 Bydd Llywodraeth Cymru a'r GIG yng Nghymru yn parhau i weithio gyda phartneriaid o'r pedair gwlad i adolygu dulliau o ymdrin â hyder mewn brechlynnau a'r nifer sy'n cael eu brechu. Byddwn hefyd yn parhau i gomisiynu, defnyddio a rhannu ymchwil, fel yn yr astudiaeth gan Iechyd Cyhoeddus Cymru a gyhoeddwyd yn ddiweddar ar Effeithiolrwydd brechiad RSV wrth atal derbyniadau i'r ysbyty, i gefnogi dysgu a gwelliant.
4. Systemau diogelwch a gwyliadwriaeth ar ôl awdurdodi
Argymhelliad 4: Mynediad cymesur at gofnodion gofal iechyd cysylltiol i'w defnyddio wrth asesu signalau diogelwch
Dylai llywodraeth y DU a'r gweinyddiaethau datganoledig gydweithio, gyda'u gwasanaethau cyflawni priodol ar gyfer iechyd, i hwyluso a chydlynu mynediad cyrff rheoleiddio at gofnodion gofal iechyd fel bod prosesau monitro diogelwch brechlynnau a therapïau newydd ar ôl eu hawdurdodi yn fwy effeithlon.
Yn benodol, dylid rhoi mynediad penodol a chymesur i'r Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd at ddata cynhwysfawr a chymaradwy o bedair gwlad y DU, gan gynnwys cofnodion data gofal iechyd sylfaenol ac eilaidd cysylltiol. Dylai hyn gynnwys data ar roi brechlynnau a therapïau. Rhaid i'r prosesau cysylltu gwell hyn fynd law yn llaw â mesurau diogelwch cryf ar gyfer cyfrinachedd cleifion, a dylai Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth weithio gyda'r pedair llywodraeth i'w sicrhau.
Ymateb Llywodraeth Cymru
4.1 Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod pwysigrwydd sicrhau y gall data iechyd a systemau digidol gefnogi mynediad amserol at ddata o ansawdd da er mwyn hwyluso prosesau monitro diogelwch. Rhaid gwneud hyn mewn ffordd gymesur, gyda mesurau diogelwch cryf ar gyfer cyfrinachedd cleifion.
4.2 Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru eisoes yn darparu data gwyliadwriaeth iechyd i'r Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd gan gynnwys drwy'r cynllun cerdyn melyn a threfniadau sefydledig eraill. Mae hyn yn helpu i gefnogi diogelwch clinigol, a hyder y cyhoedd mewn therapïau a rhaglenni brechu cenedlaethol. Fodd bynnag, mae Llywodraeth Cymru yn derbyn bod mwy i'w wneud i gyflawni'r argymhelliad hwn a galluogi mynediad diogel a chyson at ddata cysylltiol.
4.3 Fel y nodir yn yr ymateb i Argymhelliad 3, mae Cymru wedi gwneud cynnydd technegol sylweddol drwy ddatblygiad parhaus System Imiwneiddio Cymru. Mae hyn yn helpu i greu cofnod brechu cenedlaethol, gan ddefnyddio data cysylltiol, wrth gefnogi prosesau gwyliadwriaeth, cofnodi ac archwilio clinigol mewn perthynas ag iechyd y cyhoedd.
4.4 Ar hyn o bryd mae System Imiwneiddio Cymru yn cefnogi sawl rhaglen fawr, gan gynnwys COVID-19, y ffliw a Feirws Syncytiol Anadlol (RSV). Mae gwaith pellach wedi'i gynllunio i ehangu'r dull gweithredu hwn ar draws pob rhaglen frechu. Bydd hyn yn cefnogi prosesau gwyliadwriaeth gwell ynghyd â chynllunio gwasanaethau ac asesu signalau diogelwch, er mwyn llywio gwaith yr Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd ac Iechyd Cyhoeddus Cymru.
4.5 Mae gwaith wedi dechrau ar Strategaeth Digidol a Data wedi'i hadnewyddu ar gyfer iechyd a gofal yng Nghymru. Bydd yn nodi'r cyfeiriad hirdymor ar gyfer gwella gwasanaethau digidol a gwneud defnydd gwell o ddata.
4.6 Er mwyn rhoi'r argymhelliad hwn ar waith yn llawn, bydd angen ystyried yn ofalus y trefniadau deddfwriaethol a llywodraethu sydd eu hangen i gefnogi mynediad parhaus a chymesur at ddata iechyd cysylltiol. Rhaid i unrhyw drefniadau barhau i ddiogelu cyfrinachedd cleifion a chydymffurfio â'r gofynion diogelu data perthnasol.
4.7 Mae cynnydd hyd yma wedi cael ei gyfyngu'n rhannol gan y fframwaith rheoleiddio presennol. Mae Llywodraeth Cymru yn ystyried newidiadau posibl i fynd i'r afael â'r rhwystrau hyn. Mae hyn yn cynnwys gweithio gyda Llywodraeth y DU ar faterion a gedwir yn ôl i Lywodraeth y DU, gan gynnwys llywodraethu a rhannu data, i gefnogi dull mwy cynaliadwy ac effeithiol o ddefnyddio a rhannu data iechyd y cyhoedd mewn ffordd ddiogel a chyfrifol.
4.8 Bydd Llywodraeth Cymru ac Iechyd Cyhoeddus Cymru yn parhau i weithio gyda'r Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd i wella mynediad at wybodaeth gwyliadwriaeth iechyd sydd ei hangen i gefnogi prosesau monitro diogelwch, yn unol â'r argymhelliad hwn.
5. Y Cynllun Taliad Niwed trwy Frechiad
Argymhelliad 5: Y Cynllun Taliad Niwed trwy Frechiad
Rhaid i Lywodraeth y DU ddiwygio'r Cynllun Taliad Niwed trwy Frechiad cyn gynted â phosibl. Dylai'r gwaith diwygio gynnwys y canlynol o leiaf:
- cynyddu'r taliad o £120,000, yn unol â chwyddiant hyd yma o leiaf
- cynyddu'r taliad yn flynyddol wedi hynny yn unol â chwyddiant
- cyflwyno sawl lefel o daliad, yn unol â difrifoldeb yr anaf a ddioddefwyd
- unrhyw drefniadau trosiannol sydd eu hangen i sicrhau tegwch rhwng y rhai sy'n gwneud cais i'r cynllun presennol a'r rhai sy'n gwneud cais i'r cynllun diwygiedig.
Ymateb Llywodraeth Cymru
5.1 Mae'r Cynllun Taliad Niwed trwy Frechiad yn fater a gedwir yn ôl yn llwyr gan Lywodraeth y DU. Nid oes gan Lywodraeth Cymru gyfrifoldeb dros ddiwygio'r cynllun ond mae'n cydnabod yr achos dros ddiwygio ac yn cytuno ei bod yn bwysig sicrhau bod cymorth priodol ar gael yn yr achos prin y bydd niwed yn deillio o frechlyn.
5.2 Mae Llywodraeth Cymru yn cymryd rhan mewn trafodaethau rhwng y pedair gwlad ar ddyfodol y cynllun. Byddwn yn parhau i weithio gyda Llywodraeth y DU a'r llywodraethau datganoledig eraill ar ffordd i wella'r cynllun, gan gynnwys ar y materion a nodwyd gan yr Ymchwiliad.
Cerrig milltir cyflawni
Argymhelliad 2
- Cyhoeddi strategaeth frechu newydd, a fydd yn canolbwyntio ar leihau annhegwch a chynyddu nifer y bobl sy'n cael eu brechu ledled Cymru - Mai 2027
- Gweithio gydag Asiantaeth Diogelwch Iechyd y DU, Llywodraeth y DU a'r llywodraethau datganoledig i rannu arferion gorau a deall lle byddai camau gweithredu cydgysylltiedig yn ychwanegu gwerth - Gaeaf 2026
- Cynnal adolygiad o'r ffordd i adeiladu ar rwydweithiau presennol, osgoi dyblygu, a chytuno ar ddull cymesur o weithredu ar yr adborth gan rwydweithiau cymunedol a'i roi ar waith - Medi 2027
- Cynnwys gofynion adrodd blynyddol yn y strategaeth frechu sydd ar ddod - Mai 2027
Argymhelliad 3
- Ymgymryd â gwaith blaenoriaeth i wella prosesau adrodd ar gyfer rhaglenni anadlol y gaeaf - Gaeaf 2026
- Gweithio gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru a Rhaglen Frechu Cymru i ddatblygu cynllun gweithredu wedi'i flaenoriaethu sydd â'r nod o wella data gwyliadwriaeth, gwerthuso'r nifer sy'n cael eu brechu, a nodi cyfleoedd i gryfhau prosesau monitro iechyd y cyhoedd - Mai 2027
- Rhoi brechiadau i blant oedran ysgol ar waith fel rhan o System Imiwneiddio Cymru a'r Cofnod Brechu Unigol - Mawrth 2028
- Defnyddio trafodaethau data cenedlaethol presennol i ystyried dulliau ledled y DU, gan gynnwys lle byddai'n fuddiol cysoni neu safoni data a dulliau adrodd yn well - Mawrth 2028
Argymhelliad 4
- Adolygu'r trefniant rhannu data presennol â'r Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd mewn perthynas â monitro diogelwch ar ôl awdurdodi a nodi gwelliannau - Hydref 2027
- Ystyried y trefniadau deddfwriaethol a llywodraethu sydd eu hangen i gefnogi mynediad cymesur at ddata iechyd cysylltiol gan gynnal mesurau diogelwch ar gyfer cyfrinachedd cleifion - I'w gadarnhau
