Dod â'ch anifail anwes i Gymru o Wcráin (Cynllun Noddi Cartrefi i Wcráin)
Cyngor ar beth i'w wneud os ydych yn dod â'ch anifail anwes o Wcráin i Gymru o dan y Cynllun Noddi Cartrefi i Wcráin.
Ar y dudalen hon
Dod â'ch anifail anwes i Gymru o Wcráin (Cynllun Noddi Cartrefi i Wcráin)
Os ydych yn dod o Wcráin ac yn ceisio lloches yn y DU, mae rheolau y gallwch eu dilyn er mwyn dod â'ch ci, cath neu ffured anwes (ar GOV.UK) heb iddo fynd i gwarantîn neu gael ei ynysu, os oes ganddo:
- wedi cael ei ficrosglodynnu
- wedi cael ei frechu rhag y gynddaredd ac wedi cael prawf gwaed 30 diwrnod yn ddiweddarach i gadarnhau bod y brechlyn wedi gweithio, ac wedi aros tri mis ar ôl y prawf gwaed cyn teithio i'r DU
- tystysgrif iechyd anifeiliaid anwes Prydain Fawr (ar GOV.UK)
- wedi cael triniaeth llyngyr (cŵn yn unig) rhwng 24 awr (un diwrnod) a 120 awr (pum diwrnod) cyn teithio
Os nad oes gan eich anifail anwes dystysgrif iechyd anifeiliaid anwes Prydain Fawr, ond mae ganddo basbort anifeiliaid anwes yr UE, ffoniwch yr Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion ar +44 3000 200 301 i gael cyngor.
Mae'n hynod bwysig bod yr anifail anwes yn bodloni'r holl ofynion hynny. Efallai y bydd angen i berchnogion neu noddwyr hefyd gysylltu â'r Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion (APHA) i wneud cais am drwydded i ddod â'r anifail anwes i Gymru (ar GOV.UK).
Os nad yw anifail anwes sy'n cyrraedd Cymru yn bodloni'r holl ofynion hyn, bydd angen iddo fynd i gwarantîn mewn cyfleusterau awdurdodedig am hyd at bedwar mis.
Cŵn tywys a chŵn cymorth
Os oes gennych 'gi cymorth cydnabyddedig', gallwch:
- teithio ar ragor o lwybrau (ar GOV.UK) na phobl sydd ag anifeiliaid anwes
- defnyddio dulliau teithio lle na chaniateir anifeiliaid eraill, er enghraifft gallwch ddod â'ch ci i gaban yr awyren
Rhaid i gŵn tywys a chŵn cymorth hefyd fodloni'r rheolau arferol (ar GOV.UK) ar gyfer teithio gyda chŵn.
I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch ag APHA yn:
APHA
+44 3000 200 301
E-bost: UkrainePetTravel@apha.gov.uk
Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.
