Neidio i'r prif gynnwys

Cynllun Teithio Anifeiliaid Anwes ar gyfer Gogledd Iwerddon

Mae'r Cynllun Teithio Anifeiliaid Anwes ar gyfer Gogledd Iwerddon yn eich galluogi i deithio o Brydain Fawr i Ogledd Iwerddon gyda dogfen deithio seml ar gyfer anifeiliaid anwes. Mae'r ddogfen yn para am oes yr anifail anwes ac mae'n rhad ac am ddim. Bydd angen ichi wneud yn siŵr bod eich anifail anwes, neu gi cymorth, wedi cael ei ficrosglodynnu cyn ichi deithio.

Cliciwch yma i wneud cais am ddogfen deithio anifeiliaid anwes. Apply for a Northern Ireland pet travel document (ar GOV.UK)

Ar ôl i'ch dogfen deithio anifeiliaid anwes gael ei chyhoeddi, gallwch deithio gyda'ch anifail anwes neu gi cymorth o Brydain Fawr yn uniongyrchol i Ogledd Iwerddon cyn belled â'ch bod yn gwneud y canlynol:

  • gwnewch yn siŵr bod manylion eich anifail anwes (rhif microsglodyn a pherchennog) yn gyfredol ar y ddogfen deithio anifeiliaid anwes cyn ichi deithio; a
  • dod â chopi digidol neu gopi caled o'ch dogfen deithio anifeiliaid anwes. Mae hyn yn cynnwys datganiad na fyddwch yn teithio ymlaen i Iwerddon na gwlad arall yn yr UE gyda'ch anifail anwes neu gi cymorth.

Bydd angen dogfen deithio anifeiliaid anwes ar wahân ar gyfer pob anifail anwes neu gi cymorth. Mae'r ddogfen yn ddilys am oes yr anifail anwes neu'r ci cymorth. Os byddwch yn newid eich manylion, fel eich cyfeiriad, bydd angen ichi wneud cais am ddogfen deithio anifeiliaid anwes newydd.

Dim ond ar gyfer teithio o Brydain Fawr yn uniongyrchol i Ogledd Iwerddon y mae dogfen deithio anifeiliaid anwes ar gyfer Gogledd Iwerddon yn ddilys.

Os ydych yn teithio:

  • y tu hwnt i Ogledd Iwerddon i Iwerddon neu wlad arall yn yr UE gyda'ch anifail anwes neu gi cymorth 
  • o Brydain Fawr i Ogledd Iwerddon drwy fan mynediad yn Iwerddon 

bydd angen ichi barhau i ddilyn gofynion iechyd a dogfennol presennol yr UE (ar GOV.UK). Nid yw'r ddogfen deithio anifeiliaid anwes yn ddilys ar gyfer y math hwn o deithio.

Ni chewch deithio i Ogledd Iwerddon o dan y cynllun os ydych yn symud anifeiliaid am reswm masnachol (fel symud cŵn bach i'w gwerthu neu eu hailgartrefu). 

Ystyrir bod y symud yn fasnachol os ydych yn teithio gyda mwy na phum anifail anwes. Fodd bynnag, caniateir ichi ddefnyddio'r cynllun a theithio gyda mwy na phum anifail anwes os ydych yn mynychu neu'n hyfforddi ar gyfer cystadleuaeth, arddangosfa neu ddigwyddiad chwaraeon yng Ngogledd Iwerddon ac yn dychwelyd i Brydain Fawr ar ôl hynny (bydd angen tystiolaeth ysgrifenedig o gofrestru). Bydd angen dogfen deithio anifeiliaid anwes ar wahân ar gyfer pob un o'ch anifeiliaid anwes, a rhaid iddyn nhw fod dros chwe mis oed.

Trigolion Gogledd Iwerddon

Os ydych yn byw yng Ngogledd Iwerddon ac yn dychwelyd yno ar ôl aros ym Mhrydain Fawr gyda'ch anifail anwes neu gi cymorth, nid oes angen ichi wneud cais am ddogfen deithio anifeiliaid anwes. Nid oes angen unrhyw ddogfennau eraill arnoch chi i deithio adref. Bydd angen ichi wneud yn siŵr bod eich anifail anwes, neu gi cymorth wedi'i ficrosglodynnu cyn ichi deithio.

Os ydych yn teithio o Ogledd Iwerddon, Ynysoedd y Sianel neu Ynys Manaw. Ni fydd angen pasbort na thystysgrif iechyd ar eich ci, cath neu ffured anwes i fynd i mewn i Brydain Fawr.