Neidio i'r prif gynnwys

Bydd Aelodau'r Senedd heddiw (dydd Mawrth 6 Hydref) yn cael eu gwahodd i gefnogi galwadau Llywodraeth Cymru ar Lywodraeth y DU i gyflymu buddsoddiad yn seilwaith rheilffyrdd Cymru .

Cyhoeddwyd gyntaf:
6 Hydref 2026
Diweddarwyd ddiwethaf:
  • Bydd Aelodau'r Senedd yn trafod cynnig trawsbleidiol sy'n galw am gyflymu buddsoddiad yn rheilffyrdd Cymru a rhoi mwy o hyblygrwydd ariannol i Weinidogion Cymru.
  • Mae'r cynnig yn galw am ddileu'r cyfyngiadau ar Gronfa Wrth Gefn Cymru, gwelliannau i’r ffordd y mae fformiwla Barnett yn gweithredu, a chyflawni ymrwymiad Llywodraeth y DU o £14 biliwn i reilffyrdd Cymru.
  • Mae'r Gweinidog Cyllid, Elin Jones, yn dweud y bydd cydweithio i wneud yr achos dros gyllid tecach a chyflawni cyflymach yn helpu i sicrhau bod llais Cymru yn cael ei glywed.

Bydd Aelodau'r Senedd heddiw (dydd Mawrth 6 Hydref) yn cael eu gwahodd i gefnogi galwadau Llywodraeth Cymru ar Lywodraeth y DU i gyflymu buddsoddiad yn seilwaith rheilffyrdd Cymru a chaniatáu mwy o hyblygrwydd i Weinidogion Cymru wrth reoli'r cyllid a gânt o San Steffan.

Mae'r cynnig, a gaiff ei drafod y prynhawn yma ac sydd â chefnogaeth drawsbleidiol, yn gofyn i Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU gydweithio ar dri cham ymarferol:

  • dileu'r holl gyfyngiadau ar Gronfa Wrth Gefn Cymru, sef trefniant cyllidol sy'n caniatáu i Lywodraeth Cymru rheoli ei chyllid o un flwyddyn ariannol i’r nesaf, a fyddai’n rhoi mwy o hyblygrwydd i ymateb i bwysau sy’n codi ac na ellir eu rhagweld.
  • gwella’r ffordd y mae fformiwla Barnett yn gweithredu, y system ddegawdau oed a ddefnyddir i benderfynu faint o arian y mae Cymru yn ei gael gan Lywodraeth y DU, er mwyn cryfhau tegwch a thryloywder yn y ffordd y mae penderfyniadau cyllido'n cael eu gwneud a'u deall
  • ailddatgan y gefnogaeth i ymrwymiad Llywodraeth y DU o £14 biliwn i seilwaith rheilffyrdd Cymru, gyda chyllid digonol ar gyfer prosiectau gwella yn ystod cyfnod yr Adolygiad Gwariant cyfredol

Dywedodd y Gweinidog Cabinet dros Gyllid, Elin Jones:

"Mae'r cynnig hwn yn nodi agenda adeiladol ac ymarferol fel y gall lywodraethau Cymru a’r DU gydweithio i sicrhau bod penderfyniadau am Gymru yn adlewyrchu anghenion pobl Cymru yn briodol.

"Mae dileu'r cyfyngiadau ar Gronfa Wrth Gefn Cymru yn gam syml ac ymarferol a fyddai'n ein galluogi i wneud defnydd gwell o adnoddau sydd eisoes yn perthyn i Gymru.

"O ran y rheilffyrdd, nid yw ymrwymiadau ar eu pennau eu hunain yn gwella cysylltedd. Yr hyn sy'n bwysig nawr yw cyflawni, ac rydym am weld y gwaith hwnnw'n cael ei gyflymu.

"Rydym yn awyddus i adeiladu consensws eang ar draws y Senedd ar y materion pwysig hyn. Po fwyaf y bydd Cymru’n siarad ag un llais, y mwyaf fydd ein siawns o gael ein clywed."