Gwerthfawrogi’r amgylchedd hanesyddol: crynodeb
Asesiad o werth economaidd a chymdeithasol sector yr amgylchedd hanesyddol yng Nghymru.
Ar y dudalen hon
Cyflwyniad
Comisiynodd Cadw, ar ran y Grŵp Amgylchedd Hanesyddol, AMION Consulting er mwyn darparu asesiad wedi’i ddiweddaru o’r gwerth economaidd, cymdeithasol a’r gwerth ehangach a gynhyrchir gan amgylchedd hanesyddol Cymru. Mae’r astudiaeth yn cynnwys sefydliadau sy’n cadw, cynnal, rheoli a darparu mynediad i henebion, adeiladau rhestredig, ardaloedd cadwraeth, parciau a thirweddau hanesyddol, treftadaeth forol, amgueddfeydd a chanolfannau treftadaeth.
At ei gilydd, mae’r dystiolaeth yn dangos bod amgylchedd hanesyddol Cymru nid yn unig yn gaffaeliad diwylliannol, ond hefyd yn adnodd cenedlaethol strategol. Mae’n cefnogi gwytnwch economaidd, yr economi dwristaidd, lles cymunedol, hunaniaeth Gymreig, addysg, sgiliau, adfywio a gwytnwch hinsawdd. Mae’r amcangyfrifon wedi’u paratoi mewn ffordd sy’n fwriadol ofalus ac maent yn debygol o fod yn tanddatgan cyfraniad llawn y sector.
Crynodeb o’r prif ganfyddiadau
Cyfraniad economaidd
Mae’r amgylchedd hanesyddol yn cefnogi oddeutu 17,738 o swyddi cyfwerth ag amser llawn, a £738.7 miliwn o werth ychwanegol gros yng Nghymru bob blwyddyn, gan gynnwys gweithgaredd uniongyrchol, twristiaeth, y gadwyn gyflenwi ac effeithiau gwario’r gweithlu.
Yr economi dwristaidd
Mae’r amgylchedd hanesyddol ac amgueddfeydd yn cofnodi oddeutu 13.2 miliwn o ymweliadau yn flynyddol. Amcangyfrifir bod gwariant ymwelwyr oddi ar y safle y gellir ei briodoli yn £617.3 miliwn, gan gefnogi 10,317 o swyddi cyfwerth ag amser llawn a £355.7 miliwn o GVA. Mae ffigyrau’r swyddi a’r GVA yma eisoes wedi’u hymgorffori yn rhan o’r crynodeb o brif gyfraniadau economaidd uchod.
Gwerth cymdeithasol
Mae ymgysylltiad uniongyrchol, buddion dim defnydd, gwirfoddoli, addysg a lles sy’n seiliedig ar gyflogaeth yn cynhyrchu oddeutu £107.1 miliwn o werth cymdeithasol ariannol bob blwyddyn.
Gwerth cyhoeddus ehangach
Mae’r sector yn gwneud cyfraniadau pwysig at hunaniaeth ddiwylliannol ac iaith, cyfranogiad cymunedol, gwneud lle, sgiliau arbenigol, stiwardiaeth, cynaliadwyedd amgylcheddol ac addasu i’r hinsawdd.
Dull a thystiolaeth
Mae’r asesiad yn cyfuno model traweffaith economaidd o’r gwaelod i fyny, yr Arolwg Sbotolau ar Amgueddfeydd 2024, data sefydliadol, dros 1,000 o ymatebion gwerth arolwg wrth gefn ac ymgynghoriad gyda thros 40 o randdeiliaid. Mae’r dystiolaeth yn berthnasol yn bennaf i 2024/25, gyda’r holl werthoedd ariannol yn cael eu hadrodd mewn prisiau 2026/27.
Dylai’r canfyddiadau gael eu hystyried fel amcangyfrifon cadarn ar sail is, gan adlewyrchu cwmpas cul bwriadol yr astudiaeth ac agwedd ofalus at briodoldeb a chyfrif dwbl.
Gwerth economaidd
Mae’r amgylchedd hanesyddol yn cefnogi gweithgaredd drwy weithrediad safleoedd ac amgueddfeydd o ddydd i ddydd, gwaith cadwraeth a gwaith cyfalaf, addysg ac ymchwil, gwariant ymwelwyr, cadwyni cyflenwi o Gymru a gwario sy’n cael ei gefnogi gan weithwyr. Y sianel fwyaf sydd wedi’i chyfansymu yw’r economi dwristaidd, ond mae gweithgaredd trefniadol uniongyrchol hefyd yn darparu sail sylweddol o gyflogaeth gyda sgiliau a chapasiti economaidd.
Gweithgareddau sefydliadol uniongyrchol
Mae rheolaeth, gwasanaethau twristiaid a gweithrediadau, gwaith adeiladu a chadwraeth, ac addysg ac ymchwil yn cefnogi 4,476 o swyddi cyfwerth ag amser llawn a £167.0 miliwn o GVA bob blwyddyn.
Gor-dwristiaeth
Ar ôl hepgor gwariant gan breswylwyr Cymru sydd wedi dadleoli, ac addasu’r graddau y cafodd y daith ei chymell gan dreftadaeth, mae gwariant oddi ar y safle y gellir ei briodoli yn cefnogi cyfwerth â 10,317 o swyddi a £355.7 miliwn o GVA.
Effeithiau’r gadwyn gyflenwi
Pwrcasu nwyddau a gwasanaethau fesul sefydliad treftadaeth a’r economi dwristaidd yn cefnogi 1,710 pellach o swyddi cyfwerth ag amser llawn a £112.8 miliwn GVA.
Effeithiau gwario yn y gweithle
Mae gwario cyflogau wedi’i gefnogi gan dwristiaeth a gweithgareddau cadwyn gyflenwi yn cynnal cyfwerth â 1,234 o swyddi FTE a £103.2 miliwn o GVA.
Dosbarthiad gwerth
Mae’r amgylchedd hanesyddol yn cyfrif am oddeutu dau draean o gyfanswm y cyfraniad economaidd, tra mae amgueddfeydd yn cefnogi mwy na 6,000 o swyddi FTE a £236.8 miliwn o GVA.
Gan gymryd yr holl elfennau gyda’i gilydd, amcangyfrifir bod yr amgylchedd hanesyddol yng Nghymru yn cefnogi 17,738 net o swyddi ychwanegol ac yn cyfrannu oddeutu £740 miliwn mewn GVA i’r economi yng Nghymru bob blwyddyn. Mae’r amgylchedd hanesyddol craidd, gan gynnwys gweithgareddau sy’n cael eu harwain gan sefydliadau megis Cadw a’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn cynnal bron i 12,000 o swyddi a £500 miliwn mewn GVA, ac ar yr un pryd, mae amgueddfeydd hefyd yn cefnogi mwy na 6,000 o swyddi a £240 miliwn mewn GVA. Mae’r cyfansymiau hyn yn cynnwys gweithgaredd sefydliadol uniongyrchol, gwariant twristiaeth, effeithiau’r gadwyn gyflenwi a gwariant a gefnogir gan weithlu’r sector, gydag addasiadau’n cael eu gwneud am ychwanegoli a dadleoli oddi allan i Gymru.
Ni ellir cymharu’r canfyddiadau’n uniongyrchol gyda gwerthusiad 2010, gan fod yr astudiaethau’n defnyddio diffiniadau gwahanol, ffynonellau data a dulliau. Nid yw’r prif ffigwr is yn dynodi bod y sector wedi cywasgu, ond mae’n bennaf yn adlewyrchu priodoli mwy ceidwadol ac amddiffyniadau rhag cyfrif dwbl a fabwysiadwyd yn yr asesiad hwn.
Gwerth cymdeithasol
Mae’r amgylchedd hanesyddol yn creu buddion sydd heb eu hadlewyrchu’n llawn yn nhrafodion y farchnad. Mae’r asesiad ariannol yn canolbwyntio ar ymgysylltiad uniongyrchol, y gwerth mae preswylwyr yn ei roi ar gadwraeth barhaus, gwirfoddoli, cyfranogiad addysgol a gwerth cymdeithasol cyflogaeth. Mae’r amcangyfrifon hyn yn cyd-fynd gyda’r dystiolaeth ansoddol ehangach yn hytrach na’u disodli.
Treftadaeth a dim defnydd
Adroddodd ymwelwyr a ymwelodd â phedwar o brif gestyll Cadw barodrwydd i dalu, ar gyfartaledd, £10.18 am bob ymweliad. O gymhwyso hyn yn ofalus i safleoedd tebyg, gall hyn gynhyrchu £7.9 miliwn o werth defnyddio yn flynyddol. Mae cadwraeth portffolio castell Cadw’n cynhyrchu £10.8 miliwn arall o werth heb ddefnyddio, lle roedd preswylwyr nad oeddent yn ymweld â’r asedau yn parhau i deimlo balchder mawr yn eu cadwraeth.
Defnydd a dim defnydd o amgueddfeydd
Cynhyrchodd ymweliadau gan breswylwyr o Gymru oddeutu £17.4 miliwn o werth llesiant, gyda £3.4 miliwn arall yn gysylltiedig gyda bodolaeth barhaus amgueddfeydd ar gyfer rhai nad oeddent yn ymweld â hwy.
Gwirfoddoli a dysgu
Mae dros 900,000 o oriau o wirfoddoli’n cynhyrchu £9.8 miliwn o werth llesiant yn flynyddol, ac ar yr un pryd, mae oddeutu 340,000 o ymweliadau addysgol yn cynhyrchu £2.9 miliwn arall.
Buddion sy’n gysylltiedig gyda chyflogaeth
Mae swyddi a gefnogir gan y sector yn cynhyrchu £40.5 miliwn o fuddion cyflenwi gwaith a £14.2 miliwn o werth llesiant ar gyfer pobl sy’n symud i mewn i gyflogaeth.
Gyda’i gilydd, mae gwerth cymdeithasol ariannol yr amgylchedd hanesyddol yn cyd-fynd yn uniongyrchol gyda gwerth economaidd y sector ac yn dangos gwerth arwyddocaol yr amgylchedd hanesyddol i fywyd o ddydd i ddydd yng Nghymru. Ar y cyfan, amcangyfrifir bod sector yr amgylchedd hanesyddol yng Nghymru yn cynhyrchu £107.1 miliwn o werth cymdeithasol bob blwyddyn.
Gwerth ehangach
Mae tystiolaeth o astudiaethau achos ac ymgynghori’n dangos bod gwerth llawn y sector yn ymestyn ymhell y tu hwnt i ganlyniadau yn nhermau arian. Mae prif sianeli’r gwerth ehangach wedi'u rhestru isod.
Arweinyddiaeth ac aliniad strategol
Mae sefydliadau cenedlaethol a lleol yn darparu arweinyddiaeth o fewn y sector, yn cydlynu darpariaeth ac yn cyfrannu at flaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer llesiant, diwylliant, cynhwysiant, addysg a datblygiad cynaliadwy.
Hunaniaeth, iaith a chymuned
Mae llefydd hanesyddol yn atgyfnerthu ymdeimlad o berthyn, balchder mewn lle, hunaniaeth ddiwylliannol Cymru a’r Gymraeg wrth ddarparu llwybrau hygyrch i mewn i wirfoddoli a chyfranogiad cymunedol.
Sgiliau a stiwardiaeth
Mae gweithgaredd cadwraeth yn amddiffyn asedau digymar ac yn cefnogi gwybodaeth arbenigol, sgiliau adeiladu traddodiadol, addysg, ymchwil a chyflogadwyedd.
Adfywio a chreu llefydd
Gall ailddefnyddio a rhoi adeiladau a thirweddau hanesyddol ar waith wella delwedd, hynodrwydd, nifer yr ymwelwyr a hyder lleol, a gwelededd trefi, pentrefi a chyrchfannau cefn gwlad.
Cynaliadwyedd amgylcheddol
Mae sefydliadau treftadaeth yn cefnogi bioamrywiaeth, ailddefnyddio addasol a gwytnwch hinsawdd, er bod graddfa risg hinsawdd yn golygu y bydd angen addasiadau a stiwardiaeth hirdymor bellach.
Casgliadau ac argymhellion
Gyda’i gilydd, mae’r astudiaeth yn darparu sail tystiolaeth gref a chyfoes ar gyfer cydnabod yr amgylchedd hanesyddol fel seilwaith cenedlaethol trawsbynciol yn hytrach na gwasanaeth diwylliannol sydd wedi’i ddiffinio’n gul. Mae buddsoddiad mewn amddiffyn, cynnal a chadw a mynediad cyhoeddus yn cynhyrchu nifer o enillion drwy swyddi, twristiaeth, llesiant, hunaniaeth, sgiliau, creu llefydd a gwytnwch amgylcheddol.
Mae’r canfyddiadau hefyd yn arddangos pwysigrwydd stiwardiaeth gynaliadwy. Mae gan Gymru sail asedau mawr ac amrywiol, gwaith cynnal a chadw sydd wedi’i ohirio, prinder sgiliau arbenigol a phwysau hinsawdd cynyddol sy’n gallu cynyddu costau yn y dyfodol a gosod asedau unigryw mewn peryg. Bydd y gwerth sy’n cael ei adnabod yn yr astudiaeth hon ond yn parhau i gael ei wireddu pan fydd cadwraeth yn cael ei chyfuno gyda mynediad, cyfranogiad, addysg a defnydd sy’n canolbwyntio ar bobl.
Argymhellion newydd
Ailadrodd y gwaith gwerthfawrogi
Defnyddio methodoleg gyson fel y gellir olrhain gwerth economaidd, cymdeithasol ac ehangach dros amser a bod y sail tystiolaeth yn parhau i fod yn gyfredol.
Datblygu fframwaith data sector cyffredin
Cytuno ar fesurau cyson ar gyfer cyflogaeth, gwariant, ymwelwyr, cyfranogiad, gwirfoddoli, addysg, gwaith cyfalaf a chyrhaeddiad daearyddol, gan leihau dibynadwyedd ar elfennau dirprwyol mewn astudiaethau yn y dyfodol.
Ymestyn ymchwil i mewn i ddeilliannau sy’n anoddach i’w mesur
Profi dulliau gwerthuso lles amgen ac archwilio effeithiau dwysedd treftadaeth, adeiladau rhestredig a llefydd hanesyddol ar foddhad bywyd a gwerth lle.
Meincnodi Cymru yn erbyn cenhedloedd neu ranbarthau eraill
Byddai astudiaeth gymharol yn helpu i adnabod cryfderau perthynol, bylchau tystiolaeth a chyfleoedd ar gyfer amgylchedd hanesyddol Cymru.
Defnyddio’r canfyddiadau fel adnodd eiriolaeth a rennir
Cefnogi ymgysylltiad trawslywodraethol a’r sector drwy gyflwyno cyfraniad y sector mewn ffurf eglur, gyson ac wedi’i diweddaru.
Mewnosod y dystiolaeth mewn buddsoddiad sy’n seiliedig ar bolisi a lle
Archwilio’r defnydd o fewn datblygiad polisi a mecanweithiau gan gynnwys Cyd-bwyllgorau Corfforaethol, rhaglenni twf lleol ac adfywio a phenderfyniadau ariannu yn seiliedig ar le.
Trosglwyddo’r canfyddiadau yn fap ffordd i’r sector
Defnyddio’r Grŵp Amgylchedd Hanesyddol neu drefniadau cynnull eraill er mwyn cytuno ar flaenoriaethau brys a blaenoriaethau mwy hirdymor yn dilyn cyhoeddi.
Manylion cyswllt
Awduron: AMION Consulting (MHM a BLA Translation)
Mae’r safbwyntiau a fynegir yn yr adroddiad hwn yn rhai’r ymchwilydd ac nid ydynt o reidrwydd yn rhai Llywodraeth Cymru.
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â:
Cadw
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ
E-bost: ymchwil.cadw@llyw.cymru
Rhif ymchwil cymdeithasol: 85/2026
ISBN Digidol: 978-1-80853-493-5

