Diwygio'r cod ymarfer ar gyflogaeth foesegol mewn cadwyni cyflenwi: asesiad o’r effaith ar gydraddoldeb
Asesiad o’r effaith ar effaith y cynigion i adolygu'r cod ymarfer ar gyflogaeth foesegol mewn cadwyni cyflenwi.
Ar y dudalen hon
Hyrwyddo cydraddoldeb
Disgwylir i'r Cod diwygiedig hyrwyddo cydraddoldeb trwy gryfhau cyfrifoldebau sefydliadol i atal gwahaniaethu, aflonyddu ac erledigaeth, a thrwy annog cyflenwyr i fynd ati i wella eu harferion cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant (EDI). Mae hyn yn cyd-fynd â'r dyletswyddau cyffredinol o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 trwy hyrwyddo cyfle cyfartal, meithrin perthynas dda, a dileu gwahaniaethu anghyfreithlon. Mae disgwyliadau cliriach ynghylch gwaith teg, llais gweithwyr, triniaeth gyfartal, amgylcheddau gwaith mwy diogel a'r Cyflog Byw Gwirioneddol hefyd yn helpu i leihau anghydraddoldebau sy'n effeithio'n anghymesur ar bobl â nodweddion gwarchodedig a'r rhai sy'n byw ar aelwydydd incwm isel. Mae'r Cod yn cyd-fynd ag egwyddorion Cynlluniau Gweithredu Cydraddoldeb Llywodraeth Cymru, gan gynnwys y Cynllun Hawliau Pobl Anabl, Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-Hiliol a'r Cynllun Gweithredu LHDTC+.
Ni nodwyd unrhyw effeithiau negyddol ar grwpiau gwarchodedig. Mae natur anorfodol cofrestru cyflenwyr, ynghyd â phroses weithredu hyblyg a chymesur, yn helpu i liniaru'r risg hon. Bydd yr ymgynghoriad cyhoeddus sydd yn yr arfaeth yn rhoi cyfle i brofi dichonoldeb, cymesuredd a hygyrchedd, gan sicrhau bod anghenion grwpiau lleiafrifol a'r rhai sydd â rhwystrau ychwanegol yn cael eu deall yn llwyr.
Gall pobl sy'n rhannu nodweddion gwarchodedig wynebu rhwystrau sy'n gysylltiedig â gwahaniaethu, cyflog isel, gwaith ansicr, amodau anniogel neu ddiffyg llais. Mae'r Cod diwygiedig yn mynd i'r afael yn uniongyrchol â'r rhwystrau hyn trwy ei gwneud yn ofynnol i sefydliadau cofrestredig ymgorffori cyfle cyfartal yn eu harferion recriwtio a chyflogaeth, ymateb yn gadarn i aflonyddu (gan gynnwys aflonyddu rhywiol), hyrwyddo gweithleoedd cynhwysol, a pharchu mynediad undebau llafur a chynrychiolaeth gweithwyr. Mae ymrwymiadau cryfach ar iechyd a diogelwch ac unioni niwed yn lleihau ymhellach y risgiau sy'n cael eu hwynebu'n anghymesur gan grwpiau ymylol.
Cofnod o effeithiau yn ôl nodwedd warchodedig
| Grŵp neu nodwedd warchodedig | Beth yw effeithiau cadarnhaol neu negyddol y cynnig? | Y rhesymau sydd wrth wraidd eich penderfyniad (yn cynnwys tystiolaeth) | Sut byddwch chi'n lliniaru'r effeithiau?
|
|---|---|---|---|
| Oed (meddyliwch am wahanol grwpiau oedran) | Effaith gadarnhaol bosibl | Mae'r Cod diwygiedig yn hyrwyddo gwaith teg, sicrwydd swyddi, gweithleoedd mwy diogel a safonau cyflogaeth gwell. Mae'r buddion hyn yn cefnogi pobl o bob oedran. Ni nodwyd unrhyw effeithiau negyddol. | Ni ddisgwylir unrhyw effeithiau negyddol. Bydd canllawiau gwaith teg, disgwyliadau EDI a deunyddiau ymgynghori hygyrch yn sicrhau bod anghenion gwahanol grwpiau oedran yn cael eu hystyried. |
| Anabledd | Effaith gadarnhaol | Mae'r Cod diwygiedig yn ymrwymo cyflenwyr i ddangos polisïau EDI cryf ac arferion cyflogaeth cynhwysol, a all o bosibl leihau rhwystrau a brofir gan bobl anabl. Ni nodwyd unrhyw effeithiau negyddol. | Ni ddisgwylir unrhyw effeithiau negyddol. Byddwn yn monitro hyn trwy ymgysylltu parhaus â grwpiau anabledd yn ystod y broses ymgynghori a thrwy roi pwyslais ar fformatau hygyrch ac addasiadau rhesymol o fewn arferion caffael a chyflogaeth. |
| Ailbennu Rhywedd | Effaith gadarnhaol bosibl | Gall disgwyliadau cryfach o ran amddiffyniadau gwrth-wahaniaethu ac aflonyddu gefnogi gweithwyr traws ac anneuaidd, a allai wynebu risg uwch o wahaniaethu yn y gweithle. | Bydd monitro parhaus o ymrwymiadau EDI cyflenwyr, a bydd yr ymgynghoriad yn profi a oes angen canllawiau ychwanegol.
|
| Beichiogrwydd a mamolaeth | Effaith gadarnhaol bosibl | Ymrwymiadau cryfach ar gydraddoldeb, sicrwydd swyddi a thriniaeth deg i gefnogi gweithwyr a allai fod yn agored i wahaniaethu yn ystod beichiogrwydd neu ar gyfnod mamolaeth. | Ni ddisgwylir unrhyw effeithiau negyddol. Bydd monitro trwy reoli contractau ac adrodd gan gyflenwyr yn sicrhau bod canllawiau yn tynnu sylw at hawliau sy'n gysylltiedig â mamolaeth. |
| Hil | Effaith gadarnhaol bosibl | Mae ffocws y Cod ar gaethwasiaeth fodern, hawliau dynol, gwrth-wahaniaethu a recriwtio cyfrifol yn cefnogi gweithwyr sydd mewn mwy o berygl o gael eu hecsbloetio. | Ni ddisgwylir unrhyw effeithiau negyddol. Ymgysylltu â sefydliadau cymunedol a chydraddoldeb hiliol, cefnogaeth wedi'i dargedu at gadwyni cyflenwi â risg uchel. |
| Crefydd, cred a dim cred | Effaith gadarnhaol bosibl | Mae'r Cod diwygiedig yn cynnwys disgwyliadau am amodau cyflogaeth cynhwysol a chamau gweithredu yn erbyn aflonyddu, gan gefnogi gweithwyr o bob cefndir ffydd. | Ni ddisgwylir unrhyw effeithiau negyddol. Sicrhau bod polisïau cyflenwyr yn mynd i'r afael â chynhwysiant crefyddol.
|
| Rhyw / Rhywedd | Effaith gadarnhaol bosibl | Mae'r Cod diwygiedig yn cynnwys ymrwymiadau ar gyflog teg, cyflog byw, gweithleoedd mwy diogel a mynd i'r afael â gwahaniaethu. | Ni ddisgwylir unrhyw effeithiau negyddol. Lliniaru trwy hyrwyddo cydymffurfiaeth â monitro EDI sy'n tynnu sylw at ofynion atal aflonyddu rhywiol. |
| Cyfeiriadedd rhywiol (Lesbiaidd, Hoyw a Deurywiol) | Effaith gadarnhaol bosibl | Nod disgwyliadau cydraddoldeb a gwrth-aflonyddu cryfach y Cod diwygiedig yw lleihau'r risg o wahaniaethu. | Ni ddisgwylir unrhyw effeithiau negyddol. Bydd rheoli contractau ac adborth ymgynghori yn helpu i nodi anghenion am gymorth ychwanegol. |
| Priodas a phartneriaeth sifil | Effaith gadarnhaol bosibl | Mae'r Cod diwygiedig yn gofyn am driniaeth gyfartal ar draws arferion cyflogaeth. | Ni ddisgwylir unrhyw effeithiau negyddol. Bydd unrhyw liniaru'n digwydd drwy hyrwyddo ymwybyddiaeth ymhlith cyflenwyr o ofynion nad ydynt yn gwahaniaethu. |
| Plant a phobl ifanc hyd at 18 oed | Dim effaith uniongyrchol. | Mae plant yn elwa pan fydd gofalwyr yn cael gwaith teg, sefydlog, diogel ac incwm digonol. Mae'r Cod diwygiedig yn mynd i'r afael ag ecsbloetio a thâl teg, a all leihau tlodi plant. | Ni ddisgwylir unrhyw effeithiau negyddol. Bydd yr ymgynghoriad yn ceisio barn a allai arwain at gryfhau'r asesiad. |
| Aelwydydd incwm isel | Effaith gadarnhaol bosibl | Mae'r Cod diwygiedig yn cryfhau ymrwymiadau i'r Cyflog Byw Gwirioneddol, amddiffyn sicrwydd swyddi a gwaith teg. | Ni ddisgwylir unrhyw effeithiau negyddol. Bydd unrhyw liniaru'n digwydd drwy hyrwyddo mabwysiadu'r cod yn wirfoddol a chefnogi cyflenwyr i weithredu ymrwymiadau i'r Cyflog Byw. |
Hawliau Dynol a Chonfensiynau'r Cenhedloedd Unedig
| Hawliau Dynol | Beth yw effeithiau cadarnhaol neu negyddol y cynnig? | Y rhesymau sydd wrth wraidd eich penderfyniad (yn cynnwys tystiolaeth) | Sut y byddwch yn lliniaru’r effeithiau negyddol?
|
|---|---|---|---|
| Effaith gadarnhaol | Mae'r Cod diwygiedig yn cryfhau disgwyliadau sy'n berthnasol i Ddeddf Hawliau Dynol 1998, gan gynnwys: rhyddid rhag ecsbloetio a chaethwasiaeth, hawliau i amodau gwaith diogel, peidio â gwahaniaethu, triniaeth deg, a mynediad at unioni. Mae'n anelu at leihau risgiau caethwasiaeth fodern ac amodau gwaith anniogel ac yn cefnogi hawliau gweithwyr agored i niwed, gan gynnwys ymfudwyr a'r rhai mewn gwaith ansicr. Ni nodwyd unrhyw effeithiau negyddol. | Ni ddisgwylir unrhyw effeithiau negyddol. Bydd monitro parhaus ac adolygiad ar ôl gweithredu yn sicrhau bod unrhyw risgiau o ran hawliau dynol yn cael eu nodi, ac yr eir i'r afael â hwy wrth iddynt ddod i'r amlwg. |
