Neidio i'r prif gynnwy

Lesley Griffiths AC, Gweinidog Llywodraeth Leol a Busnes y Llywodraeth

Cyhoeddwyd gyntaf:
23 Mehefin 2014
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Heddiw rwy'n cyhoeddi'r cod ymarfer newydd ar faterion y gweithlu, a elwir y ‘Cod Dwy Haen’ fel arfer.  Mae hyn yn adlewyrchu'n hymrwymiad i wasanaethau cyhoeddus a'r gweithlu gwasanaeth cyhoeddus, a'n dymuniad i sicrhau bargen deg i'r gweithlu. Mae wedi cael ei gyhoeddi ar wefan Llywodraeth Cymru ac mae ar gael isod:

Nod y Cod Gweithlu Dwy Haen yw sicrhau lle caiff gwasanaethau cyhoeddus eu rhoi ar gontract allanol i drydydd parti:

  • bydd staff yn trosglwyddo a bydd TUPE yn berthnasol, neu dylid dilyn egwyddorion TUPE os nad yw'n union berthnasol; 
  • byddai recriwtiaid newydd i'r darparwr gwasanaeth sy'n gwneud gwaith ar y contract yn cael eu cyflogi ar Delerau ac Amodau nad ydynt yn llai ffafriol na rhai staff sy'n cael eu trosglwyddo. 
Mae'r Cod newydd wedi'i seilio'n agos ar y Codau presennol, ac mae'r cynnwys yn seiliedig ar roi triniaeth deg i staff a drosglwyddwyd a sut i drin staff sy'n gweithio ochr yn ochr â staff a drosglwyddwyd. Addaswyd y cynnwys i:
  • sicrhau bod yr un Cod hwn yn berthnasol i amrywiaeth ehangach o gyrff, gydag Awdurdod statudol pob corff yn gyfrifol am ei gymhwyso
  • atgyfnerthu'r trefniadau monitro ac adrodd o ran defnyddio'r Cod;
  • egluro agweddau penodol (o ran ymunwyr newydd, er enghraifft);
  • adlewyrchu'r ddeddfwriaeth newydd ar bensiynau, yn enwedig y broses o gofrestru awtomatig a gyflwynwyd gan Ddeddf Pensiynau 2008 a'r Fargen Deg ddiwygiedig.

Er mwyn helpu cyrff cyhoeddus i gymhwyso darpariaethau'r Cod mewn contractau, rydym hefyd wedi cyhoeddi Nodyn Cyngor Caffael a model o delerau contract. Bydd hyn yn fan cychwyn o ran galluogi cyrff cyhoeddus i gymhwyso darpariaethau'r Cod mewn contractau, a allai gael eu haddasu i weddu i anghenion lleol os bydd angen.

Mae'n eglur iawn imi y dylem geisio osgoi Gweithlu Dwy Haen. Mae gweithlu hynod frwdfrydig ac unedig sy'n ymddiddori yn eu gwaith yn fwy cynhyrchiol, yn gallu cynhyrchu gwaith o well safon ac yn llai tebygol o roi sylw i amrywiaeth o faterion sy'n gysylltiedig ag anghydraddoldebau a gwahaniaethau o ran Telerau ac Amodau.

Rwyf hefyd yn cyhoeddi'r Crynodeb o Ymatebion i'r ddogfen ymgynghori  ‘Gweithlu'r Gwasanaeth Cyhoeddus: Ymgynghoriad ar Ganllawiau a Chyfarwyddiadau drafft ynghyd â Chod Ymarfer ar Faterion y Gweithlu’, a gyhoeddwyd ar 26 Medi 2013. Gwahoddwyd safbwyntiau ar y cynigion fel rhan o ymgynghoriad 12 wythnos a ddaeth i ben ar 20 Rhagfyr 2013.