• Rhaglen ddiogelu newydd i gryfhau'r amddiffyniad i blant, pobl ifanc ac oedolion sydd mewn perygl o gael eu cam-drin a'u hesgeuluso.
• Bwrdd Sicrwydd Gweinidogol newydd a hwb gwybodaeth i ganfod arwyddion rhybudd yn gynt a rhannu gwybodaeth yn gyflymach.
• Bydd lleisiau plant, pobl ifanc ac oedolion wrth wraidd y rhaglen.
Bydd pobl sydd mewn perygl o gamdriniaeth, esgeulustod a chamfanteisio yn cael eu hamddiffyn yn well o dan raglen ddiogelu newydd sy'n cael ei lansio ledled Cymru.
Mae'r rhaglen yn ymateb i'r Adolygiad Atgyfnerthu Trefniadau Llywodraethiant Diogelu, dan arweiniad Jan Pickles OBE. Mae hefyd yn cyflawni ymrwymiadau Llywodraeth Cymru i gryfhau trefniadau diogelu a sicrhau bod lleisiau plant, pobl ifanc, oedolion sydd mewn perygl, dioddefwyr a goroeswyr yn helpu i lunio'r gwasanaethau sydd wedi'u cynllunio i'w hamddiffyn.
Mae'r gwelliannau allweddol yn cynnwys:
- bwrdd goruchwyliaeth weinidogol newydd ar gyfer Diogelu i gryfhau arweinyddiaeth ac atebolrwydd cenedlaethol
- swyddogaeth ddiogelu o fewn yr Hwb Gwybodaeth Gofal Cymdeithasol Cenedlaethol i wella gwybodaeth, nodi risgiau sy'n dod i'r amlwg a chefnogi gweithredu cynharach
- cynllun diogelu cenedlaethol a chofrestr risg genedlaethol i ddarparu blaenoriaethau cliriach a dull mwy cyson ledled Cymru
Bydd y rhaglen yn cryfhau'r broses o ddysgu o adolygiadau diogelu, arolygiadau, data ac arferion, gan helpu sefydliadau i nodi risgiau'n gynt ac ymateb yn fwy effeithiol pan fydd pryderon yn codi.
Bydd y rhaglen hefyd yn gosod y sylfeini ar gyfer ymgynghori yn y dyfodol ar gynigion ar gyfer Awdurdod Amddiffyn Oedolion a Phlant i Gymru, ac adrodd gorfodol am achosion o gamdriniaeth.
Dywedodd Delyth Jewell, y Dirprwy Weinidog dros Ofal Cymdeithasol, Iechyd Meddwl ac Iechyd Menywod:
Mae gan bob plentyn ac oedolyn yng Nghymru yr hawl i fod yn ddiogel.
Mae'r rhaglen hon yn ymwneud ag adeiladu system ddiogelu gryfach i Gymru, un sy'n nodi risgiau'n gynt, yn dysgu o brofiad ac yn sicrhau bod sefydliadau'n cydweithio i amddiffyn pobl rhag niwed.
Yn bwysicaf oll, bydd y rhaglen hon yn sicrhau bod lleisiau a phrofiadau plant, pobl ifanc, oedolion sydd mewn perygl, dioddefwyr a goroeswyr yn helpu i lunio'r gwasanaethau sydd wedi'u cynllunio i'w hamddiffyn.
