Egwyddorion a Safonau Maeth ac Arlwyo Cymru Gyfan ar gyfer Darparu Bwyd a Hylif i Gleifion yn yr Ysbyty (2026) (WHC/2026/030)
Cyhoeddi Egwyddorion a Safonau Maeth ac Arlwyo Cymru Gyfan newydd ar gyfer Darparu Bwyd a Hylifau i Gleifion yn yr Ysbyty (2026), ynghyd ag Adnodd Hunanasesu.
Ar y dudalen hon
Manylion
Statws:
Camau gweithredu a Gwybodaeth Cydymffurfio
Categori:
Ansawdd a Diogelwch / Polisi / Llywodraethu
Teitl:
Egwyddorion a Safonau Maeth ac Arlwyo Cymru Gyfan ar gyfer Darparu Bwyd a Hylif i Gleifion yn yr Ysbyty (2026)
Dyddiad Dod i Ben / Adolygu:
Medi 2031
I'w weithredu gan:
- Brif Weithredwyr
- Cyfarwyddwyr Gweithredol Nyrsio
- Cyfarwyddwyr Therapïau a Gwyddorau Iechyd
Er gwybodaeth:
- Cyfarwyddwr Cyffredinol a Phrif Weithredwr, y Grŵp Iechyd, Gofal ac Atal
- Dirprwy Brif Weithredwr GIG Cymru, y Grŵp Iechyd, Gofal ac Atal
- Cyfarwyddwyr Iechyd y Cyhoedd, Ymddiriedolaethau a Byrddau Iechyd
- Cyfarwyddwyr Meddygol, Ymddiriedolaethau a Byrddau Iechyd
- Cyfarwyddwyr Gofal Sylfaenol, Ymddiriedolaethau a Byrddau Iechyd
- Prif Swyddogion Gweithredu, Ymddiriedolaethau a Byrddau Iechyd
- Prif Fferyllwyr, Ymddiriedolaethau a Byrddau Iechyd
- Cyfarwyddwr Gweithredol Iechyd y Cyhoedd, Iechyd Cyhoeddus Cymru
- Ymarferwyr Cyffredinol, practisau deintyddol a fferyllfeydd cymunedol a phractisau optometreg
- Fforwm Partneriaeth GIG Cymru
- Cymdeithas Feddygol Prydain (Cymru)
- Coleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol
- Y Coleg Nyrsio Brenhinol
- Coleg Brenhinol y Bydwragedd
- Coleg Brenhinol Pediatreg ac Iechyd Plant
- Coleg yr Optometryddion
- Cymdeithas Ddeintyddol Prydain
- Cymdeithas Brydeinig Maeth drwy'r Gwythiennau a'r Ymysgaroedd (BAPEN)
- Coleg Brenhinol y Therapyddion Lleferydd ac Iaith (RCSLT)
- Cymdeithas Arlwywyr Ysbytai (HCA)
- Cymdeithas Gastroenteroleg Prydain (BSG)
- Y Grŵp Maeth drwy'r Gwythiennau a'r Ymysgaroedd (PENG)
- Y Gymdeithas Fferyllol Frenhinol
- Fferylliaeth Gymunedol Cymru
- Optometreg Cymru
- Arolygiaeth Gofal Cymru
- Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru
I'w weithredu erbyn:
O fewn 12 mis i'w gyhoeddi
Anfonwyd gan:
Y Fonesig Sue Tranka, y Prif Swyddog Nyrsio, Cyfarwyddwr Nyrsio GIG Cymru
Enwau cyswllt yn Llywodraeth Cymru:
Swyddfa'r Prif Swyddog Nyrsio,
Y Gyfarwyddiaeth Nyrsio, Profiad a Diogelwch,
Llywodraeth Cymru,
Parc Cathays,
Caerdydd CF10 3NQ
AnsawddANyrsio@llyw.cymru
Trosolwg
Mae'r Cylchlythyr Iechyd hwn yn rhoi gwybod am gyhoeddi Egwyddorion a Safonau Maeth ac Arlwyo Cymru Gyfan newydd ar gyfer Darparu Bwyd a Hylifau i Gleifion yn yr Ysbyty (2026), ochr yn ochr ag Adnodd Hunanasesu cysylltiedig.
Mae'r safonau diwygiedig hyn yn darparu canllawiau technegol sydd wedi'u diweddaru ar gyfer staff sy'n gyfrifol am sicrhau bod anghenion maeth a hydradu cleifion ysbyty, sy'n gallu bwyta ac yfed, yn cael eu diwallu.
Maent yn disodli safonau 2011 ar ôl cyfnod gweithredu penodol.
Mae'r safonau'n sefydlu saith egwyddor gyffredinol ar gyfer darparu bwyd a hylifau mewn modd diogel ac effeithiol sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn.
Maent yn atgyfnerthu pwysigrwydd maeth a hydradu fel elfennau hanfodol o ofal clinigol, gan gydnabod eu cyfraniad at wella canlyniadau iechyd, diogelwch cleifion, adferiad, ac urddas.
Mae'r safonau'n mynd i'r afael â:
- arweinyddiaeth ac atebolrwydd
- asesu anghenion maeth a hydradu
- gallu'r gweithlu
- dysgu a datblygu
- cynaliadwyedd
- darparu gwasanaeth bwyd 24 awr
- diwallu anghenion maeth amrywiol pobl yn yr ysbyty
Diben
Pwrpas y Cylchlythyr hwn yw rhoi gwybod i sefydliadau'r GIG yng Nghymru am gyhoeddi'r safonau diwygiedig, gan helpu i sicrhau eu bod yn cael eu gweithredu mewn modd cyson ar draws lleoliadau gofal iechyd.
Disgwylir i sefydliadau ddefnyddio'r Adnodd Hunanasesu cysylltiedig i:
- werthuso arferion cyfredol
- nodi meysydd lle mae angen gwella
- monitro cydymffurfiaeth yn barhaus
Mae'r safonau’n gweithredu fel fframwaith integredig ar gyfer darparu bwyd a hylifau, ac felly dylid eu darllen a'u cymhwyso yn eu cyfanrwydd.
Ni ddylid defnyddio adrannau unigol ar eu pennau eu hunain, gan fod yr egwyddorion a'r gofynion yn rhyng-ddibynnol, ac maent yn gweithredu gyda'i gilydd i gefnogi gofal maeth ac hydradu diogel ac effeithiol sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn.
Cwmpas
Mae'r safonau'n berthnasol i leoliadau ysbytai ar draws Cymru, ac fe’u bwriedir ar gyfer:
- arlwywyr
- dietegwyr
- staff nyrsio
- staff eraill sy'n ymwneud â chynllunio, caffael, paratoi, cyflenwi, cefnogi, a monitro'r ddarpariaeth bwyd a hylifau i gleifion
Mae'r cwmpas hefyd yn cynnwys cleifion sy'n derbyn gofal y tu allan i leoliadau ward traddodiadol, gan gynnwys:
- adrannau gofal mewn argyfwng
- unedau dydd
Mae hefyd yn rhoi sylw i:
- oedolion
- plant, a phobl ifanc
- y rheini sy'n agored i niwed a'r rheini sy'n iach o ran eu hanghenion maeth
- pobl sydd â gofynion therapiwtig, arbenigol, crefyddol, diwylliannol, a chyfathrebu, neu ofynion sy'n gysylltiedig â ffordd o fyw.
Yr Adnodd Hunanasesu
Mae'r Adnodd Hunanasesu cysylltiedig yn darparu dull strwythuredig sy'n galluogi sefydliadau'r GIG i:
- adolygu tystiolaeth yn erbyn y safonau
- nodi meysydd o ansawdd a meysydd i'w gwella
- rhoi sgôr coch, oren, neu wyrdd ar gyfer pob safon berthnasol
Mae sgoriau coch yn dangos diffyg tystiolaeth neu dystiolaeth annigonol, ac mae angen eu huwchgyfeirio a'u lliniaru.
Mae sgoriau oren yn dangos bod tystiolaeth ar gael, ond bod gwelliannau ansawdd pellach wedi'u nodi ac yn cael eu cyflwyno.
Mae sgoriau gwyrdd yn dangos bod tystiolaeth berthnasol ddigonol o ran darpariaeth maeth a hydradu o ansawdd.
Ar ôl ei gwblhau, dylai'r asesiad lywio adroddiad ansawdd a chynllun gwella ansawdd y sefydliad.
Dylai hefyd helpu i oruchwylio'r saith egwyddor, hyd yn oed pan nad oes gan egwyddor safon benodol wedi'i halinio â hi.
Gweithredu a sicrwydd
Disgwylir i bob sefydliad GIG gwblhau asesiad mewnol cychwynnol fel llinell sylfaen o fewn 12 mis ar ôl eu cyhoeddi.
Yn dilyn yr asesiad llinell sylfaen, dylai sefydliadau:
- gynnal adolygiad o leiaf unwaith y flwyddyn
- nodi a rhannu arferion da
- cynllunio camau gweithredu i fynd i'r afael â’r meysydd lle mae angen gwella
Dylid crynhoi'r canlyniadau:
- mewn adroddiad ar ansawdd maeth a hydradu lleol a chynllun gwella ansawdd
- a rennir ar lefel y Bwrdd a chyda rhanddeiliaid perthnasol
Rhaid i ddarpariaeth yn y Gymraeg fod yn rhan o weithredu, llywodraethu, a sicrhau ansawdd yn lleol.
Dylai sefydliadau:
- gynnwys camau gweithredu mewn perthynas â'r Gymraeg o fewn cynlluniau gweithredu, hunanasesu, archwilio, a gweithgareddau gwella ansawdd
- monitro mynediad at fwydlenni dwyieithog, gwybodaeth, a gwasanaethau digidol ar y pwynt gofal.
Camau gweithredu gofynnol
Gofynnir i Brif Weithredwyr, Cyfarwyddwyr Gweithredol Nyrsio, a Chyfarwyddwyr Therapïau a Gwyddorau Iechyd sicrhau'r canlynol:
- bod y safonau diwygiedig a'r Adnodd Hunanasesu yn cael eu cyfathrebu i'r timau clinigol, arlwyo, deietig, cyfleusterau, caffael, digidol, a llywodraethu perthnasol
- bod Cyfarwyddwr Gweithredol yn cael ei nodi fel rhywun sy'n gyfrifol am fwyd a diod i gleifion, gan gynnwys maeth, hydradu, a diogelwch, ac am adrodd ar gydymffurfiaeth
- bod llwybr llywodraethu amlddisgyblaethol lleol yn cael ei sefydlu i oruchwylio gweithredu ac adolygiadau blynyddol
- bod yr hunanasesiad llinell sylfaen yn cael ei gwblhau o fewn 12 mis ar ôl eu cyhoeddi
- bod meini prawf â sgôr coch yn cael eu huwchgyfeirio a'u lliniaru, a bod meini prawf â sgôr oren yn cael eu cynnwys o fewn y gwaith cynllunio ar gyfer gwella
- bod tystiolaeth, camau gweithredu, a chynnydd yn cael eu hadlewyrchu yn adroddiad ansawdd a chynllun gwella ansawdd y sefydliad
- bod trefniadau'n cefnogi'r Cynnig Gweithredol a'r ddarpariaeth gyfatebol yn Gymraeg a Saesneg
- bod dysgu ac arferion da yn cael eu rhannu drwy rwydweithiau maeth, arlwyo, a phrofiad cleifion perthnasol Cymru gyfan
Y camau nesaf
Dylai sefydliadau'r GIG ddechrau cynllunio eu camau gweithredu ar ôl derbyn y Cylchlythyr hwn, gan ddefnyddio'r Adnodd Hunanasesu amgaeedig i nodi eu sefyllfa llinell sylfaen.
Dylai cynlluniau lleol nodi:
- arweinwyr atebol
- gofynion tystiolaeth
- trefniadau llywodraethu
- camau gweithredu sy'n flaenoriaeth
Bydd rhagor o ddysgu ac arferion da cenedlaethol yn cael eu rhannu drwy Grŵp Cydgysylltwyr Maeth Cymru Gyfan a rhwydweithiau proffesiynol cysylltiedig.
I gloi
Mae'r safonau diwygiedig yn darparu fframwaith cenedlaethol ar gyfer cryfhau ansawdd, diogelwch, cysondeb, a phrofiad y claf o ran y ddarpariaeth bwyd, hylifau, maeth, a hydradu ar draws GIG Cymru.
Bydd gweithredu llwyddiannus yn dibynnu ar:
- arweinyddiaeth gref
- perchnogaeth amlddisgyblaethol
- ymgysylltu'n ystyrlon â chleifion a gofalwyr
- trefniadau cadarn ar gyfer monitro a gwella parhaus
Trwy ymwreiddio'r safonau hyn mewn ymarfer bob dydd, bydd sefydliadau'r GIG yn helpu i wella canlyniadau i gleifion a'r profiad gofal, ac yn sicrhau bod maeth a hydradu yn rhan annatod o ddarparu gofal iechyd diogel ac effeithiol sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn.
Yn gywir
Y Fonesig Sue Tranka
Y Prif Swyddog Nyrsio, Cyfarwyddwr Nyrsio GIG Cymru
