Neidio i'r prif gynnwys

Crynodeb Gweinidogol

Pan fydd angen gofal argyfwng neu acíwt arnoch chi neu rywun sy'n bwysig ichi, dylech allu disgwyl y gofal cywir, yn y lle iawn, ar yr adeg iawn.

Mae gofal argyfwng ac acíwt yn cwmpasu'r gwasanaethau sy'n ymateb pan fydd pobl yn wynebu salwch difrifol, anaf, dirywiad neu argyfwng iechyd sy'n gofyn am asesiad, triniaeth neu ofal arbenigol yn gyflym.

Mae hyn yn cynnwys:

  • ymateb drwy ambiwlans argyfwng
  • asesiad a thriniaeth yn yr ysbyty
  • gofal critigol pan fo'i angen
  • y cymorth y mae pobl yn ei gael i adfer yn ddiogel a dychwelyd adref

Nodir y diffiniadau llawn yn y Fframwaith hwn.

Dylech fod yn hyderus, os byddwch yn cael salwch neu anaf difrifol, y bydd cymorth yn cyrraedd yn gyflym, y byddwch yn cael eich asesu'n ddi-oed, ac y byddwch yn cael y driniaeth a'r gofal arbenigol sydd eu hangen arnoch heb oedi diangen.

Dylech hefyd ddisgwyl bod yn yr ysbyty dim ond cyhyd â bod angen clinigol, gan ddychwelyd adref mor fuan ag y bydd yn ddiogel ac yn briodol ichi wneud hynny.

Heddiw, nid yw hyn bob amser yn digwydd yn achos gormod o bobl.

I rai pobl, yn enwedig pobl hŷn a'r rhai sy'n byw gydag eiddilwch, gall amser diangen yn yr ysbyty achosi niwed ynddo'i hun, gan gynnwys dadgyflyru, colli gweithrediad, a llai o annibyniaeth.

Gall amseroedd aros hir am ambiwlansys, oedi mewn adrannau argyfwng, anawsterau wrth gael triniaeth amserol, a chyfnodau estynedig yn yr ysbyty achosi pryder ac ansicrwydd i gleifion a'u teuluoedd.

Gallant hefyd arwain at ganlyniadau gwaeth a rhoi pwysau sylweddol ar ein gweithlu iechyd a gofal ymroddedig.

Rhaid inni newid hyn.

Rydych wedi dweud wrthym beth sydd bwysicaf

Mae pobl yng Nghymru yn dweud wrthym yn gyson eu bod am gael mynediad haws at ofal iechyd sy'n agos i'w cartref pan fo hynny'n briodol, 

Pan fydd argyfyngau yn codi, mae pobl am weld ambiwlansys yn cyrraedd yn gyflym ac maent am weld amseroedd aros byrrach mewn adrannau argyfwng, a fel y dangosir yn Public perceptions of health and social care polling - February 2025.

Arolwg y Sefydliad Iechyd ac Ipsos, y dadansoddiad o'r blaenoriaethau pennaf a ddewiswyd gan ymatebwyr yng Nghymru

  • i 35% o bobl, y flaenoriaeth oedd gwella amseroedd ymateb ambiwlansys (sef y flaenoriaeth uchaf yng Nghymru)
  • i 33% o bobl, y flaenoriaeth oedd gwella amseroedd aros mewn adrannau argyfwng
  • i 29% o bobl, y flaenoriaeth oedd ei gwneud yn haws cael apwyntiadau mewn meddygfeydd

Mae'r Fframwaith hwn yn ymateb yn uniongyrchol i'r blaenoriaethau hyn. Bwriedir i bob un o'r gwelliannau a nodir yn Gofal Argyfwng ac Acíwt Cymru wneud gofal yn fwy ymatebol, lleihau amseroedd aros diangen a sicrhau bod y system yn gweithio i chi, eich teulu, a'ch ffrindiau pan fydd angen gofal argyfwng neu acíwt arnoch.

Yr her o'n blaenau yw nid a oes angen newid, ond a ydym yn barod i wneud y newidiadau sydd eu hangen er mwyn sicrhau bod gofal argyfwng ac acíwt o ansawdd uchel yn parhau i fod ar gael, yn deg ac yn gynaliadwy i genedlaethau'r dyfodol.

Dull system gyfan o sicrhau gwell iechyd a gofal

Gwyddom na all gwasanaethau ambiwlans argyfwng nac ysbytai ar eu pennau eu hunain sicrhau'r gwelliannau mewn iechyd a llesiant y mae Cymru yn eu ceisio.

Mae iechyd da yn dechrau ymhell cyn bod angen gofal argyfwng ar rywun.

Caiff ei ffurfio gan y cartrefi rydym yn byw ynddynt, y cymunedau o'n hamgylch, y cyfleoedd sydd ar gael inni, a'r cymorth a gawn drwy gydol ein hoes.

Gwyddom hefyd nad yw'r systemau iechyd sy'n perfformio orau yn y byd yn dewis rhwng atal, gwasanaethau cymunedol a gofal yn yr ysbyty.

Maent yn cryfhau pob un o'r tri.

Maent yn helpu pobl i aros yn iach yn hwy, yn rhoi cymorth yn nes at y cartref, ac yn sicrhau, pan fydd angen gofal ysbyty, ei fod yn amserol, yn effeithiol ac o'r ansawdd gorau.

Dyna pam mae ein Rhaglen lywodraethu 2026 i 2030 yn:

  • buddsoddi mewn dull atal trawslywodraethol
  • darparu fframwaith system iechyd a gofal cyfan cenedlaethol ar gyfer cyflawni iechyd, gofal cymdeithasol, cymorth gan y trydydd sector a chymorth tai mewn ffordd gydgysylltiedig yn nes at eich cartref drwy System Gofal Cymunedol Integredig i Gymru
  • cynyddu adnoddau meddygon teulu a chryfhau gofal cymdeithasol wrth inni symud tuag at Wasanaeth Gofal Cenedlaethol

Byddwn hefyd yn sicrhau newid sylfaenol tuag at atal, ymyrryd yn gynnar a gofal cydgysylltiedig yn y gymuned drwy ein rhaglen Cymunedol o'r Cychwyn, sy'n eich helpu i fyw'n dda, aros yn annibynnol a chael gofal brys ar yr un diwrnod yn eich cymuned leol.

Gofal Argyfwng ac Acíwt Cymru yw cyfraniad gofal argyfwng ac acíwt tuag at weledigaeth ehangach Cymunedol o'r Cychwyn.

Mae'r Fframwaith yn nodi'r hyn y dylech allu ei ddisgwyl pan na ellir diwallu eich anghenion mwyach yn ein cymunedau, a sut y bydd gwasanaethau iechyd a gofal yn gweithio gyda'i gilydd i'w gyflawni.

Mae ein huchelgais yn syml: erbyn 2034 rydym am ichi gadw'n iach, byw'n annibynnol, a chael cymorth cydgysylltiedig yn nes at y cartref, gyda gofal yn yr ysbyty yn canolbwyntio ar y rhai y mae angen asesiadau, triniaethau ac ymyriadau arbenigol arnynt.

Ond rydym yn cydnabod, pan fydd angen gofal argyfwng neu acíwt arnoch chi, eich teulu neu'ch ffrindiau, y byddwch llawn cymaint yn haeddu llwybrau cydgysylltiedig ac effeithiol sydd wedi'u cynllunio'n dda sy'n darparu proses asesu, diagnosio a thrin gyflym ac sydd ar yr un pryd yn cyfyngu'r amser oddi cartref i'r cyfnod lle bo angen clinigol.

Drwy wneud hynny, gallwn wella eich canlyniadau, lleihau anghydraddoldebau, rhoi gwell profiadau i chi, eich ffrindiau, eich teuluoedd a'ch cymuned a sicrhau bod ein gwasanaethau gofal argyfwng ac acíwt yn dal i fod yn gynaliadwy ac yn wydn at y dyfodol, a'u bod ar gael pan fydd eu hangen arnoch fwyaf.

Beth i'w ddisgwyl pan fydd angen ichi gael gofal argyfwng

Pan fydd argyfwng yn codi, dylech fod yn gallu ymddiried y bydd y cymorth cywir ar gael ar yr adeg gywir, boed hynny drwy ymateb ar unwaith neu drwy gael eich cludo i'r lleoliad cywir o fewn munudau neu oriau.

P'un a ydych yn cael anaf difrifol, yn datblygu symptomau cyflwr sy'n peryglu bywyd, neu'n wynebu argyfwng iechyd annisgwyl, dylech fod yn gallu disgwyl ymateb cyflym, asesiad arbenigol a thriniaeth amserol.

Ni ddylai fod yn rhaid ichi ymdopi â system gymhleth na gofidio at bwy i droi am gymorth.

Dylai gofal gael ei gydgysylltu yn ôl eich anghenion, ei ddarparu gan y gweithwyr proffesiynol cywir a'i gynllunio i sicrhau eich bod yn cael y driniaeth gywir mor gyflym â phosibl.

Yn y Fframwaith hwn, ein hymrwymiad yw:

  • Os bydd angen cymorth brys arnoch, cewch yr ymateb cyflymaf sy'n briodol i'ch angen
  • Os cewch ataliad y galon y tu allan i'r ysbyty, cewch y cyfle gorau posibl i oroesi ac adfer
  • Byddwch yn gallu cael mynediad at ofal argyfwng amserol yn eich cymuned, ble bynnag rydych chi'n byw yng Nghymru
  • Os oes gennych gyflwr sy'n peryglu bywyd neu lle mae amser yn dyngedfennol, byddwch yn cael mynediad cyflym i'r asesiad arbenigol, y driniaeth a'r gofal sydd eu hangen arnoch
  • Byddwch yn cael eich cyfeirio at y gwasanaeth cywir y tro cyntaf, gan leihau atgyfeiriadau, derbyniadau a throsglwyddo diangen
  • Byddwch yn cael gofal cydgysylltiedig rhwng gwasanaethau gofal argyfwng, acíwt a chritigol
  • Os gellir rheoli eich cyflwr drwy ofal argyfwng yr un diwrnod, byddwch yn cael eich asesu, eich trin a'ch cefnogi i ddychwelyd adref ar yr un diwrnod lle bynnag y bo modd
  • Os ydych chi'n byw gydag eiddilwch, anghenion cymhleth neu'n agosáu at ddiwedd oes, byddwch yn cael gofal cydgysylltiedig sy'n cefnogi eich annibyniaeth, eich llesiant a'ch adferiad lle bynnag y bo modd
  • Byddwch yn cael clust i wrando, yn cael eich cynnwys mewn penderfyniadau am eich gofal ac yn cael eich trin fel partner wrth gynllunio eich triniaeth a'ch cymorth
  • Os oes angen cymorth ychwanegol neu arbenigedd arnoch, byddwch yn gallu cael gafael arno mewn modd amserol, waeth ble rydych yn byw neu eich amgylchiadau

Beth i'w ddisgwyl os bydd angen ichi gael gofal acíwt yn yr ysbyty

Gwyddom fod y rhan fwyaf o bobl am dreulio cymaint o amser â phosibl yn eu cartrefi eu hunain, gyda'r bobl a'r pethau sy'n bwysig iddynt o'u hamgylch.

Mae gofal ysbyty yn chwarae rôl hollbwysig pan fydd angen asesiadau, triniaethau a chymorth arbenigol, ond ni ddylai neb dreulio mwy o amser yn yr ysbyty nag sy'n glinigol angenrheidiol.

Mae'r dystiolaeth yn dangos y gall cyfnodau hir yn yr ysbyty effeithio ar eich symudedd, eich annibyniaeth a'ch llesiant chi a'ch perthnasau, yn enwedig i bobl hŷn.

Dyna pam rydym am i bob diwrnod y mae unrhyw un yn ei dreulio yn yr ysbyty fod yn bwrpasol, canolbwyntio ar adfer a helpu pobl i ddychwelyd adref mor fuan ag y bydd yn ddiogel iddynt wneud hynny.

Mae'r Fframwaith hwn yn nodi ffordd wahanol o weithredu.

Yn hytrach na mesur llwyddiant yn ôl sut rydym yn rheoli eich cyfnod yn yr ysbyty, byddwn yn canolbwyntio ar asesiad cyflym, diagnosis amserol, triniaeth effeithiol ac adferiad buan.

Bydd ysbytai yn parhau i roi mynediad at ofal arbenigol a gofal uwch pan fydd ei angen, ond rydym am i'ch adferiad gartref ddod yn rhywbeth arferol lle bynnag y bo'n ddiogel ac yn briodol.

Mae ein huchelgais yn glir: dim ond cyhyd â bod angen clinigol y dylech dreulio amser oddi cartref.

Yn y rhan fwyaf o achosion, a lle bynnag y bo'n ddiogel gwneud hynny, rydym yn disgwyl ichi gael yr asesiad, y driniaeth a'r cymorth sydd eu hangen arnoch chi, eich teulu neu'ch ffrindiau a dychwelyd adref o fewn 72 awr.

Mae amser a dreulir gartref yn eich helpu i gadw annibyniaeth, symudedd a llesiant, ac yn sicrhau bod gofal ysbyty yn parhau i ganolbwyntio ar roi'r asesiadau a'r triniaethau arbenigol na ellir ond eu darparu yno.

Weithiau, bydd angen i chi gael eich derbyn i'r ysbyty.

Pan fydd hyn yn angenrheidiol, dylech hefyd ddisgwyl gofal sy'n gydgysylltiedig, yn effeithlon ac sy'n canolbwyntio ar eich helpu i adfer, dod yn annibynnol eto a dychwelyd adref mor fuan ag y bydd yn ddiogel i chi wneud hynny, gyda'r cymorth cywir ar waith.

Yn y Fframwaith hwn, ein hymrwymiad yw:

  • Byddwch yn cael budd o ofal cydgysylltiedig sy'n eich helpu i adfer yn gyflym ac osgoi amser diangen yn yr ysbyty
  • Byddwch chi, eich teulu a'ch gofalwyr yn cael clust i wrando ac yn cael eich cynnwys mewn penderfyniadau am eich gofal a'ch adferiad
  • Dim ond cyhyd â bod angen clinigol y byddwch yn treulio amser yn yr ysbyty, a chewch eich cefnogi i barhau â'ch adferiad gartref pan fo hynny'n ddiogel ac yn briodol
  • Byddwch yn cael gofal yn y lle cywir, mewn amgylcheddau sy'n diogelu eich preifatrwydd, eich urddas a'ch diogelwch
  • Byddwch yn cael eich cefnogi i gynnal eich cryfder, eich symudedd a'ch annibyniaeth drwy gydol eich cyfnod yn yr ysbyty
  • Byddwch yn cael profion, cyngor arbenigol a thriniaeth amserol, gan eich galluogi i ddychwelyd adref cyn gynted ag y bo'n briodol yn glinigol
  • Byddwch yn gallu dychwelyd adref cyn gynted ag y byddwch yn barod, saith diwrnod yr wythnos, gyda'r meddyginiaethau, y cyfarpar a'r cymorth sydd eu hangen arnoch i adfer yn ddiogel
  • Byddwch yn profi prosesau adfer ac adsefydlu cydgysylltiedig sy'n cefnogi eich annibyniaeth, eich llesiant a'ch ansawdd bywyd
  • Nid fyddwch yn wynebu oedi diangen ar y diwrnod y cewch eich rhyddhau o'r ysbyty
  • Ni fyddwch yn aros yn yr ysbyty dim ond am nad oes trefniadau wedi'u rhoi ar waith i'ch helpu i ddychwelyd adref

Sicrhau'r newid y dylech ddisgwyl ei weld

Mae'r Fframwaith hwn yn nodi sut y bydd gwasanaethau gofal argyfwng ac acíwt ledled Cymru yn gweithio gyda'i gilydd i sicrhau'r gwelliannau sydd bwysicaf i chi a'ch teulu.

Mae'n disgrifio un llwybr gofal cysylltiedig.

O'r eiliad y sylweddolwch fod angen cymorth argyfwng, asesiad trylwyr, triniaeth a gofal arbenigol arnoch chi, eich perthynas, eich ffrind neu rywun sy'n mynd heibio hyd yn oed, er mwyn gallu adfer a chael cymorth gartref, dylai gwasanaethau weithio gyda'i gilydd i roi profiad di-dor sy'n canolbwyntio ar eich anghenion.

Er mwyn gwneud i hyn ddigwydd, bydd disgwyl i fyrddau iechyd, ymddiriedolaethau'r GIG, awdurdodau lleol a sefydliadau partner ledled Cymru weithio gyda'i gilydd, cynllunio gyda'i gilydd a gwella gwasanaethau gyda'i gilydd, gan ganolbwyntio ar y canlyniadau a'r disgwyliadau a nodir yn y Fframwaith hwn.

Rydych yn haeddu gwybod pryd y bydd pethau'n gwella

Mae pobl wedi dweud wrthym eu bod am wybod nid yn unig yr hyn rydym yn bwriadu ei wneud, ond pryd y gallant ddisgwyl gweld gwelliannau a sut y caiff cynnydd ei fesur.

Dyna pam mae'r Fframwaith hwn yn cynnwys cyfres o gerrig milltir blynyddol hyd at 2030.

Mae'r cerrig milltir hyn yn nodi'r gwelliannau cynyddol rydym yn disgwyl eu gweld bob blwyddyn, gan ddechrau yn 2027, ac yn rhoi'r sail y bydd yr hyn a gyflawnwyd a chynnydd yn cael eu mesur yn ei herbyn o ran ymateb argyfwng, mynediad at ofal, y llif drwy'r ysbyty, adfer a dychwelyd adref mewn modd amserol.

Bwriedir iddynt roi map ffordd clir ar gyfer newid a ffordd dryloyw i'r cyhoedd farnu a yw cynnydd yn cael ei wneud.

Nid yw amser yn aros yn yr unfan ac yn 2030, byddwn yn adolygu'r hyn a gyflawnwyd yn erbyn cerrig milltir a chanlyniadau'r Fframwaith, gan ystyried cynnydd a nodi unrhyw gamau gweithredu pellach sydd eu hangen i gyflawni ein huchelgais ar gyfer 2034.

Helpu gwasanaethau lleol i gyflawni'r nod

Rydym yn cydnabod y bydd angen cymorth yn ogystal ag atebolrwydd er mwyn sicrhau'r gwelliannau hyn.

Bydd timau gwella cenedlaethol y GIG yn gweithio ochr yn ochr â byrddau iechyd, ymddiriedolaethau'r GIG a phartneriaid er mwyn helpu i ledaenu ymarfer effeithiol, gwella gwasanaethau cymorth, cryfhau arweinyddiaeth a rhannu gwersi a ddysgwyd ledled Cymru.

Pan fo cynnydd yn arafach na'r disgwyl, bydd cymorth ychwanegol yn cael ei roi er mwyn helpu sefydliadau lleol i ddeall yr heriau y maent yn eu hwynebu a chyflymu gwelliant.

Ni fydd y cymorth hwn fyth yn disodli cyfrifoldeb lleol am ddarparu cymorth, ond bydd yn helpu i sicrhau bod dulliau gweithredu llwyddiannus yn cael eu nodi a'u mabwysiadu'n fwy cyson ledled Cymru.

Byddwn yn cyhoeddi cynnydd yn agored

Dylech allu gweld a yw gwasanaethau yn gwella.

Felly byddwn yn monitro cynnydd yn erbyn y canlyniadau a'r cerrig milltir a nodir yn y Fframwaith hwn ac yn cyhoeddi gwybodaeth reolaidd yn dangos sut mae gwasanaethau gofal argyfwng ac acíwt yn perfformio.

Dros amser, bydd hyn yn rhoi darlun mwy clir a thryloyw o'r gofal y mae pobl yn ei brofi ledled Cymru, gan gynnwys gwybodaeth am brofiad, llif cleifion, oedi, adfer a rhyddhau o'r ysbyty.

Yn bwysig ddigon, byddwn hefyd yn cryfhau ein dealltwriaeth o faterion sy'n bwysig i gleifion a theuluoedd, gan gynnwys profiad o ofal mewn coridor, achosion o oedi y gellid eu hosgoi ac anawsterau wrth adael yr ysbyty pan fydd claf yn barod yn glinigol.

Nid dim ond i fesur perfformiad y caiff yr wybodaeth hon ei defnyddio.

Caiff ei defnyddio i nodi lle mae angen gwelliannau, rhannu gwersi a ddysgwyd rhwng sefydliadau a sicrhau bod camau gweithredu yn cael eu cymryd yn gyflym pan na fydd pobl yn cael gofal o'r safon y dylent ei disgwyl.

Bob blwyddyn, byddwn yn cyhoeddi adroddiad ar yr hyn sydd wedi gwella, pa gamau gweithredu pellach sydd eu hangen, ac a ydym ar y trywydd cywir i gyflawni ein huchelgeisiau ar gyfer 2034.

Ymrwymiad i bobl yng Nghymru

Mae'r Fframwaith hwn, yn ei hanfod, yn ymrwymiad i chi.

Mae'n ymrwymiad, pan fydd angen gofal argyfwng neu acíwt arnoch, y dylech gael y gofal cywir, yn y lle cywir, ar yr adeg gywir.

Dylid gwrando arnoch, dylid eich trin gydag urddas a thosturi, dylid eich cynnwys mewn penderfyniadau am eich gofal a'ch helpu i sicrhau'r canlyniad gorau posibl.

Dim ond cyhyd â bod angen clinigol y dylech dreulio amser yn yr ysbyty a dylech gael cymorth i ddychwelyd adref mor fuan ag y bo'n ddiogel ichi wneud hynny.

Drwy weithio fel un system iechyd a gofal, sy'n canolbwyntio'n ddi-baid ar yr hyn sy'n bwysig i bobl, a bod yn dryloyw ynglŷn â'n cynnydd, gallwn greu gwasanaethau gofal argyfwng ac acíwt sy'n gyflymach ac yn fwy diogel, cydgysylltiedig a chynaliadwy i genedlaethau'r dyfodol.

Yn bwysicaf oll, gallwn roi i bobl Cymru yr hyn y dylent ei ddisgwyl gan system iechyd a gofal fodern: mynediad amserol at ofal arbenigol pan fo'i angen, cymorth i adfer eu hannibyniaeth, a mwy o amser yn byw'n dda gartref.

Mabon ap Gwynfor AS
Y Gweinidog Cabinet dros Iechyd a Gofal