Mae cyflogwyr, sefydliadau addysg, undebau llafur, dysgwyr a darparwyr hyfforddiant yn ymgynnull heddiw mewn Uwchgynhadledd Sgiliau'r Dyfodol yn Abertawe.
- Mae cyflogwyr, sefydliadau addysg, undebau llafur, dysgwyr a darparwyr hyfforddiant yn ymgynnull heddiw mewn Uwchgynhadledd Sgiliau'r Dyfodol yn Abertawe.
- Mae'r rhai sy'n bresennol yn cymryd rhan mewn cyflwyniadau a gweithdai sy'n edrych ar yr heriau mwyaf sy'n wynebu'r system sgiliau yng Nghymru.
- Bydd y safbwyntiau sy'n dod i'r amlwg yn y trafodaethau heddiw yn helpu i lunio strategaeth sgiliau genedlaethol newydd.
Mae cyflogwyr, sefydliadau addysg bellach ac uwch, undebau llafur, dysgwyr a darparwyr hyfforddiant ledled Cymru yn ymgynnull heddiw ar gyfer Uwchgynhadledd Sgiliau'r Dyfodol.
Cynhelir yr Uwchgynhadledd yn Stadiwm Swansea.com, ac mae'n dod ag ystod eang o leisiau o bob rhan o sector sgiliau Cymru ynghyd. Mae hyn yn cynnwys cynrychiolwyr o sefydliadau y sectorau adeiladu, awyrofod, iechyd, digidol a gweithgynhyrchu gan gynnwys Airbus, VodafoneThree a Microsoft.
Trwy gyflwyniadau a gweithdai, mae'r rhai sy'n bresennol yn edrych ar yr heriau mwyaf sy'n wynebu'r system sgiliau yng Nghymru. Mae trafodaethau hefyd yn canolbwyntio ar y camau nesaf, gan ystyried pa gamau y gellir eu cymryd i greu system sgiliau sy'n addas ar gyfer y dyfodol.
Mae'r Uwchgynhadledd hon, y gyntaf o'i math, yn adlewyrchu ymrwymiad Llywodraeth Cymru i wella'r ddarpariaeth sgiliau i sbarduno economi Cymru ac yn ategu archwiliad sgiliau sy'n mapio anghenion y gweithlu presennol a gweithlu'r dyfodol ledled Cymru. Mae canfyddiadau cynnar yr archwiliad hwnnw yn cael eu hystyried yn y trafodaethau sy'n digwydd heddiw a fydd yn eu tro yn helpu i lunio strategaeth genedlaethol newydd ar gyfer galwedigaethau a sgiliau.
Dywedodd y Dirprwy Weinidog dros Sgiliau ac Addysg Drydyddol, Cefin Campbell:
"Mae'r Uwchgynhadledd hon yn dod â'r bobl sy'n adnabod ein system sgiliau orau ynghyd a bydd eu safbwynt a'u profiad yn amhrisiadwy. Hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi rhoi o'u hamser heddiw, yn gyflogwyr, dysgwyr, colegau, prifysgolion a darparwyr hyfforddiant o bob rhan o Gymru.
"Mae heddiw yn fwy na dim ond siarad, mae'n ymwneud â throi gweledigaeth yn realiti. Gyda'n gilydd, rydyn ni'n llunio system sgiliau sy'n ymateb i anghenion ein heconomi a'n cymunedau, ac sy'n rhoi cyfle i bob dysgwr lwyddo, beth bynnag yw'r llwybr y mae'n ei ddewis.
"Dyma gychwyn sgwrs barhaus, ac rydym wedi ymrwymo i barhau â'r ddeialog wrth i ni fwrw ymlaen â'r gwaith hwn."
Dywedodd y Gweinidog Cabinet dros Fenter, Cysylltedd ac Ynni, Adam Price:
"Os ydyn ni am adeiladu economi gryfach yng Nghymru, bydd angen gweithlu sydd â'r sgiliau i gyd-fynd â'r cyfleoedd fydd yn codi yn y dyfodol. Mae hyn yn flaenoriaeth i ni, a dyna pam rydyn ni'n gweithredu nawr.
"P'un a yw yn y sector gweithgynhyrchu uwch, technoleg ddigidol, adeiladu neu ddiwydiannau gwyrdd, buddsoddi mewn sgiliau yw un o'r pethau pwysicaf y gallwn ei wneud i gefnogi swyddi da, denu buddsoddiad a chreu cyfleoedd ym mhob rhan o Gymru."
