Rydym eisiau eich barn ar y Fframwaith Cenedlaethol diwygiedig drafft ar gyfer Comisiynu Gofal a Chymorth: Cod Ymarfer.
Disgrifiad o'r ymgynghoriad
Mae'r ymgynghoriad hwn yn gofyn am eich barn ar y fersiwn ddiwygiedig ddrafft o'r Fframwaith Cenedlaethol ar gyfer Comisiynu Gofal a Chymorth: Cod Ymarfer (y cod diwygiedig).
Mae Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (Deddf 2014) yn rhoi'r pŵer i Weinidogion Cymru o dan adran 145 i ddyroddi a diwygio codau ymarfer.
Mae'r pwerau hyn yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol weithredu yn unol â'r gofynion a nodir mewn cod ymarfer wrth arfer eu swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol.
Rhaid i awdurdodau lleol hefyd roi sylw i unrhyw ganllawiau sydd wedi'u cynnwys yn y cod ymarfer.
Mae adran 169 o Ddeddf 2014 ac adran 2 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 (Deddf 2006) yn rhoi'r pŵer i Weinidogion Cymru ddyroddi canllawiau i fyrddau iechyd lleol ac ymddiriedolaethau'r GIG.
Bydd byrddau iechyd lleol ac ymddiriedolaethau'r GIG yn cael cyfarwyddyd i arfer eu swyddogaethau perthnasol yn unol â'r gofynion a gynhwysir yn y cod ymarfer.
Dogfennau ymgynghori
Y fframwaith cenedlaethol ar gyfer comisiynu gofal a chymorth: diwygiadau arfaethedig , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 679 KB
Ffurflen hunanasesiad blynyddol a chynllun gwella: drafft ymgynghori , math o ffeil: DOCX, maint ffeil: 34 KB
Dogfen ymgynghori Hawdd ei Deall , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 1 MB
Ffurflen ymateb Hawdd ei Deall , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 2 MB
Geiriau a thermau defnyddiol Hawdd eu Deall , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 667 KB
Y Fframwaith Cenedlaethol ar gyfer Comisiynu Gofal a Chymorth Cod Ymarfer: asesiad o'r effaith ar gydraddoldeb , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 325 KB
Y Fframwaith Cenedlaethol ar gyfer Comisiynu Gofal a Chymorth Cod Ymarfer: asesiad o'r effaith ar hawliau plant , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 234 KB
Y Fframwaith Cenedlaethol ar gyfer Comisiynu Gofal a Chymorth Cod Ymarfer: asesiad o'r effaith ar iechyd , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 151 KB
Gwybodaeth ychwanegol
Mae'r ddogfen hon hefyd ar gael yn Saesneg, fel fersiwn Hawdd Ei Ddeall, ac mewn Iaith Arwyddion Prydain.
Help a chymorth
Gellir gwneud cais am fersiynau o’r ddogfen hon mewn print bras, mewn Braille neu mewn ieithoedd eraill.
Sut i ymateb
Cyflwynwch eich sylwadau erbyn 1 Chwefror 2027, ar un o`r ffurfiau a ganlyn:
Ffurflen ar-lein
E-bost
Lawrlwythwch y ffurflen ymateb.
Llenwch a dychwelwch i: ComisiynuCenedlaethol@llyw.cymru
Os hoffech ymateb mewn fformat gwahanol, fel fideo Iaith Arwyddion Prydain (BSL), sain, Hawdd ei Ddeall neu dros y ffôn, anfonwch e-bost at ComisiynuCenedlaethol@llyw.cymru i drafod eich gofynion.
Post
Lawrlwythwch y ffurflen ymateb.
Os ydych yn bwriadu ymateb ar ffurf ysgrifenedig, anfonwch y ffurflenni wedi'u cwblhau at:
Swyddfa Genedlaethol Gofal a Chymorth
Yr Adran Gwasanaethau Cymdeithasol ac Integreiddio
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ
