Gwerthusiad o'r cynllun Prydau ysgol am ddim i holl blant ysgolion cynradd: ail adroddiad interim (crynodeb)
Canfyddiadau'r arolwg i rieni a gofalwyr.
Ar y dudalen hon
Cyflwyniad
Mae'r adroddiad hwn yn cyflwyno canfyddiadau o arolwg o rieni a gofalwyr a gynhaliwyd rhwng mis Hydref a mis Rhagfyr 2025, fel rhan o werthusiad ICF Consultancy Ltd (ICF) o'r polisi prydau ysgol am ddim i holl blant ysgolion cynradd (UPFSM) a gomisiynwyd gan lywodraeth flaenorol Cymru. Mae'n adeiladu ar yr adroddiad interim cyntaf drwy roi cipolwg ar brofiadau ymatebwyr o'r polisi, canfyddiadau o'i effeithiau, ffactorau sy'n dylanwadu ar nifer y dysgwyr sy’n manteisio ar y cynnig, a'r graddau y mae buddion disgwyliedig yn dod i'r amlwg.
Cafodd y polisi ei gyflwyno'n llawn ledled Cymru rhwng mis Medi 2022 a mis Medi 2024, gan ymestyn yr hawl i bryd ysgol am ddim i bob dysgwr oedran cynradd sy'n mynychu ysgol a gynhelir. Mae UPFSM yn sicrhau bod gan bob plentyn oedran cynradd sy'n mynychu ysgol a gynhelir gan awdurdod lleol yng Nghymru fynediad at bryd ysgol am ddim. Daeth y polisi i'r amlwg mewn ymateb i bryderon cynyddol ynghylch ansicrwydd bwyd a chostau byw cynyddol, y gwaethygwyd y ddau gan bandemig y coronafeirws (COVID-19).
Methodoleg
Roedd arolwg ar-lein ICF ar gyfer rieni a gofalwyr ar gael i’w gwblhau rhwng mis Hydref a mis Rhagfyr 2025. Cafwyd 1,517 o ymatebion wedi'u cwblhau gan rieni a gofalwyr dysgwyr oedran ysgol gynradd ledled Cymru. Gwahoddwyd ysgolion i ddosbarthu dolen yr arolwg drwy eu sianeli cyfathrebu arferol i rieni a gofalwyr. Roedd cyfranogiad yn wirfoddol. Cafodd yr holiadur ei lywio gan ddamcaniaeth newid y gwerthusiad ac archwiliodd ymwybyddiaeth o'r polisi, nifer y dysgwyr sy'n manteisio ar y cynnig am brydau ysgol am ddim, canfyddiadau rhieni a gofalwyr o effeithiau'r polisi ar iechyd a llesiant plant, profiadau o fywyd ysgol, ac effeithiau ar gyllid teuluoedd ac amgylchiadau'r cartref. Dadansoddwyd ymatebion meintiol gan ddefnyddio technegau ystadegol disgrifiadol a chymharol, tra oedd ymatebion testun agored yn cael eu dadansoddi'n thematig i nodi profiadau a safbwyntiau sy’n ymddangos dro ar ôl tro. Roedd sampl yr arolwg a gafwyd yn sampl wedi'i hunanddewis yn hytrach na bod yn gynrychioliadol o boblogaeth rhieni a gofalwyr yng Nghymru. Felly, dylid dehongli canfyddiadau fel rhai sy'n adlewyrchu barn a phrofiadau ymatebwyr yn hytrach na barn pob rhiant a gofalwr yng Nghymru.
Prif ganfyddiadau
Ar y cyfan, roedd ymwybyddiaeth o'r polisi, a chefnogaeth ohono, yn eithriadol o uchel ymhlith ymatebwyr yr arolwg. Roedd bron pob ymatebydd (98%) yn ymwybodol o UPFSM a mynegodd llawer gefnogaeth gref i egwyddor darpariaeth gyffredinol. Roedd rhieni a gofalwyr a ymatebodd i'r arolwg yn gyffredinol o'r farn bod y polisi'n deg, gan dynnu sylw at ei rôl wrth sicrhau mynediad cyfartal at brydau bwyd, lleihau'r stigma sy'n gysylltiedig â phrydau ysgol am ddim sy'n seiliedig ar incwm ac sy’n destun prawf modd, a darparu cymorth ariannol i deuluoedd. Er bod rhai ymatebwyr wedi codi pryderon ynghylch gwerth am arian y polisi neu wedi dadlau y dylid targedu'r polisi'n agosach at deuluoedd a ystyrir fel y rhai sydd â'r angen mwyaf, roedd y safbwyntiau hyn yn cynrychioli lleiafrif o'r ymatebion.
Nifer y dysgwyr sy’n manteisio ar y cynnig am brydau ysgol am ddim
Ymhlith yr ymatebwyr i'r arolwg, mae nifer y dysgwyr sy’n manteisio ar y cynnig am brydau ysgol am ddim yn uchel. Dywedodd bron pob ymatebydd (92%) fod ei blentyn yn bwyta o leiaf un pryd ysgol bob wythnos, tra oedd 58% o ymatebwyr yn dweud bod eu plentyn yn bwyta pryd ysgol bob dydd.
Ymhlith yr ymatebwyr yr oedd eu plentyn eisoes yn yr ysgol pan gyflwynwyd y polisi, dywedodd ychydig o dan hanner ohonynt fod eu plentyn bellach yn bwyta mwy o brydau ysgol bob wythnos nag cyn cyflwyno UPFSM. Fodd bynnag, nid oedd patrymau o ran nifer y dysgwyr sy’n manteisio ar y cynnig am brydau ysgol am ddim yn unffurf. Roedd y nifer a fanteisiodd ar y cynnig am brydau ysgol am ddim yn is, ac mewn rhai achosion yn gostwng, ymhlith aelwydydd incwm is, y mae eu hymatebwyr yn adrodd eu bod yn llai tebygol o fod wedi manteisio ar y cynnig am brydau ysgol am ddim yn dilyn cyflwyno'r polisi. Ar yr un pryd, roedd nifer y dysgwyr sy’n manteisio ar y cynnig am brydau ysgol am ddim ymhlith dysgwyr iau o aelwydydd incwm is yn uwch na'r hyn a gofnodwyd ar gyfer dysgwyr hŷn o'r un grwpiau incwm. Un esboniad posibl yw bod plant sydd wedi profi darpariaeth gyffredinol o ddechrau'r ysgol gynradd yn ystyried prydau ysgol fel rhan arferol o'r diwrnod ysgol, a allai arwain at gyfraddau uwch o ran manteisio ar y cynnig wrth iddynt dyfu’n hŷn. Fodd bynnag, gan mai dim ond ciplun mewn amser y mae'r data yn ei ddarparu, nid yw'n bosibl pennu a yw hyn yn adlewyrchu newid parhaol mewn patrymau cyfranogiad neu wahaniaethau sy'n gysylltiedig ag oedran o ran dewis prydau ysgol.
Cost a chyfleustra oedd y rhesymau a ddewiswyd amlaf dros ddewis prydau ysgol ymhlith ymatebwyr yr arolwg. Roedd rhieni a gofalwyr yn nodi amlaf eu bod yn dewis prydau ysgol oherwydd eu bod am ddim ac oherwydd eu bod yn fwy cyfleus na pharatoi pecynnau cinio. I’r gwrthwyneb, y rhwystrau a nodwyd amlaf oedd dewis cyfyngedig ar y fwydlen, y ffaith bod yn gas gan y plant y bwyd, a’r ffaith bod well ganddynt becynnau cinio. Cododd ymatebwyr bryderon hefyd ynghylch meintiau dognau, ansawdd y bwyd, ac addasrwydd prydau bwyd i blant ag alergeddau, cyfyngiadau deietegol neu anghenion synhwyraidd. Mae'r canfyddiadau hyn yn awgrymu, er bod gwneud prydau ysgol am ddim yn ffactor pwysig sy'n sbarduno plant i’w dewis, bod ymatebwyr hefyd wedi nodi apêl, amrywiaeth ac addasrwydd y cynnig prydau ysgol fel ystyriaethau pwysig wrth benderfynu a ydynt am gael pryd ysgol.
Iechyd a llesiant
Roedd yr ymatebwyr yn ystyried yn bennaf fod UPFSM yn cael effaith gadarnhaol ar iechyd a llesiant plant. Roedd y rhan fwyaf yn ystyried bod prydau ysgol yn iach ac yn faethlon, tra oedd bron i ddwy ran o dair yn teimlo bod y polisi wedi gwella iechyd a llesiant eu plentyn. Roedd y buddion yr adroddwyd amdanynt yn cynnwys gwelliannau canfyddedig o ran mynediad at bryd o fwyd poeth a chytbwys yn ystod y diwrnod ysgol, mwy o barodrwydd ymhlith plant i roi cynnig ar fwydydd newydd, a gwelliannau canfyddedig yn lefelau egni’r plant, eu gallu i ganolbwyntio, a’u parodrwydd i ddysgu yn y prynhawn. Tynnodd yr ymatebwyr sylw hefyd at fuddion cymdeithasol ac emosiynol ehangach, gan gynnwys mwy o gynhwysiant yn ystod amser cinio a llai o stigma yn gysylltiedig â chael prydau ysgol am ddim. Adroddwyd am effeithiau cadarnhaol ar draws pob grŵp incwm, er bod ymatebwyr o rai grwpiau, yn enwedig aelwydydd incwm is a chanolig, yn fwy tebygol na'r rhai o aelwydydd incwm uwch o roi gwybod am effeithiau cadarnhaol.
Bywyd ysgol
Mae'r arolwg yn awgrymu bod llawer o rieni a gofalwyr yn canfod bod UPFSM yn cael effaith gadarnhaol ar brofiadau eu plentyn o'r ysgol, er bod yr effeithiau canfyddedig ar amgylchedd ehangach yr ysgol yn fwy cyfyngedig. Dywedodd llawer o ymatebwyr fod eu plentyn yn mwynhau amser cinio yn fwy ers cyflwyno'r polisi, ac adroddodd rhieni a gofalwyr hefyd am welliannau canfyddedig ym mwynhad eu plentyn o'r ysgol, eu lefelau egni ar gyfer gweithgareddau’r prynhawn, a’u gallu i ganolbwyntio yn ystod gwersi. Roedd ymatebwyr yr oedd eu plentyn yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim sy'n seiliedig ar incwm ac sy’n destun prawf modd (dysgwyr sy’n gymwys am brydau ysgol am ddim), a'r rhai o aelwydydd incwm is, yn aml yn fwy tebygol o adrodd am y deilliannau cadarnhaol canfyddedig hyn. Un dehongliad posibl yw bod ymatebwyr o'r grwpiau hyn yn fwy tebygol o sylwi ar fuddion am fod y polisi'n cynrychioli newid ystyrlon i fynediad eu plentyn at fwyd yn ystod y diwrnod ysgol.
Roedd canfyddiadau o'r amgylchedd bwyta, ciwiau cinio, lefelau staffio a sŵn yn niwtral ar y cyfan. Dywedodd y rhan fwyaf o’r ymatebwyr naill ai nad oedd eu plentyn wedi sôn am unrhyw newidiadau ers cyflwyno UPFSM neu wnaethant ddewis “ddim yn gwybod”. Pan adroddodd ymatebwyr fod eu plentyn wedi sôn am newid, adroddwyd am newidiadau cadarnhaol a negyddol mewn cyfrannau cymharol debyg. Roedd ymatebwyr y mae gan eu plentyn anghenion dysgu ychwanegol (ADY) ychydig yn llai tebygol na'r rhai nad oes gan eu plentyn ADY o adrodd bod eu plentyn wedi sôn am newidiadau cadarnhaol i'r profiad amser cinio.
Teuluoedd
Mae ymatebion i’r arolwg yn awgrymu'n gryf fod ymatebwyr wedi canfod buddion ariannol o ganlyniad i UPFSM. Adroddodd y rhan fwyaf o’r ymatebwyr am arbedion cost sy’n gysylltiedig â’r polisi, naill ai o beidio â thalu am brydau ysgol mwyach, paratoi llai o becynnau cinio, neu gyfuniad o’r ddau. Roedd ymatebwyr hefyd yn aml yn nodi llai o bryder o ran arian ac arbedion amser o ganlyniad i beidio â gorfod paratoi pecynnau cinio mwyach. Adroddwyd am y buddion canfyddedig hyn ar draws pob grŵp demograffig, er eu bod yn aml yn cael eu hadrodd amdanynt yn amlach gan aelwydydd incwm is a chanolig.
Y tu hwnt i effeithiau ariannol uniongyrchol, adroddodd yr ymatebwyr hefyd am ystod o fuddion ehangach ar lefel y teulu. Dywedodd llawer eu bod yn llai pryderus ynghylch a oedd eu plentyn yn cael digon o fwyd yn ystod y diwrnod ysgol, tra oedd eraill yn nodi bod eu plentyn yn rhoi cynnig ar amrywiaeth ehangach o fwydydd. Fodd bynnag, prin oedd y dystiolaeth o ymatebion i'r arolwg fod y newidiadau hyn yn gysylltiedig â newidiadau mewn arferion coginio yn y cartref neu ymddygiadau teuluoedd o ran bwyd, gan awgrymu bod ymatebwyr yn fwy tebygol o nodi buddion yn ymwneud â phrofiadau eu plentyn yn ystod y diwrnod ysgol na newidiadau o fewn amgylchedd y cartref.
Myfyrdodau
Mae canfyddiadau'r arolwg yn awgrymu bod UPFSM yn dod yn rhan sefydledig a gwerthfawr o fywyd ysgol yng Nghymru, ac mae tystiolaeth yn nodi buddion cadarnhaol i ddysgwyr a theuluoedd. Fodd bynnag, mae'r canfyddiadau hefyd yn awgrymu bod effaith y polisi yn dibynnu nid yn unig ar fynediad cyffredinol i'r cynnig, ond hefyd ar a yw dysgwyr yn manteisio ar y cynnig. Nododd yr ymatebwyr ystod o ffactorau sy'n gysylltiedig â nifer y dysgwyr sy’n manteisio ar y cynnig am brydau ysgol am ddim, gan gynnwys dewis ar y fwydlen, blas, ansawdd bwyd, maint dognau, a'r graddau y mae prydau bwyd yn diwallu anghenion unigol. Mae'r canfyddiadau hyn yn tynnu sylw at bwysigrwydd cynnal cynnig prydau ysgol deniadol a hygyrch.
Er bod effeithiau cadarnhaol wedi'u hadrodd amdanynt ar draws pob grŵp, adroddwyd bod y nifer sy’n manteisio ar y cynnig am brydau ysgol am ddim yn is, ac mewn rhai achosion yn gostwng, ymhlith aelwydydd incwm is. Mae hyn yn nodedig o ystyried bod ymatebwyr o'r aelwydydd hyn yn aml yn nodi rhai o'r buddion ariannol a llesiant canfyddedig cryfaf sy'n gysylltiedig â'r polisi. Gallai hyn awgrymu y gallai cynyddu cyfranogiad ymhlith grwpiau y mae nifer is yn manteisio ar y cynnig helpu mwy o deuluoedd i brofi'r buddion canfyddedig a nodwyd yn yr arolwg.
Gall bod y nifer uwch a gofnodwyd ymhlith dysgwyr iau o gartrefi incwm is, o'i gymharu â dysgwyr hŷn o'r un grwpiau incwm, ddangos camau cynnar o ran newid mewn perthynas â phatrymau cyfranogiad. Un dehongliad posibl yw y gallai'r nifer sy'n manteisio ar y cynnig gynyddu dros amser wrth i garfanau sydd wedi profi UPFSM am gyfnod hirach symud ymlaen trwy'r ysgol gynradd. Fodd bynnag, dim ond ciplun mewn amser y mae'r arolwg yn ei roi ac nid yw'n bosibl pennu a yw hyn yn adlewyrchu effaith y garfan, gwahaniaethau sy'n gysylltiedig ag oedran o ran dewis prydau ysgol, neu ffactorau eraill. Bydd deall a yw'r patrymau hyn yn parhau yn gofyn am fonitro tymor hwy wrth i garfanau symud drwy'r system addysg.
Casglwyd y canfyddiadau hyn cyn cyflwyno'r Rheoliadau Bwyta'n Iach diwygiedig ac felly maent yn rhoi cipolwg ar brofiadau a chanfyddiadau'r ymatebwyr yn ystod camau cymharol gynnar gweithredu’r polisi.
Camau nesaf
Bydd cam olaf y gwerthusiad yn adeiladu ar ganfyddiadau'r adroddiad hwn a'r adroddiad interim cyntaf i fynd i'r afael â bylchau mewn tystiolaeth sy'n weddill ac i asesu effeithiau tymor hwy polisi UPFSM. Fel rhan o flwyddyn olaf y gwerthusiad, bydd ymchwil bellach yn archwilio pam mae'r nifer sy'n manteisio ar y cynnig yn parhau i fod yn is ymhlith rhai aelwydydd incwm is er gwaethaf y cynnig cyffredinol ac yn nodi'r ffactorau sy'n dylanwadu ar gyfranogiad parhaus dros amser. Rhoddir sylw arbennig hefyd i brofiadau dysgwyr ag ADY, gan gynnwys sut y gall agweddau ar yr amgylchedd amser cinio effeithio ar niferoedd y rhai sy’n manteisio ar y cynnig am brydau ysgol am ddim a mynediad atynt. Bydd ymchwil bellach hefyd yn archwilio a yw'r polisi wedi arwain at newidiadau i arferion caffael bwyd lleol, a sut mae'r newidiadau hyn wedi esblygu dros amser.
Manylion cyswllt
Awduron: Haysey, Nicola; Smiles, Beth; Cooper, Priya; Kettle, Ellie; Diaz, Dr Alice; Harding, Ryan; Charalambous, Steph
Mae’r safbwyntiau a fynegir yn yr adroddiad hwn yn rhai’r ymchwilydd ac nid ydynt o reidrwydd yn rhai Llywodraeth Cymru.
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â:
Cangen Ymchwil Ysgolion
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ
E-bost: ymchwilysgolion@llyw.cymru
Rhif ymchwil cymdeithasol: 91/2026
ISBN Digidol: 978-1-80853-340-2

