Neidio i'r prif gynnwys

Mae’r hysbysiad preifatrwydd hwn yn dweud wrthych beth i’w ddisgwyl pan fyddwch yn cysylltu â Llywodraeth Cymru ac yn rhoi’ch gwybodaeth bersonol i ni.

Cyhoeddwyd gyntaf:
30 Ionawr 2026
Diweddarwyd ddiwethaf:

Beth mae’r arolwg yn ei olygu?

Mae Llywodraeth Cymru yn cynnal arolwg i gasglu eich barn ynglŷn â sut y mae gwasanaethau micro-ofal yn cael eu defnyddio i ddarparu gwasanaethau gofal a chymorth trwy gomisiynu neu drwy daliadau uniongyrchol.

Mae hwn yn ddiweddariad i'r arolwg y gallech fod wedi'i gwblhau ym mis Tachwedd 2022.

Beth yw micro-ofal?

Gellir diffinio micro-ofal fel unigolion neu fusnesau bach sy'n darparu gwasanaethau gofal, cymorth neu lesiant.

Gall hyn gynnwys:

  • gofal personol
  • seibiant
  • tasgau domestig
  • cwmnïaeth

Gellir talu am wasanaethau micro-ofal ar gyfer anghenion gofal asesedig unigolyn drwy daliad uniongyrchol, drwy arian pobl eu hunain neu gallant gael eu comisiynu gan awdurdod lleol.

Sut bydd yr wybodaeth yn cael ei defnyddio?

Bydd yr arolwg yn llywio datblygu polisïau, gwneud penderfyniadau ac yn ysgogi gwelliant ac arferion da mewn perthynas â gwasanaethau micro-ofal yng Nghymru.

Ein nod yw deall sut rydych chi'n ymgysylltu â gwasanaethau micro-ofal a'r heriau a'r cyfleoedd rydych chi'n dymuno eu nodi. Bydd yn darparu gwybodaeth am uchelgeisiau polisi a rhwystrau ar draws awdurdodau lleol Cymru.

Bydd yr wybodaeth a gesglir yn siapio cam nesaf y prosiect ymchwil.

Unwaith y bydd yr holl ymatebion wedi'u dadansoddi, byddwn yn rhannu canfyddiadau'r arolwg gyda chi.

Pa ddata personol sy’n cael eu cadw gennym ac o ble yr ydym yn cael yr wybodaeth honno?

Diffinnir data personol o dan Reoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data (GDPR y DU) fel unrhyw wybodaeth sy’n ymwneud â pherson y gellir ei ddefnyddio i’w adnabod, yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol, drwy gyfeirio at ffactor adnabod.

Gofynnir i chi yn yr arolwg ddarparu data personol sy’n ymwneud â’r canlynol:

  • eich enw
  • eich cyfeiriad e-bost yn y gwaith
  • eich awdurdod lleol

Ni fyddwn yn casglu unrhyw ddata personol categori arbennig (er enghraifft gwybodaeth sy’n ymwneud ag iechyd, ethnigrwydd, credoau crefyddol, neu aelodaeth o undebau llafur) fel y’u diffinnir o dan Erthygl 9 GDPR y DU.

Sut bydd eich gwybodaeth yn cael ei phrosesu?

Ar ôl cael yr wybodaeth, Llywodraeth Cymru fydd y rheolydd data ar ei chyfer.

Mae gwybodaeth bersonol a ddarperir i Lywodraeth Cymru yn cael ei phrosesu’n ddiogel ac yn unol â gofynion GDPR y DU.

Llywodraeth Cymru yw’r rheolydd data ar gyfer yr arolwg hwn. Ar ran Llywodraeth Cymru, defnyddir SmartSurvey fel prosesydd data sy’n cydymffurfio â gofynion GDPR y DU, ardystiad ISO 27001 ac achrediad Cyber Essentials Plus.

Caiff data SmartSurvey ei letya ar weinyddion yn y DU neu yn yr Ardal Economaidd Ewropeaidd.

Ni fydd unrhyw ddata personol a gesglir drwy’r arolwg hwn yn cael eu trosglwyddo y tu allan i’r DU.

Beth yw’r sail gyfreithiol dros ddefnyddio’ch data?

Y sail gyfreithiol ar gyfer prosesu gwybodaeth yn yr ymarfer casglu data hwn yw ein tasg gyhoeddus. Hynny yw, arfer ein hawdurdod swyddogol i ymgymryd â rôl a swyddogaethau craidd Llywodraeth Cymru.

Er bod Llywodraeth Cymru yn dibynnu ar ei thasg gyhoeddus fel y sail gyfreithiol ar gyfer prosesu, mae cymryd rhan yn yr arolwg hwn yn gwbl wirfoddol.

Gallwch ddewis peidio ag ateb cwestiynau unigol neu dynnu'n ôl o'r arolwg ar unrhyw adeg cyn cyflwyno'ch ymateb.

Unwaith y bydd ymatebion yr arolwg wedi'u gwneud yn ddienw, efallai na fydd yn bosibl adnabod na dileu cyfraniadau unigol.

Mae astudiaethau ymchwil fel hyn yn bwysig i Lywodraeth Cymru er mwyn casglu gwybodaeth a thystiolaeth y gellir gweithredu arnynt ynghylch ei gallu i gyflawni blaenoriaethau'r llywodraeth.

Gall yr wybodaeth a gesglir yn yr ymchwil hon gael ei defnyddio i:

  • deall arferion a thueddiadau cyfredol drwy nodi sut mae gwasanaethau micro-ofal yn cael eu defnyddio i ddarparu gwasanaethau gofal a chymorth drwy gomisiynu neu drwy daliadau uniongyrchol
  • llywio polisïau a chanllawiau yn y dyfodol drwy ddefnyddio tystiolaeth i lunio modelau comisiynu, fframweithiau cymorth a newidiadau rheoleiddiol posibl
  • nodi bylchau a heriau drwy dynnu sylw at rwystrau, risgiau a meysydd sydd angen cymorth ychwanegol

Pa mor ddiogel yw eich data personol?

Mae'r wybodaeth bersonol a ddarperir i Lywodraeth Cymru bob amser yn cael ei storio ar weinydd diogel.

Dim ond nifer cyfyngedig o swyddogion Llywodraeth Cymru sy'n gweithio ar y prosiect hwn fydd yn gallu gweld y data.

Dim ond at ddibenion ymchwil ac i wneud argymhellion i Weinidogion Cymru y bydd Llywodraeth Cymru yn defnyddio'r data hyn.

Sut bydd data'r arolwg yn cael eu prosesu?

Bydd y data o'r arolwg yn cael eu casglu gan Lywodraeth Cymru gan ddefnyddio SmartSurvey.

Ar ôl i'r arolwg ddod i ben, bydd y data yn cael eu trosglwyddo o SmartSurvey i weinydd diogel Llywodraeth Cymru.

Bydd swyddogion Llywodraeth Cymru yn dadansoddi'r data.

Adrodd ar ganfyddiadau'r arolwg

Adroddir ar yr holl ddata a gesglir drwy'r gwaith ymchwil hwn mewn fformat dienw.

Ni fydd yr adroddiadau yn cynnwys eich manylion cyswllt, a bydd unrhyw wybodaeth bersonol neu wybodaeth a allai arwain at adnabod unigolyn mewn atebion penagored yn cael ei dileu.

Bydd y Tîm Polisi Gofal Cartref ac Ailalluogi yn defnyddio'r wybodaeth a gesglir fel rhan o adroddiad a fydd yn cael ei ddefnyddio i wneud argymhellion i Weinidogion Cymru.

Am ba hyd y byddwn yn cadw eich data personol?

Bydd yr arolwg ar agor am 3 wythnos.

Bydd y data a ddarperir pan fyddwch yn cymryd rhan yn yr arolwg yn cael eu cadw ar weinyddion SmartSurvey am y tair wythnos y mae'r arolwg ar agor, yn ogystal ag am wythnos ychwanegol er mwyn trosglwyddo'r data i weinyddion diogel Llywodraeth Cymru.

Ar ôl y trosglwyddiad, bydd eich data ar SmartSurvey yn cael eu dileu.

Am ba hyd y bydd Llywodraeth Cymru yn cadw eich data?

Bydd Llywodraeth Cymru yn cadw'r data am 12 mis ar ôl iddynt gael eu trosglwyddo.

Mae hyn er mwyn dadansoddi'r data, yn ogystal â chynnal sgyrsiau dilynol gyda chi os ydych wedi cytuno i hynny.

Ar ôl i'r gwaith gael ei gwblhau, bydd y data yn cael eu dileu. Fodd bynnag, bydd yr adroddiad yn cael ei gadw.

Hawliau’r unigolyn

O dan GDPR y DU, mae gennych yr hawliau a ganlyn mewn perthynas â’r wybodaeth bersonol a ddarperir gennych yn rhan o’r prosiect hwn: 

  • yr hawl i gael gafael ar gopi o’ch data personol
  • yr hawl i ofyn inni gywiro unrhyw beth sy’n anghywir yn y data hynny
  • yr hawl i wrthwynebu neu gyfyngu ar brosesu’r data (o dan amgylchiadau penodol)
  • yr hawl i ofyn bod eich data yn cael eu ‘dileu’ (o dan amgylchiadau penodol);
  • yr hawl i wneud cwyn a’i gyflwyno i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth sef ein rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data

Gwneud cwyn

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i drin eich data personol yn saff ac yn ddiogel, a dim ond cyhyd ag y mae angen inni wneud hynny.

Os oes gennych unrhyw bryderon ynglŷn â'r ffordd rydym yn defnyddio eich data personol, rydym yn eich annog i'w codi gyda'r tîm perthnasol yn y lle cyntaf.

Gallwch gysylltu â'r Swyddog Diogelu Data drwy:

E-bost: SwyddogDiogeluData@llyw.cymru 

neu drwy ysgrifennu at:

Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ

Os hoffech wneud cwyn ffurfiol am y ffordd y mae Llywodraeth Cymru wedi prosesu eich data personol, gallwch ddilyn y canllawiau ar y dudalen Cwyn am Lywodraeth Cymru.

Byddwn yn cydnabod eich cwyn ac yn ymateb o fewn amserlen briodol, yn unol â deddfwriaeth diogelu data a'n proses gwyno.

Rhagor o wybodaeth

Os oes gennych ragor o gwestiynau am sut y bydd Llywodraeth Cymru yn defnyddio'r data a roddir at ddibenion yr astudiaeth hon, neu os ydych am arfer eich hawliau o dan GDPR y DU, cysylltwch â:

Denise Moultrie
E-bost: PolisiGofalCartref@llyw.cymru 

Swyddog Diogelu Data

Gellir cysylltu â Swyddog Diogelu Data Llywodraeth Cymru yn:

Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ

E-bost: SwyddogDiogeluData@llyw.cymru 

Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth

Dyma'r manylion ar gyfer cysylltu â Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth:

Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Swydd Gaer
SK9 5AF

Ffôn: 0303 123 1113

Gwefan: cy.ico.org.uk