Llyr Gruffydd AS, Y Gweinidog Cabinet dros Wydnwch Gwledig a Chynaliadwyedd
Mae'n bleser gennyf gyhoeddi bod Llywodraeth Cymru wedi dod i gytundebau gyda'r Cynllun Gwarant Fferm Da Byw (FAWL), Tractor Coch a ‘Pasture for Life’ a fydd yn cefnogi'r gwaith o integreiddio elfennau o Weithred Gyffredinol 12 (UA12) â gofynion cynllun gwarant fferm o 2027 ymlaen, fel rhan o'r Cynllun Ffermio Cynaliadwy (SFS). Bydd trefniadau trosiannol ar gyfer 2026 yn caniatáu i'r rhai sy'n rhan o'r Cynllun Ffermio Cynaliadwy ddefnyddio eu haelodaeth o'r Cynllun Gwant Fferm Da Byw, Tractor Coch neu ‘Pasture for Life’ i ddangos eu bod wedi bodloni gofynion 'Mesur' a 'Chynllun' y Cylch Gwella Iechyd Anifeiliaid (AHIC) UA12 ar gyfer 2026.
Bwriad Llywodraeth Cymru wrth integreiddio elfennau o UA12 â chynlluniau gwarant fferm yw lleihau dyblygu a baich gweinyddol i ffermwyr a gweithwyr proffesiynol milfeddygol wrth gynnal y canlyniadau o ran iechyd a lles anifeiliaid y mae UA12 wedi'u cynllunio i'w cyflawni.
Mae'r trefniadau wedi'u cyflwyno yn unol ag argymhelliad cynnar gan yr Adolygiad o'r Baich Biwrocrataidd ar Ffermydd Teuluol, a nododd gyfleoedd i leihau gwaith papur a dyblygu diangen. Mae'r cytundebau hefyd yn sail ar gyfer trefniadau integreiddio tymor hwy yr AHIC ac Asesiad Bioddiogelwch o Stoc sy'n Dod i’r Fferm (BAIS) o 2027 ymlaen, sy'n parhau i gael eu datblygu gyda'r tri chynllun gwarant fferm sy'n cymryd rhan.
Ar gyfer 2026, bydd aelodau cymwys o'r Cynllun Gwarant Fferm Da Byw, Tractor Coch a ‘Pasture for Life’ yn gallu datgan eu haelodaeth drwy Ddangosfwrdd Gweithredoedd Cyffredinol y Cynllun Ffermio Cynaliadwy fel tystiolaeth bod gofynion 'Mesur' a 'Chynllun' UA12 AHIC wedi'u bodloni. Rhaid i ffermwyr gwblhau holl ofynion perthnasol eraill Gweithred Gyffredinol 12 (UA12), gan gynnwys y gofynion perthnasol o ran lles anifeiliaid a'r Asesiad Bioddiogelwch ar gyfer Stoc sy'n Dod i’r Fferm (BAIS) erbyn 31 Rhagfyr 2026.
Nid yw'r cyhoeddiad hwn yn effeithio ar ffermwyr nad ydynt yn aelodau o gynllun gwarant fferm cydnabyddedig a dylent barhau i ddilyn canllawiau UA12 a gyhoeddwyd a chwblhau'r gofynion a nodwyd erbyn diwedd mis Rhagfyr.
Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i fod yn agored i ymgysylltu â chynlluniau gwarant fferm cydnabyddedig eraill sydd â diddordeb mewn cefnogi canlyniadau UA12 drwy eu prosesau gwarant presennol ac mae'n croesawu trafodaethau gyda chynlluniau a allai ddymuno cymryd rhan yn y dyfodol.
