Neidio i'r prif gynnwys

Mae Gweinidog y Cabinet dros Fenter, Cysylltedd ac Ynni, Adam Price, yn Boston yr wythnos hon i feithrin cysylltiadau masnach a buddsoddi newydd ym meysydd deallusrwydd artiffisial, technoleg a digidol.

Cyhoeddwyd gyntaf:
11 Hydref 2026
Diweddarwyd ddiwethaf:
  • Bydd y Gweinidog yn cyfarfod â buddsoddwyr a busnesau presennol a darpar fuddsoddwyr a busnesau ym meysydd deallusrwydd artiffisial, technoleg a digidol yn ystod yr ymweliad â Boston.
  • Bydd hefyd yn mynd i uwchgynhadledd ryngwladol fawr ar dechnolegau newydd, yn siarad yn Harvard am le Cymru yn y chwyldro deallusrwydd artiffisial ac yn cyfarfod â'r diaspora Cymreig.

Bydd yr ymweliad, rhwng 12 ac 16 Hydref, yn cynnwys cyfarfodydd â chwmnïau technoleg, buddsoddwyr ac arweinwyr busnes sydd â chysylltiadau â Chymru. Ymhlith y cwmnïau technoleg mae Sublime Systems, cwmni sment o Boston sy'n cefnogi adeiladu carbon isel, a Microchip Technology, gwneuthurwr lled-ddargludyddion sydd â safle yng Nghil-y-coed.

Bydd y Gweinidog hefyd yn cyfarfod â chwmnïau yn y sectorau gwyddorau bywyd ac ynni i drafod cyfleoedd buddsoddi a masnachu â Chymru.

Bydd yn mynd i Uwchgynhadledd Weinidogol y Gynghrair Technolegau Chwyldroadol a Newydd (DETA), rhwydwaith byd-eang o 21 o lywodraethau sy'n cydweithio ar ddeallusrwydd artiffisial, seiberddiogelwch, technolegau cwantwm a hawliau digidol. Mae Cymru yn un o aelodau sefydlu'r Gynghrair.

Bydd hefyd yn rhoi darlith yn Growth Lab Prifysgol Harvard o'r enw "A all Gwledydd Bach Gystadlu ac Ennill yn Oes Deallusrwydd Artiffisial? Achos Cymru", gan drafod sut mae Cymru yn defnyddio deallusrwydd artiffisial, ynni glân a datblygu sgiliau i sbarduno twf economaidd.

Bydd yr ymweliad hefyd yn cynnwys ymgysylltu â'r diaspora Cymreig yn ardal Boston, gan gefnogi ymrwymiad Llywodraeth Cymru i ddatblygu Strategaeth Diaspora. Bydd hon yn hyrwyddo Cymru fel lle i entrepreneuriaid o'r diaspora fuddsoddi ac yn annog ac yn cymell ymfudwyr diweddar i ddychwelyd.

Dywedodd Gweinidog y Cabinet dros Fenter, Cysylltedd ac Ynni:

"Mae Boston yn un o ganolfannau technoleg mwyaf deinamig y byd, ac mae'r ymweliad hwn yn gyfle i roi Cymru yn gadarn ar y map fel partner o ddewis ar gyfer buddsoddi mewn deallusrwydd artiffisial a thechnoleg. Drwy gyfarfod â buddsoddwyr, busnesau a'n cymuned diaspora, rydym yn agor drysau a fydd yn dod â swyddi a chyfleoedd adref. Mae dychwelyd i Harvard i siarad am le Cymru yn y chwyldro deallusrwydd artiffisial yn gyfle i ddangos y gall gwlad fach gystadlu ac ennill ar y llwyfan byd-eang."