Cyfnod hysbysu statudol gorchymyn dynodi Parc Cenedlaethol Glyndŵr: crynodeb o'r ymatebion
Yn unol â gofynion cyfreithiol, sbardunodd gwneud Gorchymyn Dynodi Parc Cenedlaethol Glyndŵr gyfnod hysbysu statudol o 28 diwrnod, a oedd yn rhedeg tan 15 Chwefror 2026.
Ar y dudalen hon
Ymatebion y Cynghorau Sir
Roedd y pum Awdurdod Lleol gydag ardaloedd o fewn ffin arfaethedig y Parc Cenedlaethol yn ymgyngoreion statudol a chyflwynodd pob un ymateb, fel y crynhoir isod:
| Awdurdod Lleol | Crynodeb o’r ymatebion i’r cynnig | |
|---|---|---|
| Cyngor Gwynedd | Gwrthwynebu | Effaith negyddol ar iaith, cynllunio a Chynllun Datblygu Lleol (CDLl), cyllid, llywodraethu a ffiniau yn cynnwys ardal a gynigir fel AHNE. |
| Cyngor Sir Ddinbych | Gwrthwynebu | Methu cefnogi oherwydd diffyg eglurder ar gyllid, llywodraethu a chynllunio. |
| Cyngor Sir y Fflint | Gwrthwynebu | Peidio cefnogi yn seiliedig ar y wybodaeth sydd ar gael. Baich ariannol, biwrocratiaeth a llywodraethu ychwanegol, effaith ar CDLl, effeithiolrwydd y Dirwedd Genedlaethol (AHNE) bresennol, a chyfyngiad ar dwf. |
| Cyngor Sir Powys | Gwrthwynebu | Gwrthwynebu’r egwyddor. Tystiolaeth CNC, ffin ac effaith ar seilwaith gan nifer cynyddol o ymwelwyr |
| Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam | Gwrthwynebu | Cyfeiriwyd at gyllid, pwysau ar wasanaethau a seilwaith yn sgil cynnydd yn y nifer o ymwelwyr nad ydynt wedi’u cwmpasu gan gyllid ychwanegol Llywodraeth Cymru. |
Cynghorau Tref a Chymuned ac ymatebwyr eraill
Derbyniodd Llywodraeth Cymru 429 o ymatebion eraill, yn bennaf gan unigolion, ond hefyd gan Gynghorau Tref a Chymuned a chyrff cynrychioliadol eraill fel undebau ffermio. Er bod yr ymatebion yn gytbwys, roedd mwyafrif bach o blaid y cynnig (54%) o'i gymharu â'r rhai oedd yn ei wrthwynebu (45%). Nid oedd pedwar ymatebydd (0.9%) wedi mynegi barn neu roeddent yn ansicr.
Ymatebion a dderbyniwyd gan gynghorau cymuned a thref
Roedd y pryderon a fynegwyd amlaf yn ymwneud â gallu seilwaith lleol a gwasanaethau cyhoeddus i ymdopi â mwy o ymwelwyr, ynghyd â phryderon am or-dwristiaeth a'i effeithiau ar gymunedau lleol. Cododd Cynghorau Tref a Chymuned bryderon hefyd ynghylch fforddiadwyedd tai, effeithiau posibl ar y Gymraeg a diwylliant Gymreig, cost a llywodraethu Awdurdod Parc Cenedlaethol newydd, a goblygiadau posibl rheolaethau cynllunio a rheoli tir ychwanegol i fusnesau ffermio a chymunedau gwledig.
Cynghorau Tref a Chymuned a wrthwynebodd
- Cyngor Cymuned Llandderfel
- Cyngor Cynwyd
- Cyngor Llandrillo
- Cyngor Cymunedol Llanfair Dyffryn Ceiriog
- Cyngor Cymuned Wledig Llangollen
- Cyngor Tref Llangollen
- Cyngor Cymunedol Llangynog
- Cyngor Cymunedol Llanrhaeadr YM
- Cyngor Cymunedol Llantysilio
- Cyngor Cymunedol Penybontfawr
Cynghorau Tref a Chymuned a gefnogodd
- Cyngor Cymunedol Nannerch
Ymatebion gan sefydliadau
Mae'r rhan fwyaf o'r sylwadau wedi'u gwneud gan unigolion sydd â diddordeb yn yr ardal, fodd bynnag, mae nifer o gyrff eraill hefyd wedi ymateb gan gynnwys:
- Y sector ffermio a Defnydd tir, a gododd bryderon
- Sefydliadau amgylcheddol, a oedd yn gyffredinol gefnogol.
- Sefydliadau twristiaeth a hamdden, a oedd yn gyffredinol yn gefnogol.
- Y sector mwynau, a oedd yn gyffredinol yn gwrthwynebu.
- Y sector ynni adnewyddadwy, a gododd bryderon
- Cefnogodd Mentrau Iaith Cymru y cynnig mewn egwyddor
Ymatebion gan unigolion
O'r ymatebion a dderbyniwyd, daeth y mwyafrif gan bobl y mae eu prif gartref o fewn ffin arfaethedig y Parc Cenedlaethol neu'n gyfagos iddi (319 o ymatebion). Nid oedd yr un o'r ymatebion yn nodi eu bod gan berchnogion cartrefi gwyliau o fewn y ffin arfaethedig, er nad oedd rhai ymatebwyr wedi darparu digon o wybodaeth i bennu eu categori preswylio.
Rhesymau dros gefnogi neu beidio â chefnogi'r cynnig
Prif resymau dros beidio â chefnogi
Roedd y prif resymau dros beidio â chefnogi'r cynnig yn ymwneud â phryderon am effeithiau ar seilwaith cyhoeddus, megis pwysau ar ffyrdd, ochr yn ochr â materion yn ymwneud â rheoli twristiaeth a chyllido Parc Cenedlaethol newydd. Cododd ymatebwyr bryderon hefyd am effeithiau posibl ar dai, yr effaith ar bobl leol a phwysau ar wasanaethau cyhoeddus, tra bod nifer sylweddol hefyd yn tynnu sylw at faterion yn ymwneud ag amaethyddiaeth a rheoli tir.
Prif resymau a roddwyd dros gefnogaeth
Ymhlith y rhesymau a fynegwyd yn gyffredin dros gefnogaeth roedd manteision disgwyliedig ar gyfer ymdrechion cadwraeth a diogelu tirwedd a diogelu bywyd gwyllt. Tynnodd ymatebwyr sylw hefyd at welliannau posibl i bobl leol, gan gynnwys yr economi leol, ynghyd â photensial ar gyfer mwy o gyfleoedd ariannu, amddiffyniadau diwylliant a threftadaeth cryfach a diogelu amgylcheddol ychwanegol.
Roedd dros 100 o ymatebion yn cynnwys cais i gynnwys Mynydd Mynyllod ac ardal Dyffryn Dyfrdwy Uchaf yn y Parc Cenedlaethol newydd.
Crynodeb
Gwrthwynebodd pob un o’r pum awdurdod lleol i’r cynnig, fel y gwnaeth deg o’r un ar ddeg Cyngor Tref a Chymuned a ymatebodd. Roedd ymatebion gan gyrff cynrychioladol eraill yn fwy cymysg ac yn adlewyrchu diddordebau a safbwyntiau eu priod sectorau, tra bod ymatebion unigol yn dangos mwyafrif bach o blaid y cynnig.
Roedd y themâu allweddol sy'n deillio o'r hysbysiad statudol yn gyson yn fras â'r rhai a godwyd yn ystod y broses ymgynghori gynharach. Yn gryno, roedd y themâu hyn yn ymdrin â:
- Trefniadau llywodraethu a chyllido
- Cynllunio a gwydnwch seilwaith.
- Effeithiau posibl ar y Gymraeg, yn gadarnhaol ac yn negyddol.
- Rheoli ymwelwyr a phwysau hamdden.
- Fforddiadwyedd tai a materion ffiniau.
- Manteision posibl ar gyfer addasu i'r hinsawdd, adferiad natur a mynediad i gefn gwlad.
