Neidio i'r prif gynnwys

Cyflwyniad

Mae’r ystadegau hyn yn ymwneud â’r gwasanaeth tân ac achub rhwng mis Ebrill 2025 a diwedd mis Mawrth 2026 (wedi’i nodi fel FYE 2026). 

Prif bwyntiau

Gweithwyr yr Awdurdodau Tân ac Achub

  • 2,248 o staff cyfwerth ag amser llawn a 1,255 o staff system ar ddyletswydd yn ôl galw wedi’u cyflogi ar draws ardaloedd y 3 Awdurdod Tân ac Achub Cymru ar 31 Mawrth 2026 o gymharu â 2,271 o staff cyfwerth ag amser llawn a 1,306 o staff yn ôl galw ar 31 Mawrth 2025.
  • O’r 2,248 staff cyfwerth ag amser llawn, roedd tua dwy ran o dair (1,490) yn ddiffoddwyr tân amser cyflawn, cyfran debyg i flynyddoedd cynharach.

Iechyd a diogelwch

  • Collwyd 14.5 sifft neu diwrnod y pen oherwydd salwch ar gyfer diffoddwyr tân amser cyflawn a 20.5 sifft neu diwrnod ar gyfer staff rheoli tân.
  • Cafodd diffoddwyr tân amser cyflawn (gan gynnwys criwiau dydd) a diffoddwyr tân yn ôl galw 94 o anafiadau yn ystod gweithgareddau gweithredol a hyfforddiant.

Gweithgareddau gweithredol

  • Deliodd staff rheoli tân gyda bron i 80,000 o alwadau yng Nghymru, gostyngiad o 9% ar FYE 2025.

Diogelwch tân

  • Cwblhaodd Awdurdodau Tân ac Achub Cymru 1,896 archwiliad diogelwch tân mewn adeiladau annomestig. Roedd hyn yn cynrychioli 2% o adeiladau o’r fath yng Nghymru. 

Diogelwch tân cymunedol

  • Cwblhaodd yr Awdurdodau Tân ac Achub yng Nghymru dros 50,000 o wiriadau diogelwch tân yn y cartref; mewn 89% o’r rhain, nodwyd bod o leiaf un aelod o’r aelwyd yn arddangos risg.
  • Cwblhaodd yr Awdurdodau Tân ac Achub dros 22,000 o wiriadau diogelwch tân yn y cartref a oedd hefyd yn cynnwys y cwblhad o weithgareddau atal nad yw’n gysylltiedig â thân; roedd bron i 2,200 wedi cael eu cyfeirio ymlaen i sefydliad arall. 

Manylion cyswllt

Ystadegau Diogelwch Cymunedol
E-bost: ystadegau.cynhwysiant@llyw.cymru 

Cyfryngau: 0300 025 8099