Ardrethu annomestig – y lluosydd is
Rhif cyfeirnod y cymhorthdal: SC11617 - cynllun i ail-gydbwyso'r system ardrethi annomestig o blaid busnesau manwerthu, lletygarwch a hamdden cymwys o fewn economïau bywiog ar y stryd fawr ac yng nghanol trefi.
Ar y dudalen hon
Pwyntiau i'w nodi
Os ydych chi’n defnyddio’r cynllun hwn i ddyfarnu cymhorthdal, rhaid ichi roi gwybod i’r Uned Rheoli Cymorthdaliadau – e-bost: rheolicymorthdaliadau@llyw.cymru
1. Rhanbarth
Cymru
2. Teitl y cynllun cymhorthdal
Ardrethu annomestig – y lluosydd is
3. Y sail gyfreithiol
Mae paragraff A16(1)(a), (3) a (4)(a) ac (c) o Atodlen 7 i Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 (Deddf 1988) yn galluogi Gweinidogion Cymru i wneud rheoliadau sy’n rhagnodi lluosyddion gwahaniaethol, yn seiliedig ar werth ardrethol hereditamentau a’u disgrifiad ar restr ardrethu annomestig leol, ac sy'n pennu eu gwerthoedd.
Pennir cymhwysiad y lluosydd is gan Reoliadau Ardrethu Annomestig (Disgrifiad o Luosyddion Gwahaniaethol) (Cymru) 2025.
Pennir gwerth y lluosydd is ar gyfer pob blwyddyn ariannol drethadwy gan Reoliadau Ardrethu Annomestig (Gwerth Lluosyddion Gwahaniaethol) (Cymru) 2026.
4. Amcanion polisi penodol y cynllun
Amcan polisi penodol y lluosydd is yw ailgydbwyso'r system ardrethi annomestig i gydnabod pwysigrwydd busnesau manwerthu, lletygarwch a hamdden cymwys o fewn economïau bywiog ar y stryd fawr ac yng nghanol trefi.
5. Diben y cynllun
Mae gan Lywodraeth Cymru ymrwymiad i ailgydbwyso'r system ardrethi annomestig fel bod y busnesau manwerthu, lletygarwch a hamdden y mae canol trefi bywiog yn dibynnu arnynt, yn cael eu cefnogi'n well. Bydd hyn yn cael ei gyflawni drwy luosydd ardrethi annomestig is ar gyfer ystod eang o fusnesau bach a chanolig sy'n bwysig i ffyniant y stryd fawr a chanol trefi. Bydd y cymorth yn berthnasol i fathau dethol o eiddo manwerthu, lletygarwch bwyd a diod, llety ymwelwyr a hamdden.
O ran manwerthwyr, mae cyfanswm y gofod y mae ei angen o fewn y sylfaen drethu ardrethi annomestig yn fawr, ond mae pob eiddo yn gwasanaethu marchnad leol. I'r gwrthwyneb, mae gan fanwerthwyr ar-lein ôl troed ffisegol cymharol fach, effeithlon a chost isel, yng nghyd-destun y raddfa genedlaethol neu ryngwladol a chyrhaeddiad eu busnes (a adlewyrchir yn bennaf yn y defnydd o warysau dosbarthu mawr). Gan mai treth ar eiddo yw ardrethu annomestig, nid eir i'r afael â'r anghydbwysedd hwn yn naturiol dros amser drwy ailbrisio'r sylfaen drethu yn rheolaidd.
Er nad yw'r anghydbwysedd sydd wedi'i greu gan fanwerthu ar-lein yn uniongyrchol berthnasol i fusnesau lletygarwch a hamdden, mae'r busnesau hyn, sydd angen llawer o eiddo, gyda'i gilydd yn ategu cynnig manwerthu hyfyw i greu economïau bywiog ar y stryd fawr ac yng nghanol trefi. Mae ar ganol trefi ffyniannus angen cymysgedd o fusnesau manwerthu, lletygarwch a hamdden sy'n ategu ei gilydd, i gynnal nifer yr ymwelwyr a chefnogi eu cynaliadwyedd parhaus. Gall atebolrwydd am ardrethi annomestig fod yn orbenion ariannol sylweddol i'r busnesau hyn, ac mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i'w lleihau.
Bydd ailgydbwyso’r system ardrethi annomestig yn barhaol yn cefnogi busnesau cymwys mewn modd sy’n gymesur ag atebolrwydd talwyr ardrethi unigol. Bydd yr amcan polisi penodol yn cael ei gyflawni’n uniongyrchol gan y lluosydd is, drwy atebolrwydd ardrethi annomestig sy’n barhaol is i fuddiolwyr.
6. Awdurdodau cyhoeddus sydd wedi’u hawdurdodi i weithredu’r cynllun
Awdurdodau lleol (y 22 cyngor sir a chyngor bwrdeistref sirol) yng Nghymru.
7. Categorïau o fentrau cymwys
Mae'r lluosydd is yn berthnasol i hereditamentau (unedau o eiddo annomestig ag iddynt asesiad ardrethu) sydd â gwerthoedd ardrethol o dan £51,000 ac sy'n cael eu nodi fel mathau dethol o eiddo manwerthu (siopau, ciosgau, swyddfeydd post a fferyllfeydd), lletygarwch bwyd a diod (tafarndai, bwytai, caffis, bariau, clybiau trwyddedig, cyrtiau bwydydd a lleoliadau cerddoriaeth fyw), llety ymwelwyr (gwestai, tai llety a hosteli) neu hamdden (sinemâu, theatrau, llyfrgelloedd, amgueddfeydd a champfeydd) yn ôl eu disgrifiad ar restr ardrethu leol. Mae hyn yn cynnwys 90% o'r mathau o eiddo perthnasol, ond mae’n eithrio yn fwriadol eiddo mwy. Busnesau bach a chanolig o'r mathau perthnasol yw'r buddiolwyr bwriadedig.
8. Sectorau i’w cefnogi
- Masnach cyfanwerthu a manwerthu; atgyweirio cerbydau modur a beiciau modur
- Gweithgareddau llety a gwasanaethau bwyd
- Y celfyddydau, adloniant a hamdden
9. Hyd cyfnod y cynllun
1 Ebrill 2027 i 31 Mawrth 2030.
Mae’r lluosydd is yn rhan o’r system ardrethi annomestig o 1 Ebrill 2027 ac nid oes dyddiad diofyn ar gyfer ei ddirwyn i ben. Mae'r cynllun hwn wedi'i gofrestru am gyfnod o dair blynedd a chaiff ei ymestyn neu ei ddisodli wedi hynny, fel y bo’n briodol.
10. Y gyllideb cymorth o dan y cynllun
Cyllideb o £0.
Nid oes cyllideb ar gyfer y lluosydd is, gan mai’r bwriad yw y bydd gosod yr holl luosyddion o fewn y system ardrethi annomestig yn niwtral o ran refeniw i’r awdurdodau cyhoeddus. Amcangyfrifir bod cyfanswm gwerth y lluosydd is i fuddiolwyr hyd at £35m y flwyddyn erbyn diwedd cyfnod y cynllun hwn. Felly, amcangyfrifir bod cyfanswm gwerth yr effaith dros gyfnod y cynllun yn hyd at £105m.
11. Ffurf y cymorth
Lleihad yn yr atebolrwydd ardrethi annomestig ar gyfer hereditamentau sy’n ddarostyngedig i’r lluosydd is.
12. Telerau ac amodau cymhwysedd
Mae’r lluosydd is yn berthnasol i hereditamentau sydd â gwerthoedd ardrethol o dan £51,000 ac unrhyw un o’r disgrifiadau canlynol ar restr ardrethu annomestig leol:
- amgueddfa a mangre
- amgueddfa, llyfrgell a mangre
- bar a mangre
- bar gwin a mangre
- bwyty a mangre
- bwyty, bar a mangre
- bwyty, caffi a mangre
- bwyty, siop a mangre
- caffi a mangre
- caffi, bar a mangre
- caffi, siop a mangre
- campfa a mangre
- canolfan ffitrwydd a mangre
- ciosg a mangre
- clwb a mangre
- cwrt bwydydd a mangre
- fferyllfa a mangre
- gwesty a mangre
- gwesty, bwyty a mangre
- hostel a mangre
- lleoliad cerddoriaeth a mangre
- llyfrgell a mangre
- neuadd gyngerdd a mangre
- oriel a mangre
- sinema a mangre
- siop a mangre
- siop, swyddfa bost a mangre
- swyddfa bost a mangre
- tafarn lety a mangre
- tafarndy a mangre
- tafarndy, bwyty a mangre
- tafarndy, gwesty a mangre
- tafarndy, siop a mangre
- tafarndy, swyddfa bost a mangre
- tŷ llety a mangre
- tŷ llety, bwyty a mangre, neu
- theatr a mangre
13. Y sail ar gyfer cyfrifo cymorthdaliadau
Mae gwerth y budd a ddarperir gan y lluosydd is yn cael ei gyfrifo ar sail y gwahaniaeth yn yr atebolrwydd sy’n gysylltiedig â’r hereditament unigol, o’i gymharu â’r sefyllfa pe bai’r lluosydd safonol yn berthnasol. Mae’r gwerth yn cyfateb i leihad mewn atebolrwydd o tua 30%, sy’n adlewyrchu’r lefel y gosodir y lluosydd is arni o’i gymharu â’r lluosydd safonol. Mae hyn yn ystyried unrhyw ryddhad sydd hefyd yn berthnasol. Nid yw hereditamentau cymwys y rhoddir rhyddhad llawn iddynt eisoes yn derbyn unrhyw fudd ychwanegol o’r lluosydd is.
Ni ystyrir bod y budd o'r lluosydd is yn cronni ar gyfer talwr ardrethi sydd â nifer o hereditamentau cymwys. Nid oes unrhyw arbedion maint o ran atebolrwydd am ardrethi annomestig i dalwyr ardrethi mewn amgylchiadau o'r fath. Mae atebolrwydd am ardrethi annomestig yn gost sefydlog sy'n cynyddu'n gymesur wrth ychwanegu pob hereditament unigol. Fel y disgrifir uchod, bydd y budd i'r talwr ardrethi yn gymesur â'i atebolrwydd, boed hynny ar gyfer un hereditament neu fwy. Nid oes unrhyw fantais gronnol yn deillio o atebolrwydd is am ardrethi annomestig ar gyfer nifer o hereditamentau.
14. Uchafswm y cymhorthdal a ganiateir o dan y cynllun
Amcangyfrifir bod uchafswm y budd a ddarperir gan y lluosydd is yn llai na £9,000 y flwyddyn ar gyfer pob hereditament cymwys erbyn diwedd cyfnod y cynllun hwn, pan fo’r gwerth ardrethol bron yn £51,000 ac nid oes unrhyw ryddhad arall sy’n berthnasol.
15. Manylion cyswllt
I gael rhagor o wybodaeth ynglŷn â gwneud cais am gymorth o dan y cynllun hwn, cysylltwch â: PolisiTrethiLleol@llyw.cymru
I gael rhagor o wybodaeth am sut mae'r cynllun hwn yn cydymffurfio â Deddf Rheoli Cymorthdaliadau 2022, cysylltwch â:
Yr Uned Rheoli Cymorthdaliadau
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ
Y Deyrnas Unedig
+ 44 (0)3000 604 400
E-bost: rheolicymorthdaliadau@llyw.cymru
Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.
