Esbonio sut mae Cadw a chyrff treftadaeth eraill yn cymryd rhan yn y broses cydsyniad seilwaith.
Cynnwys
Cyflwyniad
Dylai ceiswyr ymgysylltu'n gynnar â chyrff treftadaeth os gallai prosiect seilwaith arwyddocaol effeithio ar yr amgylchedd hanesyddol.
Gall ymgysylltu cynnar helpu ceiswyr i:
- nodi materion treftadaeth
- deall pa arolygon neu asesiadau y gallai fod eu hangen
- lleihau'r risg o oedi ar ôl cyflwyno cais
- mynd i'r afael â materion cyn i gais gael ei archwilio
Gall yr amgylchedd hanesyddol gynnwys:
- henebion cofrestredig
- adeiladau rhestredig
- parciau a gerddi hanesyddol cofrestredig
- tirweddau hanesyddol cofrestredig
- llongddrylliadau gwarchodedig
- Safleoedd Treftadaeth y Byd
- gweddillion archaeolegol
- meysydd brwydr hanesyddol
- lleoliad asedau hanesyddol
Rôl Cadw mewn prosiectau seilwaith arwyddocaol
Mae Penderfyniadau Cynllunio ac Amgylchedd Cymru (PCAC) a Cadw yn annog ceiswyr i ymgysylltu'n gynnar â Cadw a chyrff treftadaeth eraill cyn iddynt gyflwyno cais.
Cadw yw gwasanaeth amgylchedd hanesyddol Llywodraeth Cymru. Mae'n gweithio i ddiogelu'r amgylchedd hanesyddol yng Nghymru a'i wneud yn fwy hygyrch.
Mae Gweinidogion Cymru (Cadw, yn ymarferol) yn ymgynghorai statudol yn y broses cydsyniad seilwaith. Mae hyn wedi'i nodi ym Mharagraff D o Atodlen 1 o Reoliadau Cydsyniad Seilwaith (Y Weithdrefn Cyn Gwneud Cais a'r Weithdrefn Gwneud Cais a Darpariaethau Trosiannol) (Cymru) 2025 (“y rheoliadau cyn gwneud cais”).
Cwmpas daearyddol cyfrifoldebau Cadw
Ar y tir
Mae cyfrifoldebau Cadw yn cwmpasu Cymru gyfan. Mae hyn yn cynnwys diogelu'r amgylchedd hanesyddol a lleoliadau'r asedau treftadaeth.
Ar y môr
Mae cyfrifoldebau Cadw yn cynnwys archaeoleg danddwr yn ardal Cymru o Fôr Tiriogaethol y DU. Mae'n gwneud hyn o dan Ddeddf Treftadaeth Genedlaethol 1983 (fel y'i diwygiwyd*).
* Diwygiwyd gan Ddeddf Treftadaeth Genedlaethol 2002, adran 1
Deddf Seilwaith (Cymru) 2024 a chydsyniadau asedau hanesyddol
Os caiff cydsyniad seilwaith ei roi, bydd hynny'n golygu nad oes angen rhai cydsyniadau eraill.
Mae hyn yn cynnwys rhai cydsyniadau o dan y canlynol:
- Deddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2023
- Deddf Diogelu Llongddrylliadau 1973 (Adran 20.1.c i-iii o Ddeddf 2024)
Rhaid atgyfeirio unrhyw gydsyniadau sydd eu hangen o dan Ddeddf Gwarchod Olion Milwrol 1986 at y Weinyddiaeth Amddiffyn.
Ymgysylltu â Cadw
Bydd y rhan fwyaf o brosiectau seilwaith arwyddocaol ar y tir ac ar y môr yn cael rhyw effaith ar yr amgylchedd hanesyddol.
Mae'r cam cyn gwneud cais o dan Ddeddf Seilwaith (Cymru) 2024 yn galluogi ceisydd i wneud y canlynol:
- nodi materion perthnasol
- ymgynghori ar ei gynnig
- rhoi cyhoeddusrwydd i'w gynnig
- mireinio ei gynllun
- datrys problemau cyn cyflwyno cais
Dylai ceiswyr ymgynghori â Cadw ar geisiadau arfaethedig sy'n debygol o effeithio ar dir yng Nghymru a bodloni'r gofynion ym Mharagraff D o Atodlen 1 i'r rheoliadau cyn gwneud cais.
Dylai ceiswyr roi digon o wybodaeth i Cadw asesu effaith debygol y cynnig ar yr amgylchedd hanesyddol.
Dylai hyn gynnwys data o arolygon perthnasol, megis data geoffisegol a geodechnegol, gyda gwybodaeth ben desg am yr amgylchedd hanesyddol i ategu hynny.
Rhaid i geiswyr roi o leiaf 42 diwrnod i Cadw ymateb i ymgyngoriadau ffurfiol.
Rhaid i geiswyr ystyried unrhyw ymateb y mae Cadw yn ei anfon cyn y dyddiad cau ar gyfer ymgynghori.
Mae Cadw yn croesawu'r cyfle i ymgynghori ymhellach â cheiswyr y tu allan i'r broses ymgynghori cyn gwneud cais statudol. Bydd Cadw yn darparu cyngor pellach lle gofynnir am hynny a lle bo hynny'n briodol.
Dylai ceiswyr esbonio sut maent wedi mynd i'r afael â sylwadau Cadw pan fyddant yn cyflwyno eu cais terfynol.
Ar gyfer datblygiadau arfaethedig yng Nghymru a allai gael effeithiau trawsffiniol yn Lloegr, bydd yn bwysig ymgynghori’n gynnar â Cadw a Historic England.
Caiff gwaith maes ac asesiadau archaeolegol eu paratoi yn unol â'r safonau a'r canllawiau a bennwyd gan Sefydliad Siartredig yr Archaeolegwyr.
Adennill costau
Mae Rheoliadau Cydsyniad Seilwaith (Ffioedd) (Cymru) 2025 yn caniatáu i Cadw adennill costau am wasanaethau perthnasol ac ymgysylltu sy'n gysylltiedig â chais am brosiect seilwaith arwyddocaol.
Cyn cyflwyno cais, rhaid i ddatblygwyr gasglu'r wybodaeth dreftadaeth angenrheidiol ac ymgynghori ar eu cynigion. Mae hyn yn cynnwys ymgynghori â Cadw lle bo angen.
Gall Cadw roi cyngor cyn gwneud cais ar effaith debygol cynigion ar yr amgylchedd hanesyddol. Dylai datblygwyr ystyried y cyngor hwn cyn llunio eu cynigion terfynol.
Mae Cadw yn argymell y dylid ymgysylltu'n gynnar pan fydd cais am gydsyniad seilwaith yn cael ei ystyried.
I gael rhagor o wybodaeth, gweler canllawiau Cadw ar adennill costau: [hyperlink to guidance] (link needed here)
Asesu'r Effaith Amgylcheddol
Ymgynghorir â Cadw brosiectau Asesu'r Effaith Amgylcheddol cymwys ar gyfer prosiectau seilwaith arwyddocaol yng Nghymru. Mae asesu'r effaith amgylcheddol yn broses ar gyfer nodi effeithiau amgylcheddol cadarnhaol a negyddol datblygiadau arfaethedig cyn i ganiatâd cynllunio yn cael ei roi.
Mae Cadw yn rhoi cyngor ar y canlynol:
- a yw prosiect yn debygol o gael effeithiau sylweddol ar yr amgylchedd hanesyddol a bod angen cynnal asesiad o'r effaith amgylcheddol
- cwmpas asesiad o'r effaith amgylcheddol ar gyfer yr amgylchedd hanesyddol.
Wrth ymateb i asesiad o'r effaith amgylcheddol, mae Cadw yn ystyried effaith y prosiect ar:
- henebion cofrestredig a'u lleoliadau
- adeiladau rhestredig a'u lleoliadau
- parciau a gerddi hanesyddol cofrestredig a'u lleoliadau
- tirweddau hanesyddol cofrestredig
- llongddrylliadau gwarchodedig
- Safleoedd Treftadaeth y Byd
Mae Cadw yn gwneud asesiadau yn unol â pholisïau a chanllawiau cynllunio defnydd tir Llywodraeth Cymru sydd wedi'u cynnwys yn:
- Polisi Cynllunio Cymru
- Nodyn Cyngor Technegol 24: Yr Amgylchedd Hanesyddol
- Egwyddorion Cadwraeth ar gyfer Rheoli Amgylchedd Hanesyddol Cymru mewn Ffordd Gynaliadwy
- canllawiau cysylltiedig sydd wedi'u cyhoeddi ar wefan Cadw
Gall Cadw ystyried Datganiad Amgylcheddol drafft ceisydd neu unrhyw ddogfennau eraill.
Gallai hyn gynnwys:
- asesiadau pen desg o'r amgylchedd hanesyddol
- Asesiad o Arwyddocâd Effaith Datblygiad ar Dirwedd Hanesyddol
Gall hyn helpu ceiswyr i wella cywirdeb eu dogfennau terfynol.
Ffynonellau o gyngor ac arweiniad ar asedau hanesyddol
Henebion cofrestredig
Mae lleoliadau a manylion henebion cofrestredig ar gael yn Chwilio cofnodion Cadw | Cadw.
Dylai ceiswyr asesu effeithiau posibl ar leoliadau henebion cofrestredig gan ddefnyddio'r canllawiau yn Lleoliad Asedau Hanesyddol yng Nghymru.
Adeiladau rhestredig
Mae lleoliadau a manylion adeiladau rhestredig ar gael yn Chwilio cofnodion Cadw | Cadw.
Dylai ceiswyr asesu effeithiau posibl ar leoliadau adeiladau rhestredig gan ddefnyddio'r canllawiau yn Lleoliad Asedau Hanesyddol yng Nghymru.
Dylai ceiswyr asesu effeithiau uniongyrchol ar adeiladau rhestredig gan ddefnyddio'r canllawiau yn Asesiadau o'r Effaith ar Dreftadaeth yng Nghymru.
Dylai ceiswyr ofyn am gyngor arbenigol gan swyddogion cadwraeth yr awdurdod cynllunio lleol ar effaith datblygiadau arfaethedig ar adeiladau rhestredig.
Yr amgylchedd hanesyddol morol
Mae Deddf Diogelu Llongddrylliadau 1973 yn diogelu llongddrylliadau islaw'r penllanw cymedrig rhag ymyrraeth gan bobl heb awdurdod.
Mae adran 1 yn diogelu llongddrylliadau y credir eu bod o bwys hanesyddol, archaeolegol neu artistig. Mae hefyd yn diogelu gwrthrychau sydd wedi'u cynnwys, neu a oedd wedi'u cynnwys gynt, yn y llongddrylliadau hynny.
Mae chwe safle yn nyfroedd Cymru wedi'u dynodi o dan adran 1 o'r Ddeddf. Gellir dod o hyd i'w lleoliadau ar Cof Cymru.
Gall yr Uwch-ymchwilydd Morwrol yng Nghomisiwn Brenhinol Henebion Cymru (CBHC) roi cyngor arbenigol ar faterion morwrol.
Mae canllawiau perthnasol yn cynnwys:
Rheoli Amgylchedd Hanesyddol Morol Cymru
Gofalu am Dreftadaeth yr Arfordir
Parciau a gerddi hanesyddol cofrestredig
Mae Gweinidogion Cymru yn cadw cofrestr statudol o barciau a gerddi hanesyddol.
Mae lleoliadau a manylion parciau a gerddi hanesyddol cofrestredig ar gael yn Chwilio cofnodion Cadw | Cadw.
Mae canllawiau perthnasol yn cynnwys Rheoli Newid i Barciau a Gerddi Hanesyddol Cofrestredig yng Nghymru
Tirweddau hanesyddol
Mae'r gofrestr o dirweddau o ddiddordeb hanesyddol yng Nghymru yn cynnwys 58 o dirweddau o ddiddordeb hanesyddol eithriadol neu arbennig.
Ystyrir mai'r rhain yw'r enghreifftiau gorau o wahanol fathau o dirweddau hanesyddol yng Nghymru.
Os bydd effaith uniongyrchol ar dirwedd hanesyddol gofrestredig, bydd angen cynnal Asesiad o Arwyddocâd Effaith Datblygiad ar Dirwedd Hanesyddol.
Lle gallai datblygiad effeithio ar leoliad ased hanesyddol cofrestredig, dylai ceiswyr ddefnyddio'r canllawiau yn Lleoliad Asedau Hanesyddol yng Nghymru.
Meysydd brwydr
Nid oes cofrestr statudol o feysydd brwydr yng Nghymru.
Mae Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru yn cadw Rhestr o Feysydd Brwydro Hanesyddol yng Nghymru.
Dylai ceiswyr ystyried effaith datblygiad arfaethedig ar safleoedd yn y rhestr fel rhan o unrhyw Ddatganiad Amgylcheddol.
Ffermydd solar
Mae canllawiau penodol ar gael ar yr asesiadau archaeolegol sydd eu hangen ar gyfer ffermydd solar mawr.
Mae Archaeology and Solar Farms - Good Practice Guide yn esbonio sut i asesu effaith datblygiad fferm solar ar archaeoleg a sut i leihau niwed.
Safleoedd Treftadaeth y Byd
Mae pedwar Safle Treftadaeth y Byd yng Nghymru:
- Cestyll a Muriau Trefi'r Brenin Edward yng Ngwynedd (arysgrifwyd yn 1986)
- Tirwedd Ddiwydiannol Blaenafon (arysgrifwyd yn 2000)
- Traphont Ddŵr a Chamlas Pontcysyllte (arysgrifwyd yn 2009)
- Tirwedd Llechi Gogledd Orllewin Cymru (arysgrifwyd yn 2021)
Mae canllawiau ar ddiogelu Safleoedd Treftadaeth y Byd ar gael yn Rheoli Safleoedd Treftadaeth y Byd yng Nghymru.
Dylai ceiswyr asesu effaith datblygiadau ar werth cyffredinol eithriadol Safleoedd Treftadaeth y Byd gan ddefnyddio:
- ICOMOS_guidance_on_heritage_impact_assessments_for_cultural_world_heritage_properties
- World Heritage Centre - Guidance and Toolkit for Impact Assessments in a World Heritage Context
Manylion cyswllt Cadw
E-bost: seilwaithcadw@llyw.cymru
Ffôn 0300 025 6000
Cyfeiriad: Cadw, Llywodraeth Cymru, Parc Busnes Rhydycar, Merthyr Tudful CF48 1UZ
Cofnod Amgylchedd Hanesyddol
Mae adrannau 194 a 195 o Ddeddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2023 yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru gynnal Cofnod Amgylchedd Hanesyddol sydd ar gael i'r cyhoedd ar gyfer pob ardal awdurdod lleol yng Nghymru.
Mae Heneb: Ymddiriedolaeth Archaeoleg Cymru yn cynnal y Cofnod Amgylchedd Hanesyddol ar ran Gweinidogion Cymru.
Mae gwefan Archwilio yn rhoi mynediad ar-lein at gofnodion amgylchedd hanesyddol pob ardal awdurdod lleol. Efallai y bydd hyn yn ddigonol ar gyfer arfarniadau cychwynnol.
Fodd bynnag, nid oes modd gweld y Cofnod Amgylchedd Hanesyddol llawn ar wefan Archwilio. Dylai ceiswyr gysylltu â'r Cofnod Amgylcheddol Hanesyddol yn uniongyrchol i holi a oes rhagor o wybodaeth ar gael nad yw ar gael ar-lein.
Mae'r ffioedd a godir am ymholiadau masnachol ar gael ar wefan Heneb.
Rôl Heneb: Ymddiriedolaeth Archaeoleg Cymru
Mae Heneb: Ymddiriedolaeth Archaeoleg Cymru yn cynnal y Cofnod Amgylchedd Hanesyddol ar ran Gweinidogion Cymru.
Mae Gwasanaeth Cynllunio Archaeolegol Heneb yn darparu cyngor archaeolegol arbenigol a diduedd i'r awdurdodau cynllunio lleol yng Nghymru. Mae'n cynghori ar gwmpas y gwaith archaeolegol sydd ei angen ar gyfer cynigion datblygu ac yn monitro prosiectau archaeolegol.
Mae Cadw yn dirprwyo cyfrifoldeb am gyngor ar effaith datblygiadau ar asedau hanesyddol sydd heb eu dynodi i Heneb. Mae hyn yn cynnwys cyngor ar p'un a oes angen ymchwiliad ar y safle a monitro gwaith maes.
Dylai ceiswyr ymgynghori â Heneb yn ystod y cam cyn gwneud cais ac yn ystod camau ymgynghori diweddarach lle bo hynny'n berthnasol. Ceir gwybodaeth am gyfraddau ffioedd ar wefan Heneb.
I gael rhagor o wybodaeth am rôl ehangach Heneb, ewch i wefan Heneb: Ynglŷn â Heneb - Heneb
Manylion cyswllt Heneb
Y Cofnod Amgylchedd Hanesyddol: 01639 501702 her@heneb.org.uk
Y Gwasanaeth Cynllunio Archaeolegol: 01248 366975 planning@heneb.org.uk
Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru (CBHC)
Mae Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru (CBHC) yn datblygu ac yn hyrwyddo dealltwriaeth o dreftadaeth archaeolegol, adeiledig a morwrol Cymru.
CBHC sy'n dal Cofnod Henebion Cenedlaethol Cymru. Mae hyn yn cynnwys ffotograffau, mapiau, delweddau, cyhoeddiadau ac adroddiadau.
Gall ceiswyr chwilio'r archif hon gan ddefnyddio Cofleinneu drwy gysylltu â gwasanaethau ymholiadau CBHC.
Mae CBHC yn ymgynghorai statudol ar gyfer trwyddedu morol yng Nghymru.
Mae Uwch-ymchwilydd (Morwrol) CBHC yn darparu cyngor arbenigol ar effaith datblygiadau ar asedau hanesyddol morol.
Ar gyfer ceisiadau am gydsyniad seilwaith, gall CBHC ddarparu cyngor anstatudol ar waith sydd:
- yn y parth alltraeth, yr ardal y tu hwnt i'r marc distyll
- yn y parth rhynglanwol
- ar draws y parthau alltraeth a rhynglanwol
Gall y cyngor hwn fod yn gymwys i waith hyd at ffin y sgafell gyfandirol, nid dim ond y terfyn tiriogaethol o 12 milltir.
