Neidio i'r prif gynnwys

Anna Brychan AS, Gweinidog Cabinet dros Addysg a'r Gymraeg

Cyhoeddwyd gyntaf:
14 Hydref 2026
Diweddarwyd ddiwethaf:

Ym mis Gorffennaf, rhoddais ddiweddariad i aelodau am fy mwriad i ymgynghori ym mis Medi ar y dyfarniad cyflog diweddaraf ar gyfer athrawon. Mae'r ymgynghoriad hwn bellach wedi'i gynnal, ac hoffwn ddiolch i bartneriaid am eu hymatebion.

Gallaf gadarnhau y byddaf, yr wythnos nesaf, yn cyhoeddi fersiwn ddiwygiedig o Ddogfen Cyflog ac Amodau Athrawon Ysgol (Cymru) 2026 i 2027 a chanllawiau ar gyflog ac amodau athrawon ysgol (STPC(W)D) a fydd yn cynnwys cynnydd o 3.5% i raddfeydd cyflog athrawon ac arweinwyr ysgolion, a chynnydd o 5% i raddfa gyflog athrawon heb gymhwyso. Bydd darlithwyr Addysg Bellach hefyd yn derbyn codiad o 3.5% i sicrhau cydraddoldeb cyflog.

Rwy'n gwerthfawrogi'r ymatebion i'r ymgynghoriad a oedd yn mynegi siom nad yw'r dyfarniad cyflog a gynigir yn cyd-fynd ag argymhellion â chyngor Corff Adolygu Cyflogau Annibynnol Cymru. Fodd bynnag, ni fyddai cynnydd o 4.25% yn fforddiadwy o fewn cyllidebau presennol, ac felly rwyf wedi penderfynu gweithredu dyfarniad is.

O ystyried yr hinsawdd ariannol ansicr, mae'n rhaid i ni gydbwyso ystod o gyfrifoldebau ar draws ein gwasanaethau cyhoeddus. Yn ogystal â'n cefnogaeth i'r proffesiwn addysgu, rydym hefyd wedi ymrwymo i leihau amseroedd aros i gleifion y GIG, mynd i'r afael â chostau byw i deuluoedd a mynd i'r afael â thlodi plant. Fel rhan o'r penderfyniad traws-lywodraethol hwn, rydym yn ymwybodol y bydd angen i unrhyw gytundebau cyflog fod yn deg ac yn gymesur.

Rwy'n parhau i fod yn ymrwymedig i'r egwyddor dim anfantais, ac nid wyf am weld athrawon ac arweinwyr ysgolion yng Nghymru o dan anfantais o'i gymharu â'r rhai yn Lloegr. Felly, rydym wedi ymrwymo i godiad cyflog o 3.5% eleni, i gyd-fynd â'r hyn a argymhellir yn Lloegr.

Gallaf hefyd gadarnhau y bydd y STPC(W)D diwygiedig yn cynnwys y newidiadau yr ymgynghorais arnynt, gan gynnwys newidiadau i weithredu tri o argymhellion blaenorol Corff Adolygu Cyflogau Annibynnol Cymru, sy’n ganlyniad i weithio agos mewn partneriaeth gymdeithasol:

  • un raddfa gyflog ar gyfer athrawon dosbarth er mwyn iddynt symud i fyny’r raddfa gyflog, a gweld eu tâl yn cynyddu yn unol â hynny, bob blwyddyn
  • newidiadau i sicrhau bod cyfnodau gwyliau a penwythnosau arweinwyr yn cael eu diogelu
  • tynnu’r rhwystr i athrawon gael mynediad at gynlluniau aberthu cyflog presennol ar gyfer ceir

I weithredu’r newidiadau hyn, yr wythnos nesaf byddaf hefyd yn gwneud Gorchymyn Cyflog ac Amodau Athrawon Ysgol (Rhif 2) (Cymru) 2026 sy’n rhoi effaith i’r STPC(W)D. Bydd y dyfarniad cyflog yn cael ei ôl-ddyddio i 1 Medi 2026. Bydd amseru gweithredu’r dyfarniad yn fater i gyflogwyr, ac rwy’n annog cyflogwyr i drefnu bod yr ôl-daliad yn cael ei basio i’r gweithlu cyn gynted â phosibl.

Dros yr haf, gosodais gylch gwaith ar gyfer Corff Adolygu Cyflogau Annibynnol Cymru fel ei fod yn dechrau ystyried ei argymhellion cyn y dyfarniad cyflog ar gyfer 2027 i 2028, fel y gellir gwneud yr argymhellion hynny yn gynharach na’r hyn a oedd yn bosibl y flwyddyn flaenorol.