Neidio i'r prif gynnwy

Leighton Andrews, Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus

Cyhoeddwyd gyntaf:
10 Rhagfyr 2014
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Mae'r defnydd o gontractau dim oriau wedi cael sylw mawr ymhlith y cyhoedd, y byd gwleidyddol a'r cyfryngau yn y misoedd diwethaf. Mae contractau dim oriau wedi ennill eu plwyf mewn rhai sectorau a swyddi, ond mae eu defnydd wedi cynyddu'n sylweddol dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, ac mae pryderon mawr wedi bod ynghylch eu heffaith ar weithwyr a'r defnydd amhriodol a wneir ohonynt.

Rwy'n pryderu am y defnydd o gontractau dim oriau mewn gwasanaethau cyhoeddus, ac felly mae ymchwil yn cael ei chomisiynu ar eu defnydd a'u heffaith mewn gwasanaethau cyhoeddus datganoledig.

Rwyf wedi trafod yr ymchwil gyda phartneriaid cymdeithasol, i roi cyfle i undebau llafur a chyflogwyr y gwasanaeth cyhoeddus yng Nghymru lywio'r ymchwil.

Ar ôl i'r ymchwil gael ei chwblhau y flwyddyn nesaf, byddaf yn gwneud datganiad arall i'r Cynulliad Cenedlaethol.