Esbonio rôl yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch yn y broses cydsyniad seilwaith.
Cynnwys
Beth yw'r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch
Corff cyhoeddus statudol anadrannol sydd â statws y Goron yw'r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (yr Awdurdod). Caiff ei noddi gan yr Adran Gwaith a Phensiynau.
Beth mae'r Awdurdod yn ei wneud
Yr Awdurdod yw rheoleiddiwr cenedlaethol Prydain Fawr ar gyfer iechyd a diogelwch yn y gweithle.
Ei nod yw lleihau marwolaethau, anafiadau ac afiechydon sy'n gysylltiedig â gwaith. Mae'n gwneud hyn drwy'r ffyrdd canlynol:
- gwneud gwaith ymchwil
- darparu gwybodaeth a chyngor
- hyrwyddo hyfforddiant
- datblygu rheoliadau a chodau ymarfer
- cynnal gweithgareddau caniatâd a thrwyddedu gweithredu mewn diwydiannau perygl mawr
- cynnal arolygiadau ac ymchwiliadau wedi'u targedu
- cymryd camau gorfodi
- gweithio gydag awdurdodau lleol ac eraill
Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan yr Awdurdod.
Rôl yr Awdurdod wrth gynllunio defnydd tir
Mae gan yr Awdurdod brofiad a gwybodaeth ym maes peryglon damweiniau mawr. Mae'r rhain yn cynnwys peryglon lle gallai methiant ar safle arwain at niwed trychinebus oherwydd tân, ffrwydrad neu nwyon gwenwynig neu fflamadwy a gaiff eu rhyddhau.
Mae'r Awdurdod yn gweithredu fel ymgynghorai yng Nghymru, Lloegr a'r Alban i awdurdodau cynllunio ar y canlynol:
- ceisiadau am Gydsyniad Sylweddau Peryglus
mathau penodol o ddatblygiadau ger:
- gosodiadau perygl mawr
- piblinellau perygl damweiniau mawr
- safleoedd ffrwydrol trwyddedig yr Awdurdod
Mae'r Awdurdod yn pennu pellter ymgynghori o amgylch y safleoedd hyn.
Mae manylion am ddull gweithredu'r Awdurdod ym maes cynllunio defnydd tir ar gael ar wefan yr Awdurdod.
Yn ogystal, mae gan yr Awdurdod Ap Cyngor Cynllunio Ar-lein ar gyfer datblygwyr, awdurdodau lleol a rhanddeiliaid eraill. Gellir defnyddio'r ap ar-lein i wneud ymholiadau a chael cyngor gan yr Awdurdod yn uniongyrchol.
Mae hyn yn cynnwys cyngor am ddim ar p'un a yw datblygiad seilwaith arfaethedig o fewn y parth ymgynghori ar gyfer:
- safle perygl mawr
- piblinell perygl damweiniau mawr
- un o safleoedd ffrwydron trwyddedig yr Awdurdod
Rôl yr Awdurdod mewn prosiectau seilwaith arwyddocaol
Mae gan yr Awdurdod rôl bwysig i'w chwarae yn darparu cyngor ar ddiogelwch y cyhoedd mewn perthynas â phrosiectau seilwaith arwyddocaol arfaethedig.
Dylai ceiswyr ymgynghori â'r Awdurdod ar eu cynnig cyn gynted â phosibl. Mae hyn yn arbennig o bwysig ar y cam cyn gwneud cais.
Mae hyn yn berthnasol mewn achosion lle gallai prosiect seilwaith arwyddocaol effeithio ar ystyriaethau o ran peryglon damweiniau mawr.
Bydd yr Awdurdod yn ystyried:
a allai'r cynnig achosi damwain fawr, er enghraifft:
- a oes angen cydsyniad sylweddau peryglus ar gyfer y datblygiad
- a fydd y datblygiad yn cael ei gwmpasu gan y Rheoliadau Rheoli Peryglon Damweiniau Mawr (COMAH)
- a allai'r datblygiad effeithio ar safle Rheoli Peryglon Damweiniau Mawr- a allai damweiniau mawr ddigwydd fel rhan o'r datblygiad, er enghraifft, a yw wedi'i leoli o fewn parth ymgynghori o amgylch safle perygl mawr, piblinell perygl damweiniau mawr neu un o safleoedd ffrwydron trwyddedig yr Awdurdod
Wrth roi cyngor ar brosiectau seilwaith arwyddocaol, gallai'r Awdurdod hefyd dynnu sylw at:
- achosion lle mae'r cynnig ar safle perygl mawr presennol, a lle gallai'r datblygiad arwain at oblygiadau sylweddol o ran peryglon damweiniau mawr
- a ddylid gwneud cais i'r Awdurdod Sylweddau Peryglus am gydsyniad sylweddau peryglus newydd
- a oes angen amrywio cydsyniad(au) sylweddau peryglus presennol
a oes cyfleuster cyfagos wedi'i drwyddedu o dan:
- Rheoliadau Ffrwydron 2014 neu
- Rheoliadau Nwyddau Peryglus mewn Ardaloedd Harbwr 2016
Ymgynghori yn ystod y cam archwilio
Bydd PCAC, ar ran Gweinidogion Cymru, yn ymgynghori â'r Awdurdod ar ddechrau'r cam archwilio ar gyfer pob cais am brosiect seilwaith arwyddocaol.
Mae'r Awdurdod yn defnyddio'r un meini prawf i adolygu'r holl ddogfennau cais perthnasol a rhoi cyngor ar ddiogelwch y cyhoedd.
Dylai ceiswyr roi sylw llawn i unrhyw ymatebion y byddant yn eu cael gan yr Awdurdod yn ystod y cam cyn gwneud cais.
Os na fydd yr Awdurdod yn fodlon bod materion a godwyd yn ei ymateb wedi cael sylw ar y cam cyn gwneud cais neu'r cam archwilio, gall gysylltu â'r ceisydd yn uniongyrchol. Bydd yn gwneud hyn i gadarnhau sut y bydd y materion hyn yn cael eu datrys.
Bydd yr ymgysylltu hwn yn llywio p'un a fydd yr Awdurdod yn cyflwyno sylwadau i Weinidogion Cymru. Bydd hefyd yn llywio unrhyw gyfraniad pellach y gallai'r Awdurdod ei wneud wrth benderfynu ar y cais am brosiect seilwaith arwyddocaol.
Gwaith cwmpasu ar gyfer Asesu'r Effaith Amgylcheddol
Bydd PCAC yn hysbysu'r Awdurdod pan fydd yn derbyn cais am farn gwmpasu ar gyfer Asesiad o'r Effaith Amgylcheddol mewn perthynas â chais am brosiect seilwaith arwyddocaol arfaethedig.
Dylai unrhyw Ddatganiad Amgylcheddol a baratoir gan y ceisydd fel rhan o gais am brosiect seilwaith arwyddocaol gynnwys:
disgrifiad o effeithiau andwyol sylweddol disgwyliedig y datblygiad ar yr amgylchedd yn deillio o ba mor agored yw’r datblygiad i risgiau damweiniau mawr a/neu drychinebau sy’n berthnasol i’r prosiect dan sylw.
Pan ymgynghorir â'r Awdurdod, bydd yr Awdurdod yn darparu gwybodaeth ddefnyddiol am y maen prawf hwn ar gyfer ceisiadau perthnasol. Gall ceiswyr ddefnyddio'r wybodaeth hon er mwyn helpu i baratoi eu Datganiad Amgylcheddol.
Asesiadau risg
Nid yw'r Awdurdod yn chwarae rôl fel arfer wrth archwilio asesiadau risg neu beryglon fel rhan o unrhyw gais am brosiect seilwaith arwyddocaol.
Nid oes disgwyl i geiswyr gyflwyno asesiad risg i'r Awdurdod fel rhan o'r broses gynllunio.
Fodd bynnag, gallai fod yn ddefnyddiol i geiswyr gynnal asesiad risg cyn gynted â phosibl. Gall yr asesiad hwn eu helpu i gadarnhau y bydd dyluniad a gweithrediad eu prosiect seilwaith arwyddocaol arfaethedig yn bodloni deddfwriaeth iechyd a diogelwch berthnasol wrth i'r cynnig gael ei ddatblygu.
Manylion cyswllt yr Awdurdod
Anfonwch bob gohebiaeth am brosiectau seilwaith arwyddocaol i:
O dan amgylchiadau eithriadol, os na ellir anfon e-bost, anfonwch ohebiaeth i:
NSIP/SIP Consultations
1.2 Health and Safety Executive
Redgrave Court
Merton Road
Bootle
Merseyside
L20 7HS
Mae gan yr Awdurdod ffyrdd o dderbyn mathau mawr o ffeiliau. Cysylltwch â'r cyfeiriad e-bost uchod i gael rhagor o fanylion.
Peidiwch ag anfon copïau caled dyblyg yn ogystal ag e-bost.
Peidiwch ag anfon cyfryngau cludadwy (e.e. CDs, DVDs a gyriannau USB) at yr Awdurdod.
Mae manylion cyswllt eraill yr Awdurdod mewn perthynas â chynllunio defnydd tir, gan gynnwys ar gyfer yr Ap ar-lein, ar gael ar wefan yr Awdurdod.
