Neidio i'r prif gynnwys

Trosolwg o'r asesiad effaith ar gydraddoldeb

1. Mae Llywodraeth Cymru yn cyflwyno Bil i ddiwygio agweddau ar Ddeddfau Trethi Cymru. Mae Deddfau Trethi Cymru yn cynnwys Deddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016, Deddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017 a Deddf Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) 2017. Gyda'i gilydd, mae'r Deddfau hyn yn sefydlu ac yn llywodraethu trethi datganoledig Cymru a phwerau a swyddogaethau Awdurdod Cyllid Cymru (ACC).

Mae'r Bil yn cynnwys pecyn o fesurau sy'n ymwneud â llywodraethu, gweinyddu a gweithrediad technegol system dreth Cymru, gan gynnwys trefniadau gwneud penderfyniadau ACC, pwerau rhannu gwybodaeth, prosesau cydymffurfio a gwneud y ddeddfwriaeth dreth bresennol yn fwy eglur. Bwriad y mesurau yw gwella eglurder, tegwch, effeithiolrwydd a gweinyddiaeth trethi datganoledig yng Nghymru. Er bod y Bil wedi'i lywio gan gynigion yr ymgynghorwyd arnynt yn gyhoeddus, nid yw'n cynnwys yr holl fesurau a ystyriwyd yn wreiddiol drwy'r broses ymgynghori honno.

Cynhaliodd ACC a Llywodraeth Cymru ymgynghoriad cyhoeddus ar gynigion deddfwriaethol mewn perthynas â Deddfau Trethi Cymru rhwng mis Tachwedd 2025 a mis Ionawr 2026. Ceir manylion yr ymgynghoriad a'i ganlyniadau yn y ddogfen ymgynghori, Cynigion Deddfwriaethol, a'r Crynodeb o'r Ymatebion. Nododd yr ymatebion i'r ymgynghoriad, er bod y cynigion yn rhai technegol a gweinyddol yn bennaf, mai eu heffaith fwyaf uniongyrchol ar unwaith fyddai ar drethdalwyr a sefydliadau sy'n gweithredu o fewn cyfundrefnau trethi datganoledig, yn enwedig y rhai sy'n ymwneud â thrafodiadau eiddo (y Dreth Trafodiadau Tir), gweithgareddau tirlenwi a gwaredu gwastraff (y Dreth Gwarediadau Tirlenwi), a'r cynghorwyr proffesiynol, megis ymarferwyr treth, cyfrifwyr ac asiantau, sy'n cefnogi cydymffurfedd yn y sectorau hyn.

Mae proffil yr ymatebwyr, sef cyrff proffesiynol, cynrychiolwyr y diwydiant ac unigolion sydd â phrofiad uniongyrchol o system dreth Cymru yn bennaf, yn adlewyrchu natur dechnegol y cynigion a'u perthnasedd i weinyddu trethi a chydymffurfio â nhw. Disgwylir i'r mesurau sydd wedi'u cynnwys yn y Bil gael effaith weithredol ar gyrff yn y sector cyhoeddus, gan gynnwys ACC, Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol, yn enwedig mewn perthynas â phwerau rhannu gwybodaeth a phrosesau gweinyddol. Mae rhai mesurau yn gwneud y rheolau treth presennol yn fwy eglur ac mae'n bosibl mai ar nifer cymharol fach o drethdalwyr sy'n ddarostyngedig i'r rheolau hynny y byddant yn effeithio. Disgwylir i'r effeithiau hyn fod yn gyfyngedig ac i godi'n bennaf o ganlyniad i fwy o eglurder a sicrwydd o ran gweithrediad y system dreth. Hefyd, gall lleiafrif bach o drethdalwyr brofi newidiadau yn y ffordd y mae ACC yn rhyngweithio â nhw wrth arfer ei bwerau o dan y Ddeddf Casglu a Rheoli Trethi. At ei gilydd, ymhlith sefydliadau ac unigolion sy’n ymwneud yn uniongyrchol â gweinyddu trethi a chydymffurfio â nhw, heb fawr ddim effaith, os o gwbl, ar y mwyafrif helaeth o’r boblogaeth, y disgwylir i’r effeithiau godi fwyaf.

Mae'r mesurau yn y Bil yn ymwneud â llywodraethu, gweinyddu a gweithrediad technegol ACC ac â gwneud y ddeddfwriaeth dreth bresennol yn fwy eglur. Felly, maent yn weithdrefnol eu natur ac yn gymwys yn gyffredinol i drethdalwyr, busnesau a chyrff cyhoeddus, heb dargedu unigolion ar sail nodweddion gwarchodedig. Nid oes unrhyw dystiolaeth wedi'i nodi ar hyn o bryd sy'n dangos y byddai'r mesurau yn arwain at effeithiau gwahaniaethol uniongyrchol.

Effaith fwriadedig y Bil yw gwella eglurder, tegwch a chysondeb system dreth Cymru. Disgwylir i fesurau megis mireinio cyfrifiadau llog, gwneud rheolau treth yn fwy eglur a chysoni prosesau gweinyddol gefnogi triniaeth fwy tryloyw a theg mewn perthynas â threthdalwyr. Yn yr un modd, nod y trefniadau rhannu gwybodaeth gwell yw gwella cydymffurfedd a'r ffordd y darperir gwasanaethau cyhoeddus, gyda mesurau diogelu ar waith i sicrhau bod data yn cael eu defnyddio'n gymesur, yn ddiogel ac at ddibenion penodol. Ategir y rhain gan fesurau diogelu cyfreithiol ehangach, gan gynnwys deddfwriaeth diogelu data (Diogelu Data: Deddfwriaeth diogelu data'r DU ar GOV.UK), sy'n ei gwneud yn ofynnol i ddata personol gael eu prosesu'n gyfreithlon, yn deg ac yn dryloyw.

Fodd bynnag, mae'r asesiad yn cydnabod y gall effeithiau anuniongyrchol godi'n ymarferol, yn enwedig pan fo unigolion yn wynebu rhwystrau i ymgysylltu â phrosesau gweinyddol neu gydymffurfio. Gall hyn effeithio, er enghraifft, ar bobl anabl, unigolion sy'n profi allgáu digidol, neu'r rhai sydd â rhwystrau iaith. Gall gweithgareddau cydymffurfio, gan gynnwys ymateb i hysbysiadau gwybodaeth, ymgysylltu ag ymholiadau neu fynd drwy apeliadau, greu heriau ychwanegol os na chânt eu cyflawni mewn ffordd hygyrch a chymesur.

Mae'r risgiau hyn yn cael eu lliniaru drwy'r fframwaith presennol o fesurau diogelu, gan gynnwys yr hawl i gael adolygiad (Deddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016), darpariaethau esgus rhesymol (Deddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016 - Nodiadau Esboniadol) a'r defnydd cymesur o bwerau (What is proportionality? Sefydliad Hawliau Dynol Prydain). Bydd prosesau cyfathrebu clir, canllawiau hygyrch ac ymgysylltu hyblyg yn bwysig er mwyn sicrhau bod unigolion yn gallu deall a chyflawni eu rhwymedigaethau. Hefyd, mae ACC wedi'i rwymo gan ei Siarter.

I grynhoi, ni ddisgwylir i'r mesurau yn y Bil arwain at wahaniaethu uniongyrchol. Rhagwelir y bydd unrhyw effeithiau anuniongyrchol posibl yn gyfyngedig ac y bydd modd eu lliniaru drwy fesurau diogelu sefydledig a phroses weithredu gynhwysol, ac mai'r effaith gyffredinol yw cefnogi system dreth fwy effeithiol, cyson a theg yng Nghymru.

Cyflwyniad

1. Mae Deddf Cydraddoldeb 2010 yn gosod Dyletswydd Cydraddoldeb Gyffredinol ar Weinidogion Cymru i roi sylw dyladwy i'r angen i ddileu gwahaniaethu, hyrwyddo cyfle cyfartal, a meithrin cysylltiadau da rhwng grwpiau sy'n rhannu nodweddion gwarchodedig a'r rhai nad ydynt yn eu rhannu. Mae hyn yn cynnwys rhoi sylw dyladwy i ddileu neu leihau anfanteision a brofir gan bobl oherwydd eu nodweddion gwarchodedig a chymryd camau i ddiwallu eu hanghenion pan fo'r rhain yn wahanol i anghenion pobl eraill.

2. Cynhaliwyd yr Asesiad hwn o'r Effaith ar Gydraddoldeb ochr yn ochr ag ystyriaeth ehangach o'r cynigion sy'n ymwneud â Deddfau Trethi Cymru, gan gynnwys tystiolaeth berthnasol ynglŷn â pholisi a gweithredu a thystiolaeth gan randdeiliaid. Mae'r asesiad yn defnyddio ymatebion i'r ymgynghoriad, ymgysylltu â rhanddeiliaid, a phrofiad gweithredol Awdurdod Cyllid Cymru i nodi effeithiau posibl. Lle y bo'n berthnasol, dylid darllen yr Asesiad hwn o'r Effaith ar Gydraddoldeb ochr yn ochr â thystiolaeth ac asesiadau ategol eraill a lywiodd y gwaith o ddatblygu'r cynigion.

3. Wrth gynnal yr asesiad hwn, rhoddwyd ystyriaeth i bob darpariaeth yn y Bil. Newidiadau technegol a gweinyddol i lywodraethu a gweithrediad deddfwriaeth dreth ddatganoledig yw'r cynigion yn bennaf, er bod yr asesiad hefyd wedi ystyried y mesurau treth mwy penodol sydd wedi'u cynnwys yn y Bil. Er nad yw'r cynigion wedi'u llunio i effeithio'n uniongyrchol ar unigolion ar sail nodweddion gwarchodedig, mae'r Asesiad hwn o'r Effaith ar Gydraddoldeb wedi ystyried a allent arwain at effeithiau anuniongyrchol, yn enwedig pan fo unigolion yn wynebu rhwystrau i gymryd rhan mewn prosesau gweinyddu trethi a chydymffurfio â nhw. Mae darpariaethau nas trafodir yn fanwl yn ddiweddarach yn yr asesiad hwn wedi cael eu hystyried ac ystyrir nad ydynt yn debygol o arwain at effeithiau perthnasol ar gydraddoldeb.

4. At ei gilydd, mae'r asesiad hwn yn dod i'r casgliad nad yw'r cynigion yn debygol o arwain at effeithiau gwahaniaethol uniongyrchol ar bobl sy'n rhannu nodweddion gwarchodedig. Fodd bynnag, mae'n cydnabod y gall rhai effeithiau anuniongyrchol godi'n ymarferol, yn enwedig i unigolion a allai brofi rhwystrau i ddefnyddio neu gymryd rhan mewn prosesau gweinyddol (er enghraifft oherwydd anabledd, iaith, neu allgáu digidol). Pan nodir effeithiau negyddol posibl, mae mesurau lliniaru priodol wedi'u hystyried i leihau'r rhain i'r eithaf neu i fynd i'r afael â nhw.

5. Wrth ystyried y nodweddion gwarchodedig, cydnabyddir y gall unigolion brofi ffurfiau lluosog a gorgyffyrddol o anfantais, ac na phrofir nodweddion gwarchodedig ar eu pen eu hunain. Felly mae'r asesiad hwn yn ystyried y potensial ar gyfer effeithiau cronnus neu groestoriadol, gan gynnwys pan fo nodweddion gwarchodedig yn gallu croestori â ffactorau economaidd-gymdeithasol ehangach.

Disgrifiwch ac esboniwch effaith y cynnig ar bobl â nodweddion gwarchodedig fel y'u disgrifir yn Neddf Cydraddoldeb 2010

Oedran

6. Disgwylir i effaith y cynigion mewn perthynas ag oedran fod yn niwtral i fach, gyda rhai effeithiau anuniongyrchol. Gall trethdalwyr iau a hŷn gael budd o brosesau cliriach a mwy cyson, megis gwell cyfrifiadau llog a thriniaeth decach o'r rhai sy'n talu'r ardoll ymwelwyr. Fodd bynnag, mae effaith negyddol anuniongyrchol bosibl os bydd prosesau cydymffurfio - megis apeliadau neu ymateb i hysbysiadau gwybodaeth - yn fwy cymhleth i unigolion hŷn. Er bod y cynigion yn weinyddol ac yn gymwys i bob trethdalwr yn yr un modd, mae'r dystiolaeth o'r ffordd y darperir gwasanaethau cyhoeddus yn fwy cyffredinol yn awgrymu y gall pobl hŷn brofi allgáu digidol neu rwystrau wrth ymwneud â systemau gweinyddol. Ar hyn o bryd nid oes unrhyw dystiolaeth wedi'i dadgyfuno yn ôl oedran sy'n benodol i brosesau ACC. Er mwyn lliniaru effeithiau posibl, bydd canllawiau ar gael mewn sawl fformat (digidol a heb fod yn ddigidol), ochr yn ochr â llwybrau cyfathrebu a chymorth clir a hygyrch. Lle y bo modd, bydd data ar gwynion ac apeliadau yn cael eu monitro yn ôl oedran.

Anabledd

7. O ran pobl anabl, mae potensial ar gyfer effeithiau negyddol anuniongyrchol pan fo prosesau cydymffurfio - megis ymateb i ymholiadau, hysbysiadau gwybodaeth, neu arolygiadau - yn creu rhwystrau. Fodd bynnag, mae cyfle cadarnhaol hefyd i wella hygyrchedd drwy brosesau a mesurau diogelu cliriach, gan gynnwys hawl i apelio.

8. Cymhwyso'r model cymdeithasol o anabledd, mae rhwystrau yn debygol o godi o ffactorau megis ffurflenni cymhleth, dulliau cyfathrebu anhygyrch, neu derfynau amser anhyblyg, yn hytrach nag o amhariadau'r unigolion eu hunain. Er nad yw'r cynigion yn targedu pobl anabl yn uniongyrchol, gall beichiau gweinyddol gael effaith anghymesur arnynt, ac ar hyn o bryd mae'r dystiolaeth ynghylch profiad trethdalwyr anabl o brosesau ACC yn gyfyngedig.

9. Byddwn yn archwilio'r defnydd o gyfathrebu hygyrch ac addasiadau rhesymol mewn achosion penodol. Gellir monitro data cydraddoldeb lle bo hynny ar gael.

Ailbennu rhywedd

10. Ni ragwelir unrhyw effaith wahaniaethol i unigolion sy'n mynd drwy ailbennu rhywedd nac i bobl drawsryweddol. Mae'r cynigion yn ymwneud â gweinyddu a llywodraethu trethi ac nid ydynt yn gwahaniaethu ar sail hunaniaeth rhywedd. Nid oes unrhyw dystiolaeth sy'n awgrymu effaith anghymesur. Bydd mesurau lliniaru yn canolbwyntio ar gynnal iaith gynhwysol a mesurau diogelu preifatrwydd cadarn, yn enwedig mewn perthynas ag ymdrin â gwybodaeth trethdalwyr a'i rhannu. Nid yw cael Tystysgrif Cydnabod Rhywedd yn effeithio ar rwymedigaethau treth perthnasol unigolyn. Mae CThEF yn cynghori ei fod fel arfer yn cael ei hysbysu'n awtomatig pan fydd person yn newid rhywedd yn gyfreithiol ac y bydd yn diweddaru ei gofnodion yn unol â hynny. Mae awdurdodau treth fel arfer yn dibynnu ar wybodaeth adnabod trethdalwyr gywir a, phan fydd manylion personol fel enw neu rywedd cyfreithiol yn cael eu diweddaru, gall y newidiadau hyn gael eu hadlewyrchu yn yr wybodaeth a rennir rhwng cyrff cyhoeddus at ddibenion gweinyddu trethi. O ganlyniad, ni ddisgwylir i'r polisi greu unrhyw effaith wahaniaethol ar unigolion sydd â'r nodwedd warchodedig o ailbennu rhywedd.

Beichiogrwydd a mamolaeth

11. Mae potensial ar gyfer effeithiau negyddol anuniongyrchol ar unigolion sy'n feichiog neu ar absenoldeb mamolaeth, yn enwedig pan fo llai o allu o bosibl i ymgysylltu â phrosesau cydymffurfio fel ymholiadau neu apeliadau. I’r gwrthwyneb, efallai y bydd rhywfaint o effaith gadarnhaol o ganlyniad i brosesau tecach sy’n lleihau ansicrwydd ariannol, megis prosesau ad-dalu cliriach sy'n lleihau'r risg o rwymedigaethau diweddarach.

12. Er nad yw'r cynigion yn targedu'r grŵp hwn yn benodol, gall gofynion gweinyddol fod yn fwy heriol yn ystod beichiogrwydd neu wrth ofalu am faban newydd-anedig. Mae'r dystiolaeth ynghylch sut mae prosesau ACC yn rhyngweithio â chyfrifoldebau gofalu yn gyfyngedig. Bydd mesurau lliniaru yn cynnwys hyblygrwydd o ran terfynau amser ac ymgysylltu, cyfleu hawliau'n glir (gan gynnwys apeliadau ac adolygiadau), a chyfeirio at ddarpariaethau esgus rhesymol.

Hil

13. Gall effeithiau negyddol anuniongyrchol posibl godi i bobl o gefndiroedd ethnig leiafrifol (Digitalising essential services risks widening inequalities for minoritised ethnic communities), gan gynnwys mudwyr, ceiswyr lloches, ffoaduriaid (Refugees and Digital Exclusion - y Ganolfan Astudiaethau Ffoaduriaid) a chymunedau Sipsiwn a Theithwyr (Gypsies’ and Travellers' lived experiences, health, England and Wales - y Swyddfa Ystadegau Gwladol). Gall rhwystrau iaith, gwahanol lefelau o ymddiriedaeth mewn awdurdodau cyhoeddus, ac anghynefindra â systemau treth effeithio ar ymgysylltu. Ar yr un pryd, gall prosesau cliriach a mwy cyson arwain at effeithiau cadarnhaol. Mae tystiolaeth o wasanaethau cyhoeddus ehangach yn dangos y gallai'r grwpiau hyn wynebu rhwystrau oherwydd cymhlethdod systemau a heriau cyfathrebu. Gall cynigion ynglŷn â rhannu gwybodaeth hefyd godi pryderon ynghylch sut y caiff data eu defnyddio, er bod mesurau diogelu yn cael eu cynnig. Ar hyn o bryd mae data penodol ar ethnigrwydd yng nghyd-destun ACC yn gyfyngedig. Mae mesurau lliniaru yn cynnwys rhoi canllawiau amlieithog lle bo'n briodol, sicrhau tryloywder ynghylch defnyddio data a mesurau diogelu, ymgysylltu â grwpiau cynrychioliadol, a monitro effeithiau pan fo'r data yn caniatáu.

Rhyw / rhywedd

14. Disgwylir i effeithiau mewn perthynas â rhyw fod yn niwtral i raddau helaeth, er y gall effeithiau anuniongyrchol godi. Mae menywod yn fwy tebygol o fod â chyfrifoldebau gofalu ac felly gall beichiau gweinyddol neu bwysau ariannol, fel ad-daliadau a gadwyd yn ôl, gael effaith anghymesur arnynt. Mae data economaidd-gymdeithasol ehangach (Inequalities faced by unpaid carers - Llyfrgell Tŷ’r Cyffredin) yn cefnogi hyn, er bod y polisïau eu hunain yn niwtral o ran rhywedd. Bydd mesurau lliniaru yn cynnwys hyblygrwydd o ran ymgysylltu, cyfathrebu clir, a monitro am effeithiau anghymesur drwy ddata ar gwynion neu apeliadau. Bydd ymwybyddiaeth o gamau diogelu a hawliau apelio hefyd yn cael ei hyrwyddo.

Priodas a phartneriaeth sifil

15. Disgwylir i'r effeithiau fod yn fach iawn. Gall rhai eglurhadau technegol, fel y rhai sy'n ymwneud â thrafodiadau “A i A+B”, gynnig manteision cadarnhaol drwy wneud trefniadau eiddo a ddelir ar y cyd yn fwy eglur. Mae'r newidiadau hyn yn gymwys yn yr un modd, ni waeth beth fo statws priodasol unigolion, ac ni nodwyd unrhyw effaith wahaniaethol rhwng cyplau priod a di-briod. Bwriedir rhoi canllawiau clir ar drafodiadau eiddo a'r goblygiadau treth cysylltiedig fel cam lliniaru.

Plant a phobl ifanc (dan 18 oed); cyfeiriadedd rhywiol; crefydd, cred a diffyg cred

16. Ni ragwelir unrhyw effeithiau uniongyrchol o ran plant a phobl ifanc, cyfeiriadedd rhywiol, a chrefydd, cred a diffyg cred. Mae trethi a weinyddir gan ACC yn gymwys i oedolion a sefydliadau yn bennaf, ac nid yw'r cynigion yn ymdrin â'r nodweddion hyn nac yn gwahaniaethu ar sail y nodweddion hyn. Disgwylir i unrhyw effeithiau anuniongyrchol fod yn fach iawn, er enghraifft mewn achosion prin pan fo pobl ifanc yn ymwneud â threfniadau eiddo neu fusnes, neu pan fo gweithgareddau cydymffurfio yn cyd-daro â defodau crefyddol. Nid oes unrhyw dystiolaeth o effaith anghymesur. Bydd mesurau lliniaru yn canolbwyntio ar gynnal prosesau cyfathrebu cynhwysol a hygyrch, diogelu preifatrwydd wrth ymdrin â data, a sicrhau hyblygrwydd rhesymol mewn prosesau gweithredol lle y bo'n briodol. Ystyrir nad oes angen unrhyw fesurau lliniaru wedi'u targedu y tu hwnt i'r mesurau diogelu cyffredinol hyn.

Grŵp a allai fod yn agored i niwed sy'n rhannu nodweddion nad ydynt wedi'u diogelu'n ffurfiol gan Ddeddf Cydraddoldeb 2010

Cartrefi incwm isel

17. Gall aelwydydd incwm isel brofi effeithiau negyddol anghymesur, yn enwedig pan fo cosbau, cyfraddau llog, neu ad-daliadau a gadwyd yn ôl yn effeithio ar lif arian. Fodd bynnag, efallai y bydd effeithiau cadarnhaol posibl hefyd drwy fwy o degwch a llai o risg o rwymedigaethau ôl-weithredol. Mae'r dystiolaeth (How to reform HMRC penalties for people on low incomes) o systemau treth yn dangos bod cosbau ariannol a phwysau llif arian yn tueddu i gael mwy o effaith ar unigolion incwm isel. Er nad yw'r cynigion wedi'u targedu at grwpiau incwm, gall effeithiau anghyfartal godi'n ymarferol. Bydd mesurau lliniaru yn cynnwys cynnal mesurau diogelu megis hawliau apelio a darpariaethau esgus rhesymol, sicrhau prosesau cyfathrebu a chymorth clir, ac ystyried monitro effeithiau ar drethdalwyr sydd mewn sefyllfa fregus yn ariannol.

Hawliau Dynol a Chonfensiynau'r Cenhedloedd Unedig

18. Mae'r cynigion yn berthnasol i nifer o hawliau dynol ond ar y cyfan ystyrir y bydd yr effeithiau yn gyfyngedig ac yn gymesur, gyda rhai effeithiau cadarnhaol.

19.nMae Erthygl 8 (hawl i breifatrwydd) yn berthnasol drwy'r pwerau estynedig i rannu gwybodaeth ac archwilio. Fodd bynnag, bydd unrhyw ymyrraeth yn gyfyngedig, gan fod cyfyngiadau ar rannu data a'i fod rhwym wrth ddiben ac yn destun mesurau diogelu. Dim ond i safleoedd busnes (nid cartrefi preifat) y bydd pwerau archwilio yn gymwys, fel arfer mae angen rhoi rhybudd, ac maent yn cynnwys mesurau diogelu megis profion cymesuredd, hawliau apelio, a goruchwyliaeth tribiwnlys. O ganlyniad, asesir unrhyw effaith ar breifatrwydd fel un sydd wedi'i chyfiawnhau, yn angenrheidiol, ac yn gymesur.

20. Mae Erthygl 1 o Brotocol 1 (hawliau eiddo) yn berthnasol pan fo ad-daliadau yn cael eu cadw'n ôl. Rydym wedi asesu bod yr effaith yn debygol o fod yn gyfyngedig ac yn un sydd wedi'i gyfiawnhau, o ystyried y nod o sicrhau bod treth yn cael ei hasesu a'i chasglu'n gywir ynghyd â mesurau diogelu priodol.

21. Mae Erthygl 6 (hawl i gael treial teg) yn berthnasol mewn ffordd gadarnhaol, gan fod y cynigion yn cyflwyno neu’n cynnal hawliau apelio ac adolygu clir, gan gryfhau tegwch a mynediad at iawn i drethdalwyr.

22. At ei gilydd, mae'r cynigion yn cynnal mesurau diogelu priodol ac yn sicrhau mwy o degwch gweithdrefnol, heb unrhyw effeithiau andwyol sylweddol ar hawliau dynol wedi'u nodi.

Hawliau dinasyddion yr UE/AEE a'r Swistir

23. Ni ddisgwylir i'r cynigion gael effaith uniongyrchol ar hawliau dinasyddion yr UE, yr AEE, na'r Swistir a ddiogelir o dan y Cytundebau Hawliau Dinasyddion. Mae'r mesurau yn ymwneud â phrosesau gweinyddu trethi, eu llywodraethu a chydymffurfio â nhw, sy'n gymwys yn yr un modd ni waeth beth fo cenedligrwydd neu statws mewnfudo unigolion.