Adolygiad o addysg uwch yng Nghymru: aelodau
Aelodau o gorff cynghori’r adolygiad o addysg uwch yng Nghymru.
Ar y dudalen hon
Cadeirydd
Athro Patrick Prendergast
Mae'r Athro Patrick Prendergast FREng yn Ganghellor ac yn Gadeirydd Corff Llywodraethu Prifysgol Dechnolegol De-ddwyrain Iwerddon (SETU), ac roedd yn Llywydd a Phrofost Coleg y Drindod Dulyn rhwng 2011 a 2021.
Yng Ngholeg y Drindod, Dulyn, arweiniodd ddatblygiadau mawr ym maes partneriaethau, ymchwil, arloesi a chodi arian, gan gynnwys ymgyrch gyfalaf gwerth €400 miliwn. Yn flaenorol, bu mewn nifer o swyddi arweinyddiaeth academaidd uwch, mae wedi cyhoeddi dros 250 o bapurau, gwasanaethodd ar Fwrdd Llywodraethu Sefydliad Arloesi a Thechnoleg Ewrop, ac ar hyn o bryd mae'n cadeirio neu'n gyd-gadeirio nifer o fentrau diwylliannol ac ymchwil.
Aelodau
Dame Nicola Dandridge
Mae Dame Nicola Dandridge yn gymrawd gwadd ym Mhrifysgol Bryste ac yn Ysgol Economeg a Gwyddor Wleidyddol Llundain (LSE), lle mae'n ymchwilio i bolisi a llywodraethu addysg uwch. Mae hefyd yn gadeirydd y Council for At Risk Academics. Rhwng 2024 a 2026, bu'n uwch gymrawd yng Nghanolfan M-RCBG Ysgol Kennedy Harvard, ac hyd at 2022 hi oedd Prif Weithredwr cyntaf y Swyddfa Myfyrwyr (Office for Students), sef y rheoleiddiwr addysg uwch yn Lloegr. Cyn hynny, bu'n arwain Universities UK, y corff cynrychioliadol ar gyfer prifysgolion y Deyrnas Unedig.
Dr Joe Marshall
Mae Dr Joe Marshall yn arwain y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Prifysgolion a Busnes (NCUB), sefydliad sy’n ymroddedig i ddatgloi potensial cydweithredol y DU. Gan weithio ar y rhyngwyneb rhwng diwydiant, y byd academaidd a llywodraethau, mae NCUB yn rhwydwaith annibynnol sy’n adeiladu’r sylfaen dystiolaeth genedlaethol, yn dod ag arweinwyr ynghyd ac yn ffurfio clymbleidiau sy’n galluogi sefydliadau i weithredu ar y cyd.
Cyn ymuno â’r Ganolfan Genedlaethol, bu Dr Marshall yn gweithio mewn rolau ar draws llywodraeth a sefydliadau prifysgol. Fel academydd sy’n arbenigo mewn polisi ac ymarfer addysg, bu’n gweithio gyda nifer o asiantaethau rhyngwladol, gan gynnwys UNESCO, Sefydliad Iechyd y Byd (WHO) a Senedd Ewrop.
Yn ymchwilydd ym Mhrifysgol Manceinion, aeth ymlaen i ddal swyddi Uwch Ddarlithydd ym Mhrifysgol Hope Lerpwl a Phrifysgol Caerwrangon cyn gweithio i UK Sport (asiantaeth y llywodraeth ar gyfer chwaraeon elît) ac yna Gemau Olympaidd a Pharalympaidd Llundain 2012.
Dr Dylan E. Jones
Mae Dr Dylan E. Jones yn arweinydd profiadol ym maes addysg sydd wedi bod mewn rolau uwch mewn ysgolion, addysg uwch a pholisi addysg cenedlaethol am dros dri degawd. Bu’n Ddirprwy Is-Ganghellor Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant rhwng 2018 a 2024, gan arwain trawsnewid sefydliadol, strategaeth academaidd, datblygu ymchwil a meithrin partneriaethau yng Nghymru a thu hwnt.
Cyn symud i addysg uwch, cafodd Dr Jones yrfa nodedig ym maes addysg cyfrwng Cymraeg fel pennaeth ysgolion uwchradd ac ysgolion pob oed, gan dderbyn Rhagoriaeth yng Ngwobrau Addysgu Cymru. Drwy gydol ei yrfa, mae wedi gwneud cyfraniad sylweddol at ddiwygio addysg yng Nghymru, gan gynghori Llywodraeth Cymru ar ddatblygu’r cwricwlwm, cymwysterau, arweinyddiaeth a gwella ysgolion. Ers gadael PCDDS, mae wedi parhau i gefnogi mentrau cenedlaethol, gan gynnwys arwain adolygiad Llywodraeth Cymru o bartneriaid addysg a gwasanaethu fel Cadeirydd Dysgu, corff dysgu proffesiynol cenedlaethol Cymru.
Maike Halterbeck
Mae Maike Halterbeck yn Bartner yn London Economics ac yn gyd-bennaeth yr Ymarfer Addysg a Marchnadoedd Llafur. Mae’n arbenigo ym maes economeg addysg, gyda phrofiad ac arbenigedd arbennig mewn cyllido addysg uwch a systemau cymorth i fyfyrwyr.
Mae Maike wedi arwain nifer o ddadansoddiadau o drefniadau cyllido addysg uwch yng Nghymru, ar draws y Deyrnas Unedig ac yn Iwerddon. Mae ei gwaith wedi llywio penderfyniadau llunwyr polisi, prifysgolion a sefydliadau’r sector, gan gynnwys Llywodraeth Cymru, Llywodraeth y DU, pleidiau gwleidyddol, grwpiau cenhadaeth prifysgolion, undebau llafur, melinau trafod, elusennau, sefydliadau addysg bellach a’r Comisiwn Ewropeaidd.
Mae ei phrosiectau wedi cynnwys asesu effaith Adolygiad Augar o Gyllido Addysg Uwch yn Lloegr, dadansoddi’r diwygiadau cyllido dilynol a’u goblygiadau i Loegr a Chymru, gwerthuso ymrwymiadau maniffesto ym maes addysg uwch cyn etholiadau’r DU a Chymru, ac archwilio effaith adolygiad y Swyddfa Ystadegau Gwladol o’r ffordd y caiff benthyciadau myfyrwyr eu trin mewn cyfrifon cenedlaethol.
Bethan Owen
Mae Bethan Owen yn gyfrifydd siartredig ac yn gyn-dirprwy Brif Weithredwr a Phrif Weithredwr dros dro Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC). Goruchwyliodd y broses o drosglwyddo staff a chyfrifoldebau’r CCAUC i Medr, y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil newydd, ac roedd yn gyfarwyddwr gweithredol yn Medr yn ystod ei flwyddyn sefydlu. Mae gan Bethan dros 20 mlynedd o brofiad o weithio gyda phrifysgolion yng Nghymru a'u rheoleiddio, gan ganolbwyntio'n benodol ar lywodraethiant, cynaliadwyedd ariannol a rheoli risg. Yn y gorffennol, gweithiodd i PwC (a'i rhagflaenwyr), lle bu'n gweithio gyda sefydliadau cyhoeddus, elusennol a phreifat er elw fel archwilydd ac ymgynghorydd ar amrywiol faterion ariannol. Mae Bethan yn llywodraethwr ysgol mewn ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg, yn ymddiriedolwr elusen, ac yn aelod o bwyllgor archwilio a risg Comisiynydd y Gymraeg.
Dr Haydn E. Edwards
Mae Dr Haydn E. Edwards yn ymgynghorydd addysg annibynnol yn dilyn gyrfa nodedig ym maes gwyddoniaeth, addysg bellach ac arweinyddiaeth addysgol. Ar ôl graddio mewn Cemeg o Brifysgol Salford a chwblhau doethuriaeth mewn cemeg ymbelydredd, bu’n dal swyddi ymchwil yn y DU ac UDA cyn symud i reolaeth ym maes addysg.
Daeth Haydn yn Bennaeth ac yn Brif Weithredwr Coleg Pencraig ac yn ddiweddarach Coleg Gwynedd, cyn arwain eu huno i greu Coleg Menai. Mae’n Gymrawd o’r Gymdeithas Gemeg Frenhinol, Cymdeithas Ddysgedig Cymru, Prifysgol Wrecsam a’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol, ac mae’n aelod anrhydeddus o Orsedd Cymru.
Mae wedi cadeirio nifer o adolygiadau ar ran Llywodraeth Cymru ac wedi ymgymryd ag amrywiaeth o rolau llywodraethu, gan gynnwys Ymddiriedolwr ac Is-lywydd Amgueddfa Cymru, Cyfarwyddwr Anweithredol gydag Estyn, a Chadeirydd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Mae ei ddiddordebau’n cynnwys hanes rheilffyrdd, cerddoriaeth a chwaraeon.
Louise Casella
Mae Louise Casella yn arweinydd profiadol ym maes addysg uwch ac yn ymgynghorydd annibynnol sydd â phrofiad helaeth ar draws prifysgolion yng Nghymru a ledled y DU. Bu’n Gyfarwyddwr y Brifysgol Agored yng Nghymru rhwng 2018 a 2023, gan arwain twf sylweddol yn nifer y myfyrwyr ac ehangu cyrhaeddiad y brifysgol ledled Cymru. Cyn hynny, roedd yn Ddirprwy Is-Ganghellor ym Mhrifysgol Wrecsam Glyndŵr a threuliodd 25 mlynedd ym Mhrifysgol Caerdydd mewn rolau uwch ym meysydd cynllunio, strategaeth a rheoli adnoddau, cyn gwasanaethu ar ei Chyngor Llywodraethol. Yn 2020, bu’n cadeirio’r Adolygiad Annibynnol o drefniadau dyfarnu Lefel A a TGAU yng Nghymru yn dilyn canslo arholiadau yn ystod pandemig Covid-19. Mae Louise hefyd wedi dal nifer o rolau anweithredol, gan ddod ac arbenigedd gwerthfawr ym maes llywodraethu, strategaeth ac arweinyddiaeth sefydliadol.
