Neidio i'r prif gynnwys

Y Gwir Anrhydeddus Rhun ap Iorwerth AS, Prif Weinidog Cymru

Cyhoeddwyd gyntaf:
20 Hydref 2026
Diweddarwyd ddiwethaf:

Heddiw, mae Ymchwiliad Covid-19 y DU wedi cyhoeddi ei chweched adroddiad (Saesneg yn unig), sy'n archwilio effaith y pandemig ar y sector gofal cymdeithasol i oedolion ar draws y Deyrnas Unedig. 

Cafodd y pandemig effaith ddwys ar bobl ledled Cymru, yn enwedig y rheini a oedd yn derbyn ac yn darparu gofal. Rydym yn cofio pawb a gollodd eu bywydau i Covid-19, gan gydnabod yr effeithiau parhaol ar eu teuluoedd, eu hanwyliaid, a phawb y cafodd eu bywydau eu newid gan y pandemig. 

Rwy'n ddiolchgar iawn i'r gweithlu gofal cymdeithasol, gofalwyr di-dâl, darparwyr gofal, gwirfoddolwyr, a gweision cyhoeddus ar hyd a lled Cymru a gefnogodd rai o'r bobl fwyaf agored i niwed yn ein cymunedau drwy gydol y pandemig. Gydag ymroddiad rhyfeddol, fe wnaethant ddarparu gofal a chymorth o dan amgylchiadau eithriadol o anodd.

Hoffwn ddiolch i Gadeirydd yr Ymchwiliad, y Farwnes Hallett, a'i thîm am eu gwaith. Bydd Llywodraeth Cymru yn ystyried canfyddiadau ac argymhellion yr adroddiad yn ofalus. Byddwn yn myfyrio'n agored ar y gwersi i Gymru, ac yn nodi'r camau y mae angen eu cymryd i gryfhau gofal cymdeithasol, a sicrhau bod pobl sy'n derbyn ac yn darparu gofal yn cael eu diogelu'n well mewn unrhyw argyfwng yn y dyfodol.

Mae'r Ymchwiliad yn gofyn inni ymateb i adroddiad Modiwl 6, a'i argymhellion, o fewn chwe mis ar ôl ei gyhoeddi.