Neidio i'r prif gynnwys

The branch library, which was operated on a part-time basis by Carmarthenshire County Council, was identified for development following an appraisal of available community assets.

Sefydliad:
Cyhoeddwyd gyntaf:
20 Hydref 2026
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyflwyniad

Nodwyd bod angen lleoliad cymunedol ar drigolion Llwynhendy, a leolir ychydig y tu allan i Lanelli. Mae poblogaeth yr ardal yn ddwys, ac mae crynhoad uchel o dai ac adeiladau busnes, a phrif ffordd brysur sy’n rhedeg drwyddi sy’n cysylltu Llanelli ac Abertawe. Mae ymgynghoriadau amrywiol â’r gymuned wedi nodi bod angen lleoliad a allai gynnal amrywiaeth o weithgareddau cymunedol, darparu gwasanaethau i drigolion a darparu ar gyfer digwyddiadau lleol.

Roedd Cyngor Sir Caerfyrddin yn rhedeg y llyfrgell gangen rhan-amser, a nodwyd y dylid ei datblygu yn dilyn arfarniad o’r asedau cymunedol oedd ar gael.

Ys her 

Nododd ymgynghoriadau cymunedol a gynhaliwyd yn rhan o Gynllun Lle Cyfan Cyngor Gwledig Llanelli a phrosiect Buddsoddi’n Lleol, sydd newydd ei sefydlu, yn Llwynhendy ddiffyg mannau cyfarfod cymunedol. Nid oedd neuadd bentref, roedd diffyg mannau chwarae, cysylltiadau trafnidiaeth annigonol a chyfyngedig oedd y cyfleoedd lleol. O ganlyniad, roedd y trigolion yn teimlo eu bod wedi eu heithrio ac yn gorfod teithio ymhellach, ac ysgwyddo costau ychwanegol, i gael gafael ar wasanaethau o’u cymharu â thrigolion mewn ardaloedd eraill ar gyrion canol tref Llanelli.

Ymateb y cyngor oedd asesu’r tir a’r asedau cymunedol a oedd ar gael yn yr ardal y gellid eu datblygu at ddefnydd cymunedol. Arweiniodd y broses hon at ystyried Llyfrgell Llwynhendy a’r caeau o’i hamgylch.

Roedd adeilad y llyfrgell a’r man gwyrdd cyfagos yn eiddo i Gyngor Sir Caerfyrddin. Helpodd Cyngor Gwledig Llanelli a Chynghorwyr Sir Caerfyrddin sy’n cynrychioli Llwynhendy i sefydlu grŵp llywio a oedd yn cynnwys cynrychiolwyr o grwpiau cymunedol lleol, swyddogion Cyngor Gwledig Llanelli, a staff o’r adrannau ystadau, hamdden, datblygu economaidd, llyfrgelloedd a thai yng Nghyngor Sir Caerfyrddin.

Roedd trafodaethau yn amlinellu bwriad Cyngor Gwledig Llanelli o ddarparu man cymunedol ar gyfer yr ardal. Helpodd y grŵp llywio i ddechrau proses trosglwyddo asedau cymunedol a fyddai’n galluogi’r adeilad a’r tir i gael eu trosglwyddo i Gyngor Gwledig Llanelli ar les hirdymor.

Sicrhaodd y dull cydweithredol hwn y byddai’r gwasanaeth llyfrgell yn cael ei gadw gan alluogi hefyd i wasanaeth cymorth tai lleol newydd gael ei sefydlu mewn ‘hyb cymunedol’ newydd yn adeilad y llyfrgell. Ar ôl cytuno ar hyn, comisiynwyd astudiaeth ddichonoldeb i ymchwilio i’r posibilrwydd o ddatblygu adeilad y llyfrgell a’r caeau cyfagos.

Ceisiodd yr astudiaeth fynd i’r afael â chyfyngiadau adeilad y llyfrgell presennol, sef diffyg lle ar gyfer gweithgareddau, oriau agor cyfyngedig ac ymddangosiad a oedd yn fwyfwy annymunol gyda ffenestri dan goed ers tro mewn ymateb i ymddygiad gwrthgymdeithasol yn yr ardal. Roedd ei siâp hecsagon anghonfensiynol a’i sylfeini cyfyngedig hefyd yn golygu y byddai unrhyw estyniad i’r adeilad yn gyfyngedig ac mai dim ond ar lefel y llawr gwaelod y gellid ei leoli.

Y dull gweithredu

Gweithredodd Cyngor Gwledig Llanelli ar yr argymhellion a nodwyd yn yr astudiaeth ddichonoldeb gan benodi penseiri, peirianwyr strwythurol, syrfewyr topograffig, syrfewyr meintiau a gweithwyr proffesiynol eraill i asesu a datblygu cynnig prosiect. Y nod oedd creu adeilad a oedd yn mynd i’r afael â gofynion y gymuned, ochr yn ochr â phrosiect tirlunio a oedd yn cynnwys ardaloedd chwarae newydd a gwelliannau draenio i wneud y cae yn ddefnyddiol drwy gydol y flwyddyn.

Darparwyd cyllid ar y cam hwn gan brosiect Buddsoddi’n Lleol a Chyngor Gwledig Llanelli. Sicrhawyd cyllid ychwanegol drwy Gyngor Sir Caerfyrddin a grantiau, a alluogodd i waith i’r maes gael ei wneud. Cafodd hyn ei flaenoriaethu i ddechrau oherwydd bod yr amserlenni tynn ar gyfer cwblhau’r gwaith yn golygu bod angen cyflawni’r ardal chwarae cyn y prif brosiect adeiladu.

Oherwydd cyfuniad o feini prawf cyllido, y cyllid a oedd ar gael ac amserlenni, dechreuodd y gwaith ar ardal chwarae newydd, draenio a thirlunio’r man gwyrdd.

Ar yr un pryd, ymgymerodd y penseiri penodedig â phroses gaffael, gan arwain at dri thendr cystadleuol ar gyfer y gwaith i adeilad y llyfrgell. Caniataodd cyllid gan Raglen Cydweithredu Asedau Llywodraeth Cymru i’r rhaglen adeiladu ddechrau.

Roedd cam un y prosiect yn cynnwys estyniad i’r adeilad, gan ymgorffori cyntedd mynedfa sy’n darparu man croesawgar, yn ogystal â storfa a thoiledau ar gyfer defnyddwyr yr adeilad. Roedd camau diweddarach y gwaith adeiladu yn cynnwys ystafelloedd cyfarfod newydd, cegin ac ardal paratoi bwyd i ddarparu ar gyfer busnes caffi, llyfrgell hunanwasanaeth ac ardal cynllun agored ar gyfer defnyddiau lluosog.

Mae’n cyfrannu tuag at

Mae’r prosiect wedi mynd i’r afael â materion a godwyd yng Nghynllun Lle Cyfan 2015–2030 Cyngor Gwledig Llanelli drwy ddarparu lleoliad sy’n darparu ar gyfer gwasanaethau ieuenctid, cymorth tai, diogelwch, rhannu gwybodaeth ac arwyddo, addysg gymunedol a digwyddiadau. Mae hefyd wedi helpu i leihau ymddygiad gwrthgymdeithasol ac mae’n darparu presenoldeb rheolaidd ar gyfer gwasanaethau statudol yn y gymuned.

Mae prosiect Canolfan Llwynhendy yn cyfrannu at nodau canlynol Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru):

  • Cymru lewyrchus 
  • Cymru iachach 
  • Cymru fwy cyfartal 
  • Cymru o gymunedau cydlynus 
  • Cymru â diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu

Effeithiau a chanlyniadau

Creu swyddi: 1 swydd llawn amser

Roedd y model hyb yn golygu ei bod yn bwysig i’r adeilad fod yn hygyrch drwy gydol yr wythnos fel y gallai gwasanaethau cymunedol weithredu o’r lleoliad. Roedd hyn yn gofyn i’r cyngor gyflogi deiliad swydd llawn amser a fyddai’n canolbwyntio ar ddatblygu rhaglen brysur o weithgareddau a sicrhau bod y lleoliad cymunedol yn cael ei ddefnyddio’n dda.

Unigolion mewn hyfforddiant

Mae’r cyngor yn gweithio gyda phartneriaid i sicrhau dosbarthiadau addysg cymunedol yn yr hyb. Hyd yma, mae wedi cynnal dosbarthiadau sgwrsio Cymraeg, dosbarthiadau celf a chrefft a sesiynau creu cerddoriaeth.

Unigolion i wirfoddoli

Er mwyn helpu’r adeilad i lwyddo a chryfhau cysylltiadau â’i ddefnyddwyr, mae nifer o gyfleoedd gwirfoddoli ar gael. Gall gwirfoddolwyr gynorthwyo gyda thasgau gweinyddol rheolaidd, gweithio yn y dderbynfa, cefnogi digwyddiadau a chymryd rhan mewn gweithgareddau casglu sbwriel cymunedol.

Mesurau datgarboneiddio

Gwnaeth y broses o adnewyddu’r adeilad ymgorffori sawl mesur datgarboneiddio er mwyn gwella effeithlonrwydd ynni a lleihau allyriadau carbon. Disodlwyd y boeler nwy aneffeithlon presennol â boeler cyddwyso gradd A effeithlonrwydd uchel, a chyflwynwyd technoleg pwmp gwres o’r aer yn yr estyniad newydd er mwyn darparu gwresogi carbon isel. Roedd mesurau arbed ynni ychwanegol yn cynnwys gosod technoleg gwyntyll cymudo’n electronig gydag awyru a reolir gan bresenoldeb ac amnewid yr holl oleuadau presennol â ffitiadau deuod allyrru golau a reolir gan synwyryddion deiliadaeth a golau dydd.

Gofod cyfarfod newydd

Mae grwpiau cymunedol yn defnyddio’r ystafelloedd cyfarfod yn rheolaidd i gynllunio a chyflawni eu gweithgareddau. Yn y gorffennol, mae grwpiau wedi gorfod cyfarfod mewn mannau agored megis tafarndai neu ysgolion, lle’r oeddent yn dibynnu ar staff i fod ar gael i agor yr adeiladau.

Gwell man gwyrdd ac ardal chwarae newydd i blant

Roedd y gwaith i’r ardal chwarae yn cynnwys gwelliannau draenio i’r cae, gan wneud y lle cyfan yn ddefnyddiol fel ardal adloniadol. Mae cynlluniau hefyd yn cael eu datblygu ar gyfer trac wyneb caled newydd ar gyfer beiciau a sgwteri mewn un gornel o’r cae.

Busnes caffi newydd a swyddi a grëwyd

Disgwylir i gaffi agor ym mis Medi 2026 yn dilyn cytundeb ar drwydded 12 mis i weithredu busnes caffi yng Nghanolfan Llwynhendy.

Cymorth tai lleol newydd

Yn rhan o’r broses o gynllunio ar gyfer y prosiect, cytunwyd y byddai swyddogion tai yr awdurdod lleol yn cael presenoldeb wythnosol rheolaidd yn y lleoliad. Yn flaenorol, roedd angen i denantiaid wneud apwyntiad ymlaen llaw a theithio i’r dref i siarad â’r swyddog tai a neilltuwyd iddynt.

Denu buddsoddiad ychwanegol gan gronfeydd grant eraill

Mae’r prosiect gorffenedig wedi cefnogi ceisiadau cyllid dilynol, gan gynnwys ceisiadau i’r Gronfa Ffyniant a Rennir. Mae’r cyllid hwn wedi helpu i wella’r man gwyrdd ac i ddarparu dodrefn ac offer ar gyfer y lleoliad.

Gwersi a ddysgwyd a chynllunio ar gyfer y dyfodol

Rhoddodd ymgynghoriad cymunedol cryf yr hyder a’r argyhoeddiad i’r cyngor fynd rhagddo â’r prosiect.

Roedd meithrin perthnasoedd cryf gyda rhanddeiliaid yn y cyngor sir ac ar lawr gwlad, drwy gynghorwyr a grwpiau cymunedol, yn allweddol i lwyddiant y prosiect.

Mae ffioedd proffesiynol sy’n gysylltiedig â phenseiri, peirianwyr a syrfewyr yn bwysig iawn i’w hystyried ond gallant gronni’n gyflym. Mae’n hanfodol cynnwys y costau hyn yn y gyllideb o’r cychwyn cyntaf. Mae’n rhwydd edrych heibio’r treuliau hyn wrth ganolbwyntio ar y costau adeiladu cyfalaf.

Mae hefyd yn bwysig ymgysylltu â chyllidwyr ar wahanol gamau o’r prosesau ymgeisio, cynllunio a chyflawni.

Engaging with funders at various stages of the application, planning and delivery processes is also important.

Canolfan Llwynhendy