Neidio i'r prif gynnwys

Y Gwir Anrhydeddus Rhun ap Iorwerth AS, Prif Weinidog Cymru

Cyhoeddwyd gyntaf:
20 Hydref 2026
Diweddarwyd ddiwethaf:

Heddiw rwyf wedi derbyn ymddiswyddiad Comisiynydd y Gymraeg, Efa Gruffudd Jones, ar sail rhesymau personol. Rwy’n diolch iddi am ei holl waith ers ei phenodiad yn 2023.

Bydd proses benodi gyhoeddus lawn yn awr yn cael ei chynnal ar gyfer penodi Comisiynydd newydd. Yn y cyfamser, mae Ms Gruffudd Jones wedi penodi Lowri Williams yn Ddirprwy Gomisiynydd y Gymraeg, a fydd felly yn arfer swyddogaethau'r Comisiynydd hyd nes bydd y broses benodi wedi dod i ben.