Ymgysylltu â'r gymuned a gweithgarwch allgymorth: 2025 i 2026
Mynychodd y Rheolwyr Datblygu Partneriaeth (RhDP) sawl sesiwn allgymorth a chyfarfodydd rhwydwaith ledled Cymru yn ystod 2024 i 2025.
Roedd eu gweithgareddau'n cynnwys:
- mynychu digwyddiadau iechyd a lles gyda Dŵr Cymru, Diwrnod Pobl Hŷn Sir Gaerfyrddin yn Llanelli, Arddangosfa Ecofest Cyngor Dinas Casnewydd a mynychu digwyddiadau sy'n benodol i gyflwr iechyd fel digwyddiad blynyddol Diwrnod Strôc y Byd ym Mhort Talbot a Chynhadledd Iechyd a Lles Menywod Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
- cyflwyno i gynghorwyr a staff Cristnogion yn Erbyn Tlodi, Awr Pŵer Cyngor Sir Ddinbych, Cymorth Canser Maggie's Caerdydd a Transition Bro Gwaun, Hwb Cydlynu Arloesi Rhanbarthol Gogledd Cymru a sesiwn Cinio a Dysgu Llywodraeth Cymru
- ymweld â Banciau Bwyd a Hybiau Cynnes drwy gydol y gaeaf a darparu deunyddiau marchnata i ddefnyddwyr gwasanaethau
- mynychu digwyddiadau ar gyfer ASau yn Nwyrain Clwyd ac Ynys Môn
- cyflwyniadau a digwyddiadau gyda grwpiau cymunedol amrywiol gan gynnwys Tîm Ailsefydlu Ffoaduriaid Cyngor Sir Ceredigion, gan weithio gydag aelwydydd Wcráin; gweithdy ynni i ofalwyr gyda'r Ymddiriedolaeth Gofalwyr a gweithio gyda Chanolfan yr Amgylchedd Abertawe a Chymorth Dementia Gorllewin Cymru
- mynychu cyfarfodydd rhwydweithio a gynhaliwyd gan y Grŵp Trawsbleidiol ar Dlodi Tanwydd ac Effeithlonrwydd Ynni, Cynghorau Gwirfoddol Sirol, Byrddau Iechyd ac Awdurdodau Lleol ledled Cymru
Mynychu digwyddiadau
Mynychodd y RhDPau 299 o ddigwyddiadau allgymorth a chyfarfodydd partner yn 2025–26. Roedd hyn yn cynnwys mynychu Cynhadledd Gofal a Thrwsio Cymru, Fforymau Tlodi Tanwydd Gweithredu Ynni Cenedlaethol Cymru, Rhwydwaith Cynghorwyr Cyngor ar Bopeth, Cyfnewidfa Gwisg Cyngor Sir Ddinbych, cyfarfodydd Cymdeithas Rhwydwaith Swyddogion Ynni Lleol (ALEO) ac Wythnos Hinsawdd Cymru. Cynhaliwyd amrywiaeth o ddigwyddiadau a oedd yn canolbwyntio ar iechyd a lles mewn partneriaeth ag awdurdodau lleol, elusennau a sefydliadau cymorth, gan gynnwys sesiynau allgymorth Ysbyty Hywel Dda, Gwasanaeth Ieuenctid Cyngor Ceredigion, Oergell Gymunedol Co-op, Diwrnod Diogelwch Tân Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru a diwrnodau galw heibio gyda Planed yng ngorllewin Cymru.
Darparu Hyfforddiant
Cyflwynodd y RhDPau gyfanswm o 55 o gyflwyniadau hyfforddi i sefydliadau a oedd yn cynnwys Age Cymru, Gofal a Thrwsio, yr Ymddiriedolaeth Gofalwyr, Cyngor ar Bopeth, Banc Datblygu Cymru, Bae Gorllewin Abertawe, Foothold Cymru, Cymorth Canser Maggie's Caerdydd, Asiantaeth Ynni Hafren Gwy a llawer o staff Awdurdodau Lleol ledled Cymru.
Ymgyrchoedd postio uniongyrchol gydag awdurdodau lleol
Gweithiodd y RhDP gydag 14 awdurdod lleol i gyflwyno ymgyrchoedd postio uniongyrchol i hyrwyddo Nyth, a gyrhaeddodd gyfanswm o 35,609 o aelwydydd. Y rhain oedd Pen-y-bont ar Ogwr, Caerdydd, Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir y Fflint, Gwynedd, Sir Fynwy, Castell-nedd Port Talbot, Casnewydd, Sir Benfro, Powys, Rhondda Cynon Taf, Abertawe a Thorfaen. Roedd hyn yn ffordd effeithiol o gyrraedd aelwydydd agored i niwed mewn tlodi tanwydd neu mewn perygl o fod. Gweithiodd y RhDPau yn agos gyda sawl cyngor gan ddefnyddio cynllun data peilot Olrhain Teuluoedd Incwm Isel Llywodraeth Cymru i sicrhau bod aelwydydd targed yn cael cymorth.
Pwysigrwydd gwaith partneriaeth i Nyth
Parhaodd y RhDPau i weithio ochr yn ochr â phartneriaid sylfaenol fel Age Cymru, Gofal a Thrwsio Cymru, Cyngor ar Bopeth Cymru, Dŵr Cymru, E.ON, y Gwasanaeth Arian a Phensiynau, Rhwydweithiau SP Energy, Cartrefi Cynnes ac eraill i sicrhau bod trigolion yng Nghymru yn ymwybodol o sut i gael mynediad at y cymorth sydd ar gael.
Darparu manteision ychwanegol
Yn ystod 2025–2026, cyflawnodd cynllun Nyth werth cymdeithasol ehangach drwy weithio mewn partneriaeth, cymorth ymarferol a gwirfoddoli gan weithwyr:
Cyfrannodd y gweithgareddau at bedwar canlyniad craidd:
- creu cyfleoedd cyflogaeth a hyfforddiant
- cefnogi addysg, cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant
- meithrin gallu o fewn sefydliadau cymunedol
- cefnogi datblygu cadwyni cyflenwi
Y prif ffocws oedd helpu sefydliadau cymunedol i ymateb i anghenion a nodwyd ac atgyfnerthu'r cyfleusterau, yr adnoddau a'r cyfleoedd sydd ar gael o fewn cymunedau ledled Cymru. Roedd gweithgareddau wedi'u halinio â phedair thema â blaenoriaeth: Cynhwysiant Digidol, Adfywio Cymunedol, Bioamrywiaeth a'r Gymraeg.
Cefnogi teuluoedd a sefydliadau cymunedol
Pan nododd CWTCH Baby Bank De Cymru prinder dillad difrifol ar gyfer babanod newydd-anedig, ymatebodd cydweithwyr Nyth drwy roi eitemau newydd ac eitemau ail law o ansawdd uchel.
Diolch i'r cymorth roedd y Banc Babanod yn gallu cyflawni atgyfeiriadau heb eu cwblhau a dosbarthu dillad hanfodol yn uniongyrchol i deuluoedd. Roedd hefyd yn cryfhau gallu'r sefydliad i ymateb yn ystod cyfnod o alw cynyddol.
Gwella cyfleusterau cymunedol
Gweithiodd gwirfoddolwyr Nyth ochr yn ochr â Gwasanaethau Cymdeithasol Blaenau Gwent i wella'r man awyr agored yn Nhŷ Augusta, cyfleuster seibiant pwrpasol i oedolion ag anableddau dysgu. Gwnaeth gwirfoddolwyr adeiladu mainc bwrpasol, trwsio ffensys, gosod sgriniau a helpu i wella'r ardd.
Rhoddodd Nyth hefyd nodweddion synhwyraidd, goleuadau, dodrefn awyr agored a nodwedd ddŵr. Mae'r ardd synhwyraidd yn darparu adnodd awyr agored croesawgar a pharhaol sydd wedi'i gynllunio i gefnogi ymlacio, defnyddio'r synhwyrau ac annibyniaeth.
Gwella'r amgylchedd lleol
Cydlynodd Nyth wirfoddolwyr ar gyfer Glanhau Mawr y Gwanwyn ar hyd Rhan 7 o Lwybr Taf, rhwng Mynwent Aberfan ac Aberfan Fawr, Merthyr Tudful.
Gweithiodd cydweithwyr Nyth ochr yn ochr â gwirfoddolwyr o'r Ymddiriedolaeth Arbed Ynni, BT ac Eglwys Iesu Grist Saint y Dyddiau Diwethaf. Cynhaliwyd y gweithgarwch mewn partneriaeth â Chyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful a Cadwch Gymru'n Daclus yn y De-ddwyrain.
Casglodd gwirfoddolwyr 25 bag o wastraff (ar yr un rhan hon), gan gyfrannu at 384 o fagiau a gasglwyd ar draws y fenter ehangach. Mae'r gweithgarwch wedi gwneud gwelliant gweladwy i lwybr cymunedol prysur ac yn dangos gwerth gweithredu ar y cyd er mwyn yr amgylchedd.
Cefnogi pobl ifanc
Gwirfoddolodd cydweithwyr Nyth drwy raglen addysg Nwy Prydain a gyflwynwyd mewn partneriaeth â Thîm Prydain Fawr, Paralympics GB a We Are Futures.
Cymerodd dros 80 o fyfyrwyr o ddalgylch Ebwy Fawr ran mewn gweithgareddau a oedd yn archwilio effeithlonrwydd ynni, cynaliadwyedd a'r cyfraniad cadarnhaol y gall pobl ifanc ei wneud gartref, yn yr ysgol ac yn eu cymunedau.
Gwirfoddolodd gweithwyr Nyth hefyd drwy Gyrfa Cymru i gynnal ffug gyfweliadau gyda dysgwyr Blwyddyn 10 yn Ysgol Uwchradd Afon Taf ac Ysgol Uwchradd Cyfarthfa ym Merthyr Tudful.
Rhoddodd y sesiynau brofiad ymarferol o gyfweliadau i ddysgwyr, gan gynnwys adborth adeiladol a chyfle i ddatblygu eu hyder a'u sgiliau cyfathrebu wrth baratoi ar gyfer addysg, hyfforddiant a chyflogaeth yn y dyfodol.
Y Gymraeg a gwybodaeth hygyrch
Parhaodd Nyth i hyrwyddo dysgu a defnyddio'r Gymraeg ar draws gweithleoedd a gweithgareddau sy'n ymdrin â'r gymuned.
Roedd hyn yn adeiladu ar gynnydd blaenorol, gan gynnwys 411 awr ychwanegol o ddysgu Cymraeg. Cafodd gwybodaeth i gwsmeriaid am Solar PV a Phympiau Gwres Ffynhonnell Aer ei datlygu a'i chyfieithu hefyd, gan helpu cwsmeriaid i gael mynediad at wybodaeth gliriach a gwneud penderfyniadau gwybodus.
Cyflogaeth gynhwysol
Cynhaliodd Nyth Statws Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd Lefel 2, gan adlewyrchu ei ymrwymiad parhaus i recriwtio, cadw a datblygu gweithlu cynhwysol.
Lles cymunedol
Cefnogodd cydweithwyr Nyth weithgareddau tymhorol a chymunedol, gan gynnwys casgliadau banciau bwyd, ymgysylltu â chartrefi gofal, allgymorth Nadolig a digwyddiadau cymunedol lleol.
Roedd y gweithgareddau hyn yn darparu cymorth ymarferol, yn cefnogi cysylltiadau cymunedol ac atgyfnerthu cysylltiadau â sefydliadau sy'n ymateb i anghenion lleol.
Edrych tua'r dyfodol
Yn ystod 2026–2027, bydd Nyth yn adeiladu ar y gwaith hwn drwy wneud y canlynol
- datblygu partneriaethau sy'n ymateb i anghenion cymunedol sy'n dod i'r amlwg
- blaenoriaethu prosiectau sy'n darparu manteision parhaol i sefydliadau cymunedol
- gwella mynediad at offerynnau sgiliau a chysylltedd digidol
- parhau i hyrwyddo dysgu Cymraeg a gwybodaeth hygyrch
- ehangu cyfleoedd gwirfoddoli mewn perthynas â'r amgylcheddol a bioamrywiaeth
- atgyfnerthu'r ffordd mae canlyniadau cymunedol a manteision tymor hwy yn cael eu cofnodi
Bydd y ffocws yn parhau i fod ar weithgareddau ymarferol sy'n ategu'r ddarpariaeth gymunedol bresennol ac yn creu gwerth cymdeithasol cynaliadwy ledled Cymru.
