Deddfwriaeth i gael ei chyflwyno i ohirio ymarfer ailbrisio’r dreth gyngor tan dymor y Senedd nesaf.
Mae’r Gweinidog Cabinet dros Gyllid wedi cadarnhau y bydd Llywodraeth Cymru yn cynnig dyddiad diweddarach ar gyfer bwrw ati â’r cynlluniau i ailbrisio’r dreth gyngor, drwy gyflwyno deddfwriaeth i ohirio tan dymor y Senedd nesaf.
Wrth siarad yn y Senedd, dywedodd y Gweinidog fod y penderfyniad yn dilyn gwaith manwl dros yr haf i asesu’r gost o newid bandiau’r dreth gyngor – sy’n dal i fod yn seiliedig ar werthoedd eiddo o 2003 – ac effaith y newidiadau hynny.
Yn ôl yr ymchwil, ar amcangyfrif, gallai tua chwarter aelwydydd Cymru fod wedi disgwyl i’w band dreth gyngor fynd i fyny. Gallai chwarter arall fod wedi disgwyl i’w band treth gyngor fynd i lawr. Ar y llaw arall, yn achos tua hanner ohonynt, ychydig iawn o newid yn unig fyddai wedi’i weld.
I rai pobl sy’n wynebu cynnydd yn eu biliau treth gyngor, gallai fod wedi golygu talu cannoedd o bunnoedd yn rhagor y flwyddyn. Gallai mynd ati’n gyfrifol i gefnogi’r bobl hynny fod wedi costio hyd at £80m yn y flwyddyn gyntaf yn unig.
Dywedodd Elin Jones, y Gweinidog Cabinet dros Gyllid:
“Mae hwnnw’n swm aruthrol ar adeg sydd wir yn anodd o ran arian cyhoeddus. Mae pwysau gwirioneddol yn ein hwynebu y flwyddyn hon, yn enwedig yn y Gwasanaeth Iechyd, heb anghofio hefyd y bydd llai o gyllid yn dod o Lywodraeth y DU yn y dyfodol.”
“Mae’n rhaid i bob punt fynd ymhellach ar hyn o bryd. Dyna pam rydyn ni’n canolbwyntio ar ddod â rhestrau aros y Gwasanaeth Iechyd i lawr, helpu teuluoedd gyda chost gofal plant, creu swyddi, a chodi safonau addysgol.
“Ni fyddai wedi bod yn deg inni fwrw ymlaen â hyn heb gefnogi pobl yn llawn, yn enwedig ar adeg pan fo cryn bwysau arnyn nhw’n ariannol.
“Rydyn ni’n gwybod bod y system bresennol yn annheg. Mae rhai pobl yn dal i dalu’r dreth gyngor ar sail gwerth eu cartref dros ugain mlynedd yn ôl. Nid yw hynny wedi newid, ac nid yw’n barn ninnau wedi newid chwaith.
“Nid mater o roi’r gorau i ddiwygio’r dreth gyngor na throi cefn ar degwch yw hwn. Yn hytrach, mater yw o fod yn ymarferol ynglŷn â’r amseru a’r hyn y mae’n rhaid inni ei flaenoriaethu. Fe fyddwn ni’n treulio’r amser hwn yn edrych ar ffyrdd eraill, sydd wedi’u targedu’n fwy pwrpasol o wella’r system. Rydyn ni’n chwilio am ffyrdd llai costus, ac rydyn ni’n agored i syniadau.”
Bydd deddfwriaeth i ohirio’r ymarfer ailbrisio tan dymor y Senedd nesaf yn cael ei chyflwyno fis nesaf.
