Amrywiaeth mewn penodiadau cyhoeddus: 2026 - cyd-destun data
Deall y dystiolaeth a'r cyd-destun.
Ar y dudalen hon
Deall y dystiolaeth o ran amrywiaeth mewn penodiadau cyhoeddus
Mae cyrff cyhoeddus yn gwneud penderfyniadau ac yn darparu gwasanaethau sy'n effeithio ar gymunedau ledled Cymru. Gall sicrhau bod ystod eang o gefndiroedd, profiadau a safbwyntiau yn cael eu cynrychioli ar fyrddau cyhoeddus gryfhau'r broses o wneud penderfyniadau, a helpu byrddau i ddeall y cymunedau y maen nhw'n eu gwasanaethu yn well.
Mae casglu a chyhoeddi gwybodaeth am amrywiaeth yn ein helpu i ddeall pwy sy'n defnyddio'r system penodiadau cyhoeddus, nodi lle gall y gynrychiolaeth fod yn anghyson, a monitro newid dros amser. Mae cyhoeddi'r wybodaeth hefyd yn darparu tryloywder am y dystiolaeth sydd gennym, gan gynnwys ei chyfyngiadau, ac yn ei gwneud yn bosibl ystyried cynnydd a phatrymau dros amser. Mae'n darparu tystiolaeth sy'n helpu i'w gwneud yn haws defnyddio'r system penodiadau cyhoeddus a'i gwneud yn fwy cynhwysol, gan wella prosesau recriwtio, y cymorth a roddir i ymgeiswyr, a'r gwaith ymgysylltu.
Mae'r dystiolaeth hon hefyd yn cyfrannu at ein dealltwriaeth o gynnydd o safbwynt ymrwymiadau ehangach i gydraddoldeb, amrywiaeth a thryloywder. Mae'r rhain yn cynnwys Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus, egwyddorion Cod Llywodraethiant Penodiadau Cyhoeddus, a'r amrywiaeth mewn arweinyddiaeth gyhoeddus a nodir yng Nghynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol.
Deall y ddwy ffynhonnell ddata
Mae'r adroddiadau yn tynnu ar ddwy ffynhonnell wahanol o wybodaeth am amrywiaeth. Mae'r ddwy yn cynnig persbectif gwahanol a dylid eu dehongli yn ôl eu pwrpas, eu cwmpas a'u cyfyngiadau.
Felly, dylid ystyried y ddwy ffynhonnell yn rhai sy'n ategu ei gilydd yn hytrach nag fel un set ddata gyflawn sy'n cwmpasu holl aelodau bwrdd cyhoeddus. Mae dod â nhw at ei gilydd yn darparu darlun ehangach o amrywiaeth ar draws y system penodiadau cyhoeddus, gan gydnabod ar yr un pryd bwrpas, cwmpas a chyfyngiadau gwahanol y naill ffynhonnell a'r llall. Yn benodol, gan mai rhywbeth gwirfoddol yw ymateb i'r arolwg blynyddol, ni ellir disgrifio'r dystiolaeth gyfun fel cofnod cyflawn o nodweddion amrywiaeth holl aelodau byrddau.
Mae adroddiad dadansoddi'r Comisiynydd Penodiadau Cyhoeddus
Mae adroddiad dadansoddi'r Comisiynydd Penodiadau Cyhoeddus yn ymwneud â phobl sy'n symud ymlaen drwy'r broses recriwtio a phenodi a reoleiddir. Mae'n darparu gwybodaeth am ymgeiswyr a'r rhai a benodir yn ystod cyfnod adrodd diffiniedig. Mae hyn yn ein helpu i ystyried amrywiaeth y gronfa ymgeiswyr a'r canlyniadau ar wahanol adegau yn y broses. Fodd bynnag, gan fod yr adroddiad yn ymwneud â gweithgarwch recriwtio a phenodiadau newydd, nid yw'n cwmpasu'r holl bobl sydd eisoes yn gwasanaethu ar fyrddau cyhoeddus.
Mae'r arolwg blynyddol o aelodau bwrdd
Mae'r arolwg blynyddol o aelodau bwrdd yn rhoi cipolwg ar amrywiaeth yr aelodau bwrdd gweithredol sy'n dewis cymryd rhan. Mae'n ehangu ein dealltwriaeth y tu hwnt i weithgarwch recriwtio diweddar drwy gasglu gwybodaeth gan bobl sydd eisoes wedi'u penodi i rôl gyhoeddus. Fodd bynnag, mater gwirfoddol yw ymateb i'r arolwg, ac felly mae'r canfyddiadau yn adlewyrchu proffil yr ymatebwyr yn unig yn hytrach na phob aelod bwrdd sy'n gwasanaethu. Dylid ystyried y canlyniadau yn amcan, felly, ac nid yn gyfrif cyflawn neu'n gynrychiolaeth ystadegol o amrywiaeth byrddau.
Mae'r ddwy ffynhonnell yn ateb cwestiynau gwahanol, felly:
- Mae adroddiad dadansoddi'r Comisiynydd Penodiadau Cyhoeddus yn ein helpu i ddeall yr amrywiaeth drwy'r broses recriwtio a phenodi a reoleiddir.
- Mae'r arolwg o fyrddau yn ein helpu i ddeall nodweddion aelodau bwrdd gweithredol sy'n ymateb i'r arolwg gwirfoddol.
Sut bydd y dystiolaeth yn cael ei defnyddio
Dylai'r dystiolaeth gefnogi'r broses ddysgu a chamau gweithredu, yn hytrach na disgrifio'r gynrychiolaeth yn unig. Gall helpu'r Tîm Penodiadau Cyhoeddus a chyrff cyhoeddus i:
- nodi lle mae ymwybyddiaeth, ceisiadau, cynnydd neu gynrychiolaeth yn ymddangos yn anghyson
- llywio a thargedu gwaith ymgysylltu
- gwella hygyrchedd a chynwysoldeb prosesau recriwtio
- ystyried pa gefnogaeth bellach y gallai fod ei hangen ar gyfer ymgeiswyr neu aelodau bwrdd
- adolygu ansawdd a chysondeb y broses o gasglu data ar amrywiaeth, a
- monitro patrymau dros amser ochr yn ochr â newidiadau i bolisi ac arferion.
Ni ddylid defnyddio'r adroddiadau i ddod i gasgliadau am unigolion nac i ragdybio bod yr ymateb i'r arolwg gwirfoddol yn cynrychioli pob aelod bwrdd. Maent yn rhan o sylfaen dystiolaeth sy'n esblygu, a fydd yn llywio gwaith parhaus i wneud y broses benodiadau cyhoeddus yng Nghymru yn fwy agored, hygyrch a chynrychiadol.
