Neidio i'r prif gynnwys

Mae Cymru yn barod i groesawu'r Tour de France yn 2027 wrth i fanylion llawn y llwybr cyfan, gan gynnwys cymal Cymru o'r Trallwng i Gaerdydd, gael eu datgelu ym Mharis heddiw.

Cyhoeddwyd gyntaf:
22 Hydref 2026
Diweddarwyd ddiwethaf:
  • Datgelu rhagor o fanylion am y Grand Départ yng Nghymru
  • Cadarnhau cymal gwib yn Llandrindod
  • 2027 fydd Blwyddyn Beicio Croeso Cymru

Bydd y Tour de France yn dod i Gymru am y tro cyntaf ym mis Gorffennaf 2027 a bydd yn cynnwys wyth dringfa a chymal gwib canolradd ar yr A483 ar gyrion tref Llandrindod.

Mae map rhyngweithiol manwl o gymal Cymru, sy'n dangos lleoliad y cymal gwib a'r wyth dringfa wedi'u categoreiddio, bellach i'w weld ar dudalen bwrpasol ar gyfer cymal tri.

Bydd Croeso Cymru yn nodi 2027 fel Blwyddyn Seiclo gyda chefnogaeth ymgyrch flaenllaw, yr offeryn mapio rhyngweithiol cyntaf o'r fath sy'n dwyn ynghyd lwybrau beicio a'n cyrchfannau o'r radd flaenaf, prosiectau gyda busnesau a chymunedau, a chyllid ar gyfer cyfleusterau beicio ledled Cymru. 

Yn gynharach eleni, cyhoeddodd y Gweinidog Cabinet dros Fenter, Cysylltedd ac Ynni Gronfa Croeso i Feicwyr gwerth £4.5 miliwn, i wella cyfleusterau a llwybrau beicio ledled Cymru, gan greu gwaddol barhaol o gymal Cymru y Tour de France.

Mynychodd Gweinidog y Cabinet dros Ddiwylliant a Chwaraeon, Heledd Fychan, y cyhoeddiad am y llwybr llawn ym Mharis. Dywedodd:

Bydd llygaid y byd ar Gymru ddydd Sul 4 Gorffennaf wrth i'r Tour de France rasio ei ffordd o'r Trallwng i Gaerdydd.

Rwan fod gennym fap rhyngweithiol o'r llwybr llawn gallwn weld pa mor gyffrous fydd cymal Cymru y Grand Départ, gan gynnwys cymal gwib yn Llandrindod ac wyth dringfa ar y llwybr.

Mae hwn yn gyfle unwaith mewn cenhedlaeth i'n gwlad, a byddwn yn sicrhau ein bod yn gwneud y gorau ohono.  Bydd yn ysbrydoli ein cenhedlaeth nesaf o feicwyr, a bydd y byd beicio yn gweld y golygfeydd anhygoel a'r croeso sydd gennym yma yng Nghymru.

Does dim amser gwell i hyrwyddo Cymru fel cyrchfan beicio ac mae Croeso Cymru yn gwneud hyn drwy ddatgan 2027 fel Blwyddyn Seiclo.

Byddwn yn annog pawb ar hyd y llwybr a thu hwnt iddo i fod yn rhan o'r cyffro.

Wrth siarad am y Flwyddyn Beicio yn 2027, dywedodd Llysgennad Beicio Cymru, Geraint Thomas OBE: 

Rwy'n hynod falch o fod yn Llysgennad Beicio Cymru wrth i ni baratoi ar gyfer Tour de France 2027. Mae'r ffaith fod y Tour yn dod i Gymru yn enfawr, mae'r ffyrdd, y dringfeydd hyn a'r cefnogwyr hyn wedi'u gwneud ar gyfer beicio, a nawr mae'r byd yn cael gweld hynny. Alla' i ddim aros i chwarae fy rhan drwy groesawu'r Tour de France, ysbrydoli beicwyr hen ac ifanc, a helpu i wneud hon yn foment fythgofiadwy i Gymru.