Mark Hooper AS, Dirprwy Weinidog Trafnidiaeth
Rwy'n cydnabod bod y cynllun i gau rhannau o Brif Linell Gogledd Cymru ym mis Ionawr 2027 yn achosi pryder i deithwyr. Bydd cau’r rhannau hyn yn achosi anghyfleustra i deithwyr, busnesau a chymunedau ledled Gogledd Cymru. Rwy'n gwerthfawrogi ac yn deall y rhwystredigaeth y bydd hyn yn ei achosi i'r rhai sy'n dibynnu ar y rheilffordd a'r pryderon dilys am yr effaith ar deithiau pan fydd rhannau o’r rheilffordd ar gau.
Mae Prif Linell Gogledd Cymru yn eiddo i Network Rail a chaiff ei gweithredu ganddo. Mae ganddo'r dasg heriol o gynnal a chadw'r llinell i sicrhau ei bod yn ddiogel ac yn gweithio ar gyfer gwasanaethau teithwyr a chludo nwyddau. Mae wedi penderfynu bod y gwaith hwn yn angenrheidiol i gynnal diogelwch, dibynadwyedd a gwydnwch hirdymor y rheilffordd ac mai'r dull mwyaf effeithlon ac a fydd yn achosi cyn lleied o anghyfleustra â phosib yn gyffredinol yw cau'r llinell am y rhan fwyaf o'r amser tra bo’r gwaith yn mynd rhagddo.
Dylai Gweinidogion Cymru fod yn rhan o'r broses o wneud penderfyniadau ar faterion mor arwyddocaol â chau rheilffordd yng Nghymru. Yr egwyddor allweddol sy’n sail i'n cais i ddatganoli'r rheilffyrdd yn llawn yw bod angen gwneud penderfyniadau am y rheilffordd yng Nghymru yng Nghymru, gyda'r holl bartneriaid allweddol yn rhan o'r broses o wneud penderfyniadau, yn hytrach na'u trin fel rhanddeiliaid y dylid eu hysbysu.
Fodd bynnag, rwy'n cydnabod bod y rhaglen yn cynrychioli buddsoddiad o fwy na £25 miliwn ym Mhrif Linell Gogledd Cymru gan Network Rail. Mae'r gwaith yn cynnwys adnewyddu traciau, gwella systemau draenio, gwella platfformau a gorsafoedd, rheoli llystyfiant a gosod dwy bont droed newydd. Bydd y rhaglen hon sy'n bedair wythnos o hyd yn cael ei chynnal rhwng 9 Ionawr a 6 Chwefror 2027. Am y tair wythnos gyntaf, bydd y rheilffordd ar gau rhwng Caer a Chaergybi, gan gynnwys rheilffordd Dyffryn Conwy a Chyffordd Llandudno i Landudno. Yn ystod y bedwaredd wythnos, dim ond rhwng Cyffordd Llandudno a Chaergybi fydd ar gau.
Bydd gwasanaethau yn lle trenau yn gweithredu trwy gydol y cyfnod. Mae Trafnidiaeth Cymru, Avanti West Coast a Network Rail yn gweithio gyda'i gilydd i ddatblygu gwasanaethau a fydd yn darparu bysiau yn lle trenau, gyda chymysgedd o wasanaethau stopio cyflymach, cyfyngedig a gwasanaethau sy'n galw ym mhob gorsaf ar hyd y llwybr. Mae'r diwydiant rheilffyrdd yng Nghymru yn benderfynol o gadw teithwyr i symud a rhoi gwybod am newidiadau i'w teithiau yn ystod y gwaith. Dylai teithwyr, fodd bynnag, ddisgwyl i'w teithiau gymryd mwy o amser tra bo’r gwaith yn mynd rhagddo, a chynllunio ar gyfer hynny.
Mae Network Rail wedi trafod y gwaith arfaethedig a’i effeithiau gyda phartneriaid yn y diwydiant rheilffyrdd a gyda Llywodraeth Cymru. Mae wedi ymrwymo i barhau i ymgysylltu'n agos â rhanddeiliaid a theithwyr wrth i'r rhaglen gael ei chyflawni. Rwy'n disgwyl iddo leihau’r anghyfleustra cymaint â phosibl wrth sicrhau ei fod yn cyflawni'r gwaith yn llwyddiannus i ganiatáu i wasanaethau rheilffyrdd ailddechrau'n ddiogel cyn gynted â phosibl.
Byddwn yn parhau i weithio gyda Network Rail, Trafnidiaeth Cymru a'r diwydiant rheilffyrdd ehangach i sicrhau eu bod yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i deithwyr, cymunedau a busnesau ledled Gogledd Cymru cyn, yn ystod ac ar ôl cwblhau’r gwaith.
