Neidio i'r prif gynnwys

Prif ganfyddiadau

Denwyd ymwelwyr gan dywydd heulog cynnes

Cafodd oddeutu traean (34%) o fusnesau fwy o ymwelwyr yr haf hwn o gymharu â’r haf diwethaf, a chafodd 45% yr un lefel o ymwelwyr. Dim ond lleiafrif o fusnesau (21%) a ddywedodd fod nifer eu hymwelwyr wedi gostwng. Mae’r cynnydd hwn i’w weld yn gyson ar draws pob sector a rhanbarth. Er gwybodaeth, roedd haf 2025 yn debyg iawn i haf 2024.

Y rheswm mwyaf cyffredin a nodwyd am fod yn brysurach nag arfer oedd y tywydd (dywedwyd hyn yn ddigymell gan 54% o’r gweithredwyr a fu’n brysurach). Yn ôl y Swyddfa Dywydd, credir mai haf 2026 (Mehefin – Awst) fu’r haf cynhesaf i’w gofnodi yn y DU, gyda sawl diwrnod dros 30 gradd ac ychydig iawn o law tua diwedd mis Awst.

Mae ansicrwydd ynghylch incwm gwario yn parhau i lesteirio’r galw

Ni chafodd pob busnes haf prysur. Y rheswm mwyaf cyffredin a nodwyd yn ddigymell gan weithredwyr oedd bod ‘pobl yn brin o incwm gwario’ (34%). Hefyd, dywedodd rhai busnesau na fu’r tywydd cynnes o help iddynt, yn enwedig atyniadau dan do yn ystod cyfnodau o dywydd dymunol yn yr awyr agored, neu atyniadau awyr agored nad oedd ganddynt lawer o gysgod i’w gynnig yn ystod tywydd poeth iawn.

Cynnydd yn niferoedd ymwelwyr tramor

Dywedodd traean (32%) o fusnesau eu bod wedi cael mwy o ymwelwyr tramor o gymharu â’r llynedd, a dywedodd eu hanner (50%) eu bod wedi cael yr un lefel o ymwelwyr tramor. Perfformiodd marchnadoedd tir mawr Ewrop yn dda, yn enwedig yr Almaen a’r Iseldiroedd.

Cyfleoedd beicio’r Tour de France

Dywedodd rhai busnesau (13%) fod twristiaeth feicio’n ‘bwysig iawn’ i ddyfodol eu busnes, a dywedodd 22% yn ychwaneg fod yr elfen honno’n ‘weddol bwysig’. Ymhlith y rhai a oedd o’r farn bod twristiaeth feicio’n bwysig, roedd 42% yn bwriadu manteisio ar y cyfle hirdymor a ddaw yn sgil hybu beicio yng Nghymru trwy gyfrwng y Tour de France.

Diwallu anghenion hygyrchedd

Roedd un o bob pump (20%) o weithredwyr o’r farn bod eu busnes wedi’i gynllunio’n ‘dda iawn’ ar gyfer cwsmeriaid ag anghenion hygyrchedd, ac roedd 40% yn ychwaneg o’r farn bod eu busnes wedi’i gynllunio’n ‘weddol dda’. Yn achos y rhai a oedd o’r farn bod eu busnes wedi’i gynllunio’n dda ar gyfer cwsmeriaid ag anghenion hygyrchedd, roedd eu hanner (50%) yn hyrwyddo’r agwedd honno ar eu busnes.

Roedd gan oddeutu chwarter (23%) o weithredwyr ddiddordeb mewn cael cyngor gan Croeso Cymru ynglŷn â sut y gallai eu busnes fod yn fwy hygyrch. Dyma’r math o gyngor y byddent yn dymuno’i gael:

  • sut i ymgeisio am grantiau (69%)
  • sut i ddiwallu anghenion mewn modd cost-effeithiol (52%)
  • esboniad o’r gwahanol anghenion a’r modd y gellir eu diwallu (52%)
  • sut i gydymffurfio â’r gyfraith (45%)

Hyder

Roedd oddeutu un o bob pump (18%) o weithredwyr yn teimlo’n ‘hyderus iawn’ ynglŷn â rhedeg busnes proffidiol eleni, a dywedodd 44% yn ychwaneg eu bod yn ‘weddol hyderus’. Llwyddodd y tywydd braf dros yr haf i roi hwb i nifer yr ymwelwyr, ond dywedodd rhai gweithredwyr fod costau cynyddol yn ei gwneud hi’n anodd iddynt barhau i fod yn broffidiol.

Llwyddodd perfformiad da dros yr haf i roi hwb i hyder gweithredwyr eleni. Cafodd y lefelau hyder a fesurwyd ar yr un adeg y llynedd eu llesteirio’n fawr gan y cynnydd mewn costau byw. Ym mis Medi 2025, roedd 21% o weithredwyr yn teimlo’n ‘hyderus iawn’ ac roedd 31% yn teimlo’n ‘weddol hyderus’.

Manylion cyswllt

Awduron: Anthony Lydall, Strategic Research and Insight

Mae’r safbwyntiau a fynegir yn yr adroddiad hwn yn rhai’r ymchwilydd ac nid ydynt o reidrwydd yn rhai Llywodraeth Cymru.

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â:

Y Tîm Ymchwil a Mewnwelediadau
Croeso Cymru
Yr Economi, Ynni a Thrafnidiaeth
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ

E-bost: twristiaethymchwil@llyw.cymru 

Rhif ymchwil cymdeithasol: 106/2026
ISBN Digidol: 978-1-80853-520-8

GSR logo