Cyfarfod, Dogfennu
Cyfarfod Bwrdd Awdurdod Cyllid Cymru: 20 Mai 2026
Cofnodion cyfarfod Awdurdod Cyllid Cymru (ACC) a gynhaliwyd ar 20 Mai 2026.
Ar y dudalen hon
Yn bresennol
Aelodau
- Ruth Glazzard, Cadeirydd
- Mary Champion, Aelod Anweithredol
- Rheon Tomos, Aelod Anweithredol
- Jocelyn Davies, Aelod Anweithredol
- Rebecca Godfrey, Prif Weithredwr
- Dave Matthews, Cyfarwyddwr Strategaeth a Gallu
- Joe Dooher, Cyfarwyddwr Gwasanaethau
- Indee Dehal, Aelod Staff Etholedig
Ymddiheuriadau
Jim Scopes, Aelod Anweithredol
Agor y cyfarfod
- Croesawodd y Cadeirydd bawb i'r cyfarfod. Roedd cynrychiolwr o Drysorlys Cymru (TC) a chyflwynwyr a sylwedwyr o ACC yn bresennol. Ni ddatganwyd unrhyw wrthdaro buddiannau, a nodwyd ymddiheuriadau. Fe wnaeth y Cadeirydd annog sylwedwyr i gymryd rhan yn y drafodaeth.
- Cadarnhawyd bod cofnodion y cyfarfod blaenorol yn gywir, gyda rhai mân welliannau.
- Rhoddodd y Cadeirydd grynodeb o ofynion Cworwm y Bwrdd a'r heriau ar hyn o bryd, gan dynnu sylw at y ffaith bod deddfwriaeth DCRhT yn nodi bod angen am fwyafrif yr aelodau anweithredol er mwyn i’n bwrdd gael cworwm. Ar hyn o bryd rydym yn gytbwys iawn ein haelodaeth, gyda 5 aelod anweithredol a 4 aelod gweithredol. Nodwyd ein bod yn recriwtio aelodau anweithredol newydd, felly problem dros dro yw hon, ond nad oedd cworwm yn y cyfarfod heddiw gan fod cynifer o aelodau gweithredol ag yr oedd o rai anweithredol. Cadarnhawyd bod y gofyniad cworwm ar gyfer y cyfarfodydd yn eu cyfanrwydd, nid ar gyfer penderfyniadau yn unig. Cyfrifoldeb y Cadeirydd yw sicrhau bod barn yn gytbwys a bod pawb yn cael eu cynrychioli. Ar ôl trafod opsiynau gyda Phennaeth y Staff, cytunodd y Cadeirydd a'r Prif Weithredwr:
- bydd y cyfarfod chwarterol yn parhau, ond bydd cofnod clir o’r ffaith nad oedd cworwm
- bydd hyn yn cael ei adleisio yn ein hadroddiadau, ac ni fydd y cyfarfod hwn yn cyfrif yn ffurfiol fel un o'n 4 cyfarfod chwarterol (yn unol â'n Rheolau Sefydlog); byddwn yn ceisio trefnu cyfarfod arall pan fydd mwyafrif anweithredol er mwyn rhoi cymeradwyaeth ffurfiol i’r cyfnod adrodd; byddwn yn adrodd ar y ddau gyfarfod
- yn y cyfamser, sicrhewch eich bod yn anfon ymddiheuriadau i'r Swyddfa Breifat mewn da bryd os na fyddwch yn bresennol, gan gynnwys am bresenoldeb rhannol, er mwyn ein galluogi i reoli materion cworwm
- A25-001 – Roedd y cam gweithredu i drefnu sesiynau effeithiolrwydd/hyfforddi gydag aelodau'r Bwrdd yn parhau. Nodwyd bod y Bwrdd wedi cynnal sesiwn Mewnwelediad ym mis Mawrth, ac ar ôl hynny, byddai sesiwn gyda 'Wild Parrot' (darparwr datblygu arweinyddiaeth ACC) yn cael ei threfnu. Rydym yn disgwyl cynnig gan Wild Parrot ar hyn o bryd.
Adroddiadau
Adroddiad ar berfformiad
- Cyflwynwyd data Ch4 y dangosyddion perfformiad gan y Rheolwr Allbynnau Ystadegol a Phrentis Data’r Swyddog Ystadegol. Roedd yr Aelodau wedi cael papur cyn y cyfarfod a oedd yn manylu ar benawdau perfformiad Ch4, ynghyd â sylwadau a dogfen gwestiynau Ch4. Gwrandawodd yr aelodau ar gyflwyniad o’r dangosfwrdd perfformiad.
- Wedi'i golygu
- Wedi'i golygu
- Wedi'i golygu
- Wedi'i golygu
- Wedi'i golygu
- Wedi'i golygu
- Wedi'i golygu
- Wedi'i golygu
- Wedi'i golygu
- Wedi'i golygu
- Wedi'i golygu
- Wedi'i golygu
- Nodwyd y byddai diweddariad ar yr adroddiad ar berfformiad nesaf ar gyfer Ch1 yn digwydd yng nghyd-gyfarfod y bwrdd a'r weithrediaeth ar 17 Gorffennaf 2026.
Adroddiad pennaeth y staff
- Cyflwynodd Pennaeth y Staff ei adroddiad, gan ddechrau trwy roi diweddariad ar yr adolygiad archwiliad mewnol Llywodraethiant, sydd wedi dod yn ôl gyda sicrwydd rhesymol. Mae tîm y Swyddfa Breifat wedi dechrau gweithio ar adolygiad effeithiolrwydd o TA, CDLG a SDLG.
- Dywedwyd bod gweithgarwch TA wedi canolbwyntio ar faterion strategol yn bennaf, megis ein pwrpas strategol a pharatoadau ar gyfer etholiadau, mwy o ganolbwyntio ar ein dogfennau llywodraethiant allweddol (Cofrestr Risg Gorfforaethol a chynlluniau Archwilio Mewnol) a chynllunio a chyflawni, gyda chyhoeddiad ein cynllun busnes blynyddol.
- Wedi'i golygu
- Wedi'i golygu
- Wedi'i golygu
- Nodwyd y byddai diweddariad y Cofrestriad Cenedlaethol yn cael ei drafod fel eitem ar wahân yn hwyrach ymlaen ar yn yr agenda.
Adroddiad Cyllid a’r Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg (ARAC)
- Fe wnaeth Cadeirydd ARAC gydnabod y gwaith a wnaed ar y Gofrestr Risg, gan nodi y byddai’n ddefnyddiol ei drafod ar lefel y bwrdd. Tynnwyd sylw hefyd at waith a wnaed ar y HRhF, a oedd yn gadarnhaol ar y cyfan, ac ychwanegwyd bod y ddau faes oedd â’r sgoriau isaf (cynllunio busnes a rheoli rhaglenni) wedi gwella yn sgil y camau a gymerwyd yn ystod y flwyddyn. Dim ond mewn un maes y bu i’r sgoriau ostwng (rheoli gwybodaeth). Cydnabuwyd bod rhagor o waith i’w wneud ar hyn, a dywedwyd bod y camau nesaf yn dal i gael eu hegluro.
- Wedi'i golygu
- Wedi'i golygu
- Wedi'i golygu
- Nodwyd rhai camau penodol a ddeilliodd o Adolygiad Effeithiolrwydd ARAC mewn ymateb i ymholiadau gan aelodau. Cytunwyd bod hunanasesu yn ymarfer defnyddiol, a nodwyd bod llawer mwy o sylwadau na’r hyn a gafwyd ddwy flynedd yn ôl. Roedd angen rhoi sylw i dri o gamau gweithredu'r adroddiad:
- ystyried rôl ARAC a'r bwrdd o ran goruchwylio risgiau corfforaethol a'r hyn sy'n cael ei drafod yn y bwrdd. h.y. goruchwylio risg, prosesau goruchwylio ARAC
- sicrhau eglurder papurau a gwneud yn siŵr bod pob un o safon debyg
- ARAC i ystyried y lefel gywir o fanylion ac i weithredu ar y lefel gywir, h.y. strategaeth yn erbyn manylion
- Wedi'i golygu
- Wedi'i golygu
- Cydnabu'r Cadeirydd faint o waith sydd wedi'i gwblhau, yn enwedig mewn perthynas â'r gofrestr risg ac adroddiadau ariannol, a diolchodd i'r bwrdd am eglurder y wybodaeth.
Adroddiad Trysorlys Cymru
Trafodaeth y bwrdd
Cau’r cyfarfod
- Rhannodd Aelodau eu myfyrdodau ar drafodaethau'r diwrnod. Roedd y canlynol yn haeddu sylw:
- y gwerthfawrogiad o’r adroddiad gonest a gafwyd gan y Cyfarwyddwr Gwasanaethau ynghylch Cofrestriad Cenedlaethol
- yr agwedd agored a thryloyw wrth drafod heriau, a fydd yn annog eraill i siarad yn y dyfodol
- cydnabuwyd faint o waith sy'n digwydd y tu ôl i'r llenni a diolchwyd i bawb
- Rhannodd y Cadeirydd nodyn atgoffa o ran Cworwm y Bwrdd, gan ofyn i'r aelodau sicrhau eu bod yn anfon ymddiheuriadau prydlon os byddan nhw’n absennol o gyfarfodydd, gan gynnwys am bresenoldeb rhannol, er mwyn ein galluogi i reoli materion cworwm.
- Nodwyd y bydd y Cyfarwyddwr Gwasanaethau yn rhoi diweddariadau parodrwydd Cofrestriad Cenedlaethol i'r bwrdd dros gyfnod yr haf cyn cyfarfod chwarterol mis Medi.
- Byddai'r cyfarfod nesaf yn sgwrs Fwrdd ar 24 Mehefin, a bydd y cyfarfod chwarterol nesaf yn digwydd ar 23 Medi 2026.
Gwybodaeth wedi’i golygu
Mewn rhai amgylchiadau, nid yw’n briodol rhannu’r holl wybodaeth a gafodd ei chynnwys yng nghofnodion y Bwrdd, er enghraifft os yw’n cynnwys data personol neu fasnachol neu os yw’n gysylltiedig â ffurfio polisi llywodraeth neu gynnal materion cyhoeddus yn effeithiol. Mewn achosion o’r fath tynnwyd yr wybodaeth allan a marciwyd yn glir ar y testun mai dyma sydd wedi digwydd.
