Neidio i'r prif gynnwys

Adam Price AS, Gweinidog Cabinet dros Fenter, Cysylltedd ac Ynni

Cyhoeddwyd gyntaf:
23 Hydref 2026
Diweddarwyd ddiwethaf:

Heddiw rydym wedi cyhoeddi ymgynghoriad ar y ffordd orau o roi polisi newydd ar waith ar gyfer cylchedau (llinellau) trydanol sydd o fewn cymhwysedd datganoledig Gweinidogion Cymru. Bydd y polisi yn cyflawni ein hymrwymiad maniffesto i wneud y canlynol:

 “Mynd ati ar unwaith i wahardd peilonau delltog dur mawr ar gyfer llinellau 11-132 kV newydd yng Nghymru, gyda rhagdybiaeth glir o blaid gosod ceblau o dan y ddaear a chaniatáu dewisiadau uwchben dim ond pan fyddant yn cael eu gosod gyda pholion pren isel neu seilwaith cyfatebol, llai ymwthiol”.

Mae'r ymgynghoriad hwn yn gofyn am farn ar weithredu'r ymrwymiad hwnnw yn ymarferol a'r polisi cynllunio sydd ei angen i roi effaith iddo.

Mae ynni yn hanfodol i fywyd modern. Mae'r trawsnewid i system ynni carbon isel yn ganolog i'n huchelgais i gyrraedd sero net erbyn 2040 ac i gyflawni ein cenhadaeth cynhyrchiant.Rydym yn gwybod y bydd angen seilwaith grid newydd ar y newidiadau angenrheidiol o ran y ffordd y mae ynni'n cael ei gynhyrchu a'i ddefnyddio yng Nghymru. Fodd bynnag, rydym hefyd yn gwybod y gall seilwaith newydd effeithio ar y cymunedau a'r amgylchedd sy'n ei gynnal. Rydym eisiau gweld seilwaith sy'n cael ei arwain gan gynllun, wedi'i gynllunio'n sensitif i leihau'r effeithiau ar yr amgylchedd a'r cymunedau sy'n eu cynnal, gan gynnig y manteision mwyaf posibl i Gymru.

Trwy ymgynghoriad cyhoeddus llawn ac agored, rwyf am glywed barn ar y ffordd arfaethedig o roi'r polisi hwn ar waith.

Byddaf yn cyhoeddi datganiad pellach yn nodi'r camau nesaf yn gynnar yn 2027, yn dilyn yr ymgynghoriad.