Neidio i'r prif gynnwys

Nerys Evans AS, Dirprwy Weinidog dros Iechyd Cyhoeddus ac Ataliol

Cyhoeddwyd gyntaf:
23 Hydref 2026
Diweddarwyd ddiwethaf:

Heddiw, rwy’n falch o gyhoeddi buddsoddiad sylweddol yn nyfodol sgrinio smotyn gwaed newydd-anedig yng Nghymru, a hynny yn sgil cymeradwyo cyllid cyfalaf a chyllid refeniw i gefnogi’r gwaith o ehangu a moderneiddio Rhaglen Sgrinio Smotyn Gwaed Newydd-anedig Cymru. Mae’r buddsoddiad hwn yn adlewyrchu ein hymrwymiad i fabanod a theuluoedd ledled Cymru, gan sicrhau bod plant yn gallu elwa ar gael diagnosis, triniaeth a chymorth amserol, a chael y dechrau gorau mewn bywyd.

Sgrinio smotyn gwaed newydd-anedig yw un o’r ymyriadau pwysicaf sydd ar gael inni o ran iechyd y cyhoedd. Mae’n darparu cyfleoedd ar gyfer canfod cyflyrau difrifol yn gynnar, gan alluogi rhoi triniaeth a chymorth yn amserol a all atal salwch difrifol, anabledd ac, mewn rhai achosion, achub bywydau. Bob blwyddyn, mae tua 28,000 o fabanod yng Nghymru yn elwa ar y rhaglen hon.

Rydym yn blaenoriaethu’r buddsoddiad hwn oherwydd y manteision a fydd yn cael eu sicrhau i blant, teuluoedd a chynaliadwyedd hirdymor gwasanaethau sgrinio newydd-anedig yng Nghymru. Mae’r pecyn ariannu yn cynnwys cyllid cyfalaf gwerth hyd at £1.218 miliwn i ddarparu capasiti ychwanegol yn labordy Ysbyty Athrofaol Cymru yn ogystal â seilwaith a chyfleusterau cysylltiedig ychwanegol. Mae hefyd yn cynnwys cyllid refeniw i gefnogi’r gwaith o ehangu a gweithredu’r gwasanaeth.

Yn bwysig, bydd y datblygiadau hyn yn galluogi Cymru i roi sgrinio newydd-anedig ar waith ar gyfer Tyrosinaemia Math 1 (HT1), sef cyflwr metabolig etifeddol difrifol y gwnaeth Pwyllgor Sgrinio Cenedlaethol y DU argymell yn 2022 y dylid sgrinio ar ei gyfer.

Mae’r gwelliannau rydym yn eu hariannu heddiw hefyd yn buddsoddi yn y dyfodol. Bydd y labordy a’r seilwaith ategol wedi’u huwchraddio yn rhoi Cymru mewn sefyllfa llawer cryfach i ymateb i argymhellion Pwyllgor Sgrinio Cenedlaethol y DU yn y dyfodol. Wrth i dystiolaeth ddatblygu ac wrth ystyried amodau newydd i’w cynnwys mewn rhaglenni sgrinio smotyn gwaed newydd-anedig, yn sgil y buddsoddiad hwn yn seilwaith y labordy, bydd gan Gymru y gallu a’r capasiti sydd eu hangen i asesu a gweithredu’r argymhellion hynny yn ddiogel ac yn effeithiol. Mae hyn yn cynnwys cefnogi datblygiadau a gwerthusiadau yn y dyfodol lle bo hynny’n briodol. Er enghraifft, mae’r Pwyllgor wrthi’n llunio tystiolaeth ac yn gwerthuso a ddylid cynnwys atroffi cyhyrol yr asgwrn cefn (SMA) a diffyg imiwnedd cyfun difrifol (SCID) yn rhan o raglenni sgrinio newydd-anedig ledled y DU. 

Yr wythnos hon, cefais y cyfle i gyfarfod ag SMA UK a theuluoedd y mae atroffi cyhyrol yr asgwrn cefn wedi effeithio arnynt i wrando ar eu profiadau bywyd. Hoffwn ddiolch iddynt am roi o’u hamser ac am eu gonestrwydd. Rwyf wedi gofyn i swyddogion archwilio opsiynau i Gymru ymuno â’r gwerthusiad ymysg gwasanaethau presennol o sgrinio am atroffi cyhyrol yr asgwrn cefn sydd wedi dechrau yn yr Alban ac mewn rhanbarthau yn Lloegr.

Mae’r penderfyniad hwn yn dangos ein hymrwymiad i gynnal rhaglen sgrinio newydd-anedig o ansawdd uchel, cynaliadwy a theg i Gymru. Trwy fuddsoddi nawr, rydym yn cryfhau gwasanaethau ar gyfer teuluoedd heddiw, gan hefyd sicrhau bod y rhaglen wedi’i pharatoi’n well ar gyfer cyfleoedd y dyfodol.