Neidio i'r prif gynnwys

Rydyn ni eisiau gwella'r drafnidiaeth o amgylch Casnewydd, lleihau tagfeydd traffig, a gwneud teithio ar yr M4 yn fwy dibynadwy.

Statws:
Yn cael ei ystyried
Rhanbarth / Sir:
Casnewydd, Gwent
Cyhoeddwyd gyntaf:
12 Tachwedd 2026
Diweddarwyd ddiwethaf:

Trosolwg

Beth rydyn ni'n ei wneud

Mae'r M4 o amgylch Casnewydd yn llwybr trafnidiaeth pwysig a phrysur y mae miloedd o bobl a busnesau'n ei ddefnyddio bob dydd.

Cadarnhaodd adolygiad a gyhoeddwyd ym mis Hydref 2026 fod tagfeydd ar y llwybr hwn yn amharu ar deithiau a'u gwneud yn annibynadwy, a bod angen gweithredu i wella'r sefyllfa yn y tymor byr, y tymor canolig a'r tymor hir.

Byddwn ni'n cynnal astudiaeth 18 mis ar atebion ar gyfer yr M4 o amgylch Casnewydd, a'r atebion hynny'n seiliedig ar y ffyrdd. Bydd hyn yn ein helpu i nodi opsiwn a ffefrir ar gyfer y tymor hir.

Byddwn hefyd yn bwrw ymlaen â gwelliannau dros y pum mlynedd nesaf i ddarparu manteision yn gyflymach.

Yn eu plith:

  • Buddsoddi mewn gwella a chynnal a chadw'r draffordd a chefnffyrdd cysylltiedig eraill
  • Gwella sut mae'r draffordd yn cael ei gweithredu a'i rheoli, gyda newidiadau sy'n targedu ffyrdd a chyffyrdd o amgylch Casnewydd. Bydd hefyd yn cynnwys mesurau i wella cludiant nwyddau drwy wneud defnydd gwell o lwybrau eraill fel yr A465
  • Parhau i fuddsoddi mewn trafnidiaeth gyhoeddus, gan gynnwys cyflymu'r gwaith o gwblhau gorsafoedd Parcffordd Caerdydd a Magwyr a Gwndy, gwella mynediad i orsaf drenau Cyffordd Twnnel Hafren, a gwella gwasanaethau bysiau rhwng Casnewydd a Chaerdydd.

Hysbysiadau diweddaraf

Cyhoeddiadau a hysbysiadau

Cyhoeddiadau

Adroddiadau, datganiadau amgylcheddol a chynlluniau