Mae pobl yn cael eu hannog i fod yn ymwybodol a rhoi gwybod am fandaliaeth, ymddygiad gwrthgymdeithasol a throseddau treftadaeth ar safleoedd hanesyddol Cymru yr hanner tymor hwn ar ôl i werth miloedd o bunnoedd o ddifrod gael ei achosi ar safle sydd newydd ei adnewyddu yng ngorllewin Cymru.
Dros y 12 mis diwethaf, mae seiri maen a chontractwyr Cadw, sydd wedi'u hyfforddi'n arbennig, wedi cynnal rhaglen helaeth o waith maen ym Mhriordy Hwlffordd, Sir Benfro.
Cafodd y gwaith cadwraeth medrus, gofalus hwn, gyda'r bwriad o sicrhau dyfodol hirdymor y priordy a'i wneud yn lle gwell, mwy diogel i ymwelwyr a'r gymuned ei fwynhau, ei ddinistrio mewn ychydig oriau.
Mae'r effaith ariannol yn dal i gael ei chyfrif, ond roedd cost ddiweddar y gwaith, y mae llawer ohono bellach wedi'i ddinistrio, ychydig yn llai na £50,000.
Y tu hwnt i'r gost ariannol, mae'r gwirfoddolwyr a'r crefftwyr sydd wedi neilltuo eu hamser a'u sgiliau i'r prosiect hwn, gan gynnwys garddwr gwirfoddol hirdymor a'r seiri maen a wnaeth y gwaith, wedi cael eu digalonni wrth weld eu gwaith yn cael ei ddinistrio.
Nid difrodi hen gerrig yn unig y mae troseddau treftadaeth, boed yn lladrad, fandaliaeth neu waith anawdurdodedig. Mae'n erydu hanes, yn digalonni'r gwirfoddolwyr a'r gweithwyr proffesiynol sy'n gwarchod safleoedd hanesyddol, ac yn dargyfeirio arian a allai fel arall fynd tuag at sicrhau fod treftadaeth yn cael ei fwynhau gan fwy o bobl, neu i brosiectau cadwraeth eraill.
Gall troseddau treftadaeth hefyd gynnwys; tanau bwriadol, dwyn, fandaliaeth a graffiti, tynnu deunydd archaeolegol o’i le neu ei aildrefnu, gwaith anawdurdodedig, defnyddio synwyryddion metel anghyfreithlon, a gyrru anghyfreithlon oddi ar y ffordd.
Dywedodd Fleur Gordon, Pennaeth Eiddo Mewn Gofal Cadw:
Gyda chalon drom rydym wedi gweld ymddygiad gwrthgymdeithasol sylweddol a fandaliaeth ym Mhriordy Hwlffordd. I bob pwrpas, mae blwyddyn o waith yn y cloestrau wedi cael ei effeithio ac mae gwaith cadwraeth arbenigol wedi’i ddadwneud yn yr hyn sy’n ymddangos yn weithred fwriadus, yn hytrach na damwain ddiofal.
Mae'n rhwystredig gweld fandaliaeth mor ddifeddwl. Mae Cadw yn gwario llawer o arian ac amser ac yn ymdrechu'n galed i ailadeiladu adeiladau hanesyddol arbennig, yn enwedig ar gyfer ein cenedlaethau nesaf a fydd yn ymweld â safleoedd yr hanner tymor hwn. Mae hon yn drosedd byddwn yn annog unrhyw un sy'n gweld achosion o'r fath yn digwydd i roi gwybod i'r Heddlu.
