Neidio i'r prif gynnwys

Nodiadau pwysig

Mae'r canllaw hwn yn esbonio sut i gwblhau'r cais Seilwaith ac Offer Rheoli Maethynnau. 

Problemau gyda'r cais

Y Ganolfan Gyswllt i Gwsmeriaid

Os ydych chi'n cael problemau neu'n ei chael hi'n anodd mynd i'ch cyfrif RPW Ar-lein, cysylltwch â'r Ganolfan Gyswllt i Gwsmeriaid lle mae staff wrth law i roi gwybodaeth ac ateb ymholiadau.

Gallwch ddefnyddio'r dudalen "Negeseuon" yn eich cyfrif RPW Ar-lein i ofyn cwestiwn i'r Ganolfan Gyswllt i Gwsmeriaid. Neu, gallwch ffonio 0300 062 5004 (ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener, o 9am i 4pm.

Cael gafael ar y cais

Os ydych wedi gwneud cais am Haen Gyffredinol y Cynllun Ffermio Cynaliadwy (SFS), mae'r cais ar gael trwy glicio ar Ddangosfwrdd Haen Opsiynol yr SFS yn y gwymplen Cynllun Ffermio Cynaliadwy ar eich hafan RPW Ar-lein. 

Dewiswch y categori yr hoffech wneud cais amdano a chliciwch Parhau a fynd i dudalen "Dechrau Cais". Cliciwch ar y botwm "Dechrau" i ddechrau’r cais.

Os nad ydych wedi gwneud cais ar gyfer Haen Gyffredinol yr SFS, mae'r cais i’w weld o dan y rhestr Ffurflenni ar eich hafan RPW Ar-lein.  Dewiswch y cais yr hoffech wneud cais amdano a chliciwch ar y botwm dechrau i ddechrau'r cais.

Nodwch, os ydych wedi dechrau cais o'r blaen ac wedi arbed yr hyn roeddech wedi'i wneud heb ei gyflwyno, bydd y botwm yn newid i "Parhau â'r Cais". Os ydych yn parhau â chais, bydd y system yn cynnig y dewis i chi barhau o ble gwnaethoch chi stopio o'r blaen neu ddechrau eto. Os ydych am ddechrau eto, dilynwch y cyfarwyddiadau ar y sgrin.

Trosolwg a mynd o dudalen i dudalen

Bydd y cais yn dangos eich Cyfeirnod Cwsmer (CRN) yng nghornel chwith uchaf y dudalen. 

Mae ochr chwith y sgrin yn dangos y tudalennau sydd ar gael yn y cais. Bydd y dudalen rydych chi'n gweithio arni nawr yn cael ei dangos mewn glas. Gallwch glicio ar dudalen arall i fynd yn syth i'r dudalen honno neu glicio'r botymau "Nesaf" / "Yn ôl" i symud rhwng tudalennau. Bydd tudalennau ble bydd angen ichi fwydo data ynddyn nhw yn cael eu marcio â chroes goch neu dic gwyrdd. Mae croes goch yn dangos bod angen rhagor o ddata ar y dudalen honno, a bydd tic gwyrdd yn dangos eich bod wedi rhoi'r holl wybodaeth sydd ei hangen.

Dangosir nifer o fotymau ar y sgrin i'ch helpu i symud o gwmpas y cais:

  • "Cymorth" os oes angen cymorth i lenwi'r ffurflen
  • "Argraffu" i argraffu copi o'r ffurflen yn ei chyflwr presennol
  • "Cymraeg"/"Saesneg" i newid rhwng ieithoedd
  • "Safio" i gadw'r hyn rydych wedi’i lenwi
  • "Nesaf" i symud i'r dudalen nesaf yn y rhestr
  • "Yn ôl" i symud i'r dudalen flaenorol yn y rhestr
  • "Gadael" i gadw a gadael y ffurflen

Tudalen cyflwyniad

Mae'r dudalen "Cyflwyniad" yn crynhoi gwybodaeth bwysig y cais rydych chi'n ei gyflwyno. Rhowch sylw arbennig i'r prif negeseuon ar y dudalen hon gan y gallan nhw newid o gategori i gategori. Cliciwch "Nesaf" i symud i'r dudalen nesaf.

Tudalen hysbysiad preifatrwydd

Mae’r dudalen "Hysbysiad Preifatrwydd" yn disgrifio sut rydym yn trin data personol sy'n ymwneud â cheisiadau am grant a cheisiadau am gyllid. Mae'n esbonio sut rydym yn prosesu gwybodaeth ynghylch pwy sy'n gymwys, atal twyll a chadarnhau pwy ydych chi. Mae hefyd yn esbonio sut y gellir rhannu data gydag awdurdodau rheoleiddio ac asiantaethau atal twyll, cyfnodau cadw gwybodaeth bersonol, a hawliau unigolion o dan gyfreithiau diogelu data. Ar ôl darllen, cliciwch "Nesaf" i symud i'r dudalen nesaf.

Tudalen cymhwysedd

Bydd y dudalen hon ond yn ymddangos os ydych chi'n gwneud cais fel cwsmer nad yw'n rhan o'r SFS. 

Byddwch yn gymwys i wneud cais os: 

  • rydych wedi’ch cofrestru gyda Llywodraeth Cymru ac wedi cael Cyfeirnod Cwsmer (CRN). I gael cyngor ar sut i gofrestru, ewch ein wefan neu ffoniwch Ganolfan Gyswllt i Gwsmeriaid RPW ar 0300 062 5004
  • rydych yn gynhyrchydd cynradd cynhyrchion amaethyddol 
  • os oes gennych 3ha o dir amaethyddol cymwys yng Nghymru sydd wedi'i gofrestru gydag RPW, neu 
  • os ydych yn gallu dangos i chi wneud mwy na 550 o oriau o lafur safonol

Dilynwch y cyfarwyddiadau ar y sgrin i ateb y cwestiynau ynghylch pwy sy’n gymwys.

Cynllun y busnes/prosiect

Rhaid i chi gwblhau cynllun prosiect. Mae templed safonol i gynllun prosiect, ac mae ganddo naw pennawd. 

Bydd y wybodaeth a ddarperir o dan bob pennawd yn cael ei defnyddio yn y broses asesu. 

Pwysig: os bydd angen i ni ofyn ichi am ragor o wybodaeth, gallai hynny arafu prosesau asesu’r cais felly rydym yn eich cynghori’n gryf i ddilyn y canllawiau’n fanwl a rhoi’r wybodaeth y gofynnir amdani. 

Dilynwch y cyfarwyddiadau ar y sgrin wth gwblhau pob pennawd.

Addasrwydd buddsoddi

Ar y dudalen 'Addasrwydd y Buddsoddiad', bydd angen i chi roi gwybodaeth i ni allu gwerthuso pa mor addas yw'r buddsoddiad.   

Dilynwch y cyfarwyddiadau ar y sgrin.

Eitemau/gwerth am arian 

Ar y dudalen hon, rhowch wybodaeth am gostau’r prosiect a’r dyfynbrisiau.

Y grant mwyaf y gellir ei roi yw £50,000. Y grant lleiaf y gellir ei roi yw £12,000. Bydd Llywodraeth Cymru yn ariannu hyd at naill ai 40% neu 50% o gost pob eitem ac ni roddir grant o fwy na £50,000.

Dilynwch y cyfarwyddiadau ar y sgrin i ychwanegu'r eitemau yr hoffech wneud cais amdanynt. Darllenwch y canllawiau technegol i gael rhagor o wybodaeth am yr eitemau.

Ar gyfer eitemau gwerth llai na £1,000 nid oes angen dyfynbrisiau; ar gyfer eitemau gwerth rhwng £1,000 a £4,999 mae angen un dyfynbris neu amcanbris; ac ar gyfer eitemau gwerth £5,000 neu fwy mae angen tri dyfynbris neu amcanbris.   

Os oes gennych ddyfynbrisiau adeg cyflwyno'r cais hwn, rhaid i chi hefyd gyflwyno'r dystiolaeth ategol ar gyfer y dyfynbrisiau hynny. Os nad ydych wedi cael dyfynbrisiau adeg cyflwyno'r cais, gofynnir i chi amcangyfrif y gwerth. Dilynwch y cyfarwyddiadau ar y sgrin.

Dylid nodi, os na fyddwch yn cyflwyno'r dystiolaeth ofynnol ar gyfer dyfynbris adeg cyflwyno'r cais, bydd angen i chi wneud hynny cyn cyflwyno unrhyw hawliad.  

Rhaid i chi ddarllen Canllawiau Technegol Tendro Cystadleuol a Chaffael Cyhoeddus Llywodraeth Cymru a chydymffurfio â nhw. 

Wrth arfarnu'r dyfynbrisiau a gyflwynir, byddwn yn archwilio'r canlynol: 

  • eu bod yn cydymffurfio â gweithdrefnau a gofynion Tendro Cystadleuol a Chaffael Cyhoeddus Llywodraeth Cymru
  • eu bod yn rhesymol o ran cost 
  • y rheswm os nad y dyfynbris rhataf yw'r dyfynbris a ffefrir
  • eu bod yn gymharol ac yn amserol
  • ymchwiliadau pellach gyda'r ymgeisydd a/neu'r cyflenwr gan Lywodraeth Cymru os nodir unrhyw risg neu anghysondeb yn ystod yr arfarniad

Ar gyfer rhai eitemau, rhaid i chi nodi lleoliad yr eitem ar y map a ddarperir. I wneud hyn, dewiswch barsel naill ai drwy nodi rhif y parsel yn y bar chwilio, neu drwy chwyddo i mewn a chlicio ar y parsel ar y map. Dilynwch y cyfarwyddiadau ar y sgrin.

Ar gyfer rhai eitemau, bydd gofyn i chi roi tystiolaeth eich bod wedi gwneud cais am ganiatâd cynllunio a/neu adroddiad peiriannydd. Dilynwch y cyfarwyddiadau ar y sgrin. 

Cyflawni - y Prosiect Cyflawni

Ar y dudalen "Cyflawni - y Prosiect Cyflawni", byddwch yn disgrifio’r gwaith rydych am ei wneud.  

Dilynwch y cyfarwyddiadau ar y sgrin.

Cyflawni – risg a rheoli risg 

Ar y dudalen "Cyflawni – Risg a Rheoli Risg", bydd angen ichi roi crynodeb yn y tabl o fan leiaf y pum risg fwyaf allai effeithio ar eich gallu i gynnal y prosiect a sicrhau canlyniadau ac amcanion y prosiect.

Dilynwch y cyfarwyddiadau ar y sgrin.

Cynaliadwyedd hirdymor 

Y dudalen "Cynaliadwyedd Hirdymor" yw lle bydd gofyn i chi esbonio'r effaith y bydd y buddsoddiad yn ei chael ar gynaliadwyedd hirdymor y busnes. 

Dilynwch y cyfarwyddiadau ar y sgrin.

Ariannol a chydymffurfio

Bydd angen i chi esbonio a rhoi tystiolaeth ategol o'r canlynol: 

  • sefyllfa ariannol y busnes, i gynnwys gorbenion ariannol a throsiant, pynciau llosg a phryderon
  • sut y bydd y prosiect yn cael ei ariannu yn ychwanegol at unrhyw ddyfarniad grant
  • rhagolygon masnachu a sut y bydd y buddsoddiad yn effeithio ar berfformiad ariannol y busnes 
  • tystiolaeth y bydd y buddsoddiad ac unrhyw fuddsoddiad dilynol sydd yn yr arfaeth yn arbed arian neu'n lleihau costau ac o unrhyw fanteision y byddai'n eu rhoi i'r busnes presennol
  • sut y bydd y busnes yn fwy proffidiol a thystiolaeth bod yr elw hwnnw'n ddigonol ar gyfer y dyfodol h.y. elw mewn perthynas â'i anghenion ariannol
  • tystiolaeth sy'n dangos na fyddai'r prosiect yn gallu mynd yn ei flaen heb grant  

Dilynwch y cyfarwyddiadau ar y sgrin.

Themâu trawsbynciol 

Ar y dudalen "Themâu Trawsbynciol" bydd angen ichi esbonio sut bydd y prosiect arfaethedig yn cyfrannu at y themâu trawsbynciol:

  • cyfle cyfartal a phrif ffrydio rhywedd
  • trechu tlodi ac allgáu cymdeithasol 
  • y Gymraeg

Dilynwch y cyfarwyddiadau ar y sgrin.

Rhestr o’r dogfennau atodol sydd eu hangen

Ar y dudalen "Rhestr o'r Dogfennau Atodol", ceir rhestr o’r holl ddogfennau mae’n rhaid ichi eu cyflwyno gyda’ch cais, ynghyd â rhestr o rai o’r dogfennau eraill efallai y bydd angen ichi eu cyflwyno i ategu'ch cais, gan ddibynnu ar eich prosiect. 

Rhaid ichi ddewis o leiaf un ffordd o gyflwyno dogfennau atodol er mwyn symud ymlaen i’r dudalen nesaf. 

Pan fyddwch wedi dewis eich ateb, cliciwch ar y botwm "Nesaf".

Cyflwyniad: gwallau, gwybodaeth a chrynodeb

Mae'r dudalen hon yn crynhoi'r data rydych wedi'i roi yn eich cais. Bydd unrhyw wallau a geir yn y data yn cael eu rhestru ar frig y dudalen hon a bydd lleoliad y gwallau hynny yn cael ei nodi yn y ddewislen gyda chroes goch yn erbyn pob tudalen. Rhaid i chi gywiro unrhyw wallau cyn y gallwch gyflwyno'r cais.

Efallai y bydd negeseuon gwybodaeth ar y dudalen hon. Mae'r rhain i'ch atgoffa am unrhyw gamau y gallai fod angen ichi eu cymryd, ond nid ydynt yn eich rhwystro rhag cyflwyno’ch cais.

Pan fyddwch yn fodlon bod yr holl ddata yn gywir, cliciwch "Nesaf" i symud i'r dudalen "Datganiadau ac Ymrwymiadau".

Cyflwyniad: datganiadau ac ymrwymiadau

Mae'r dudalen hon yn rhestru'r datganiadau a'r ymrwymiadau y mae'n rhaid i chi gytuno iddynt wrth wneud cais. Darllenwch y dudalen hon yn drylwyr i gadarnhau'ch bod yn deall y canllawiau a'ch bod yn cydymffurfio â gofynion y categori, yr angen i gadw dogfennau, a'r gofyniad i gydweithredu ag unrhyw archwiliadau sydd eu hangen. Rhaid ichi hefyd warantu bod yr wybodaeth a ddarperir yn gywir. 

Ticiwch y blwch ar y gwaelod sydd wedi'i labelu "Rwyf wedi darllen ac yn cytuno â'r Datganiadau ac Ymrwymiadau uchod" a chliciwch ar "Nesaf" i symud ymlaen i'r dudalen gyflwyno.

Noder, os nad ydych yn cytuno â'r datganiadau a'r ymrwymiadau, ni fyddwch yn gallu cyflwyno'ch cais.

Cyflwyniad: cyflwyno

Mae’ch cais bellach yn barod i'w gyflwyno. Cliciwch y botwm "Cyflwyno".

Os oes angen cyflwyno dogfennau atodol yn y cam ymgeisio, gallwch wneud hynny drwy glicio ar y botwm "Cyflwyno Dogfennau" ar y sgrin nesaf ar ôl i chi glicio "Cyflwyno". Darllenwch ganllawiau'r categorïau unigol i gael rhagor o wybodaeth am y dogfennau atodol sydd eu hangen.

Ar ôl cyflwyno'r cais, bydd dogfen gryno sy'n cynnwys manylion y wybodaeth a gyflwynwyd yn cael ei hychwanegu at eich adran negeseuon.