Haen Opsiynol yr SFS: Seilwaith ac Offer: canllawiau technegol
Cadwch at y rheolau hyn ar gyfer y Haen Opsiynol yr Cynllun Ffermio Cynaliadwy: Seilwaith ac Offer.
Ar y dudalen hon
Adran 1: gofynion storio silwair, slyri ac olew
Mae storio silwair, slyri a thail da byw solet yn cael ei reoli o dan Reoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd Amaethyddol) (Cymru) 2021 ("y rheoliadau"), sydd wedi dirymu a disodli Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd) (Silwair a Slyri) (Cymru) 2010 (SSAFO).
Mae'r rheoliadau hyn yn pennu'r gofynion ar gyfer cynllun (capasiti), adeiladu a chynnal a chadw cyfleusterau storio silwair,slyri a thail da byw.
Maent yn berthnasol i bob gosodiad a gwblhawyd ers mis Medi 1991.
Maent yn ei gwneud yn ofynnol i chi hysbysu CNC, yn ysgrifenedig, o leiaf 14 diwrnod cyn dechrau adeiladu storfa newydd, sydd wedi'i hehangu'n sylweddol neu wedi'i hailadeiladu'n sylweddol.
Mae gan CNC ffurflen ar-lein ar gael i'ch helpu i ddarparu'r wybodaeth angenrheidiol.
Am fwy o fanylion, gweler Rheoli rheoliadau llygredd amaethyddol: canllawiau.
Newidiadau storio olew 2016
Disodlwyd y gofynion ar gyfer storio olew amaethyddol gan Reoliadau Rheoli Llygredd (Storio Olew) (Cymru) 2016 ym mis Mawrth 2016.
I gael rhagor o fanylion, gweler Rheoliadau storio olew.
Mae’r rheoliadau hyn yn berthnasol i danciau olew amaethyddol o bob math, waeth pryd y cawsant eu hadeiladu.
Safonau cydymffurfio ar gyfer slyri a silwair
Rhaid i bob storfa slyri a silwair gael ei hadeiladu i fodloni'r safonau capasiti ac adeiladu yn unol â'r rheoliadau sydd wedi'u crynhoi isod. Gall eithriadau i'r gofynion adeiladu fod yn berthnasol i storfeydd a adeiladwyd, neu oedd wrthi'n cael eu hadeiladu, cyn 1991. Mae storfeydd cyn 1991 ond wedi'u heithrio rhag y safonau adeiladu os nad ydynt yn peri risg sylweddol o achosi llygredd ac nid ydynt wedi'u heithrio rhag y gofynion capasiti.
Silwair: byrnau a maes:
- Ni ellir storio nac agor silwair sydd mewn byrnau a silwair sydd wedi'i lapio neu ei gau mewn bagiau o fewn 10 metr i gwrs dŵr.
- Os ydych chi'n defnyddio safleoedd silwair maes i greu neu storio silwair maes, neu silwair nad yw mewn byrnau mewn bagiau mawr, er enghraifft 'bagiau ag', mae'n rhaid i chi hysbysu CNC o leiaf 14 diwrnod cyn defnyddio'r safle am y tro cyntaf.
Claddfeydd silwair:
- Mae'n rhaid i waelod y gladdfa, y tanc elifion a'r draeniau fod yn anhydraidd ac yn gallu gwrthsefyll ymosodiad gan elifion silwair. Mae'n rhaid i waelod y gladdfa gael ei chynllunio a'i hadeiladu'n unol â BS8007 neu BS5502 Rhan 21.
- Os caiff muriau eu defnyddio, mae'n rhaid i'r gwaelod ymestyn y tu hwnt i'r muriau. Mae'n rhaid i bob claddfa silwair gynnwys sianel ddraenio o'i hamgylch sy'n cysylltu â thanc elifion.
- Mae'n rhaid casglu a chadw'r holl elifion mewn cynhwysydd. Mae'n rhaid i gapasiti'r tanc elifion silwair fod yn 20 litr/metr ciwbig o gapasiti seilo - hyd at 1500 metr ciwbig, a 6.7 litr/metr ciwbig o gapasiti seilo wedi hynny.
- Ni ddylai unrhyw ran o'r gosodiad hwn fod o fewn 10 metr i gwrs dŵr neu ddraeniau tir.
- Rhaid sicrhau bod claddfeydd a draeniau yn gallu para o leiaf 20 mlynedd (gyda gwaith cynnal a chadw rheolaidd).
- Rhaid sicrhau bod tanciau elifion islaw wyneb y tir yn gallu para o leiaf 20 mlynedd heb waith cynnal a chadw. Mae'n rhaid anfon tystysgrif i CNC yn cadarnhau bod y tanc a'r gladdfa wedi'u cynllunio a'u hadeiladu'n briodol 14 diwrnod cyn i’r gwaith adeiladu ddechrau.
- Os oes gan y gladdfa furiau, mae'n rhaid iddynt gael eu cynllunio'n unol â safonau BS5502 rhan 22 a gallu gwrthsefyll ymosodiad gan elifion silwair.
Slyri
- Mae rheoliadau yn diffinio slyri fel deunydd hylifol neu led hylifol sy'n cynnwys tail a gynhyrchir gan dda byw ar fuarth neu mewn adeilad.
- Mae’r diffiniad o slyri'n cynnwys golchiadau parlwr a buarth, ac unrhyw ddŵr glaw halogedig.
- Gall gwahanu dŵr glaw glân o doeon a buarthau leihau'r capasiti storio slyri sydd ei angen.
- Ni all unrhyw ran o'r system gael ei lleoli o fewn 10 metr i gwrs dŵr y gallai slyri fynd i mewn iddo, oni bai bod CNC wedi cytuno, yn ysgrifenedig, i'r lleoliad a mesurau ychwanegol i osgoi llygredd.
Gofynion cyfleusterau storio slyri
- Mae'n rhaid i storfeydd, tanciau, pibellau a sianelau slyri fod yn anhydraidd. Os nad yw muriau'r storfa slyri'n anhydraidd (e.e. storfeydd wal hidlo), mae'n rhaid i'r gwaelod ymestyn y tu hwnt i'r muriau gyda draeniau o'u hamgylch sy'n cysylltu â thanc slyri.
- Mae'n rhaid amddiffyn gwaelod a muriau'r tanc storio slyri, unrhyw danciau elifion, sianeli a phyllau derbyn, a muriau unrhyw bibellau yn erbyn cyrydiad, yn unol â disgrifiad BS 5502, Rhan 50 (1993).
- Rhaid sicrhau bod cynllun y tanc storio slyri a'r pwll derbyn yn cydymffurfio â BS 5502, Rhan 50 (1993).
- Mae'n rhaid i'r pwll derbyn a'r sianeli cysylltiedig ddal o leiaf dau ddiwrnod o gynhyrchiant slyri fel arfer, gan gynnwys dŵr glaw tebygol.
- O 1 Awst 2024 ymlaen, rhaid i chi ddarparu storfa i gadw gwerth o leiaf bump neu chwe mis o slyri, yn ddibynnol ar y math o slyri a gynhyrchir. (Sicrhewch fod unrhyw ochrau ar oleddf a bwrdd rhydd sydd ei angen yn cael eu tynnu wrth gyfrifo capasiti.)
- Mae'n rhaid i ddyluniad y tanc storio slyri sicrhau fod y pellter fertigol rhwng gwefus y storfa slyri ac wyneb y slyri, sef y bwrdd rhydd, yn 300mm o leiaf, ond rhaid i storfeydd gyda muriau wedi'u gwneud o bridd fod â bwrdd rhydd 750mm o leiaf, sydd i'w gynnal bob amser.
- Rhaid cynllunio pob rhan o'r system storio slyri i bara 20 mlynedd o leiaf, a gwneud gwaith cynnal a chadw rheolaidd.
- Mae'n rhaid i unrhyw bibell ddraenio sefydlog o'r tanc storio slyri fod â dwy falf mewn cyfres. Mae'n rhaid cau a chloi'r falfiau hyn os nad ydynt yn cael eu defnyddio, ac mewn tanciau storio a adeiladwyd ar ôl 2010, rhaid bod bwlch o 1 metr o leiaf rhwng y falfiau.
- Dylech sicrhau eich bod yn defnyddio contractwyr neu adeiladwyr medrus sy'n deall rheoliadau SSAFO a Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd Amaethyddol) (Cymru) 2021 ac yn gweithio yn unol â nhw.
- Mae elifion silwair a slyri wedi achosi llygredd difrifol, yn aml oherwydd capasiti storio annigonol neu adeiladwaith gwael. Mae storfeydd digonol ar gyfer elifion silwair a slyri neu wrtaith yn hanfodol i osgoi'r angen am daenu y tu allan i'r tymor tyfu neu yn ystod amodau tywydd a phridd amhriodol.
- Dylech gysylltu â CNC cyn gynted â phosibl yn y cam cynllunio, gan y gallai'ch helpu i arbed amser ac arian.
- Gall CNC sicrhau eich bod yn cydymffurfio â'r rheoliadau ac yn lleihau peryglon llygredd yn y ffordd fwyaf cost-effeithiol.
- Os oes unrhyw system gwneud silwair neu storio slyri yn achosi perygl o lygredd sylweddol i ddŵr wyneb neu ddŵr daear, gall CNC gyhoeddi hysbysiad sy'n ei gwneud yn ofynnol i chi wneud gwelliannau.
Cystylltwch â Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) at:
Cyfoeth Naturiol Cymru
Maes y Ffynnon
Penrhosgarnedd
Bangor
Gwynedd
LL57 2DW.
0300 065 3000 (Dydd Llun i Ddydd Gwener, 8am to 6pm)
Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.
Adran 2: caniatâd a thrwyddedau amgylcheddol
Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC), Awdurdod Lleol (ALl)
Os yw ymgeisydd yn bwriadu gosod eitemau cyfalaf sy'n effeithio ar systemau storio slyri neu silwair, neu a allai effeithio ar lif dŵr, fe'i cynghorir i ymgynghori â Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) a/neu ei Awdurdod Lleol (ALl) gan ei bod yn bosibl y bydd angen caniatâd i wneud y gwaith. Mae'n rhaid i ymgeiswyr wneud hyn cyn ymrwymo i unrhyw waith arfaethedig a chyn iddynt gyflwyno cais am gymorth grant o dan y categori yma. Noder y gall CNC/yr ALl godi tâl am y caniatâd perthnasol. Cynghorir ymgeiswyr i gysylltu ag CNC/yr ALl yn ddigon buan i gadarnhau a oes angen caniatâd perthnasol ar gyfer y gwaith arfaethedig. Os yw CNC/yr ALl yn cadarnhau bod angen caniatâd, mae'n rhaid cyflwyno'r caniatâd gyda'r cais. Ni ellir prosesu ceisiadau nes bod unrhyw ganiatâd perthnasol gan CNC/yr ALl wedi'i gyflwyno.
Caniatâd cynllunio, rheoliadau adeiladu etc.
Mae'n rhaid i ymgeiswyr sicrhau unrhyw ganiatâd cynllunio gofynnol a chydymffurfio ag unrhyw ofynion statudol perthnasol eraill. Mae angen i ymgeiswyr sicrhau hefyd nad yw eu cynigion yn torri unrhyw is-ddeddf, yn rhwystro hawliau tramwy, yn effeithio ar biblinellau olew neu nwy etc, ac mae'n rhaid iddynt osgoi niweidio cefn gwlad neu achosi llygredd. Ni ellir prosesu ceisiadau heb dderbyn unrhyw ganiatâd perthnasol.
O safbwynt caniatâd cynllunio, mae'n rhaid i ymgeiswyr gynnwys eu dogfennau caniatâd cynllunio gwreiddiol neu dderbynneb wreiddiol yr awdurdod cynllunio lleol bod y cais cynllunio wedi'i gyflwyno. Ni thelir unrhyw grant nes bod y dogfennau caniatâd cynllunio gwreiddiol wedi'u derbyn a'u cymeradwyo gan Lywodraeth Cymru.
Adran 3: gofynion allweddol
Os ydych yn gosod to dros ardaloedd bwydo da byw, ardaloedd casglu da byw neu ardaloedd storio tail presennol, rhaid i chi ddangos bod gan yr ardal gyfan lawr sy’n anhydraidd i ddŵr, slyri ac elifiant silwair, er enghraifft, llawr concrit.
Dylai pob adeilad, gan gynnwys storfeydd slyri/tail a claddfeydd silwair fodloni BS 5502 rhan 22:2013 – wedi'i gynllunio i wrthsefyll y llwythi nodweddiadol y bydd yn agored iddynt, yn seiliedig ar y ffordd mae’n cael ei ddefnyddio a'i leoliad. Os yw wedi cael ei weithgynhyrchu oddi ar y safle i'w chodi'n ddiweddarach, dylai'r uned ddwyn nod CE. Ar gyfer unrhyw strwythur nad yw'n dwyn nod CE, bydd angen i'r ymgeisydd ddangos ei fod yn cydymffurfio â BS 5502 rhan 22:2013 drwy ddarparu cyfrifiadau strwythurol gan beirianwyr â chymwysterau addas.
Bydd angen i ddeunyddiau'r to allu gwrthsefyll rhwd a lleihau cyddwysiad. Er mwyn sicrhau hyn, dylai'r cladin fod wedi'i wneud o sment ffeibr neu, fel arall, ddur proffiliedig wedi'i inswleiddio ag araen o blastig os gall hyn fodloni'r gofynion o ran gwrthsefyll rhwd. Dylai tulathau fod wedi'u gwneud o bren wedi'i drin neu ddur galfanedig – pren wedi'i drin sydd orau. Er bod dur wedi'i baentio yn ddigon da, byddai dur galfanedig yn ddewis gwell am ei fod yn para'n hirach.
Adran 4: rhestr o eitemau cyfalaf cymwys
Gellir defnyddio'r grant ar gyfer buddsoddiad cyfalaf mewn cyfarpar a pheiriannau sydd wedi'u nodi o flaen llaw i leihau y risg o greu niwed i’r amgylchedd.
Ni all cyfleusterau storio slyri dderbyn cymorth oni bai bod y toeon a'r buarthau sy'n gysylltiedig â dŵr glaw sy'n mynd i mewn i'r cyfleuster storio arfaethedig neu unrhyw storfa bresennol yn cael eu trwsio yn gyntaf, er mwyn dangos y gall y seilwaith presennol gyflawni hyn neu drwy ofyn am yr eitemau angenrheidiol i wneud hynny drwy'r categori Seilwaith ac offer - Rheoli Maethynnau.
Pan fo slyri’n cael ei gynhyrchu, os cewch eich dewis ac i sicrhau eich bod yn gymwys ar gyfer taliad, bydd angen i chi ddangos sut y bydd y grant yn eich galluogi i gydymffurfio â gofynion y rheoliadau.
Os nad ydych yn bodloni gofynion y rheoliadau, naill ai cyn buddsoddi, neu yn dilyn buddsoddiad gyda chymorth y categori Seilwaith ac offer - Rheoli Maethynnau , ni fyddwch yn gymwys i wneud cais am fuddsoddiad ychwanegol nad yw'n gysylltiedig â storio maethynnau, e.e. offer gwasgaru slyri ac ati.
| Cod yr Eitem | Buddsoddiad | Disgrifiad | Cyfanswm y sgôr |
% Grant |
| Storfeydd – Gyda tho neu orchudd | ||||
6404
|
Storfeydd tail dan orchudd
| Storfa ar gyfer tail (solet) o fuarth y fferm (ond nid slyri). Yn addas ar gyfer unrhyw sarn (deunydd gwely) sydd wedi'i halogi ag unrhyw dail organig y gellir ei bentyrru'n domen heb iddo chwalu. Rhaid ei orchuddio (â tho parhaol) a gosod llawr sy'n dal dŵr a slyri. Mae costau’r to (gan gynnwys cafnau dŵr glaw), y llawr a'r waliau cynnal yn gostau cymwys. Dylai gwaelod waliau allanol ddal dŵr rhag i hylifau llygredig allu dianc, neu er mwyn atal dŵr rhag dod i mewn. Rhaid cadw hylif sy'n dod o dail solet (slyri) yn y storfa neu ei ddargyfeirio i storfa slyri sy'n bod eisoes neu i bwll derbyn. Os nad yw'r hylif yn cael ei gasglu mewn storfa slyri sy'n bod eisoes, rhaid i'r llawr wyro tuag at gefn y storfa. Oni nodir fel arall mewn cymeradwyaeth SuDS, rhaid dargyfeirio dŵr glân o'r to i ddraen dŵr glân neu i system casglu dŵr glaw. Rhaid i ddyluniad yr adeilad fod yn addas ar gyfer tail organig y gellir ei bentyrru'n domen. Dylai'r waliau allanol fod fel a ganlyn:
Dylai blaen (pen mynediad) yr adeilad aros ar agor heb wal na drws. (ddim yn gostau cymwys) Gellir codi gatiau da byw ar draws mynediad i wahardd da byw. Dylai maint y storfa fodloni gofynion storio tail y fferm. Ni ellir defnyddio'r ardal ar gyfer lletya na storio anifeiliaid. Rhaid adeiladu cyfleusterau storio slyri at safon BS5502. Ceir y manylion yn adroddiad ‘C759b CIRIA - Livestock manure and silage storage Part 2 Design and construction’. |
485
|
50%
|
| 6416 | Storfa slyri integredig. | Bag ffabrig â chaen polyester PVC cyfnerthedig o fewn strwythur pridd. Wedi'i gyfyngu ar yr ochrau, ac yn cynnwys fentiau nwy | 430 |
50% |
| 6429 | Claddfeydd silwair | Cyfleuster storio silwair. Rhaid i waelod y gladdfa, y waliau, y tanc elifion a'r draeniau allu dal dŵr a gwrthsefyll elifion silwair. Wedi’u hadeiladu at safon BS5502. | 465 |
50% |
6432
|
Storfeydd slyri a phyllau derbyn cysylltiedig
| Storfeydd, yn cynnwys lagwnau slyri, strwythurau storio concrit, ar ben tir, storfeydd concrit neu ddur sy’n addas ar gyfer storio slyri sy’n hawdd ei bwmpio. Yn cynnwys pyllau derbyn, storfeydd ar gyfer slyri sy'n gymysg â dŵr, fel dŵr buarthau brwnt neu dail solet sy'n cael ei storio ar fuarthau, golchion o adeiladau neu fuarthau a ddefnyddir gan dda byw. Dylid adeiladu pyllau derbyn fydd yn gallu dal o leiaf deuddydd o gynhyrchiant slyri, a dŵr halogedig gan ystyried glaw tebygol. Dylid darparu trefniadau mynediad digonol os oes bwriad defnyddio tanceri slyri wedi'u tynnu gan dractor i wacáu tanciau a phyllau. Dim ond os nad yw'r ardal yn cael ei defnyddio ar gyfer llety i dda byw y mae to storfa slyri newydd yn gymwys o dan yr eitem hon: Lle bwriedir i'r storfa gael ei gorchuddio â slatiau a tho ar gyfer llety da byw, mae strwythur y storfa danddaearol yn gymwys, ond nid yw gosod llawr wedi'i slatio, to a waliau neu gatiau i gadw da byw yn gymwys. Yn yr achosion hyn, mae'n ofynnol i'r storfa fod â chapasiti storio 5 mis ar gyfer y da byw sy’n cael eu cadw dan do. Nid yw unrhyw strwythurau ychwanegol a gaiff eu gosod i helpu gyda gosod slatiau, fel waliau cynnal neu byst ychwanegol yn y storfa slyri, yn gymwys. Pan fydd to wedi'i osod i gadw dŵr glaw rhag mynd i mewn i'r storfa, dylai'r to orchuddio ardal y storfa slyri yn unig ac ni all ymestyn i ardaloedd eraill. Os yw ymgeisydd yn bwriadu gosod storfa newydd gyda slatiau ar gyfer lletya da byw, mae angen i'r dyfynbrisiau a'r anfoneb ddilynol osod costau'r storfa yn glir ar wahân i’r buddsoddiad sy'n weddill. Oni nodir fel arall mewn cymeradwyaeth SuDS, rhaid dargyfeirio dŵr glân o'r to i ddraen dŵr glân neu system cynaeafu dŵr glaw. Rhaid adeiladu cyfleusterau storio slyri at safon BS5502. Ceir y manylion yn adroddiad ‘C759b CIRIA - Livestock manure and silage storage Part 2 Design and construction’. Ar gyfer storfeydd slyri tanddaearol a morlynnoedd slyri, rhaid gosod ffens ddiogelwch briodol i atal mynediad anawdurdodedig. Rhaid i’r ffens ddiogelwch gydymffurfio â manyleb yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (HSE) yn unol ag AIS9 (Adolygiad 1), Rheoli slyri ar ffermydd (AIS9). Rheoli slyri ar ffermydd - AIS9 (rev1) (ar hse.gov.uk). Rhaid i'r capasiti storio ychwanegol a ddarperir gan y storfa newydd fod yn ddigonol i sicrhau bod y fferm yn cydymffurfio â gofynion capasiti storio slyri Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd Amaethyddol) (Cymru) 2021. | 428.75 |
50% |
| 6434 |
Systemau ar gyfer rheoli slyri
| Pympiau, hidlyddion a chyfarpar rheoli i reoli lefel y slyri sydd mewn pyllau derbyn. | 327.5 |
50% |
6435
|
Tanciau ar gyfer storio dŵr sydd ychydig yn frwnt
| Tanciau ar gyfer storio dŵr sydd ychydig yn frwnt a phibellau a sianeli cysylltiedig. Yn cynnwys dŵr ffo wedi'i halogi'n ysgafn o fuarthau concrit sydd ychydig yn frwnt neu o'r parlwr llaeth sy'n cael ei gasglu ar wahân i slyri. Dylech sicrhau bod unrhyw hylif sy'n mynd i mewn i storfa ddŵr sydd ychydig yn frwnt ar gyfer dyfrhau rheolaidd mewn cyfnodau caeedig yn bodloni'r diffiniad Rheoliadol ar gyfer dŵr sydd ychydig yn frwnt. Nid yw'r hylif yn cynnwys draeniad o fuarthau neu adeiladau a ddefnyddir i gadw neu fwydo da byw, hylifau o storfeydd waliau hidlo, storio tail ar dir caled, blychau hidlo, gwahanwyr slyri neu elifion silwair, y mae pob un ohonynt yn gyfoethog mewn nitrogen. | 428.75 |
50% |
6439
|
Storfeydd a sianeli trosglwyddo tanlawr
| Sianeli trosglwyddo / llif tanlawr i ddarparu ffordd o drosglwyddo slyri o fan casglu i storfa barhaol. Dylai gwaelod a waliau sianeli allu dal dŵr er mwyn atal hylifau llygredig rhag dianc, neu er mwyn atal dŵr rhag dod i mewn os yw'r storfa wedi'i hadeiladu o dan ddaear. Os yw slyri'n cael ei wagio o sianeli i bwll derbyn trwy lifddor, dylai'r pwll fod yn ddigon mawr i ddal yr holl slyri a allai gael ei ryddhau. Rhaid adeiladu sianeli trosglwyddo at safon BS5502. Ceir y manylion yn adroddiad ‘C759b CIRIA - Livestock manure and silage storage Part 2 Design and construction’. Nid yw sianeli tanlawr, y mae lloriau slatiog wedi’u gosod drostynt ar gyfer cadw anifeiliaid dan do neu fel ardaloedd i'r anifeiliaid orwedd yn gymwys am gymorth. Mae gorchuddion slatiog sy’n galluogi slyri sydd wedi'i grafu i fynd i mewn i'r sianel yn gymwys i gael cymorth. Nid yw toeon dros sianeli trosglwyddo yn gymwys i gael cymorth. Bydd angen darparu ffotograffau fel rhan o'r cais i ddangos tystiolaeth o leoliad y sianel newydd. | 485 |
50% |
| Gorchuddion a thoeon | ||||
| 6408 |
Gorchudd sefydlog ar gyfer tanc slyri sy'n bodoli eisoes ar ben tir
| Gorchudd ffabrig â haen polyester PVC cyfnerthedig neu orchudd tun. Fel arfer, cysylltir y mathau hyn o orchudd wrth ochrau'r tanc gyda pholyn cynnal canolog a fentiau nwy. Rhaid dargyfeirio'r dŵr glaw sy'n cwympo ar y gorchudd fel ei fod yn llifo oddi ar y storfa. | 335 |
50% |
| 6409 | Pilen blastig arnofiol sefydlog i orchuddio lagŵn. | Gorchudd plastig mawr sy'n gallu arnofio ac sydd â fentiau nwy ynddo. Bydd ymylon y gorchudd wedi'u cysylltu'n sownd wrth lannau'r lagŵn i sicrhau nad yw cryfder strwythurol y storfa yn cael ei effeithio. Rhaid dargyfeirio'r dŵr glaw sy'n cwympo ar y gorchudd fel ei fod yn llifo oddi ar y storfa i ddraen dŵr glân. | 302.50 |
50% |
| 6410 |
Gorchudd plastig sy'n arnofio'n rhydd ar gyfer storfeydd slyri ar ben tir.
| Gorchudd plastig, wedi'i ymestyn dros y storfa a’i dynnu'n dynn o amgylch cylchyn plastig i gynnal y tensiwn. Mae’n arnofio ar yr wyneb. Rhaid dargyfeirio'r dŵr glaw sy'n cwympo ar y gorchudd fel ei fod yn llifo oddi ar y storfa i ddraen dŵr glân. | 297.50 |
50% |
| 6424 | To dros storfa silwair sy’n bod eisoes | Strwythur to, gan gynnwys pyst cynnal a nwyddau dŵr glaw, sy'n gallu dal dŵr glaw i orchuddio storfa silwair. Rhaid bod gennych dystiolaeth bod safle cyfan yn dal dŵr, e.e. concrit. Mae angen adroddiad gan beiriannydd i gadarnhau bod cyfanrwydd strwythurol y storfa silwair yn cael ei gynnal ac y bydd y storfa yn parhau i gydymffurfio â Rheoliadau Rheoli Llygredd Amaethyddol (CoAPR) ar ôl codi to drosti. Ni ellir defnyddio'r ardal a gefnogir i gadw da byw. Oni nodir fel arall mewn cymeradwyaeth SuDS, rhaid dargyfeirio'r dŵr glân o’r to newydd i ddraen dŵr glân neu i system casglu dŵr glaw. Nid yw'n cynnwys unrhyw waliau, lloriau na draeniau cysylltiedig. Bydd angen darparu ffotograffau fel rhan o'r cais i ddangos tystiolaeth o’r ardal i’w chefnogi. | 225 |
40% |
| 6425 | To dros storfa slyri sy’n bod eisoes | Strwythur to, gan gynnwys pyst cynnal a nwyddau dŵr glaw, sy'n gallu dal dŵr glaw i orchuddio storfa slyri. Rhaid bod gennych dystiolaeth bod y storfa gyfan yn dal dŵr, e.e. concrit. Mae angen adroddiad gan beiriannydd i gadarnhau bod cyfanrwydd strwythurol y storfa silwair yn cael ei gynnal ac y bydd y storfa yn parhau i gydymffurfio â Rheoliadau Rheoli Llygredd Amaethyddol (CoAPR) ar ôl codi to drosti. Nid yw to dros storfa slyri sy'n bodoli eisoes gyda slatiau ar gyfer cadw da byw yn gymwys. Oni nodir fel arall mewn cymeradwyaeth SuDS, rhaid dargyfeirio'r dŵr glân o’r to newydd i ddraen dŵr glân neu i system casglu dŵr glaw. Nid yw'n cynnwys unrhyw waliau, lloriau na draeniau cysylltiedig. Bydd angen darparu ffotograffau fel rhan o'r cais i ddangos tystiolaeth o’r ardal i’w chefnogi. | 225 |
40% |
| 6426 | To dros storfa dail sy’n bod eisoes | Strwythur to na all dŵr glaw dreiddio trwyddo, yn cynnwys pileri unionsyth i'w gynnal, gan gynnwys gwteri a phibellau glaw, dros storfa dail sy'n bod oedd cynt heb orchudd. Rhaid i'r storfa fod ar gyfer tail (solet) ac nid slyri. Bydd y storfa'n addas ar gyfer unrhyw sarn (deunydd gwely) sydd wedi'i halogi â thail organig y gellir ei bentyrru'n domen heb iddo chwalu. Bydd gan yr ardal gyfan o dan y to lawr concrit eisoes sy'n gallu dal dŵr, slyri neu elifiant silwair. Mae'r hylif a ddaw o dail solet sy'n cael ei storio ar arwyneb caled yn cael ei ystyried yn slyri a rhaid ei gasglu'n briodol. Rhaid dargyfeirio'r slyri hwn i storfa slyri neu bwll derbyn priodol. Os nad oes storfa ar gael ar hyn o bryd, rhaid cadw'r holl elifion yn y cyfleuster. Pan fydd pydew derbyn newydd yn cael ei osod i gasglu'r slyri, rhaid rhoi o leiaf 14 diwrnod o rybudd ysgfrifenedig i Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) cyn dechrau ar y gwaith adeiladu. Bydd angen tystiolaeth o'r hysbysiad hwn wrth hawlio. Bydd gwaelod waliau allanol yn gallu dal dŵr rhag i hylifau llygredig allu dianc, neu er mwyn atal dŵr rhag dod i mewn. Oni nodir fel arall mewn cymeradwyaeth SuDS, rhaid dargyfeirio'r dŵr glân o’r to newydd i ddraen dŵr glân neu i system casglu dŵr glaw. Rhaid i'r man dan do aros yn fan storio tail. Ni ddylai codi to drosto olygu bod modd ei ddefnyddio fel sied cadw da byw. Bydd angen darparu ffotograffau fel rhan o'r cais i ddangos tystiolaeth o’r ardal i’w chefnogi. | 225 |
40% |
6427
|
. To dros fan bwydo sy’n bod eisoes
| Strwythur to na all dŵr glaw dreiddio trwyddo, yn cynnwys pileri unionsyth i'w gynnal, gan gynnwys gwteri a phibellau glaw, dros fan bwydo da byw sy'n bod oedd cynt heb orchudd. Bydd gan yr ardal gyfan o dan y to lawr concrit eisoes sy'n gallu dal dŵr. Rhaid amgáu'r holl slyri o fewn y safle yn unol â'r rheoliadau cyfredol a'i sianelu i storfa neu danc derbyn priodol. Pan fydd pydew neu storfa dderbyn newydd wedi'i gosod i gasglu'r slyri, rhaid rhoi o leiaf 14 diwrnod o rybudd ysgrifenedig i Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) cyn dechrau ar y gwaith adeiladu. Bydd angen tystiolaeth o'r hysbysiad hwn wrth hawlio. Oni nodir fel arall mewn cymeradwyaeth SuDS, rhaid dargyfeirio'r dŵr glân o’r to newydd i ddraen dŵr glân neu i system casglu dŵr glaw. Rhaid i’r ardal fwydo gael ei hamgáu i gadw da byw ynddi gan ddefnyddio naill ai waliau neu rwystrau parhaol, gan gynnwys unrhyw gatiau perthnasol. Ni fydd mannau bwydo dros dro yn gymwys. Dylai'r man bwydo gael ei ddefnyddio gydol y cyfnod bwydo dros y gaeaf gyda'r da byw'n cael eu bwydo trwy drefniadau bwydo parhaol. Os defnyddir cafnau bwydo dros dro neu symudol, (e.e. i fwydo byrnau crwn) bydd angen tystiolaeth i ddangos y berthynas rhwng y man bwydo â sied cadw'r da byw a'u ffynhonnell ddŵr a bod y man bwydo'n un parhaol. Mae trefniadau hunan-fwydo mewn storfeydd silwair a/neu storfeydd silwair a ddefnyddir fel mannau bwydo yn anghymwys o dan yr eitem hon. Nid yw corlannau sglodion pren ac iardiau gwellt heb loriau sy'n dal dŵr ac nad yw'r slyri ohonyn nhw yn cael ei amgáu, yn gymwys. Rhaid i'r man dan do aros yn fan bwydo. Ni ddylai codi to drosto olygu bod modd ei ddefnyddio fel sied cadw da byw. Ar gyfer mannau bwydo da byw nad ydynt yn cael eu defnyddio yn ystod yr haf, dylid cyflwyno ffotograffau o'r rhwystrau bwydo parhaol a'r lleoliad casglu slyri ynghyd â disgrifiad o'i ddefnydd yn y gaeaf. Bydd angen darparu ffotograffau fel rhan o'r cais i ddangos tystiolaeth o’r ardal i’w chefnogi. | 225 |
40% |
| 6428 | To dros fan crynhoi sy’n bod eisoes | Strwythur to na all dŵr glaw dreiddio trwyddo, yn cynnwys pileri unionsyth i'w gynnal, gan gynnwys gwteri a phibellau glaw, dros fan crynhoi da byw sy'n bod oedd cynt heb orchudd. Bydd gan yr ardal gyfan o dan y to lawr concrit eisoes sy'n gallu dal dŵr. Rhaid amgáu'r holl slyri o fewn y safle yn unol â'r rheoliadau cyfredol a'i sianelu i storfa neu danc derbyn priodol. Pan fydd storfa neu bydew derbyn newydd yn cael ei osod i gasglu'r slyri, rhaid rhoi o leiaf 14 diwrnod o rybudd ysgrifenedig i Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) cyn dechrau ar y gwaith adeiladu. Bydd angen tystiolaeth o'r hysbysiad hwn wrth hawlio. Oni nodir fel arall mewn cymeradwyaeth SuDS, rhaid dargyfeirio'r dŵr glân o’r to newydd i ddraen dŵr glân neu i system casglu dŵr glaw. Rhaid i’r ardal fwydo gael ei hamgáu i gadw da byw ynddi gan ddefnyddio naill ai waliau neu rwystrau parhaol, gan gynnwys unrhyw gatiau perthnasol. Ni fydd mannau crynhoi dros dro yn gymwys. Rhaid dangos pwrpas y man crynhoi e.e. iard gasglu ar gyfer parlwr godro neu fan crynhoi ar gyfer system trin barhaol. Nid yw'r mannau lle mae da byw yn teithio yn anaml rhwng adeiladau neu iardiau agored yn gymwys. Mae'r mannau lle mae slyri yn cael ei grafu o adeilad i storfa ar draws iardiau agored ac sydd heb dda byw ynddyn nhw yn anghymwys. Mannau crynhoi ar gyfer systemau trin da byw: Rhaid i'r systemau trin fod yn barhaol ac yn sownd wrth y llawr. Nid yw toeon dros systemau trin symudol yn gymwys. Mae systemau trin defaid neu wartheg sy'n bod yn gymwys os yw'r holl slyri, dŵr ffo a dŵr brwnt (budr) o'u golchi yn cael eu hamgáu yn unol â gofynion y rheoliadau diweddaraf a'u dargyfeirio i storfa neu danc derbyn priodol. Os na allwch brofi bod yr holl slyri, dŵr ffo a dŵr brwnt (budr) yn cael eu casglu, ni fydd yr hawliad yn ddilys. (e.e. system trin defaid lle nad yw'r dŵr ffo yn cael ei gasglu ar hyn o bryd: Bydd angen amgau'r man crynhoi a dargyfeirio'r holl slyri, dŵr ffo a dŵr brwnt (budr) i storfa neu danc derbyn priodol. Rhaid rhoi o leiaf 14 diwrnod o rybudd ysgrifenedig i CNC cyn dechrau'r gwaith o adeiladu'r storfa ym mhob sefyllfa. Rhaid i'r man dan do aros yn fan crynhoi. Ni ddylai codi to drosto olygu bod modd ei ddefnyddio fel sied cadw da byw. Bydd angen darparu ffotograffau fel rhan o'r cais i ddangos tystiolaeth o’r ardal i’w chefnogi. | 224 |
40% |
| Tanciau a Gwasgaru | ||||
| 6402 |
Taenwr Band neu ‘trailing shoe’
| Taenwr band: Mae nifer o bibellau wedi'u cysylltu â braich y gwasgarwr slyri, gan wasgaru'r slyri'n agos i'r ddaear mewn stribedi neu fandiau. Daw'r slyri i'r fraich o un bibell, ac mae'n dibynnu felly ar y pwysedd wrth arllwysfa pob un o'r pibellau i wasgaru'r slyri'n gyfartal. Mae systemau mwy datblygedig yn defnyddio system gylchdroi sy'n gwasgaru'r slyri'n gyfartal i arllwysfa pob pibell. Trailing shoe: Patrwm tebyg i'r taenwr band, ond mae 'esgid' wrth bob pibell i chwistrellu'r slyri o dan orchudd y cnwd ac i’r pridd. Os cafodd yr ymgeisydd help yn y gorffennol i brynu’r eitem hon (trwy NMIS neu SPG neu Grant Bach – Effeithiolrwydd), ni fydd cymorth ar gael ar gyfer yr eitem. | 390 |
40% |
6405
|
Peiriant gwasgaru tail buarth sy'n troelli, sy'n gollwng o'r tu ôl neu system ddeuddiben.
| Peiriant gwasgaru sy'n troelli (rotaspreader): Peiriant gwasgaru sy'n gollwng o'r ochrau gyda chorff silindraidd a siafft pto, a ffustiau ar hyd canol y silindr. Wrth i'r rotor droi, mae'r ffustiau'n taflu'r tail solet allan tua'r ochrau. Peiriant gwasgaru sy'n gollwng o'r tu ôl: Trelar gyda llawr symudol neu fecanwaith arall wedi'i osod arno i roi'r tail solet yng nghefn y gwasgarwr. Bydd y mecanwaith gwasgaru yn curo naill ai i fyny ac i lawr neu ar draws, gyda disgiau troelli hefyd ambell waith. Gwasgarwr deuddiben: Peiriant gwasgaru sy'n gollwng o'r ochrau â chorff siâp-V diorchudd sy'n gallu trin slyri a thail solet. Mae troellwr neu rotor sy'n troi'n gyflym, fel arfer ym mhen blaen y gwasgarwr, yn taflu'r deunydd dros yr ochr. Mae taradr neu fecanwaith arall yng ngwaelod y gwasgarwr yn bwydo deunydd i'r rotor ac mae gât lithro yn rheoli llif y deunydd i'r rotor. Os cafodd yr ymgeisydd help yn y gorffennol i brynu’r eitem hon (trwy NMIS neu SPG neu Grant Bach – Effeithiolrwydd), ni fydd cymorth ar gael ar gyfer yr eitem. Bydd angen i gapasiti’r eitem fod yn gymesur â maint y daliad a faint o slyri a gynhyrchir. | 307.5 |
40% |
| 6415 | Chwistrellwr (Slyri) | Caiff slyri ei chwistrellu o dan wyneb y pridd. Mae gwahanol fathau o chwistrellwr ond mae pob un yn perthyn i un o ddau gategori: naill ai chwistrelliad bas slot agored, hyd at 50mm o ddyfnder; neu chwistrelliad dwfn dros 150mm o ddyfnder. Os cafodd yr ymgeisydd help yn y gorffennol i brynu’r eitem hon (trwy NMIS neu SPG neu Grant Bach – Effeithiolrwydd), ni fydd cymorth ar gael ar gyfer yr eitem. | 430 |
40% |
| 6417 | Dyfrhäwr | Peiriant sy'n teithio ar ei ben ei hun â phibellau hyblyg neu ar olwyn a gaiff eu bwydo o rwydwaith o bibellau tanddaear fel arfer, â phwmp allgyrchol neu ddadleoli positif, wedi'i leoli ger storfa'r slyri. Os cafodd yr ymgeisydd help yn y gorffennol i brynu’r eitem hon (trwy NMIS neu SPG neu Grant Bach – Effeithiolrwydd), ni fydd cymorth ar gael ar gyfer yr eitem. | 270 |
40% |
6419
|
Tancer pwmp a Thaenwr Band neu 'trailing shoe'.
| Tancer pwmp: Caiff y slyri ei bwmpio i'r tancer ac allan o'r tancer gan ddefnyddio pwmp slyri, naill ai pwmp allgyrchol (e.e. fel troellwr) neu bwmp dadleoli positif (e.e. fel llabed). Taenwr Band: Mae nifer o bibellau wedi'u cysylltu â braich y gwasgarwr slyri, gan wasgaru'r slyri'n agos i'r ddaear mewn stribedi neu fandiau. Daw'r slyri i'r fraich o un bibell, ac mae'n dibynnu felly ar y pwysedd wrth arllwysfa pob un o'r pibellau i wasgaru'r slyri'n gyfartal. Mae systemau mwy datblygedig yn defnyddio system gylchdroi sy'n gwasgaru'r slyri'n gyfartal i arllwysfa pob pibell. Trailing Shoe: Patrwm tebyg i'r taenwr band, ond mae 'esgid' ar bob pibell i chwistrellu'r slyri o dan orchudd y cnwd i'r pridd. Os cafodd yr ymgeisydd help yn y gorffennol i brynu’r eitem hon (trwy NMIS neu SPG neu Grant Bach – Effeithiolrwydd), ni fydd cymorth ar gael ar gyfer yr eitem. Bydd angen i gapasiti’r eitem fod yn gymesur â maint y daliad a faint o slyri a gynhyrchir. | 341.25
|
40% |
| 6436 |
Piben llinyn y bogail a Thaenwr Band neu 'trailing shoe'
| Caiff y slyri ei fwydo gan bibell lusg i'r system ddosbarthu sydd wedi'i gosod ar y tractor; daw'r slyri'n uniongyrchol i'r bibell o'r storfa slyri fel arfer, drwy ddefnyddio pwmp allgyrchol neu bwmp dadleoli positif. Os cafodd yr ymgeisydd help yn y gorffennol i brynu’r eitem hon (trwy NMIS neu SPG neu Grant Bach – Effeithiolrwydd), ni fydd cymorth ar gael ar gyfer yr eitem. |
375
|
40% |
| 6437 | Pibell llinyn y bogail a Chwistrellwr (Slyri) | Caiff y slyri ei fwydo gan bibell lusg i'r system ddosbarthu sydd wedi'i gosod ar y tractor; daw'r slyri'n uniongyrchol i'r bibell o'r storfa slyri fel arfer, drwy ddefnyddio pwmp allgyrchol neu bwmp dadleoli positif. Os cafodd yr ymgeisydd help yn y gorffennol i brynu’r eitem hon (trwy NMIS neu SPG neu Grant Bach – Effeithiolrwydd), ni fydd cymorth ar gael ar gyfer yr eitem. |
395
|
40% |
| 6438 | Piben llinyn y bogail a Dyfrhäwr | Caiff y slyri ei fwydo gan bibell lusg i'r system ddosbarthu sydd wedi'i gosod ar y tractor; daw'r slyri'n uniongyrchol i'r bibell o'r storfa slyri fel arfer, drwy ddefnyddio pwmp allgyrchol neu bwmp dadleoli positif. Os cafodd yr ymgeisydd help yn y gorffennol i brynu’r eitem hon (trwy NMIS neu SPG neu Grant Bach – Effeithiolrwydd), ni fydd cymorth ar gael ar gyfer yr eitem. |
315
|
40% |
6440
|
Tancer gwactod a Thaenwr Band neu 'Trailing Shoe'
| Tancer gwactod: Caiff slyri ei sugno i'r tancer gan ddefnyddio pwmp aer i dynnu'r aer o'r tanc er mwyn creu gwactod; caiff y tancer ei wagio gan ddefnyddio'r pwmp aer i greu pwysedd yn y tancer i wthio'r slyri allan. Taenwr Band: Mae nifer o bibellau wedi'u cysylltu â braich y gwasgarwr slyri, gan wasgaru'r slyri'n agos i'r ddaear mewn stribedi neu fandiau. Daw'r slyri i'r fraich o un bibell, ac mae'n dibynnu felly ar y pwysedd wrth arllwysfa pob un o'r pibellau i wasgaru'r slyri'n gyfartal. Mae systemau mwy datblygedig yn defnyddio system gylchdroi sy'n gwasgaru'r slyri'n gyfartal i arllwysfa pob pibell. Trailing Shoe: Patrwm tebyg i'r taenwr band, ond mae 'esgid' wrth bob pibell i chwistrellu'r slyri o dan orchudd y cnwd i mewn i'r pridd. Os cafodd yr ymgeisydd help yn y gorffennol i brynu’r eitem hon (trwy NMIS neu SPG neu Grant Bach – Effeithiolrwydd), ni fydd cymorth ar gael ar gyfer yr eitem. Bydd angen i gapasiti’r eitem fod yn gymesur â maint y daliad a faint o slyri a gynhyrchir. |
341.25 |
40% |
| 6441 | Tancer pwmp â Chwistrellwr (Slyri) | Caiff slyri ei sugno i mewn i'r tancer gan ddefnyddio pwmp aer i dynnu'r aer o'r tanc er mwyn creu gwactod; caiff y tancer ei wagio gan ddefnyddio'r pwmp aer i greu pwysedd yn y tancer, a thrwy hynny wthio'r slyri allan. Chwistrellwr: Caiff slyri ei chwistrellu o dan wyneb y pridd. Mae gwahanol fathau o chwistrellwr ond mae pob un yn perthyn i un o ddau gategori: naill ai chwistrelliad bas slot agored, hyd at 50mm o ddyfnder; neu chwistrelliad dwfn dros 150mm o ddyfnder. Os cafodd yr ymgeisydd help yn y gorffennol i brynu’r eitem hon (trwy NMIS neu SPG neu Grant Bach – Effeithiolrwydd), ni fydd cymorth ar gael ar gyfer yr eitem. Bydd angen i gapasiti’r eitem fod yn gymesur â maint y daliad a faint o slyri a gynhyrchir. |
361.25 |
40% |
| 6442 | Rheolydd cyfradd amrywiol ar gyfer chwistrellwyr a pheiriannau gwasgaru gwrtaith | Dyfais electronig i'w chysylltu wrth chwistrellwr neu wasgarwr gwrtaith sy'n bodoli eisoes er mwyn gallu gwasgaru ar gyfradd amrywiol. Bydd y system reoleiddio yn gweithio o synhwyrydd gwasgedd neu synhwyrydd llif a bydd yn darparu gwybodaeth am y cyflymder ymlaen, cyfradd defnydd, cyfanswm arwynebedd ac arwynebedd rhannol, cyfanswm cyfaint a’r cyfaint rhannol a wasgarwyd, statws a gwasgedd y fraich a'r darn, cyfradd llif a lefel y tanc. | 440 |
40% |
| Storio cemegion/plaladdwyr/olew tanwydd | ||||
| 6403 | Storfan ar gyfer cemegau | Adeilad neu uned storio byndiog diogel (y gellir ei gloi) gyda system ddraenio addas er mwyn casglu gollyngiadau. Diogelwch rhag rhew. Wedi'i gysylltu o bosibl â phad llenwi/golchi. Rhaid i faint y storfa fod yn briodol i ofynion y fferm. | 80 |
40% |
| 6411 | Tanciau a byndiau tanwydd | Tanciau storio a’r pibellwaith cysylltiedig. Rhaid i'r system a osodir gydymffurfio â gofynion Rheoliadau Rheoli Llygredd (Storio Olew) (Cymru) 2016. Rhaid i'r tanc storio fod yn addas at y diben a rhaid iddo fod wedi’i amgáu gan ail wal (bwnd fel arfer) sy'n gallu dal o leiaf 110% o gynnwys y tanc. Hefyd, mae'r Rheoliadau'n cynnwys cyfarwyddiadau ynghylch mannau llenwi, cyfarpar arllwys a phibellwaith gorlif y mae'n rhaid cydymffurfio â nhw. Rhaid i ddeunyddiau'r tanc a'r bwnd fod yn anhydraidd i’r olew sy'n cael ei storio ynddynt. | 80 |
40% |
| Eraill Cyffredinol | ||||
| 6401 | Sgwrwyr Aer | Sgwrwyr aml-lygrydd ar gyfer dileu amonia, arogleuon a deunydd gronynnol o adeiladau da byw. | 330 |
40% |
| 6406 | Tanc slyri mewn cae | Defnyddir i gludo amrywiol gemegau a hylifau amaethyddol i'r man y byddant yn cael eu taenu. | 380 |
40% |
| 6407 | Dargyfeirwyr/hidlyddion pibellau dŵr glaw | Dargyfeirwyr/hidlyddion pibellau dŵr glaw. | 300 | 40% |
| 6412 | Systemau GPS a systemau llif ar gyfer gwasgaru slyri | Mesurydd llif slyri, dangosydd/rheolydd yn y caban a system GPS. | 445 |
40% |
| 6413 | GPS ac offer ar gyfer ffermio manwl-gywir | Uned GPS annibynnol â chyfleuster awtomatig ar gyfer mesur ffiniau caeau ac adnabod caeau. Dylai fod ganddo foddau llywio syth a chrwm o leiaf a dylai allu argraffu mapiau. | 445 |
40% |
| 6414 | Canfyddwr nwy a ddelir â llaw | Monitorau nwy cludadwy a all helpu ffermwyr i gadw'n ddiogel wrth weithio o amgylch slyri. Monitorau nwy sy'n monitro hyd at 4 nwy - Ocsigen, Carbon Monocsid, Methan a Hydrogen Sylffid. | 75 |
40% |
| 6418 | Adnewyddu buarthau da byw a phibellwaith draenio tanddaear | Adnewyddu buarthau da byw a phibellwaith draenio tanddaear ar gyfer ardaloedd sy'n bodoli eisoes i fwydo neu i gasglu da byw. (Nid yw buarthau da byw newydd yn gymwys). Dim ond ardaloedd ag arwyneb a oedd yn gallu dal dŵr yn flaenorol ac y mae angen ei adnewyddu sy'n gymwys. Byddai'r ardal yn llawr concrit y mae angen ei adnewyddu. Rhaid dargyfeirio slyri o'r buarth i storfa slyri neu bwll derbyn. Bydd angen darparu ffotograffau fel rhan o'r cais i ddangos tystiolaeth o’r ardal i’w chefnogi. | 240 |
40% |
| 6420 | Pympiau (Slyri) | Pympiau slyri pwysedd uchel i'w defnyddio gyda phibell llinyn y bogail. Dadleoli allgyrchol neu bositif. | 260 |
40% |
| 6421 | Offer cynaeafu a hidlo dŵr glaw (uwchlaw’r ddaear) | Systemau cynaeafu a hidlo dŵr glaw, sy'n cynnwys: Tanc uwchben y ddaear. System hidlo a thapiau a ffitiadau cysylltiedig. Maint tanc o 10,000 o litrau o leiaf. System hidlo mynediad (pan fo mwy nag un tanc wedi'i osod a'i gysylltu, dim ond un system hidlo mynediad sydd ei hangen). Gorlif wedi'i ddargyfeirio i ddraen dŵr glân. Dŵr a ddefnyddir ar gyfer glanhau, yfed, golchi neu storio dŵr ar gyfer ymladd tân. Tanc a osodir wedi'i gysylltu â system defnyddio dŵr addas. Dŵr a gynaeafwyd o adeiladau amaethyddol a'i ddefnyddio at ddibenion fferm. | 150 |
40% |
| 6422 | Offer cynaeafu a hidlo dŵr glaw (dan ddaear) | System cynaeafu dŵr glaw, sy'n cynnwys: Tanc o dan y ddaear. Maint tanc o 20,000 o litrau o leiaf. System hidlo a chysylltwyr a ffitiadau cysylltiedig. Pwmp dŵr. Hidlydd UV. System hidlo mynediad. Gorlif wedi'i ddargyfeirio i ddraen dŵr glân. Dŵr a ddefnyddir ar gyfer glanhau, yfed neu olchi, tanc a osodir wedi'i gysylltu â system defnyddio dŵr addas. Dŵr a gynaeafwyd o adeiladau amaethyddol a'i ddefnyddio at ddibenion fferm. |
160
|
40% |
| 6423 | Gwthiwr silwair robotig | System robotig â meddalwedd ddeallus y gellir ei rhaglennu ar gyfer y llwybr bwydo bwriadedig. Dylai'r cyfarpar allu canfod y pellter o'r atalfa bwydo yn ogystal â faint o borthiant sydd yn y llwybr. | 170 |
40% |
| 6430 | Systemau crafu slyri | System crafu slyri sy’n gallu gweithio’n awtomatig. Gall fod yn system drydan ar gyfer crafu slyri er mwyn cymryd lle tractor sy’n defnyddio system grafu gyriant hydrolig neu winsh rhaff/cadwyn, neu gall fod yn wthiwr/casglwr slyri robotig. Rhaid dargyfeirio slyri i sianel gasglu neu storfa. | 215 |
40% |
| 6431 | Offer a gwahanydd slyri | Pwmp ac uned gwahanu slyri er mwyn gwahanu hylif o'r elfen ffibr mewn slyri anifeiliaid. | 280 |
50% |
| 6433 | Pad dŵr golchi/llenwi chwistrellwr | Pad concrit wedi'i fwndio a/neu wedi'i orchuddio er mwyn cyfyngu ar ollyngiadau/dŵr golchi o'r chwistrellwr cnydau. | 130 |
40% |
