Neidio i'r prif gynnwy

Y Gwir Anrh. Carwyn Jones, Prif Weinidog i Gymru a Mark Drakeford, Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
15 Gorffennaf 2014
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Rydym wedi ystyried canfyddiadau gwaith ymchwil diweddar ar yr achosion o ysmygu mewn ceir pan fo plant yn bresennol. 

Er bod y sefyllfa wedi gwella yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf, mae canfyddiadau’r gwaith ymchwil yn dangos bod lleiafrif sylweddol o bobl ifanc yn dal i ddod i gysylltiad â mwg tybaco ail law mewn ceir.  Mae dolen i ganfyddiadau’r ymchwil.

Rydym ni o’r farn y gallai gwahardd smygu mewn cerbydau preifat sy’n cludo plant dan 18 oed eu hamddiffyn nhw rhag y niwed sy’n gysylltiedig ag ysmygu goddefol. Gall hyn arwain at lu o glefydau cronig, ac y mae modd eu hosgoi i raddau helaeth.

Ymddengys mai deddfwriaeth fyddai’r dull mwyaf priodol o fynd ati i gael gwared ar y niwed hwn a chau’r bwlch parhaus yn yr anghydraddoldebau wrth ddod i gysylltiad â mwg tybaco ail-law. Rydym o blaid symud i’r cyfeiriad hwn, gan ddefnyddio pwerau penodol a fewnosodwyd yn Neddf Iechyd 2006 at y diben hwn, gan Ddeddf Plant a Theuluoedd 2014. Bydd ymgynghoriad ar fanylion ein cynigion yn cael ei lansio cyn bo hir, yn unol â gweithdrefnau a sefydlwyd.