Gwrthdrawiadau ffyrdd wedi'u cofnodi gan yr heddlu: Ebrill i Mehefin 2026 (dros dro)
Ystadegau dros dro ar gyfer gwrthdrawiadau ac anafusion ffyrdd a gofnodwyd gan yr heddlu yng Nghymru o fis Ebrill i fis Mehefin 2026.
Ar y dudalen hon
Cyflwyniad
Mae'r data dros dro a gyflwynir yma yn adlewyrchu'r anafiadau personol a ddioddefwyd yn sgil gwrthdrawiadau ffyrdd y rhoddwyd gwybod amdanynt i'r heddlu yng Nghymru rhwng mis Ebrill a mis Mehefin (Ch2) 2026. Er mai'r data hyn yw'r ffynhonnell wybodaeth fwyaf manwl a dibynadwy am wrthdrawiadau ffyrdd a marwolaethau ac anafusion, nid ydynt yn cynnwys gwrthdrawiadau ffyrdd:
- na roddwyd gwybod amdanynt i'r heddlu
- a ddigwyddodd ar dir preifat h.y. meysydd parcio neu gaeau
- lle na chofnodwyd unrhyw anafiadau personol
- lle y cafwyd cadarnhad yn ddiweddarach gan weithiwr meddygol proffesiynol neu grwner mai hunanladdiad neu ddigwyddiad meddygol oedd achos y gwrthdrawiad
Yn y cyhoeddiad hwn, rydym yn parhau i gyhoeddi data wedi’u haddasu am ddifrifoldeb anafusion fel ystadegau swyddogol sy’n cael eu datblygu. Cyn ein cyhoeddiad ar gyfer y cyfnod rhwng mis Ionawr a mis Mawrth 2026, cyhoeddom flog y Prif Ystadegydd a oedd yn esbonio’r newidiadau o ran sut mae difrifoldeb yn cael ei gofnodi gan luoedd yr heddlu ar draws Prydain Fawr a’r effeithiau a’r addasiadau sydd eu hangen i ddata difrifoldeb. Mae'r holl ddata sy'n ymwneud â difrifoldeb yn cael eu cyflwyno ynghyd â chanllawiau ar ddefnyddio'r data hyn. Nid yw'r newidiadau hyn yn effeithio ar nifer cyffredinol y gwrthdrawiadau a'r anafusion, ac mae'r rhain yn parhau i fod yn ystadegau swyddogol achrededig.
Prif bwyntiau
Yn Ch2 2026 cofnodwyd:
- 638 o wrthdrawiadau ffyrdd gan yr heddlu yng Nghymru a arweiniodd at 856 o anafusion
- 19% yn llai o wrthdrawiadau a 20% yn llai o anafusion nag yn yr un chwarter yn 2025
- 299 o wrthdrawiadau ffyrdd gyda therfynau cyflymder 20 a 30mya (gyda'i gilydd) yn arwain at 378 o anafusion ar y ffordd
- 22% yn llai o wrthdrawiadau ac 20% yn llai o anafusion nag yn yr un chwarter yn 2025
Mae nifer y gwrthdrawiadau ffyrdd chwarterol yng Nghymru wedi bod yn gostwng yn raddol dros y degawd diwethaf. A gall ffigurau chwarterol fod yn gyfnewidiol. Dylid cymryd gofal wrth ddehongli'r data hyn dros gyfnod byr.
Mae data gwrthdrawiadau yn dymhorol a gall ffactorau fel lefel y traffig a thywydd effeithio arnynt.
Gwrthdrawiadau ac anafusion ffyrdd
Yn Ch2 2026, cofnodwyd 638 o wrthdrawiadau ffyrdd gan yr heddlu yng Nghymru. Arweiniodd y gwrthdrawiadau hyn at 856 o anafusion, gostyngiad o 20% o'i gymharu â'r un chwarter yn 2025.
Roedd nifer y gwrthdrawiadau ac anafusion yn 27% ac 25% yn is na'r un chwarter yn 2023 yn y drefn honno, sef y cyfnod chwarter 2 olaf cyn y newid yn y terfyn cyflymder diofyn.
Ffigur 1: anafusion mewn gwrthdrawiadau ffyrdd wedi'u cofnodi gan yr heddlu, Ch2 2012 hyd at Ch2 2026
Disgrifiad o ffigur 1: mae'r siart linell yn dangos cyfres amser ar gyfer nifer y gwrthdrawiadau ffyrdd a gofnodwyd gan yr heddlu yng Nghymru bob chwarter, o Ch2 2012 hyd at Ch2 2026. Mae nifer y gwrthdrawiadau ffyrdd bob chwarter wedi gostwng yn raddol dros y degawd diwethaf.
Ffynhonnell: Gwrthdrawiadau ffyrdd wedi'u cofnodi gan yr heddlu, Llywodraeth Cymru
Caiff yr holl ddata sylfaenol eu cyhoeddi ar StatsCymru, a'n dangosfwrdd gwrthdrawiadau ffyrdd. Mae hyn yn cynnwys manylion ychwanegol am wrthdrawiadau a marwolaethau ac anafusion yn ôl ardal ddaearyddol, terfyn cyflymder, difrifoldeb a'r math o gerbyd.
Mae'r data ar gyfer Ch2 2026 yn rhai dros dro a gellir eu hadolygu yn y dyfodol. Cyhoeddir gwybodaeth fanwl ac o ansawdd yn yr adroddiad ansawdd ategol.
Mae'r data ar wrthdrawiadau yn dymhorol ac mae ffactorau fel swm y traffig a'r tywydd yn effeithio arnynt. Mae'n ddoeth ac yn ystyrlon cymharu data chwarterol â data o'r un chwarter mewn blynyddoedd blaenorol yn hytrach na'u cymharu â'r chwarter blaenorol. Fodd bynnag, mae tueddiadau tymor hwy yn rhoi gwell syniad o batrymau a newidiadau mewn gwrthdrawiadau ffyrdd sydd wedi'u cofnodi gan yr heddlu.
Cyflwynir data cyfres amser dros y tymor hir yn ein datganiad ystadegau blynyddol. Mae’n dangos gostyngiad tymor hir yn y gwrthdrawiadau ffyrdd a gofnodwyd gan yr heddlu yng Nghymru.
O ystyried y cynnydd mewn diddordeb yn y data ar wrthdrawiadau ers cyflwyno'r terfyn cyflymder diofyn o 20mya ar 17 Medi 2023, gwnaethom gyhoeddi Diweddariad y Prif Ystadegydd ar ‘ddeall ystadegau ar wrthdrawiadau ac anafusion ar y ffyrdd’ ar 24 Mai 2024.
20 and 30mph road speed limit
Cafodd y rhan fwyaf o'r ffyrdd 30mya eu newid i fod yn 20mya ar 17 Medi 2023. Felly, mae llawer mwy o ffyrdd bellach yn ffyrdd 20mya ac mae llawer llai yn 30mya. Ar adeg y newid i'r terfyn cyflymder diofyn o 20mya, cynyddodd cyfanswm hyd ffyrdd 20mya o oddeutu 870km i 13,000km a gostyngodd hyd ffyrdd 30mya o oddeutu 13,100km i 980km.
Mae'r adran hon yn ystyried gwrthdrawiadau a ddigwyddodd ar bob ffordd 20mya a phob ffordd 30mya (wedi'u cyfuno) er mwyn sicrhau y gellir eu cymharu â'r un set o ffyrdd cyn ac ar ôl y newid i'r terfyn cyflymder diofyn ar ffyrdd cyfyngedig.
Yn Ch2 2026, cafwyd 299 o wrthdrawiadau ar ffyrdd gyda therfynau cyflymder 20 a 30mya (wedi’u cyfuno) gan arwain at 378 o anafusion ar y ffyrdd.
Mae nifer yr anafusion ar ffyrdd 20 a 30mya (wedi’u cyfuno) 20% yn is nag yn yr un chwarter yn 2025 (474). Mae’n 35% yn is nag yn yr un chwarter yn 2023 (584), sef y cyfnod chwarter 2 olaf cyn newid y terfyn cyflymder diofyn.
Mae nifer y gwrthdrawiadau ar ffyrdd 20 a 30mya (wedi’u cyfuno) 22% yn is nag yn yr un chwarter yn 2025 (383). Mae’n 37% yn is nag yn yr un chwarter yn 2023 (477), sef y cyfnod chwarter 2 olaf cyn newid y terfyn cyflymder diofyn.
Yn gyffredinol, mae'r ffigur hwn wedi bod yn gostwng dros y degawd diwethaf.
Ffigur 2: anafusion mewn gwrthdrawiadau ffyrdd wedi'u cofnodi gan yr heddlu ar ffyrdd â therfyn cyflymder o 20mya neu 30mya (wedi’u cyfuno), Ch2 2012 hyd at Ch2 2026
Disgrifiad o ffigur 2: mae'r siart linell yn dangos cyfres amser ar gyfer gwrthdrawiadau ffyrdd a gofnodwyd gan yr heddlu bob chwarter ar ffyrdd â therfyn cyflymder o 20mya neu 30mya (wedi'u cyfuno) yng Nghymru, o Ch2 2012 hyd at Ch2 2026. Mae'r nifer wedi gostwng yn raddol dros y degawd diwethaf.
Ffynhonnell: Gwrthdrawiadau ffyrdd wedi'u cofnodi gan yr heddlu, Llywodraeth Cymru
Difrifoldeb anafiadau
Yn Ch2 2026, cafodd 294 o anafusion eu lladd neu eu hanafu'n ddifrifol (KSI) mewn gwrthdrawiadau ffyrdd a gofnodwyd gan yr heddlu. Mae'r ffigur hwn yn defnyddio data a addaswyd sy'n amcangyfrif difrifoldeb anaf pob un a anafwyd fel pe bai holl heddluoedd Cymru yn defnyddio'r un system gofnodi. Nid oes modd ei gymharu â ffigurau yn ein cyhoeddiadau blaenorol nad ydynt wedi'u haddasu.
Ffigur 3: Anafusion KSI mewn gwrthdrawiadau ffyrdd a gofnodwyd gan yr heddlu, wedi'u haddasu a heb eu haddasu, 2015 i 2025
Disgrifiad o ffigur 3: mae'r siart linell yn dangos cyfresi amser wedi'u haddasu a heb eu haddasu ar gyfer nifer yr anafusion KSI mewn gwrthdrawiadau ffyrdd a gofnodwyd gan yr heddlu yng Nghymru rhwng 2015 a 2025. Ar gyfer y gyfres wedi'i haddasu a'r gyfres heb ei haddasu, mae nifer yr anafusion KSI wedi aros yn sefydlog dros y 10 mlynedd diwethaf. Fodd bynnag, mae'r gyfres amser wedi'i haddasu yn dangos mwy o anafusion KSI na'r gyfres amser heb ei haddasu.
Ffynhonnell: Gwrthdrawiadau ffyrdd wedi'u cofnodi gan yr heddlu, Llywodraeth Cymru
Caiff anafusion mewn gwrthdrawiadau ffyrdd eu cofnodi naill ai fel wedi’u lladd, wedi’u hanafu’n ddifrifol neu wedi cael mân anafiadau. Yn hanesyddol, roedd hyn yn seiliedig ar farn swyddogion heddlu a oedd yn adrodd am wrthdrawiadau. Fodd bynnag, mae llawer o heddluoedd ledled Prydain Fawr wedi mabwysiadau system adrodd seiliedig ar anafiadau (IBRS), lle pennir y difrifoldeb gan ddefnyddio rhestr benodol o anafiadau. Mae’r dull hwn yn lleihau goddrychedd, a bwriedir iddo wella cywirdeb a chysondeb ar draws heddluoedd.
Fodd bynnag, wrth symud i IBRS, mae'r Adran Drafnidiaeth wedi canfod cynnydd yn nifer yr anafiadau difrifol a gostyngiad yn nifer y mân anafiadau. Mae hyn yn debygol o fod yn gynrychiolaeth fwy cywir o ddifrifoldeb anafiadau gan ei fod yn dileu goddrychedd barn swyddogion yr heddlu wrth benderfynu a oedd anaf yn ‘ysgafn’ neu’n ‘ddifrifol’. Nid yw'r newid i IBRS yn effeithio ar gyfanswm nifer y gwrthdrawiadau, yr anafusion na'r marwolaethau.
Heddlu Dyfed-Powys oedd y llu cyntaf o Gymru i symud i IBRS ym mis Mai 2023, ac yna Heddlu De Cymru ym mis Tachwedd 2025.
Nid yw’r dulliau adrodd am ddifrifoldeb anafusion o dan yr hen system a’r system newydd yn gyson, ac felly mae angen i ni addasu data hanesyddol am anafusion ffyrdd yn ôl difrifoldeb er mwyn ein galluogi i gymharu’r data yn gyson dros amser a rhwng heddluoedd.
Yn y cyhoeddiad hwn, rydym yn cyhoeddi data difrifoldeb anafusion wedi'u haddasu fel ‘ystadegau swyddogol sy’n cael eu datblygu (Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau)’ am yr ail dro, ynghyd â chynllun ar gyfer eu datblygu. Rydym wedi mabwysiadu'r fethodoleg a ddatblygwyd gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol a'r Adran Drafnidiaeth sy'n defnyddio model ystadegol i amcangyfrif pa mor ddifrifol fyddai pob achos pe bai wedi cael ei gofnodi gan ddefnyddio IBRS yn hytrach nag yn seiliedig ar farn swyddog yr heddlu. Yna mae'r model yn addasu'r ffigurau i adlewyrchu'r hyn y mae'n amcangyfrif y byddai'r difrifoldeb wedi bod pe bai IBRS wedi cael ei ddefnyddio. Mae hyn yn golygu bod y tueddiadau mewn difrifoldeb yn adlewyrchu'r hyn a ddigwyddodd mewn gwirionedd, yn hytrach nag adlewyrchu'r newid yn y dull adrodd.
Yn ystod ein dadansoddiad o ddata Heddlu De Cymru, rydym wedi canfod bod symud i IBRS wedi arwain at gynnydd mwy mewn gwrthdrawiadau difrifol nag yn y rhan fwyaf o heddluoedd eraill, gan gynnwys Dyfed-Powys. Credwn fod hyn yn debygol o fod yn sgil tanadrodd hanesyddol o wrthdrawiadau difrifol fel mân wrthdrawiadau gan Heddlu De Cymru, sydd bellach yn cael eu categoreiddio'n gywir yn sgil IBRS. Fodd bynnag, dim ond dau chwarter o ddata sydd gennym oddi wrth Heddlu De Cymru sydd gennym ar IBRS, mae'n rhy gynnar i ni ddod i’r casgliad hwn yn hyderus. Felly, byddwn yn parhau i ymchwilio i hyn wrth i ni dderbyn rhagor o ddata gan Heddlu De Cymru a pharhau i ddiweddaru defnyddwyr drwy gydol ein datganiadau sydd ar y gweill.
O ystyried bod data Heddlu De Cymru a addaswyd yn seiliedig ar ddata IBRS o fis Tachwedd 2025 i fis Mehefin 2026, rydym yn disgwyl i hyn fod yn destun lefel uwch o adolygiad wrth i ni dderbyn mwy o chwarteri o ddata IBRS. Byddem hefyd yn disgwyl diweddaru'r model wrth i'r ddau heddlu sy'n weddill symud i IBRS. Bydd gan hyn oblygiadau i gyfanswm Cymru ar gyfer dadansoddiadau o wrthdrawiadau ac anafusion difrifol neu fân a addaswyd. Fodd bynnag, nid yw'n effeithio ar gyfanswm y bobl a laddwyd na chyfanswm y gwrthdrawiadau neu anafusion.
Lle bynnag y bo modd, byddem yn cynghori defnyddwyr i osgoi cymharu tueddiadau mewn data difrifoldeb tan ein bod yn cyhoeddi iteriadau pellach o ddata wedi'u haddasu mewn cyhoeddiadau sydd i ddod. Byddwn yn monitro graddfa'r diwygiadau ac yn cynghori defnyddwyr yn unol â hynny.
Mae data wedi'u haddasu ar gyfer nifer yr anafusion mewn gwrthdrawiadau ffyrdd a gofnodwyd gan yr heddlu yn ôl terfyn cyflymder, math o gerbyd a difrifoldeb ar gael ar StatsCymru. Rydym wedi parhau i gyhoeddi data heb eu haddasu ar StatsWales.
Gwybodaeth ansawdd a methodoleg
Mae gwybodaeth fanwl am ansawdd a methodoleg ar gyfer ffynonellau a'r dulliau a ddefnyddir i lunio'r ystadegau hyn a statws ystadegau swyddogol yr ystadegau hyn wedi’u cyhoeddi yn yr adroddiad cysylltiedig gwrthdrawiadau ffyrdd ac anafusion a gofnodwyd gan yr heddlu.
Cynllun ar gyfer ystadegau swyddogol o dan ddatblygiad – Data difrifoldeb wedi’i addasu
Rydym wedi cyflwyno'r data am ddifrifoldeb wedi'i addasu fel ‘Ystadegau swyddogol o dan ddatblygiad’, yn unol â'r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau. Ystadegau sydd wrthi'n cael eu datblygu yw ystadegau swyddogol o dan ddatblygiad. Gallent fod yn ystadegau newydd neu'n ystadegau sydd eisoes yn bodoli, a byddant yn cael eu profi gyda defnyddwyr yn unol â'r safonau yn y Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau, sef dibynadwyedd, ansawdd a gwerth.
Mae'r data am ddifrifoldeb wedi'i addasu wedi'u ddynodi'n ‘Ystadegau swyddogol o dan ddatblygiad’ oherwydd byddwn yn parhau i adolygu a datblygu'r model ar gyfer addasu difrifoldeb wrth i fwy o heddluoedd yng Nghymru symud i systemau adrodd ar sail anafiadau (IBRS) ac inni dderbyn mwy o ddata Cymreig. Mae'r ystadegau eraill yn y datganiad yn parhau i fod yn ‘Ystadegau swyddogol achrededig’.
Dros y blynyddoedd nesaf, byddwn yn cymryd y camau canlynol i ddatblygu'r ystadegau hyn.
Datblygu'r model
- Rhedeg y model bob blwyddyn i sicrhau bod yr addasiadau yn cynnwys y data diweddaraf a bod yr addasiadau mor gywir â phosibl.
- Monitro hyd a lled yr addasiadau bob blwyddyn.
- Gweithio'n agos gyda'n darparwyr data, h.y. y pedwar heddlu yng Nghymru, i sicrhau bod ganddynt brosesau sicrhau ansawdd cadarn ar waith wrth iddynt newid o un system i'r llall.
- Parhau i weithio gyda'n partneriaid (gan gynnwys yr Adran Drafnidiaeth, y Swyddfa Ystadegau Gwladol, ac academyddion annibynnol) wrth i fwy o IBRS ddod ar gael i sicrhau mai'r model hwn yw'r fethodoleg fwyaf priodol ar gyfer ein data.
Ymgysylltu â defnyddwyr
- Gweithio gyda gweddill yr heddluoedd i'w hannog i symud i IBRS.
- Rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i ddefnyddwyr ynghylch pa heddluoedd sydd wedi newid i IBRS a sut mae hyn yn effeithio ar y data.
- Cynghori defnyddwyr ar yr adegau mwyaf priodol i ddefnyddio data wedi'i addasu neu heb ei addasu a diweddaru'r canllawiau hyn wrth i weddill heddluoedd Cymru symud i IBRS.
- Ceisio adborth gan ddefnyddwyr trwy ein cyhoeddiad ystadegol.
- Cyflwyno a rhannu gydag ystod eang o ddefnyddwyr trwy wahanol grwpiau rhanddeiliaid e.e. y Grŵp data a dadansoddwyr.
Llunio addasiadau terfynol
- Dros amser, rydym yn disgwyl y bydd hyd a lled y diwygiadau blynyddol yn lleihau wrth i ni dderbyn mwy o ddata IBRS.
- Pan fydd digon o ddata IBRS o Gymru a bydd nifer y diwygiadau blynyddol yn fach iawn, byddwn yn llunio addasiadau terfynol ac yn rhoi'r gorau i adolygu'r data hanesyddol.
- Byddwn yn gweithio gyda'n partneriaid ar hyn, yn enwedig yr Adran Drafnidiaeth.
