Neidio i'r prif gynnwys

Mewn ymateb i Gyllideb Llywodraeth y DU, dywedodd y Gweinidog Cabinet dros Gyllid, Elin Jones:

Cyhoeddwyd gyntaf:
28 Hydref 2026
Diweddarwyd ddiwethaf:

"Mae hon yn gyllideb sy'n gadael Cymru yn waeth ei byd mewn termau real, er ei bod yn cael ei chyflwyno fel hwb ariannol. Bydd Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn ceisio cyflwyno'r gyllideb heddiw fel newyddion da i Gymru. Nid felly y mae. Ar ôl cyfrif am effaith chwyddiant, nid yw'r gyllideb hon yn gwella ein sefyllfa ariannol. Yn hytrach, mae'n golygu llai o gyllid i Gymru mewn termau real.

"Nid yw cyllideb heddiw wedi newid pethau yn y bôn. Mae ein sefyllfa gyllidol yn waeth nag yr oedd cyn i'r Canghellor gyflwyno ei gyllideb, ac mae gan hynny oblygiadau uniongyrchol i'n Cyllideb ein hunain ar 17 Tachwedd.

"Bydd yn rhaid inni wneud penderfyniadau anodd, blaenoriaethu'n ofalus a sicrhau mwy o effeithlonrwydd ar draws y sector cyhoeddus, er mwyn cynnal buddsoddiad yn y meysydd sydd bwysicaf i bobl Cymru.

"O ran rheilffyrdd, hyblygrwydd cyllidol a gwasanaethau cyhoeddus, mae Cymru wedi cael ei hanwybyddu unwaith eto."