Neidio i'r prif gynnwys

Yn bresennol

  • Mike Usher - Cyfarwyddwr Anweithredol, Cadeirydd - ARAC LlC a Byrddau Sicrwydd OE ac FMCO
  • Gareth Pritchard - Aelod Annibynnol, Cadeirydd – Bwrdd Sicrwydd LCC
  • Kevin Roberts - Aelod Annibynnol, Cadeirydd - Bwrdd Sicrwydd LGHRRS
  • Chris Martin - Aelod Annibynnol, Cadeirydd – Bwrdd Sicrwydd HCP
  • Scott Waddington - Aelod Annibynnol, Cadeirydd – Bwrdd Sicrwydd ECE
  • Andrew Goodall - yr Ysgrifennydd Parhaol
  • Emma Williams - Cyfarwyddwr Cyffredinol, Grŵp LCC
  • Claire Bennett - Cyfarwyddwr Cyffredinol, Grŵp LGHCCRA
  • Jacqueline Totterdell - Cyfarwyddwr Cyffredinol, Grŵp HCP
  • Andrew Slade - Cyfarwyddwr Cyffredinol, Grŵp ECE
  • Judith Paget - Cyfarwyddwr Cyffredinol, Grŵp FMCO
  • Dean Medcraft - Cyfarwyddwr Cyllid
  • Helen Morris - Dirprwy Gyfarwyddwr Archwilio, Sicrwydd ac Atal Twyll
  • Caitlin Stanley - Pennaeth Cyfrifyddu Ariannol a Thechnegol
  • Nia James - Dirprwy Gyfarwyddwr - Gwasanaethau Cyfreithiol
  • Anthony Veale - Archwilio Cymru
  • Clare Thomas - Archwilio Cymru

Hefyd yn bresennol

  • Pennaeth y Ganolfan Ragoriaeth Llywodraethiant Corfforaethol
  • Ysgrifenyddiaeth ARAC

1. Datganiadau o fuddiant

1.1 Ni ddaeth unrhyw ddatganiadau o fuddiant i law mewn perthynas ag eitemau ar yr agenda.

2. Materion yn codi o'r cyfarfod a gynhaliwyd ar 27 Mai 2026

2.1 Cytunodd y Pwyllgor fod cofnodion y cyfarfod diwethaf yn gofnod cyflawn a chywir. Nododd yr Aelodau y cynnydd da a wnaed wrth roi’r camau gweithredu y cytunwyd arnynt ar waith, a chafwyd diweddariadau ar y rhai nad oeddent wedi eu cwblhau.

3. Trosolwg gan y Prif Swyddog Cyfrifyddu

Rhoddodd yr Ysgrifennydd Parhaol drosolwg o'r gweithgarwch ers i'r weinyddiaeth newydd gael ei ffurfio. Tynnwyd sylw arbennig at:

  • Y cynllunio cyn-etholiadol helaeth a threfniadau pontio, a hwylusodd drosglwyddiad llyfn i'r weinyddiaeth newydd a gweithredu newidiadau i beirianwaith y llywodraeth yn gyflym.
  • Mabwysiadu'r Gymraeg fel iaith ddiofyn yn nhrafodion y Cabinet. Diwylliant.
  • Sefydlu Swyddfeydd Preifat a Rhaglen Ddeddfwriaethol.
  • Paratoi ar gyfer proses y Gyllideb Atodol.
  • Cynnydd a wnaed yn erbyn cynllun 100 diwrnod y Prif Weinidog.

3.2   Pwysleisiodd yr Ysgrifennydd Parhaol bwysigrwydd cynnal gweithdrefnau, disgyblaethau a rheolaethau llywodraethiant cadarn wrth i benderfyniadau cyllidebol gael eu gwneud, er mwyn cefnogi cyfrifoldebau a gofynion rheoleidd-dra ei Brif Swyddog Cyfrifyddu. Cymeradwyodd y Pwyllgor y dull hwn.

3.3   Tynnwyd sylw at newidiadau ar lefel Llywodraeth y DU a'r angen i gynnal perthnasoedd effeithiol ac ystyried yn briodol unrhyw faterion sy'n effeithio ar ariannu neu ddatganoli yn y dyfodol.

4. Llywodraethiant a risg

Parhaodd y Pwyllgor â'r gwaith o graffu ar ddogfennau allweddol ac adroddiadau blynyddol, gan roi sicrwydd sy'n sail i'r Datganiad Llywodraethiant Blynyddol 2025-2026. Yn benodol, fe wnaeth y Pwyllgor ystyried a chymeradwyo'r canlynol:

  • Adroddiad Blynyddol ARAC Llywodraeth Cymru
  • Adroddiad Blynyddol y Pennaeth Archwilio Mewnol

4.2   Dechreuodd y Pwyllgor graffu ar Gyfrifon Cyfunol drafft Llywodraeth Cymru, drwy adolygu:

  • Rhan Un: Yr Adroddiad ar Berfformiad sy'n amlinellu swyddogaethau Llywodraeth Cymru, ffynonellau cyllid, sut mae'r cyllid yn cael ei wario, a sut mae'n perfformio.
  • Rhan Dau: Yr Adroddiad Atebolrwydd sy'n cynnwys y Datganiad ar Gyfrifoldebau'r Swyddog Cyfrifyddu, y Datganiad Llywodraethiant Blynyddol, Adroddiad ar Gydnabyddiaeth Ariannol a Staff, Crynodeb o Alldro Adnoddau, a Thystysgrif ac Adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru.

4.3 Rhoddodd Archwilio Cymru yr wybodaeth ddiweddaraf i'r Pwyllgor ar ei adolygiad o'r Cyfrifon Cyfunol drafft ac amlinellodd yr heriau sydd wedi'u hwynebu, gan gynnwys y rhai sy'n gysylltiedig â'r model newydd ar gyfer benthyciadau i fyfyrwyr a phrisio'r rhwydwaith ffyrdd. Trafododd y Pwyllgor y meysydd hyn, gan nodi'r cydweithio agos parhaus rhwng Llywodraeth Cymru ac Archwilio Cymru, a chymeradwyodd y broses a'r amserlen a ragwelir ar gyfer adolygu a chyhoeddi'r Cyfrifon Cyfunol.

4.4 Trafododd y Pwyllgor y themâu sy'n dod i'r amlwg o'r adolygiad mewnol annibynnol o broses cyfrifon cyfunol Llywodraeth Cymru. Dylai'r adolygiad ddod i ben dros yr Hydref, a bydd trafodaeth bellach, fanylach yn cael ei chynnal.

4.5 Cynhaliodd y Pwyllgor ei adolygiad blynyddol o'r Siarter Archwilio Mewnol a'r Mandad a chymeradwyodd eu defnydd am y 12 mis nesaf heb eu diwygio. Trafododd y Pwyllgor hefyd asesiad annibynnol diweddar Archwilio Mewnol yn erbyn ei gydymffurfiad â'r Safonau Archwilio Mewnol Byd-eang newydd. ‘Roedd yn falch o nodi bod asesiad cyffredinol o ‘gydymffurfio'n gyffredinol’ â'r Safonau wedi'i ddarparu, gyda datganiadau cadarnhaol yn erbyn proffesiynoldeb, annibyniaeth, hyder rhanddeiliaid ac ansawdd ymgysylltu'r tîm.

4.6 Derbyniodd y Pwyllgor ddiweddariad ar y Gofrestr Risgiau Corfforaethol ac fe gymeradwyodd yr adolygiad parhaus gan swyddogion i sicrhau ei bod yn adlewyrchu yn briodol flaenoriaethau Gweinidogol diwygiedig ac yn cyd-fynd â'r Datganiad o Barodrwydd i Dderbyn Risg Gorfforaethol.

4.7 Gwnaeth y Pwyllgor ystyried a chymeradwyo'r crynodebau oddi wrth Fyrddau Sicrwydd y Grwpiau, a oedd yn canolbwyntio ar yr ymagwedd at Reoli Rhaglenni a Phrosiectau, pwysau'r gweithlu, newidiadau i beirianwaith y Llywodraeth gan y llywodraeth, cyflawni blaenoriaethau gweinidogol newydd a risgiau sy'n dod i'r amlwg sy'n gysylltiedig â chyfrifoldebau newydd. Nododd yr Aelodau fod trawsnewidiadau sy'n deillio o newidiadau i beirianwaith y llywodraeth wedi cael eu rheoli'n effeithiol. Roedd y diweddariadau yn adlewyrchu hefyd y sicrwydd cadarnhaol mewn perthynas â llywodraethiant, rheoli risg a rheolaeth y gallai'r Cyfarwyddwyr Cyffredinol ei gymryd yn dilyn trafodaethau yn eu Byrddau Sicrwydd.

4.8 Gwnaeth y Pwyllgor drafod a nodi'r cynnydd a wnaed o ran gweithredu argymhellion archwilio y cytunwyd arnynt.  

4.9 Ystyriodd y Pwyllgor broses yr Holiadur Rheolaeth Fewnol a thrafododd y gwelliannau mewn cymedroli, herio a chasglu tystiolaeth ar draws Grwpiau, sydd wedi arwain at fwy o gysondeb a phrosesau sicrhau ansawdd cryfach.

4.10 Nododd y Pwyllgor yr wybodaeth ddiweddaraf gan Archwilio Cymru ar ei astudiaethau gwerth am arian, a oedd wedi'u trafod yn fanwl ym mhob cyfarfod o Fyrddau Sicrwydd y Grwpiau.

Ysgrifenyddiaeth ARAC
Hydref 2026