Newidiadau i gymorth i fyfyrwyr ar gyfer 2027 (SFWIN 07/2026)
Mae'n disgrifio newidiadau i drefniadau cymorth i fyfyrwyr a fydd yn berthnasol o 2027.
Ar y dudalen hon
Cyflwyniad
Mae Gweinidogion Cymru yn bwriadu diwygio'r rheoliadau sy'n llywodraethu cymorth statudol i fyfyrwyr i fyfyrwyr addysg uwch. Yn ogystal â hynny, bydd newidiadau i fframweithiau polisi a deddfwriaethol ehangach yn effeithio ar y ffordd y mae rhai darpariaethau cymorth i fyfyrwyr yn gweithredu.
Mae'r newidiadau a ddisgrifir yn yr hysbysiad hwn yn ymwneud â chymhwystra i gael cymorth a gweinyddu trefniadau cymorth i fyfyrwyr. Yn amodol ar wneud y rheoliadau perthnasol a dwyn i rym newidiadau deddfwriaethol eraill, bydd y newidiadau hyn yn berthnasol i fyfyrwyr cymwys sy'n ymgymryd â chyrsiau addysg uwch dynodedig yng Nghymru.
Sylwer: darperir yr wybodaeth a ddisgrifir yn yr hysbysiad hwn fel canllaw yn unig. Mae rhai newidiadau yn dibynnol ar wneud rheoliadau diwygio, tra bod eraill yn deillio o newidiadau i ddeddfwriaeth neu fframweithiau polisi cysylltiedig. Nid yw'r hysbysiad hwn yn cwmpasu pob manylyn o'r polisi ac ni ddylid ei drin fel cyngor cyfreithiol nac esboniad cyflawn o'r gyfraith.
Rydym wedi gwneud pob ymdrech i sicrhau bod yr wybodaeth yn gywir ar adeg ei chyhoeddi, ond ni ddylid dibynnu arni fel awdurdod a datganiad cywir o'r gyfraith. Yn achos unrhyw anghysondeb rhwng yr hysbysiad hwn a'r ddeddfwriaeth berthnasol, bydd y ddeddfwriaeth yn drech na'r hysbysiad.
Disgwylir i'r rheoliadau a ddisgrifir yn yr hysbysiad hwn ddod i rym o fis Chwefror 2027. Bydd newidiadau eraill yn dod i rym o'r dyddiadau a bennir yn adrannau perthnasol yr hysbysiad hwn.
Cymhwystra
Myfyrwyr sy'n aros am benderfyniad ar gais mewnfudo pellach
O dan y rheoliadau cymorth myfyrwyr presennol, gall hawl myfyriwr i gymorth ddod i ben pan fydd ei ganiatâd i ddod i mewn neu aros yn y Deyrnas Unedig yn dod i ben ac nad yw wedi cael caniatâd pellach.
Mae Swyddfa Gartref Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi gwneud newidiadau i'w Rheolau Mewnfudo fel y gellir diystyru rhai cyfnodau o aros yn hirach na chyfnod y caniatâd os cyflwynir cais am ganiatâd pellach o fewn yr amserlen a ganiateir, a bod rheswm da pam nad oedd modd gwneud y cais cyn i ganiatâd blaenorol y person ddod i ben. Yn ystod y cyfnod hwnnw, mae presenoldeb yr unigolyn yn y Deyrnas Unedig yn parhau i gael ei drin fel presenoldeb cyfreithlon wrth i'w gais gael ei ystyried.
Bydd rheoliadau cymorth i fyfyrwyr Cymru yn sicrhau y gall myfyrwyr cymwys sy'n aros am benderfyniad y Swyddfa Gartref ar gais am ganiatâd pellach i aros gadw eu hawl i gymorth i fyfyrwyr tra bod y cais hwnnw'n cael ei ystyried. Dim ond pan wrthodir y cais y bydd y cymhwystra yn dod i ben.
Bydd y gwaith diwygio hwn yn berthnasol i fyfyrwyr israddedig ac ôl-raddedig cymwys o'r dyddiad y daw'r rheoliadau i rym.
Grant Oedolion Dibynnol ar gyfer dibynyddion sy'n byw dramor
Mae'r Grant Oedolion Dibynnol yn darparu cymorth ychwanegol i fyfyrwyr cymwys sydd â chyfrifoldeb ariannol am oedolyn arall. O dan y trefniadau presennol, gall myfyriwr fod yn gymwys ar gyfer y Grant Oedolion Dibynnol mewn perthynas â phartner neu oedolyn arall dibynnol sy'n byw dramor.
Ni fydd hawl i'r Grant Oedolion Dibynnol ar gael mwyach pan fydd yr oedolyn dibynnnol yn byw y tu allan i'r Deyrnas Unedig. Mae'r newid hwn yn sicrhau bod y cymorth yn cyd-fynd yn agosach ag egwyddorion preswylio'r Deyrnas Unedig.
Bydd y newid yn berthnasol i fyfyrwyr israddedig newydd a phresennol ar gyfer blynyddoedd academaidd sy'n dechrau ar neu ar ôl 1 Awst 2027.
Grant Gofal Plant a nanis a gymeradwywyd
O dan y trefniadau presennol, efallai y bydd Grant Gofal Plant ar gael mewn perthynas â gofal plant a ddarperir gan ddarparwyr gofal plant a gymeradwywyd o dan Gynllun Cymeradwyo Darparwyr Gofal Plant yn y Cartref (Cymru) 2021 (y "Cynllun Nani").
Bydd Cynllun Cymeradwyo Darparwyr Gofal Plant yn y Cartref (Cymru) 2021 yn cael ei ddirymu a'i ddisodli gan Gynllun Cymeradwyo Gwirfoddol Darparwyr Gofal Plant (Cymru) 2026 ("Cynllun 2026"). Unwaith y bydd y newidiadau hynny yn cael effaith, ni fydd nanis a gymeradwywyd bellach yn ddarparwyr gofal plant cymwys at ddibenion y Grant. Ni fydd gofal plant a ddarperir gan ddarparwyr eraill a gymeradwywyd o dan Gynllun 2026 hefyd yn gymwys ar gyfer Grant.
Bydd y newid yn berthnasol i fyfyrwyr israddedig newydd a phresennol o'r dyddiad y bydd Cynllun Cymeradwyo Darparwyr Gofal Plant yn y Cartref (Cymru) 2021 yn cael ei ddirymu. Ni fydd costau gofal plant yr eir iddynt ar neu ar ôl y dyddiad hwnnw mewn perthynas â nanis a gymeradwywyd neu ddarparwyr eraill a gymeradwywyd o dan Gynllun 2026 yn unig yn gymwys ar gyfer y Grant.
Ymholiadau
Os oes gennych gwestiynau ynghylch ceisiadau, sut i wneud cais, taliadau neu unrhyw agwedd arall ar y gwasanaeth, cysylltwch â Cyllid Myfyrwyr Cymru.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch yr Hysbysiad Gwybodaeth hwn, anfonwch e-bost at Is-adran Ariannu a Strategaeth Llywodraeth Cymru: isadrancyllidmyfyrwyr@llyw.cymru
Mae fersiynau print bras, Braille ac iaith amgen o’r ddogfen hon ar gael ar gais.
Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg neu yn Saesneg.
