Neidio i'r prif gynnwys

Cafodd pum tiwna asgell las a ddaliwyd yn Aberdaugleddau eu prosesu a'u gwerthu ym Mhorth Tywyn

Cyhoeddwyd gyntaf:
30 Hydref 2026
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae'r gwerthiant yn rhan o dreialon i helpu i greu pysgodfa tiwna asgell las gynaliadwy yng Nghymru

Mae pysgotwyr yn gobeithio dal mwy yn yr wythnosau nesaf

Mae'r pum tiwna asgell las cyntaf a ddaliwyd yn Aberdaugleddau wedi'u prosesu a'u gwerthu'n lleol am y tro cyntaf, gan nodi carreg filltir i'r diwydiant pysgota yng Nghymru.

Daliwyd y tiwna fel rhan o dreialon masnachol-wyddonol a gyflwynwyd gan Lywodraeth Cymru.

Mae pysgotwyr yn y treialon yn defnyddio gwialen a rîl yn unig, yn cofnodi pob dalfa yn fanwl, ac yn dod â'u pysgod i borthladdoedd penodedig yng Nghymru, yn Aberdaugleddau a Chaergybi. Yn gyfnewid am y data ychwanegol hwn, gallant dargedu tiwna asgell las mewn ardaloedd penodedig o barth Cymru.

Proseswyd y pysgod a ddaliwyd yn gynharach yn y mis mewn safle ym Mhorth Tywyn. Cafodd y rhan fwyaf o'r tiwna ei werthu i'r cyhoedd mewn marchnad bysgod agored ddydd Sadwrn, lle cafodd dderbyniad brŵd gan y cyhoedd. Anfonwyd y gweddill, gan gynnwys yr esgyll, fframiau a phenau, trwy wasanaeth dosbarthu i gartrefi, gan roi cyfle i bobl ledled y DU roi cynnig ar darn o hanes pysgota Cymreig.

Mae pysgotwyr yn gobeithio dal mwy o tiwna, os bydd y tywydd yn caniatáu, ac am adeiladu ar gynnwrf y daliadau cyntaf hyn.


Dywedodd y Gweinidog Cabinet dros Wydnwch Gwledig a Chynaliadwyedd, Llyr Gruffydd:

Mae’r glaniadau hyn yn dangos sut mae ein pysgotwyr yn gallu cyfuno traddodiad gyda gwyddoniaeth i adeiladu dyfodol cynaliadwy i diwna glas yng Nghymru, a chyflwyno physgod lleol i gwsmeriaid Cymru.
Hoffwn longyfarch pawb sydd wedi bod yn rhan o’r digwyddiad gwych hwn yn y sector pysgota yng Nghymru.
 

Dywedodd Teddy Whitall, Rheolwr-gyfarwyddwr Whitfish Ltd:
 

Mae’n golygu llawer i fod yn rhan o brynu a gwerthu’r tiwna glas cyntaf i gael ei ddal a’i lanio’n fasnachol yng Nghymru.
Mae hyn yn ymwneud â mwy na’r pysgod eu hunain: mae’n dechrau pennod newydd i bysgota yng Nghymru, gan greu cyfleoedd newydd i'n pysgotwyr, cymunedau arfordirol a'r sector bwyd môr ehangach.
Gobeithiaf fod hyn yn nodi dechrau rhywbeth cyffrous i ddyfodol diwydiant pysgota Cymru.