Neidio i'r prif gynnwys

Cylch gorchwyl Bwrdd Cynghori Allanol ar gyfer y Cynllun Hawliau Pobl Anabl.

Diben y Bwrdd Cynghori Allanol

Lluniwyd y Cylch Gorchwyl hwn gan y Grŵp Gorchwyl a Gorffen er mwyn sefydlu'r Bwrdd Cynghori Allanol (y Bwrdd).

Diben y Bwrdd fydd llywio, cefnogi a dylanwadu ar y gwaith o gyflawni'r Cynllun Hawliau Pobl Anabl 10 mlynedd  drwy gydgynhyrchu. Bydd hyn yn sicrhau bod lleisiau a hawliau pobl anabl yn parhau i fod yn ganolog wrth weithredu'r Cynllun. 

At ddibenion y Bwrdd hwn, mae cydgynhyrchu yn golygu:

Byddwn yn gweithio gyda'n gilydd mewn ysbryd o hygyrchedd, cynhwysiant, ymrwymiad a thryloywder, gan sicrhau bod pawb yn gallu cymryd rhan llawn a chyfrannu'n ystyrlon. Byddwn yn hyrwyddo cyd-barch, cydweithredu a dull teg sy'n cydnabod anghenion a safbwyntiau gwahanol. Fel Bwrdd Cynghori Allanol o bobl anabl, byddwn yn darparu cyngor, her a chraffu i gefnogi Llywodraeth Cymru i gyflawni'r Cynllun Hawliau Pobl Anabl. Yn anad dim, byddwn yn gwerthfawrogi profiad bywyd fel arbenigedd sydd yr un mor bwysig â gwybodaeth broffesiynol, gan ddefnyddio'r ddau i lywio ein trafodaethau a'n hargymhellion Bydd y ffordd hon o weithio yn llywio ac yn dylanwadu ar y gwaith o gyflawni'r Cynllun Hawliau Pobl Anabl, gan gynnwys nodi rhwystrau sy'n anablu pobl, ymchwilio a phrofi dulliau gweithredu, adolygu a monitro cynnydd, a sicrhau'r canlyniadau gorau posibl i bobl anabl.

Bydd y Bwrdd yn:

  • Gweithio yn unol â'r egwyddorion yr erthyglau a nodir yng Nghonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl Anabl.
  • Cefnogi'r Nodau Llesiant sef Cymru lewyrchus, Cymru gydnerth, Cymru iachach, Cymru fwy cyfartal, Cymru o gymunedau cydlynus, Cymru â diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu, a Chymru sy’n gyfrifol ar lefel fyd-eang.
  • Bydd gan y Bwrdd oruchwyliaeth strategol ar draws meysydd polisi craidd y Cynllun Hawliau Pobl Anabl. Y pedwar maes cyffredinol yn y Cynllun Hawliau Pobl Anabl yw:
    • Cymdogaethau, lleoedd, a thrafnidiaeth; teithio, tai, a'r model cymdeithasol o anabledd.
    • Cyflogaeth, incwm ac addysg; cyflogaeth, incwm ac addysg i blant a phobl ifanc.
    • Byw'n annibynnol, iechyd a gofal cymdeithasol; llesiant, iechyd, gofal a chymorth. 
    • Cyfiawnder ac amgylcheddau cefnogol; mynediad at gyfiawnder ac amgylcheddau hygyrch a chefnogol.

Amcanion y Bwrdd Cynghori Allanol

Mae amcanion y Bwrdd wedi'u nodi isod:

  • Rhannu gwybodaeth, ymchwil ac arbenigedd i helpu i gyflawni a monitro'r Cynllun.
  • Cefnogi, herio a monitro'r gwaith o gyflawni camau gweithredu, canlyniadau ac uchelgeisiau Llywodraeth Cymru a chysylltu pobl anabl, llunwyr polisi, a darparwyr gwasanaethau i sicrhau bod profiadau bywyd yn parhau i fod yn ganolog i'r gwaith.
  • Datblygu a chynnal ymddiriedaeth rhwng cymunedau, gan ymgynghori â sefydliadau a rhwydweithiau pobl anabl i helpu i nodi a deall materion brys sy'n dod i'r amlwg a rhannu dysgu. 
  • Darparu cymorth ar strategaethau ac ymgysylltu â sefydliadau pobl anabl a chymunedau.
  • Cynnig cymorth a chyngor arbenigol i Ysgrifenyddion y Cabinet er mwyn iddynt ddeall y rhwystrau brys sy'n dod i'r amlwg a sicrhau tegwch i bobl anabl. 
  • Datblygu enghreifftiau o arferion gorau i  hyrwyddo newid trawsnewidiol a herio gwahaniaethu systemig ac ableddiaeth, yn enwedig mewn ymateb i'r anghydraddoldebau (croestoriadol) y mae pobl anabl yn eu hwynebu oherwydd ffactorau fel hil, rhywedd, oedran, a statws economaidd-gymdeithasol.
  • Cyfrannu at ymgynghoriad parhaus yr Uned Tystiolaeth Gwahaniaethau ar Sail Anabledd â rhanddeiliaid i nodi'r bylchau yn y dystiolaeth bresennol ac argymell meysydd posibl ar gyfer ymchwil i hyrwyddo tegwch i bobl anabl yng Nghymru.
  • Sefydlu is-grwpiau a gweithgorau pan fo'r dystiolaeth yn awgrymu bod angen i'r rhain gael eu sefydlu ar yr amod bod y Cyd-gadeiryddion yn cytuno â hynny.
  • Cynnig cyngor ar flaenoriaethau strategol ar gyfer unrhyw gamau gweithredu yn y dyfodol yn seiliedig ar y gwahanol fathau o dystiolaeth sydd ar gael, gan gynnwys profiadau bywyd.
  • Argymell gweithredu'n gynnar os bydd methiannau gweithredu posibl yn cael eu nodi.

Amserlen

Bwriedir i'r Bwrdd gael ei sefydlu am hyd cyfnod y Cynllun Hawliau Pobl Anabl, hynny yw 2025 i 2035. Cynhelir y cyfarfod cyntaf ym mis Mawrth 2026.

Bwriedir i'r Bwrdd gyfarfod bob chwarter trwy gydol y cyfnod 10 mlynedd hwnnw, ar-lein ac wyneb yn wyneb, yn ôl yr angen.

Aelodaeth

Bydd aelodau'r Bwrdd yn cynnwys amrywiaeth eang o unigolion, gan gynnwys pobl sydd â phrofiad bywyd o gael eu hanablu gan rwystrau mewn cymdeithas, cynrychiolwyr allweddol o sefydliadau pobl anabl, a rhanddeiliaid perthnasol eraill ledled Cymru. Bydd y dull cynhwysol hwn yn sicrhau bod y Bwrdd yn adlewyrchu ehangder y profiad a'r arbenigedd sydd eu hangen i fynd i'r afael â'r materion cymhleth ac esblygol sy'n wynebu pobl anabl mewn cymdeithas.

Bydd tâl ar gael i'r rhai sy'n gymwys. Gall aelodau'r Bwrdd Cynghori Allanol hawlio am bresenoldeb yn y prif gyfarfodydd neu gyfarfodydd is-grŵp. Gall aelodau hefyd hawlio costau teithio am fynychu'r cyfarfodydd hyn wyneb yn wyneb.

Bydd gan yr aelodau arbenigedd i arwain ar y meysydd canlynol:

  • Trafnidiaeth hygyrch a chynhwysol.
  • Tai hygyrch a chynhwysol a byw'n annibynnol.
  • Cyfathrebu, ymgysylltu a chyfryngau hygyrch.
  • Cyflogaeth a gweithleoedd hygyrch a chynhwysol, mynd i'r afael â thlodi, a lles cymdeithasol.
  • Addysg uwch a phellach a dysgu gydol oes hygyrch a chynhwysol.
  • Plant anabl ac addysg statudol.
  • Gwasanaethau gofal a chymorth cymdeithasol hygyrch a chynhwysol.
  • Gofal iechyd hygyrch a chynhwysol.
  • Plant a phobl ifanc anabl (y blynyddoedd cynnar, gofal plant a chwarae).
  • Llesiant (diwylliant, treftadaeth, chwaraeon).
  • Cynllunio at argyfyngau a newid hinsawdd.
  • Cyfiawnder ac eiriolaeth hygyrch a chynhwysol.
  • Hawliau pobl anabl yng Nghymru, y DU ac yn rhyngwladol.
  • Technoleg, deallusrwydd artiffisial a hygyrchedd digidol.

Os nodir bylchau yn arbenigedd y Bwrdd yn ystod oes y Bwrdd, gall Llywodraeth Cymru wahodd aelodau ychwanegol. 

Bydd yr ysgrifenyddiaeth yn cefnogi'r Bwrdd Cynghori Allanol i gynnal cysylltiadau â Byrddau a Grwpiau Cynghori perthnasol eraill Llywodraeth Cymru. 

Dim ond gyda chytundeb y Cyd-Gadeiryddion a'r ysgrifenyddiaethau y dylid rhannu gwybodaeth a gafwyd yn y Bwrdd Cynghori Allanol gyda Byrddau/Grwpiau eraill.

Rhaid i aelodau'r Bwrdd o’r tu allan i Lywodraeth Cymru fod yn bobl anabl a chanddynt arbenigedd a phrofiadau bywyd o'r rhwystrau mewn cymdeithas.

Mae'r Bwrdd yn cynnwys 17 aelod: 16 aelod o'r tu allan i Lywodraeth Cymru, pob un ohonynt yn bobl anabl, ac un aelod o Lywodraeth Cymru i weithredu fel Cyd-gadeirydd.

Bydd pob aelod yn cael ei neilltuo i feysydd arweiniol, a amlinellir yn adran 4 o'r Cylch Gorchwyl, gan gydnabod bod y meysydd hyn yn rhyng-gysylltiedig ac y gall aelodau ddod ag arbenigedd o sawl maes a hunaniaeth gan gefnogi trafodaethau ac argymhellion cynhwysol a chydweithredol.

Anogir aelodau i gymryd rhan weithredol yng ngwaith y Bwrdd ac i fynychu cyfarfodydd yn rheolaidd. Pan fydd presenoldeb neu ymgysylltu yn dod yn anodd neu'n gyson isel, bydd y Cyd-gadeiryddion yn trafod hyn gyda'r aelod dan sylw i ddeall unrhyw rwystrau, amgylchiadau neu ofynion mynediad, ac i ystyried pa gymorth a allai fod ei angen. Os, yn dilyn y drafodaeth hon ac unrhyw gefnogaeth resymol, mae cyfranogiad yn parhau i fod yn gyson isel, gall y Cyd-gadeiryddion adolygu aelodaeth yr aelod a gofyn i'r person hwnnw ymddiswyddo lle bo hynny'n briodol. Bydd unrhyw benderfyniad a wneir yn gymesur a bydd yn ystyried amgylchiadau a gofynion mynediad yr aelod.

Gall meysydd arweiniol newid, yn amodol ar adolygiad gan y Bwrdd. Wrth recriwtio aelodau, y nod fydd bod cyfansoddiad terfynol y Bwrdd yn cynnig cynrychiolaeth gan bobl anabl sydd ag ystod eang o brofiadau a hunaniaethau, gan gynnwys:

  • menywod
  • pobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol, gan gynnwys Sipsiwn, Roma a Theithwyr
  • pobl LHDTC+
  • pobl ifanc (18-24 oed)
  • pobl hŷn
  • Arwyddwyr Iaith Arwyddion Prydain (BSL)
  • siaradwyr Cymraeg
  • cymunedau sydd wedi'u tangynrychioli e.e. cyn-filwyr, goroeswyr cam-drin domestig a thrais rhywiol

Bydd swyddogion polisi ychwanegol o Lywodraeth Cymru a/neu siaradwyr gwadd ychwanegol yn cael eu gwahodd i gyfarfodydd sy'n berthnasol i'w maes polisi yn ôl y gofyn.

Trefniadau cadeirio

Caiff y Bwrdd ei gyd-gadeirio gan uwch swyddog yn Llywodraeth Cymru ac unigolyn allanol sydd â phrofiad bywyd o anabledd yng Nghymru. Bydd gan y Cyd-gadeirydd allanol hanes profedig o hyrwyddo hawliau pobl anabl a bydd yn dangos arbenigedd sylweddol ar faterion sy'n gysylltiedig ag anabledd, nid yn unig yng Nghymru ond hefyd ledled y DU ac yn rhyngwladol.

Cyd-gadeirydd Llywodraeth Cymru fydd y Cyfarwyddwr Cymunedau a Threchu Tlodi. Mae'r strwythur hwn yn sicrhau cyfuniad o brofiad bywyd ac arbenigedd a phrofiad trawsbynciol o anghydraddoldeb, gan gefnogi uchelgais y Bwrdd i fynd i'r afael â rhwystrau ac allgáu sy'n gysylltiedig ag anabledd, ar sawl lefel.

Rôl y ddau Gyd-gadeirydd yw hwyluso ac annog trafodaeth adeiladol a chynhwysol ynghylch atebion arloesol ac arferion gorau. 

Gall unrhyw aelod o'r Bwrdd gynnig eitem i'w hystyried gan y Bwrdd. Bydd y Cyd-gadeiryddion yn cytuno ar agendâu'r Bwrdd cyn pob cyfarfod. 

Yn ogystal â hyn, bydd Cyd-gadeirydd Llywodraeth Cymru yn: 

  • cefnogi gwybodaeth am dimau polisi trawslywodraethol, gan sicrhau bod y swyddogion polisi cywir yn cael eu gwahodd i'r Bwrdd pan fo angen
  • nodi gwaith presennol o fewn Llywodraeth Cymru sy'n cysylltu â gwaith a thrywydd y Bwrdd
  • cefnogi dealltwriaeth o ysgogiadau polisi trawslywodraethol a rôl swyddogion polisi
  • darparu arbenigedd a chraffter y gwasanaeth sifil

Bydd y Dirprwy Gadeirydd yn unigolyn allanol sydd â phrofiad bywyd o anabledd yng Nghymru. Bydd gan y Dirprwy Gadeirydd hwnnw hanes profedig o hyrwyddo hawliau pobl anabl a bydd yn dangos arbenigedd sylweddol ar faterion sy'n gysylltiedig ag anabledd. Bydd y Dirprwy Gadeirydd yn cefnogi'r Cyd-gadeiryddion i hwyluso cyfarfodydd cadarnhaol ac adeiladol a sicrhau bod y Bwrdd yn cael ei weithredu'n ddidrafferth. Bydd y Dirprwy Gadeirydd hefyd yn cyfrannu at osod agendâu, gan annog cyfranogiad cynhwysol, a gall gamu i'r adwy i arwain trafodaethau neu gynrychioli'r Bwrdd yn ôl yr angen.

Mae'r tymor ar gyfer y Cyd-gadeirydd allanol a'r Dirprwy Gadeirydd fel a ganlyn:

  • Cyd-gadeirydd allanol: i fod yn y swydd am uchafswm o bum mlynedd
  • Dirprwy Gadeirydd: i fod yn y swydd am uchafswm o bum mlynedd

Trefniadau pontio y Tasglu Hawliau Pobl Anabl

Mae gwaith y Tasglu Hawliau Pobl Anabl bellach wedi'i gwblhau. Er mwyn sicrhau trefniadau pontio rhwydd i'r Bwrdd hwn, bydd aelodaeth y Bwrdd yn y ddwy flynedd gyntaf yn cynnwys unigolion a oedd gynt yn gadeiryddion gweithgorau'r Tasglu Hawliau Pobl Anabl. Lle bo'n bosibl, caiff penodiadau eu gwasgaru er mwyn sicrhau bod y profiad a'r wybodaeth sydd ar gael yn parhau.

Trefniadau o 2026 ymlaen:

  • Bydd aelodau a wasanaethodd o'r blaen fel cadeiryddion i weithgorau'r Tasglu Hawliau Pobl Anabl yn cael eu gwahodd i fod yn aelodau sefydlu am dymor o 2 flynedd (2026 i 2028). 
  • Bydd yr aelodau newydd yn cael eu penodi am dymor o bedair blynedd (2026 i 2030). 

Trefniadau dilynol (2028 i 2035)

  • Bydd swyddi aelodau sefydlu'r Bwrdd ar gael i ymgeiswyr am dymor o bedair blynedd (2028-2031). Bydd aelodau blaenorol y Bwrdd yn gymwys i ailymgeisio trwy gystadleuaeth agored.
  • Ar ôl cwblhau cyfnod y penodiad, neu os bydd unrhyw swydd yn dod yn wag yn ystod bodolaeth y Bwrdd, bydd y swyddi hyn hefyd ar gael i ymgeiswyr am dymor o bedair blynedd, neu am gyfnod sy'n ymestyn i 2035 (os yw hynny'n llai na phedair blynedd).

Cyfarfodydd a threfniadau cymorth

Mae'r trefniadau ar gyfer cyfarfodydd y Bwrdd fel a ganlyn:

  • Bydd cyfarfodydd yn hygyrch yn unol â'r Model Cymdeithasol Anabledd.
  • Rhaid i aelodau ddangos ymrwymiad i'r Model Cymdeithasol o Anabledd.
  • Bydd y Bwrdd yn ymrwymo i wneud penderfyniadau cydgynhyrchiol ar y cyd ac i fod yn atebol amdanynt.
  • Caiff aelodau newydd eu mentora gan yr aelodau presennol, yn ôl yr angen.
  • Bydd yr aelodau'n cydymffurfio â gwerthoedd o ran profiad bywyd, hawliau dynol, y Model Cymdeithasol o Anabledd a chyfrinachedd.
  • Bydd y Cylch Gorchwyl, cofnodion ar gamau gweithredu, ac adroddiadau a chanfyddiadau allweddol lle bo’n briodol, yn cael eu cyhoeddi, gan ganiatáu craffu cyhoeddus.
  • Mae mesurau wedi'u rhoi ar waith i ddiogelu lles emosiynau a seicolegol aelodau, yn enwedig pan fydd gwybodaeth sensitif neu bynciau anodd yn dod i'r amlwg. Gallai rhybudd gael ei roi cyn ymdrin â materion sensitif ar yr agenda.
  • Mae data personol a sensitif yn cael eu prosesu yn unol â GDPR y DU a chyfreithiau perthnasol eraill.
  • Os yw'r ddau Gyd-gadeirydd yn cytuno, gallant gynnal cyfarfodydd ychwanegol o'r Bwrdd os bydd amgylchiadau eithriadol yn cyfiawnhau hynny.
  • I gynnal cyfarfod, rhaid bod mwy na hanner aelodau’r Bwrdd yn bresennol.

Ysgrifenyddiaeth

Bydd yr ysgrifenyddiaeth yn cael ei darparu gan dîm Cynhwysiant Pobl Anabl Llywodraeth Cymru – gan sicrhau mynediad a chynhwysiant i holl aelodau'r Bwrdd. Bydd yr Ysgrifenyddiaeth yn:

  • anelu at ddarparu papurau o leiaf saith diwrnod ymlaen llaw mewn ieithoedd a fformatau y gofynnwyd amdanynt
  • gofyn i aelodau am eitemau ar gyfer yr agenda cyn cyfarfod y Bwrdd
  • dosbarthu unrhyw ddogfennau sydd i'w hystyried o leiaf 7 diwrnod cyn y cyfarfod
  • cynnal cofrestr risg ac yn ei hadolygu i ragweld, lliniaru a rheoli risgiau sefydliadol
  • sicrhau bod cyfieithwyr ar y pryd ac arwyddwyr BSL yn bresennol, yn ôl yr angen
  • sicrhau bod gofynion mynediad yn cael eu bodloni'n llawn. Gall hyn gynnwys palanteipyddion, deunyddiau mewn fformat arall neu unrhyw ddarpariaeth arall y gofynnir amdani
  • cadw cofnod ffurfiol o'r cyfarfodydd er mwyn cynnwys y prif bwyntiau a'r camau gweithredu yn unig.

Bydd y cyfarfodydd yn cael eu recordio at ddibenion cadw trawsgrifiad ysgrifenedig o'r capsiynau caeedig a sgwrs y cyfarfod yn unig. Bydd y rhain yn cael eu defnyddio gan yr Ysgrifenyddiaeth i greu cofnodion ffurfiol ar gyfer y cyfarfod.

Gofynion adrodd

Er mwyn cynnal tryloywder ac atebolrwydd cyhoeddus, bydd y Tîm Cynhwysiant Pobl Anabl yn cyhoeddi diweddariadau ar y cynnydd a wnaed yn erbyn camau gweithredu'r Cynllun Hawliau Pobl Anabl. Bydd y diweddariad yn cael ei gyflwyno i'r Bwrdd cyn ei gyhoeddi i'w drafod a'i adolygu.

Cyfleoedd sefydlu, hyfforddi, mentora a datblygu

Bydd gofyn i bob aelod o'r Bwrdd ymgymryd â rhaglen sefydlu Llywodraeth Cymru, gan gynnwys hyfforddiant ar y Model Cymdeithasol o Anabledd, Diogelu, a Rheoli Gwybodaeth yn Ddiogel. Bydd yr hyfforddiant hwn yn cael ei ddarparu drwy Lywodraeth Cymru.

Efallai y bydd rhywfaint o hyfforddiant dewisol hefyd ar gael yn ystod oes y Bwrdd, er enghraifft ar siarad cyhoeddus, deall y defnydd o dystiolaeth mewn dulliau llunio polisïau'r llywodraeth a deddfwriaeth berthnasol. 

Cyfrinachedd a gwrthdaro buddiannau

Bydd pob aelod yn cymryd cyfrifoldeb dros sicrhau bod gofynion cyfrinachedd angenrheidiol yn cael eu cynnal. Mae hyn yn golygu os yw'r Cadeiryddion neu aelodau eraill yn cynghori bod dogfennau neu wybodaeth sy'n cael eu rhannu â'r Bwrdd yn sensitif a chyfrinachol, rhaid peidio â rhannu’r wybodaeth neu’r ddogfen â neb y tu allan i’r Bwrdd. Gall hyn gynnwys gwybodaeth a ddarperir ar lafar yn ogystal ag yn ysgrifenedig. Rhaid i Gynorthwywyr Personol hefyd gydymffurfio â'r gofynion hyn. Rhaid cadw gwybodaeth sydd wedi'i farcio'n gyfrinachol neu'n sensitif a dderbynnir gan unrhyw unigolyn sydd wedi mynychu cyfarfod o ganlyniad i ymwneud â gwaith y Bwrdd yn ddiogel. 

Bydd gan y sawl sy'n ymuno â'r cyfarfod yn rhithwir gyfrifoldeb am sicrhau bod cyfrinachedd cyfarfod y Bwrdd yn cael ei gynnal, ac nad ydynt, nac aelodau eraill, yn cael eu clywed gan unrhyw drydydd partïon wrth drafod busnes y Bwrdd. 

Ni ddylai cynorthwywyr AI fynychu cyfarfodydd yn lle unigolion sy'n absennol. Nid yw hyn yn berthnasol i dechnolegau cynorthwyol a ddefnyddir gan unigolion i gefnogi eu cyfranogiad pan fyddant yn mynychu cyfarfod yn bersonol.

Rhaid i aelodau'r Bwrdd beidio â rhannu gwahoddiadau i gyfarfodydd y Bwrdd heb gytundeb y Cyd-gadeiryddion neu'r Ysgrifenyddiaeth ymlaen llaw.

Gall gwaith y Bwrdd fod yn ddarostyngedig i ofynion rhyddid gwybodaeth a wneir o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 neu Reoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004. Os daw ceisiadau o'r fath i law, dilynir proses safonol Llywodraeth Cymru.

Mae pob aelod yn gyfrifol am sicrhau bod unrhyw wrthdaro buddiannau posibl neu wirioneddol yn cael eu dwyn i sylw'r Cadeiryddion.

Ymddygiad

Er nad yw aelodaeth o'r Bwrdd ar sail Penodiad Cyhoeddus, dylai aelodau barhau i gadw at y canllawiau sy'n cyd-fynd ag Egwyddorion Bywyd Cyhoeddus Nolan. 

Er bod y saith egwyddor wreiddiol yn berthnasol ym mhob rhan o’r DU, mae Cymru wedi ehangu arnynt gyda dwy egwyddor ychwanegol, Parch a Thryloywder, i adlewyrchu ein hagwedd gynhwysol, gydweithredol ac agored tuag at wasanaeth cyhoeddus.

Disgwylir i bob aelod ymwneud â'i gilydd â pharch a chynhwysiant, ynghyd â Swyddogion Llywodraeth Cymru ac unrhyw rai eraill sy'n darparu mewnbwn neu dystiolaeth.

Disgwylir i aelodau ymgysylltu'n adeiladol ac ar y cyd i gefnogi datblygu camau gweithredu, gan sicrhau nad yw eu cyfraniadau yn effeithio'n negyddol ar gyfranogiad aelodau eraill.

Os bydd pryderon yn codi ynghylch ymddygiad aelod neu ei gydymffurfiaeth â'r safonau disgwyliedig, gellir codi'r rhain – yn ddienw os yw'n well – gyda'r naill neu'r llall o'r Cyd-gadeiryddion neu swyddogion polisi Llywodraeth Cymru a fydd yn ystyried y mater mewn ymgynghoriad â'r Cyd-gadeiryddion. Os penderfynir nad yw'r safonau gofynnol wedi'u bodloni, efallai y bydd yn ofynnol i'r aelod ymddiswyddo o'r Bwrdd.

Adolygu

Bydd y Cylch Gorchwyl hwn yn cael ei adolygu o fewn 12 mis i sefydlu'r Bwrdd Cynghori Allanol.

Fformatau eraill

Iaith Arwyddion Prydain

Fersiwn sain