Neidio i'r prif gynnwy

Ken Skates, y Dirprwy Weinidog Sgiliau a Thechnoleg

Cyhoeddwyd gyntaf:
5 Chwefror 2014
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Yn ystod dadl Democratiaid Rhyddfrydol Cymru ym mis Tachwedd, addawodd Gweinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth y byddwn yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Aelodau am y gwaith rydym yn ei wneud i nodi’r lleoedd hynny nad ydynt yn gallu derbyn darpariaeth fasnachol na gwasanaeth Cyflymu Cymru.

Ym mis Mehefin y llynedd, fel rhan o’r gwaith hwn, comisiynwyd adolygiad i nodi a dadansoddi’r ddarpariaeth o fand eang ledled Cymru, er mwyn inni allu gweld darlun cyflawn o ran rhoi cymorth gwladwriaethol lle rydym yn gweithio i gynnig gwasanaeth Cyflymu Cymru. Rydym hefyd yn awyddus i sicrhau ein bod yn mynd i’r cyfeiriad iawn o ran unrhyw newidiadau y gallai fod angen eu cyflwyno.

Er inni gwblhau astudiaethau cynhwysfawr wrth gynnal Adolygiadau o’r Farchnad Agored ar gyfer cynllunio rhaglen Cyflymu Cymru, daeth yn glir bod angen dadansoddi ymhellach, ac felly cynnal adolygiad arall, oherwydd y newidiadau pwysig sydd wedi digwydd yn y cyfamser. Un o’r newidiadau hyn yw bod eraill wedi dechrau cystadlu yn y farchnad band eang cyflym iawn a bu newidiadau i’r gwasanaethau a ddarperir gan Fibrespeed yn y Gogledd, a newidiadau hefyd i’r modd y mae ffibr cyflym yn cael ei gyflwyno ac i’r rhaglen super-connected cities . Roedd yr adolygiad yn cydnabod ei bod yn bosibl nad yw datblygiadau adeiladau newydd, nad oeddent yn bodoli pan gynhaliwyd yr adolygiadau gwreiddiol, mewn sefyllfa i allu manteisio ar wasanaethau band eang cyflym iawn.
Daethpwyd i’r casgliad y dylai Llywodraeth Cymru gymryd camau ar unwaith i gynnal Adolygiad ffurfiol pellach o’r Farchnad Agored  yn sgil y newidiadau i’r ddarpariaeth band eang cyflym iawn yng Nghymru ac i’r adeiladau a oedd yn ganolbwynt i’r gweithredu.

Dechreuodd yr Adolygiad o’r Farchnad Agored ar 3 Chwefror ac fe’i cynhelir gan ymgynghorwyr arbenigol Atkins. Yn ystod yr adolygiad, gofynnir i ddarparwyr gwasanaethau band eang nodi beth yw eu cynlluniau, dros y tair blynedd nesaf, ar gyfer adeiladu seilwaith sy’n sicrhau bod gwasanaethau band eang ar gael ar gyflymder lawrlwytho o fwy na 30Mb yr eiliad.  Hefyd mae’r adolygiad yn ystyried pa mor fforddiadwy a chynaliadwy yw’r gwasanaethau a gynigir gan y darparwyr band eang. O wneud hynny, bydd yn bosibl creu darlun cynhwysfawr o’r ardaloedd hynny lle nad yw ffibr cyflym ar gael ar hyn o bryd, a lle nad oes unrhyw gynlluniau ar y gweill i’w gyflwyno yn y dyfodol, gan raglen Cyflymu Cymru na chwaith unrhyw ddarparwr yn y sector preifat. Bydd yr Adolygiad o’r Farchnad Agored hefyd yn destun ymgynghoriad cyhoeddus a fydd yn para am fis.

Y bwriad yw cwblhau’r cyfnod pan fydd yr Adolygiad o’r Farchnad Agored yn dadansoddi’r farchnad erbyn diwedd mis Mawrth 2014.

Bydd casgliadau’r adolygiad hwn yn ein helpu i ystyried a yw’n angenrheidiol cymryd camau pellach i ategu rhaglen Cyflymu Cymru i wneud yn siŵr ein bod yn parhau i ganolbwyntio ein hadnoddau ar ddarparu band eang ffibr cyflym yn yr ardaloedd hynny a fyddai fel arall yn cael eu gadael ar ôl.